![]() |
![]() |
![]() |
||
17 Chwefror 2023
Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru
Annwyl Tanni a Brian
Diolch i chi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 14 Chwefror 2023. Mae’r Pwyllgor, fel y mae bob tro, yn ddiolchgar i chi am eich amser i drafod y mater pwysig hwn. Ar ddiwedd y cyfarfod, dywedais y byddwn yn ysgrifennu atoch i gael rhagor o wybodaeth am rai o’r materion a godwyd yn ystod y cyfarfod. Maent wedi’u hamlinellu isod.
Uwchgynhadledd ar system chwaraeon cynhwysol
Yn ystod y cyfarfod, gwnaethoch nodi bod Chwaraeon Cymru wedi cynnal uwchgynhadledd ym mis Rhagfyr 2022 ar system chwaraeon gynhwysol. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech roi amlinelliad o’r sefydliadau a ddaeth i’r uwchgynhadledd honno, yn ogystal â’r agenda ar gyfer yr uwchgynhadledd.
Honiadau o ymddygiad amhriodol mewn chwaraeon eraill
Byddai’r Pwyllgor yn croesawu cael amlinelliad o nifer y cwynion neu adroddiadau yn ymwneud â honiadau o gasineb at fenywod, rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia a ddaeth i law Chwaraeon Cymru yn ymwneud â chyrff llywodraethu cenedlaethol eraill yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Dylai hyn gynnwys unrhyw asesiadau a wnaed gan Chwaraeon Cymru o unrhyw batrymau i’r honiadau hyn, ac unrhyw gamau a gymerwyd gan Chwaraeon Cymru.
Pwerau ymyrryd
Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd yn helaeth rôl a grym Chwaraeon Cymru i ymyrryd mewn achosion o’r fath. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech amlinellu o dan ba amgylchiadau y byddai Chwaraeon Cymru yn cyfyngu ar y cyllid y mae’n ei ddarparu i gyrff llywodraethu cenedlaethol. Pa amodau sydd ynghlwm wrth y cyllid y mae Chwaraeon Cymru yn ei roi i gyrff llywodraethu cenedlaethol?
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddarparu ymateb erbyn 12.00 ddydd Gwener 3 Mawrth 2023.
Yn gywir
Delyth Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.