SL(6)321 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Cefndir a Diben
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau i ddarparu'r sail ar gyfer y system cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, a myfyrwyr penodol eraill sy'n astudio yng Nghymru, sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig yn y DU.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rheoliadau sy’n ymwneud â’r cymorth presennol i fyfyrwyr er mwyn:
· cynyddu maint y cymorth i israddedigion ac ôl-raddedigion;
· cynyddu uchafswm y rhandaliad benthyciad ar radd doethur sy'n daladwy yn flynyddol;
· galluogi mwy o fyfyrwyr rhan-amser i wneud cais am Grantiau ar gyfer Dibynyddion, a chynyddu yr incwm a ddiystyrir wrth fynd ati i gyfrifo hawl ariannol;
· gwneud aelodau teuluol rhai personau sydd wedi ymwreiddio yn y DU yn gymwys i gael rhai elfennau o gefnogaeth;
· gwneud rhai personau o Diriogaethau Tramor Prydeinig penodedig a Thiriogaethau Tramor yr UE yn gymwys i gael rhai elfennau o gefnogaeth; a
· gwneud diwygiadau technegol i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 drwy hepgor darpariaethau diangen.
Mae rhai elfennau o gymorth yn cael eu cynyddu drwy gyfeirio at y cynnydd a ragwelir yn y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer 2023. Mae elfennau eraill yn cael eu cynyddu drwy gyfeirio at y Mynegai Prisiau Manwerthu ac Eithrio Llog ar Forgeisi (sef yr RPIX, sy’n fesur o chwyddiant nad yw’n cynnwys taliadau llog ar forgeisi).
Mae’r broses o gymhwyso unrhyw gynnydd mewn cymorth ariannol o dan y Rheoliadau hyn yn amrywio, ac yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys: dyddiad dechrau y cwrs; pa un a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr amser llawn neu’n fyfyriwr rhan-amser; a pha un a yw’n fyfyriwr israddedig neu’n fyfyriwr ôl-raddedig.
Mae trosolwg manwl o’r diwygiadau a wneir i gymorth i fyfyrwyr o dan y Rheoliadau hyn wedi’i gynnwys ym mharagraffau 4.1-4.24 o’r Memorandwm Esboniadol.
Mae amcangyfrifon ynghylch y costau ariannol ychwanegol sydd ynghlwm wrth gynyddu cymorth ariannol o dan y Rheoliadau hyn wedi’u cynnwys yn y Memorandwm Esboniadol, yn yr adran sy’n ymwneud â’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae crynodeb o’r detholiadau perthnasol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn, yn yr adran isod sy’n ymwneud â chraffu ar rinweddau’r Rheoliadau.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnod pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i gynnal ar gyfer y Rheoliadau hyn, sydd wedi'i gynnwys yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol.
Mae paragraff 6.7 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod goblygiadau peidio â gwneud y Rheoliadau hyn yn cynnwys:
· “bydd gwerth cymorth i fyfyrwyr yn gostwng, gan adael myfyrwyr i ysgwyddo holl gost y gostyngiad hwn ar adeg pan fo costau byw wedi cynyddu;
· ni lwyddir i gyflawni amcan y Rhaglen Lywodraethu i ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion byd gwaith; [ac]
· ni fydd unrhyw gymhared rhwng aelodau teuluoedd dinasyddion y DU a rhai pobl eraill sydd wedi ymsefydlu yn y DU […].
Mae costau a buddiannau gwneud y Rheoliadau wedi’u nodi ym mharagraffau 6.9-6.14 o’r Memorandwm Esboniadol. Yn benodol, mae'n nodi:
“Amcangyfrifir bod y cynnydd yn y cymorth blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yn costio £80 miliwn yn ychwanegol.
[…]
Amcangyfrifir bod y newidiadau i Grantiau ar gyfer Dibynyddion i gynyddu'r incwm a ddiystyrir a lleihau dwyster y gofynion astudio yn costio £652,000 yn ychwanegol yn y flwyddyn academaidd 2023/24.
[…]
Bydd gan y gwelliant i wneud darpariaeth ar gyfer aelodau teuluoedd pobl eraill â statws preswylydd sefydlog yn y DU fân oblygiadau o ran cost ond gan fod y niferoedd yn debygol o fod yn isel iawn, ystyrir y bydd unrhyw gostau yn fach iawn.
Credir bod y gwelliant i wneud darpariaeth bod dinasyddion y DU sy'n preswylio yn y Tiriogaethau Tramor Prydeinig a dinasyddion yr UE sy'n byw mewn Tiriogaethau Tramor o’r UE yn gymwys i gael cymorth ffioedd dysgu i israddedigion a chymorth ôl-raddedig yn cael mân oblygiadau o ran cost gan fod y niferoedd yn debygol o fod yn isel.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
20 Chwefror 2023