SL(6)340 – Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae Rhan 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (y Ddeddf) yn gwneud darpariaeth o ran telerau contractau adeiladu. Mae adran 106A(2) o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddatgymhwyso unrhyw un neu bob un o’r darpariaethau yn Rhan 2 mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o gontractau adeiladu sy’n ymwneud â chyflawni gweithrediadau adeiladu penodedig yng Nghymru.

Mae’r Gorchymyn hwn yn datgymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf mewn perthynas â chontractau prosiect seilwaith penodol yng Nghymru pan fo parti i’r contract yn ymgymerwr carthffosiaeth neu ddŵr, yn ddarostyngedig i ofynion gan gynnwys:

§  rhaid bod y contract yn ymwneud â phrosiect a ddynodwyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr fel prosiect ‘caffael uniongyrchol i gwsmeriaid’ (DPC) yn unol ag amodau penodiad yr ymgymerwr perthnasol;

 

§  rhaid i’r contract gynnwys gwneud taliadau rheolaidd drwy gyfeirio at gostau gwirioneddol yr eir iddynt ac a ddaw’n ddyledus ar ôl i un neu ragor o rannau o’r gweithrediadau adeiladu ddod i ben ac y gall gyflawni gwasanaeth carthffosiaeth neu ddŵr.

Mae’r Gorchymyn hefyd yn datgymhwyso adran 110(1A) o’r Ddeddf mewn perthynas â’r math o gontract y cyfeirir ato uchod, pan fo parti i’r contract hwnnw yn ymrwymo i is-gontract. Mae adran 110(1A) o’r Ddeddf yn darparu nad yw’r gofyniad bod contractau yn darparu mecanwaith digonol ar gyfer sefydlu pa daliadau sy’n dod yn ddyledus a phryd o dan y contract yn cael ei fodloni os yw taliad yn amodol ar gyflawni rhwymedigaethau o dan gontract arall.

Mae paragraff 4.4 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi mai dim ond un prosiect y gallai’r Gorchymyn hwn fod yn gymwys iddo ar hyn o bryd, sef gwaith trin dŵr Cwm Taf Dŵr Cymru.

Gweithdrefn

Cadarnhaol Drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Gorchymyn gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodir fel a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“4.9. Mae Ofwat wedi nodi na ddylai cwmnïau dŵr dalu'r [Darparwr a Benodir ar sail Cystadleuaeth] ar gyfer y prosiectau hyn nes y byddant wedi cael eu cwblhau a dod yn weithredol fel na fydd rhaid i gwmnïau dŵr (a ariennir gan filiau cwsmeriaid) dalu cyn i'r gwaith gael ei gwblhau a'i gyflawni.”

“4.11. Bydd gan bartïon sy'n ymrwymo i gaffaeliadau DPC wybodaeth lawn am y telerau, gan gynnwys y ffaith y bydd y taliad hwnnw ond yn dechrau ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau.”

Fodd bynnag, mae erthygl 3(1)(d) o’r Gorchymyn yn dweud, er mwyn i Ran 2 o’r Ddeddf gael ei datgymhwyso, fod yn rhaid i’r contract fodloni’r amod a ganlyn (pwyslais wedi’i ychwanegu):

“(d) mae’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus o dan y contract yn cynnwys, o leiaf yn rhannol, daliadau rheolaidd—

(i) sy’n cael eu pennu’n rhannol drwy gyfeirio at gostau gwirioneddol y gweithrediadau adeiladu y mae’r contract yn ymwneud â hwy, a

(ii) sy’n dod yn daladwy ar ôl i un rhan o leiaf o’r gweithrediadau adeiladu hynny gael ei chwblhau ac y gellir cyflawni gwasanaeth carthffosiaeth neu ddŵr.”

Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru egluro i ba raddau y mae’n rhaid gwneud taliadau dim ond ar ôl i brosiectau gael eu cwblhau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:        
Diben fersiwn ddrafft Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023 yw eithrio gwahanol warchodaethau (megis taliadau fesul cam) o gontractau adeiladu perthnasol y byddai’r contractau hynny fel arall yn eu cael o dan Ran 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“y Ddeddf”).

Mae adran 110(1A) o’r Ddeddf yn atal unrhyw deler mewn contract adeiladu sy’n gwneud taliad yn amodol ar gyflawni rhwymedigaeth o dan gontract arall.

Yn sgil trefniadau ariannu contractau Caffael Uniongyrchol i Gwsmeriaid (“DPC”), dim ond unwaith y bydd o leiaf un cam o’r ased garthffosiaeth neu ddŵr (neu ran ohono) wedi’i gwblhau a’i fod yn gallu gweithredu y bydd y taliad i’r cwmni sydd wedi cyflawni’r seilwaith gan y cwmni dŵr a charthffosiaeth sy’n comisiynu yn dechrau.

Mae’r cytundeb Darparwyr a Benodir ar Sail Cystadleuaeth (“CAP”) ac is-gontractau haen gyntaf yn dod o dan y diffiniad o gontract adeiladu a gallant felly fod yn destun her am beidio â chydymffurfio â’r Ddeddf. Os nad ydynt yn cydymffurfio, byddai darpariaethau talu perthnasol y Cynllun ar gyfer Contractau Adeiladu yn cael eu hymhlygu yn y contract ac yn cael blaenoriaeth dros ddarpariaethau contractau a ddyluniwyd ar gyfer DPC. Byddai hyn yn cael effaith andwyol ar strwythur a gweithrediad y cytundebau DPC hyn.

Mae’r Gorchymyn yn eithrio dau fath o gontract adeiladu o’r Ddeddf:

• Contractau CAP DPC – wedi eu heithrio o holl ofynion Rhan 2 o’r Ddeddf; ac

• Is-gontractau Haen Gyntaf DPC – wedi eu heithrio o adran 110(1A) o’r Ddeddf.

Mae’r holl gontractau adeiladu sy’n weddill drwy’r gadwyn gyflenwi yn parhau yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

16 Mawrth 2023