R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i
gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Ken Skates (De Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau seilwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gogledd Cymru dros y deuddeg mis nesaf. OAQ(4)0887(FM)
2. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cymunedau yng nghefn gwlad Cymru. OAQ(4)0897(FM) TYNNWYD YN ÔL
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau economaidd dros y deuddeg mis nesaf.OAQ(4)0885(FM)
4. Russell George (Sir Drefaldwyn):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella atebolrwydd lleol drwy system gynllunio Cymru.OAQ(4)0893(FM)
5. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o'r camau a gymerir gan awdurdodau lleol yng Nghymru i liniaru ar effaith toriadau mewn budd-daliadau tai hanfodol. OAQ(4)0890(FM)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal i’r newydd-anedig yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0888(FM) TYNNWYD YN ÔL
7. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa gynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu gweithgarwch undebau credyd yng Nghymru wrth ddarparu benthyciadau llog isel i bobl y byddent, fel arall, yn ddibynnol ar fenthyciadau diwrnodau cyflog. OAQ(4)0889(FM)
8. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i atal plant rhag cael gafael ar ddeunydd sy’n amhriodol i’w hoedran ar-lein. OAQ(4)0892(FM)
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Prif Weinidog nodi sawl gwaith y mae’n bwriadu cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Iwerddon yn ystod cyfnod Llywyddiaeth Iwerddon yn yr Undeb Ewropeaidd. OAQ(4)0895(FM) W TYNNWYD YN ÔL
10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hybu twf busnesau bach a chanolig. OAQ(4)0886(FM)
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun gwella iechyd Llywodraeth Cymru, Cynllun Gwên.OAQ(4)0884(FM)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd atebolrwydd a thryloywder yn Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0894(FM)
13. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth unedau mân anafiadau yn Nwyrain De Cymru.OAQ(4)0896(FM)
14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad bod gogledd Cymru yn un o safleoedd posibl Llywodraeth y DU ar gyfer carchar mawr. OAQ(4)0891(FM)