![]() |
![]() |
![]() |
||
14 Chwefror 2023
Diogelu casgliadau cenedlaethol Amgueddfa Cymru
Annwyl Peter,
Diolch i chi am eich ymateb i lythyr y Pwyllgor yn gofyn am wybodaeth i lywio gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Trafododd y Pwyllgor eich ymateb yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror 2023.
Nododd y Pwyllgor nad oedd cyfeiriad penodol yn eich llythyr ynghylch a fyddai’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn benodol yn sicrhau bod yr Amgueddfa’n gallu diogelu ymhellach y trysorau cenedlaethol yn ei chasgliadau. Dyma a ddywedodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthym yn ei hymateb i gais tebyg:
As regards that particular risk I am glad to report that the quick action by the Deputy Minister for Arts and Sport to support and provide a grant of £500k has alleviated the failings of the fire and smoke dampers in our building, but the continued reduction in capital funding will only create further and serious risks to the national collections. Therefore, it is vital that Welsh Government provides the additional urgently needed capital funding requested by the National Library as expeditiously as possible.
Gan hynny, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd nad oes unrhyw risg i’r casgliadau cenedlaethol sydd dan ofal Amgueddfa Cymru o ganlyniad i’ch setliadau cyllidebol gan Lywodraeth Cymru.
Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb maes o law.
Yn gywir,
Delyth Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.