Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

CSFM(4) 01-13 – Papur 2

Safbwynt Llywodraeth Cymru ar Drechu Tlodi a Thlodi Plant

1. Gweithio ar draws adrannau a sut y mae trechu tlodi plant yn ganolog i feysydd polisi Llywodraeth Cymru

Lansiwyd ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ym mis Mehefin y llynedd. Mae hon yn flaenoriaeth lwyr i ni a byddwn yn ceisio trechu tlodi ym mhopeth a wnawn yn y Llywodraeth.

Roedd y Cynllun yn dwyn ynghyd gyfraniadau gan yr holl Adrannau ac mae'n disgrifio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal tlodi, i helpu pobl i gael gwaith ac i leihau effaith tlodi.

Caiff y cynllun ei ddiweddaru a'i adnewyddu ym mis Mehefin eleni ac mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Dirprwy Weinidog Plant yn cyd-gadeirio bwrdd rhaglen traws-lywodraethol i fwrw ati â'r gwaith hwn.

 

Mae trechu tlodi yn parhau i fod yn gyfrifoldeb cyfunol i'r Cabinet ar draws y Llywodraeth a gofynnais i bob Cyfarwyddiaeth benodi hyrwyddwr neu hyrwyddwyr tlodi i weithio gyda’u Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gynnal momentwm ar draws yr holl bortffolios, a sicrhau bod eu gwaith yn cydweddu.

 

Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau hefyd wedi ysgrifennu at Arweinwyr a Phrif Weithredwyr yr awdurdodau lleol yn gofyn iddynt benodi hyrwyddwyr gwrthdlodi ar lefel uwch-swyddog ac ar lefel aelod. Rwy'n rhagweld y bydd yr hyrwyddwyr gwrthdlodi yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd fel grŵp a hefyd yn gallu gwneud gwahaniaeth drwy atgyfnerthu'r angen i gynnwys trechu tlodi yn holl waith yr awdurdod lleol. Mae Cynlluniau Integredig Sengl ar lefel leol yn gyfle i feddwl yn fwy strategol a hefyd i symleiddio’r broses. Mae cael hyrwyddwyr mewn awdurdodau lleol ar lefel uwch ac ar lefel wleidyddol yn un ffordd o sicrhau bod y Ddyletswydd Tlodi Plant yn cael ei hatgyfnerthu'n barhaus o fewn awdurdodau lleol ac mewn Cynlluniau Integredig Sengl. 

 

Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Tasglu Rhaglenni Gwrthdlodi'r Trydydd Sector wedi cael ei ffurfio y llynedd yn dilyn cynhadledd ar y cyd rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Sefydliad Bevan ynghylch ymateb i her gynyddol tlodi.

 

2. Cynnwys tlodi plant o fewn strategaeth wrthdlodi ehangach Llywodraeth Cymru

Mae gweithredu i atal tlodi plant wrth wraidd ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.  Mae rhai o'r prif feysydd ble y gallwn gael yr effaith fwyaf ar dlodi yn cynnwys cyrhaeddiad addysgol, gofal plant, timau sy'n gweithio â theuluoedd a chyflogaeth.

Mae ein hymdrechion i atal tlodi plant yn dechrau drwy dargedu buddsoddiadau i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant. O'r camau cynnar mewn beichiogrwydd hyd at fod yn oedolyn ifanc, ein nod yw lleihau anghydraddoldeb mor gynnar â phosibl a thorri'r cysylltiad rhwng anfantais gymdeithasol-economaidd, tangyflawni mewn addysg a'r diffyg cyfleoedd mewn bywyd o ganlyniad i'r rhain.

3. Sut mae targedau Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni

Yn y Rhaglen Lywodraethu ymrwymwyd i olrhain y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn erbyn yr heriau mawr hirdymor rydym yn eu hwynebu fel rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, gweithio gyda theuluoedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran iechyd ac addysg a diweithdra.

Eglurais adeg lansio'r Rhaglen Lywodraethu na fyddwn yn pennu targedau newydd yn erbyn dangosyddion yr heriau hirdymor hyn. Mae hyn yn adlewyrchu pa mor gymhleth yw’r heriau hyn a’u bod yn dibynnu ar ffactorau sy'n ysgogi polisi nad ydynt wedi'u datganoli i Gymru, fel polisi budd-daliadau lles. Yn fy marn i, mae'r dull gweithredu rydym wedi'i ddefnyddio yn meithrin dealltwriaeth aeddfetach o berfformiad drwy ganiatáu i ni gymharu ag awdurdodaethau eraill a mesur ein cynnydd dros amser. Dyna pam y byddaf yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth gynhwysfawr ar y dangosyddion hyn yn adroddiad blynyddol y Rhaglen eleni.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn olrhain perfformiad yn flynyddol o ran cynnydd yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Mae'r Cynllun yn amlinellu yn fanylach ddangosyddion perfformiad allweddol ein rhaglenni a'n gweithgareddau, sy'n cyfrannu ar y cyd i'r canlyniadau lefel uchel hyn. 

Er enghraifft, nod Twf Swyddi Cymru yw creu 4,000 o swyddi chwe mis bob blwyddyn am y tair blynedd nesaf ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy'n ddi-waith a gweld cymaint â phosibl o'r swyddi hyn yn troi yn gyflogaeth gynaliadwy.

Mae'r rhaglen yn nesáu at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf ac mae eisoes wedi creu ymhell dros 5,000 o swyddi ar gyfer pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru. Mae dros 3,000 o bobl bellach mewn swyddi a grëwyd drwy Twf Swyddi Cymru. Mae'r rhaglen ar y trywydd iawn i lenwi 4,000 o swyddi erbyn diwedd mis Mawrth 2013.

 

Rydym hefyd yn gweithio ar ehangu Dechrau'n Deg er mwyn dyblu'r nifer erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Rydym yn parhau i weithio'n agos ag awdurdodau lleol i gynllunio'r ffordd y caiff Dechrau'n Deg ei ddarparu, ac i sicrhau bod y cyllid yn parhau i gael ei dargedu yn yr ardaloedd hynny sydd fwyaf ei angen. Mae 145 o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo hyd yma, sy’n werth cyfanswm o bron £21 miliwn. Bydd hyn yn arwain at ddarparu gwasanaethau ychwanegol i tua 4,500 o blant rhwng 2 a 3 oed.

 

Mae’n amlwg y bydd ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth yn effeithio ar allu ein rhaglenni i gael effaith bositif ar ein canlyniadau hirdymor. Er enghraifft, amcangyfrifir y bydd rhyw 6,000 yn fwy o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol yn 2012-13 o ganlyniad i’r diwygiadau i drethi a budd-daliadau a gyhoeddodd Llywodraeth y DU hyd at haf 2011. Bydd y newidiadau i fudd-daliadau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref 2012 yn golygu hyd yn oed fwy o newyddion gwael i deuluoedd yng Nghymru. Mae’n fwy pwysig nag erioed felly ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu ac yn amlinellu sut rydym yn mesur effaith camau gweithredu ein Cynllun.

 

O ganlyniad i'r Data Statudol a amlinellir ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 bydd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gosod adroddiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn nhymor yr hydref 2013 ar yr amcanion a'r mesurau yn Strategaeth Tlodi Plant 2011. Bydd yr adroddiad yn dangos y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hyn. 

 

4. Rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Llywodraeth y DU

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i leihau tlodi plant ledled y Deyrnas Unedig ac rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU i gynnal y targedau a amlinellwyd yn Neddf Tlodi Plant 2010 [1].

Roedd Deddf Tlodi Plant 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyflawni'r targedau canlynol o ran tlodi erbyn 2020.

 

• Tlodi cymharol: llai na 10 y cant o blant yn byw mewn tlodi incwm isel cymharol.

• Amddifadedd sylweddol: llai na 5 y cant o blant yn byw mewn amddifadedd sylweddol a thlodi incwm isel cyfun.

• Incwm isel absoliwt: lleihau’r gyfran o blant sy'n byw mewn tlodi incwm isel absoliwt i lai na 5 y cant.

• Tlodi parhaus: canran y plant sy'n byw mewn tlodi cymharol am dair o bob pedair blynedd (lefel y targed i gael ei phennu erbyn 2015).

 

Rydym hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sefydlu'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant ac i benodi Aelod annibynnol o Gymru i'r Comisiwn.

 

 

 

5. Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

 

Mae ein dull o drechu tlodi yn blaenoriaethu anghenion plant ac mae'n seiliedig ar ein dull cyffredinol o weithredu egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

 

Ers y dechrau, mae Llywodraeth Cymru wedi egluro yn gyson bod lleihau tlodi plant yn elfen sylfaenol o'i hagenda cyfiawnder cymdeithasol a hefyd yn rhan o'i blaenoriaethau allweddol i weithredu'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn. O ystyried yr ymrwymiad hirsefydlog hwn byddem yn disgwyl gweld dilyniant a dull sydd wedi'i selio'n fwy ar hawliau dros amser yn hytrach na datblygu mentrau newydd neu fentrau gwahanol.   

 

 

Gallwch weld ffyrdd ymarferol o gyflawni'r ddyletswydd hon yn y cynllun plant:

 

(http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/rights/;jsessionid=36895688253DED60630F8A656BB096A6?skip=1&lang=cy)

Mae’r cynllun plant yn amlinellu 6 cham i'r broses sylw dyledus, sy'n cynnwys offeryn asesu effaith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

 

 



[1] Mae adran 8B o Ddeddf Tlodi Plant 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU gyhoeddi ei adroddiad blynyddol (sy'n cynnwys disgrifiad o'r mesurau a gymerodd Gweinidogion Cymru) bob blwyddyn ers i'r adran hon ddod i rym, hy cyn 8 Mai 2013.