SL(6)322 – Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 10(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") o ran Cymru.

Mae adran 10(2) o'r Ddeddf yn rhagnodi'r cyfnodau amser y mae’n rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (fel y corff cefn gwlad priodol o ran Cymru) gynnal ynddynt adolygiadau cychwynnol a dilynol o fapiau a ddyroddir ganddo ar ffurf derfynol o dan adran 9 o'r Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 10(2)(b)(ii) o'r Ddeddf er mwyn estyn y cyfwng hiraf rhwng adolygiadau dilynol ar ôl yr adolygiad cyntaf, o 10 mlynedd ar ôl yr adolygiad blaenorol, i 15 mlynedd.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Nid ydym yn credu bod angen dyfynnu adran 45(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn y rhagymadrodd, gan ei bod yn diffinio "regulations" yn hytrach nag unrhyw bŵer galluogi.

A all Llywodraeth Cymru roi esboniad?

Rhinweddau: Craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y rhesymau a roddir gan Lywodraeth Cymru am estyn y cyfnod adolygu dilynol. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Fel rhan o'i Rhaglen Diwygio Mynediad, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cynigion i symud o adolygiad degawdol i broses adolygu parhaus.  Mae'r OS hwn yn newid y cyfnod ar gyfer adolygiadau mapio dilynol o 10 mlynedd i 15 mlynedd, sy'n golygu y bydd disgwyl yr adolygiad nesaf yn 2029. Mae hyn yn osgoi bod CNC yn treulio amser ac adnoddau diangen ar broses adolygu sydd o dan ystyriaeth ar gyfer ei diwygio ymhellach ar hyn o bryd, i gyflwyno proses adolygu parhaus.”

“Mae CNC wedi cynghori nad oes ganddo'r adnoddau a'r arbenigedd i ymgymryd â'r ddwy dasg hyn ar yr un pryd (sef adolygu'r map mynediad agored cyfredol o dan y terfynau amser statudol cyfredol a symud i broses adolygu parhaus). O ganlyniad, gofynnodd CNC i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau a ddarperir gan adran 10(3) o CRoW i osod dyddiad newydd o 2029 ar gyfer cwblhau'r adolygiad nesaf o'r mapio mynediad agored.”

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Gan fod y Rheoliadau yn darparu diwygiad cyfyngedig, sy'n effeithio ar nifer fach o unigolion ac nid yw'n adlewyrchu newid mawr ym mholisi Llywodraeth Cymru, ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol. Fodd bynnag, ymgysylltwyd â CNC sy'n cael ei effeithio'n uniongyrchol gan y diwygiad.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt un.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

22 Chwefror 2023