Huw Irranca-Davies AS,

Cadeirydd, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Jayne Bryant AS,

Cadeirydd, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg                                        

 

Russell George AS,

Cadeirydd, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol                                           


18 Ionawr 2023

 

Annwyl Huw , Jayne, Russell

 

Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod ichi fod fy nghydsyniad wedi’i roi ar gyfer Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022 a bod Offeryn Statudol hwn bellach wedi’i osod yn Senedd y DU.

 

Mae’r OS wedi diwygio’r ddeddfwriaeth ganlynol i wneud newidiadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

 

·         Rheoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (OS 2019/651) fel y’u diwygiwyd,

 

·         Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o 12 Mehefin 2013 ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau a diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/EC a 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 ac (EC) Rhif 953/2009[1],

 

·         Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 o 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc1, a

 

·         Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 o 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig.

 

Mae’r diwygiadau hyn wedi:

·         diweddaru’r uned fesur a ddefnyddir ar gyfer copr mewn atchwanegiadau bwyd

·         diweddaru’r uned fesur a ddefnyddir ar gyfer sinc mewn atchwanegiadau bwyd

·         diweddaru’r ffurfiau o niasin a ganiateir i’w defnyddio wrth weithgynhyrchu atchwanegiadau bwyd i gynnwys nicotinamid ribosid clorid

·         diweddaru’r ffurfiau o fagnesiwm a ganiateir i’w defnyddio wrth weithgynhyrchu atchwanegiadau bwyd i gynnwys magnesiwm citrad malad

·         diweddaru’r ffurfiau o ffolad a ganiateir i’w defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol i gynnwys calsiwm L-methylffolad

·         diweddaru’r ffurfiau o ffolad a ganiateir i’w defnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd proses sydd wedi’u seilio ar rawn a bwydydd babanod i gynnwys calsiwm L-methylffolad

·         safoni’r diffiniad o weddillion plaladdwyr a ddefnyddir yn y rheoliadau ar fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol a

·         safoni’r diffiniad o weddillion plaladdwyr a ddefnyddir yn y rheoliadau ar fwyd at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod a phlant ifanc.

 

 

Yn gywir

 

 

 

Lynne Neagle AS/MS

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Deputy Minister for Mental Health and Wellbeing

 

Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2023 (17 Ionawr 2023) | LLYW.CYMRU

 



[1] Rheoliad yr UE a ddargedwir fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 a 2020