Peter Fox AS

Yr Aelod o’r Senedd dros Fynwy

 

 

 

 

Y Bil Bwyd (Cymru) drafft

 

 

 

 

 

 

Ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth ddrafft i helpu i sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Mae'r ddeddfwriaeth ddrafft hefyd yn ceisio darparu fframwaith a fydd yn galluogi dull trawslywodraethol o ymdrin â pholisi ac ymarfer ar bob agwedd ar y system fwyd, a bod y dull hwnnw’n un sy’n gydlynol, yn gyson ac yn strategol.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2022

Cam i'w gymryd: Ymatebion erbyn 9 Medi 2022

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

This document is also available in English.

Trosolwg:Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft ac ar yr amcanion polisi y mae'r Bil drafft yn ceisio eu cyflawni.

 

Sut i ymateb:Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad hwn drwy e-bost neu drwy'r post gan ddefnyddio'r manylion isod, neu drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb ar-lein, erbyn 9 Medi 2022 fan bellaf.

 

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio: Mae'n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan Aelodau o’r Senedd (gan gynnwys yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil), staff cymorth neu staff Comisiwn y Senedd, at ddibenion datblygu'r Bil Aelod, hybu'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

 

I gael y manylion llawn am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, gweler polisi’r Senedd ar breifatrwydd Biliau Aelod.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses Bil Aelod ar gael yn y Canllaw i’r broses ar gyfer Bil Aelod.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Gareth Rogers

Clerc - Cymorth Craffu

Senedd Cymru 

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1SN[CM(CyS|SC1] 

E-bost: BiliauAelod@senedd.cymru

 

 


 

Y Bil Bwyd (Cymru) drafft

 

Cyflwyniad

 

Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth ddrafft hon yn unol â'r rheolau a nodir yn Rheolau Sefydlog y Senedd, sy'n galluogi Aelodau o’r Senedd nad ydynt yn rhan o’r Llywodraeth i gynnig cyfreithiau newydd i Gymru.

 

Ar 22 Medi 2021, roeddwn yn llwyddiannus mewn balot a gynhaliwyd o dan Reol Sefydlog 26.87 y Senedd ac enillais yr hawl i gyflwyno cynnig ar gyfer cyfraith newydd. Y cynnig a gyflwynais oedd y Bil Bwyd (Cymru)[1]. O dan y Rheolau Sefydlog, datblygais fy nghynnig ymhellach a chyhoeddais Femorandwm Esboniadol sy’n nodi'r amcanion polisi a phrif nodau'r cynnig yn fanylach.[2]

 

Ar 17 Tachwedd 2021 cynhaliwyd dadl 'caniatâd i fwrw ymlaen', a chytunodd y Senedd y gallwn gyflwyno Bil o fewn 13 mis i ddyddiad y ddadl honno er mwyn rhoi’r cynnig a ddewiswyd yn y balot cynharach ar waith, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd yn y Memorandwm Esboniadol.[3]

 

Nod y ddeddfwriaeth arfaethedig yw sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Mae'r Bil drafft yn darparu fframwaith a fydd yn galluogi dull trawslywodraethol sy’n gydlynol, yn gyson ac yn strategol ar gyfer ymdrin â pholisi ac ymarfer ar bob agwedd ar y system fwyd.

 

Yr amcanion polisi sylfaenol hynny oedd y prif egwyddorion wrth ddatblygu’r Bil Bwyd (Cymru) drafft ("y Bil drafft”). Drwy gydol y broses ddatblygu honno, rwyf wedi cynnal trafodaethau ac ymgynghoriadau cychwynnol gyda rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd. Rwyf hefyd wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a chydweithwyr gwleidyddol yn y Senedd.

 

 

 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft ac ar yr amcanion polisi a geir ynddo. Nid oes rhaid i ymatebwyr ateb pob cwestiwn a ofynnir, ond byddai'n ein helpu i barhau i ddatblygu'r Bil os gellid sicrhau bod unrhyw ateb a roddir yn rhoi cymaint o fanylion â phosibl. Mae'r ddogfen ymgynghori hon wedi'i chyhoeddi ynghyd â'r Bil drafft ei hun.

 

 

 

Peter Fox AS

Yr Aelod o’r Senedd dros Fynwy

Y Bil Bwyd (Cymru) drafft: Ymgynghoriad

 

Rhan 1

 

Cefndir a Diben y Bil drafft

1)           Diben y Bil Bwyd (Cymru) yw sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Mae'r Bil drafft yn darparu fframwaith a fydd yn galluogi dull trawslywodraethol sy’n gydlynol, yn gyson ac yn strategol ar gyfer ymdrin â pholisi ac ymarfer ar bob agwedd ar y system fwyd.

 

2)           Mae'r system fwyd yn ganolog i ffyniant economaidd-gymdeithasol Cymru yn awr ac yn y dyfodol. Er bod cynhyrchu a bwyta bwyd yn rhan gynhenid o systemau ehangach y DU a systemau byd-eang, mae gan y sector yng Nghymru rôl sylfaenol i'w chwarae wrth helpu i greu Cymru fwy cyfartal, iachach a gwyrddach. Mae rhai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu Cymru – megis tlodi ac anghydraddoldeb, gordewdra a diffyg maeth, a newid yn yr hinsawdd – wedi gwaethygu yn sgil y pandemig COVID-19 parhaus, y rhyfel yn Wcráin a'r argyfwng costau byw. Mae materion parhaus yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi hefyd wedi tynnu sylw at yr angen am system fwyd wytnach, am fod materion o'r fath yn cyfyngu ar ddewis defnyddwyr. Mae'r materion hyn yn rhoi straen sylweddol ar Lywodraeth Cymru, yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau.

 

3)           Felly, mae'r Bil drafft yn ceisio datblygu fframwaith cyfannol a chyson ar gyfer datblygu polisi bwyd yn y dyfodol. Bydd yn llwyfan ar gyfer cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus a gwneuthurwyr polisi, yn ogystal â dod â chynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr at ei gilydd. Wrth wneud hynny, mae'r Bil drafft hefyd yn ceisio sicrhau bod polisïau yn ystyried sut y gall y system fwyd ymateb i rai o heriau economaidd-gymdeithasol Cymru ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

 

4)           Bydd y Bil drafft hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i gyflawni eu dyletswyddau fel y’u hamlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ('Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol'). Bydd y darpariaethau yn y Bil drafft yn canolbwyntio ar gyflawni'r saith nod llesiant, a byddant yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i hwyluso dull mwy cyson o ddatblygu polisi bwyd yng Nghymru.

 

5)           Bydd y Bil drafft hefyd yn sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y system fwyd yng Nghymru yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf mewn rhannau eraill o'r DU ac nad yw'n gadael cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr yng Nghymru o dan anfantais. Wrth ddatblygu'r Bil drafft hwn, ystyriwyd y datblygiadau polisi diweddar a ganlyn:

 

·         Deddf Cenedl Bwyd Da (yr Alban) 2022:pasiwyd y Ddeddf hon gan Senedd yr Alban ar 15 Mehefin 2022. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion yr Alban ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol greu Cynlluniau Cenedl Bwyd Da, a bydd yn cefnogi uchelgais Llywodraeth yr Alban i'r Alban ddod yn 'Genedl Bwyd Da'. Bydd y cynlluniau hyn yn nodi'r prif ddeilliannau sydd i'w cyflawni o ran materion sy'n ymwneud â bwyd, y polisïau sydd eu hangen i wneud hyn a'r dangosyddion neu fesurau eraill sydd eu hangen i asesu cynnydd. Mae'r Ddeddf hefyd yn sefydlu Comisiwn Bwyd i graffu ar y Cynlluniau Cenedl Bwyd Da ac adroddiadau cynnydd a gwneud argymhellion mewn perthynas â hwy; cynnal ymchwil; a rhoi cyngor i Weinidogion yr Alban ac awdurdodau perthnasol wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf.

 

·         Strategaeth Fwyd Llywodraeth y DU:Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei strategaeth fwyd ar 13 Mehefin 2022. Amcanion y strategaeth yw cyflawni:

 

o   sector bwyd-amaeth a bwyd môr ffyniannus sy'n sicrhau cyflenwad bwyd diogel mewn byd anrhagweladwy ac sy'n cyfrannu at yr agenda ffyniant bro drwy gynnal swyddi o ansawdd da ledled y wlad;

o   system fwyd gynaliadwy, fforddiadwy, sy'n gadarnhaol o ran natur, sy'n cynnig dewis ac yn sicrhau bod modd i bawb gael gafael ar gynhyrchion o ansawdd uchel sy'n cefnogi deiet iachach o gnydau a dyfwyd gartref[CM(CyS|SC2] ; a

o   masnach sy'n cynnig cyfleoedd allforio a dewis i ddefnyddwyr drwy fewnforion, heb beryglu ein safonau rheoleiddio ar gyfer bwyd, boed iddo gael ei gynhyrchu'n ddomestig neu ei fewnforio.

 

Ymhlith pethau eraill, mae strategaeth Llywodraeth y DU yn adeiladu ar yr adroddiad annibynnol o’r Strategaeth Fwyd Genedlaethola gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU ac a arweiniwyd gan Henry Dimbleby. Roedd yr adroddiad yn trafod cynhyrchu, marchnata a phrosesu bwyd, yn ogystal â gwerthu a phrynu bwyd. Edrychodd hefyd ar yr adnoddau a'r sefydliadau sy'n ymwneud â'r prosesau hyn.

Cwmpas y Bil drafft

6)           Mae cwmpas y Bil drafft yn cynnwys y meysydd a ganlyn, sy'n cael eu harchwilio'n fanylach yn y ddogfen ymgynghori hon:

Cyflwyno 'Nodau Bwyd': gan gynnwys 'nod bwyd sylfaenol' i sefydlu dyletswydd gyffredinol i ddarparu bwyd fforddiadwy, iach, ac sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol. Ategir y nod bwyd sylfaenol gan 'nodau bwyd eilaidd' mewn meysydd penodol. 

Sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru: gan gynnwys pwerau i fonitro ac adrodd ar gynnydd tuag at ymrwymiadau'r Llywodraeth, yn ogystal ag ymrwymiadau statudol, ac i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Nodau Bwyd a'r cynlluniau bwyd.

Strategaethau Bwyd Cenedlaethol a Chynlluniau Bwyd Lleol: i’w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw i ymrwymiadau sy’n bodoli eisoes o ran polisi a deddfwriaeth – gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal â chytundebau rhyngwladol fel Nodau Datblygu'r Cenhedloedd Unedig – wrth gynllunio polisi bwyd.

Mynd i'r afael â gwastraff bwyd: un o'r nodau bwyd eilaidd yw lleihau gwastraff bwyd gan gynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr.

Ystyriaethau eraill

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

7)           Ar 7 Mehefin 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)("y Bil Partneriaeth Gymdeithasol"). Mae amcanion polisi y Bil Partneriaeth Gymdeithasol wedi'u nodi'n llawn ar wefan y Senedd ond maent yn cynnwys meysydd a allai orgyffwrdd rhywfaint ag amcanion polisi y Bil Bwyd (Cymru) drafft.

 

8)           Yn benodol, mae'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

·         dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ystyried defnyddio prosesau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol , i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth gaffael;

·         gofyniad i gyrff cyhoeddus penodol gyflawni dyletswyddau rheoli contractau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i ganlyniadau cymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi;

 

9)           Mae’r Senedd wrthi’n craffu ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol ar hyn o bryd, ac mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Bydd manylion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol, ynghyd â chanlyniadau trafodaeth gynnar y Senedd yn ei gylch, yn cael eu hystyried wrth ddatblygu'r fersiwn derfynol o’r  Bil drafft.

 

Yr ymrwymiadau yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru

a) Datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru

10)        Fel y nodir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, mae'n cynnig cyflwyno Strategaeth Bwyd Cymunedol. Fel rhan o gynlluniau'r Llywodraeth i ymgorffori ei hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wna, mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys y nod a ganlyn: “Datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru”.

 

11)        Nid yw manylion y strategaeth arfaethedig wedi'u cyhoeddi eto na'u darparu i'r Senedd er mwyn iddi graffu arnynt. Nid yw ychwaith yn glir eto pryd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r strategaeth.

 

12)        Os bydd ar gael cyn i’r Bil drafft gael ei gyflwyno, bydd manylion y strategaeth, ynghyd â chanlyniadau trafodaeth y Senedd yn ei chylch, yn cael eu hystyried wrth ddatblygu'r fersiwn derfynol o’r  Bil drafft. Gobeithir hefyd y bydd rhywfaint o drafodaeth adeiladol gyda Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru wrth i'r Bil drafft a'r strategaeth symud yn eu blaenau.

 

b) Creu system newydd o gymorth ffermio a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur drwy ffermio, gan werthfawrogi anghenion penodol ffermydd teuluol yng Nghymru a chydnabod y broses o gynhyrchu bwyd lleol sy’n ecolegol gynaliadwy.

 

13)        Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy drafftar 6 Gorffennaf 2022. Bwriad y Llywodraeth yw cyflwyno’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ym mis Medi a disgwylir iddo fod yn gyfrwng deddfwriaethol ar gyfer y Cynllun. Bydd y dull newydd hwn yn disodli'r taliadau a wnaed i ffermwyr ar ffurf Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.

 

14)        Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drafft yw gwobrwyo ffermwyr sy'n cyflawni canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac sydd, ymhlith pethau eraill, yn cynhyrchu mwy o amrywiaeth o fwyd. Bwriad y Cynllun yw helpu ffermwyr i ddatblygu marchnadoedd newydd ac ychwanegu gwerth at eu cynnyrch; cefnogi bwyd lleol, gan gadw gwerth mewn cymunedau; ac adeiladu system fwyd fwy amrywiol y gall wrthsefyll newid hinsawdd yn well.

 

15)        Ar ôl cyfnod o ymgynghori a threialu, disgwylir i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy agor ym mis Ionawr 2025.

 

16)        Mae amcanion y Bil drafft yn ategu amcanion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyda'i gilydd byddant yn helpu i sicrhau bod bwyd lleol o ansawdd uchel sy'n dod o ffynonellau moesegol ar gael yn haws yng Nghymru, gan gefnogi ffermwyr i ffermio'n gynaliadwy ar yr un pryd.

 

17)        Mae'n debygol y bydd y Bil Bwyd (Cymru) a’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) gerbron y Senedd ar yr un pryd. Os felly, mae'n bwysig bod y prosesau'n caniatáu dull gweithredu cydgysylltiedig fel bod y ddau Fil yn ategu ei gilydd gymaint â phosibl. Unwaith eto, y gobaith yw y bydd deialog adeiladol gyda Llywodraeth Cymru wrth i bethau fynd rhagddynt.

 

 


 

Y Bil Bwyd (Cymru) drafft: Ymgynghoriad

Rhan 2

Cynnwys a manylion y Bil drafft

18)        Fel y nodwyd eisoes yn y ddogfen hon, diben y Bil drafft yw sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Mae'r Bil drafft yn darparu fframwaith a fydd yn galluogi dull trawslywodraethol sy’n gydlynol, yn gyson ac yn strategol, ar gyfer ymdrin â pholisi ac ymarfer ar bob agwedd ar y system fwyd.

 

19)        Mae'r Bil drafft hefyd yn ceisio datblygu fframwaith cyfannol a chyson ar gyfer datblygu polisi bwyd yn y dyfodol. Bydd yn llwyfan ar gyfer cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus a gwneuthurwyr polisi, yn ogystal â dod â chynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr at ei gilydd. Wrth wneud hynny, mae'r Bil drafft hefyd yn ceisio sicrhau bod polisïau'n ystyried sut y gall y system fwyd ymateb i rai o heriau economaidd-gymdeithasol Cymru ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

 

Pam y credwn fod angen y Bil

 

20)        Mae trafodaethau gyda rhanddeiliaid dros fisoedd lawer wedi tynnu sylw at y ffaith bod diffyg gwaith craffu cyffredinol ar bolisïau sy'n gysylltiedig â'r system fwyd ehangach yng Nghymru (ac mewn mannau eraill). Hynny yw, mae polisi bwyd yn cael ei ystyried yn rhy aml mewn cyd-destunnau penodol, gydag adrannau Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dulliau gwahanol o ymdrin â pholisi bwyd, gan olygu y gellir gosod nodau polisi sy’n mynd yn groes i’w gilydd.

 

21)        At hynny, er gwaethaf pwysigrwydd bwyd (a'r system fwyd ehangach) o safbwynt iechyd a llesiant, yn ogystal â datblygiad economaidd-gymdeithasol ymhlith pethau eraill, canfuwyd bod gan gyrff cyhoeddus agweddau gwahanol ac anghyson iawn tuag at bolisi bwyd o fewn eu cylchoedd gwaith priodol. Er bod rhai yn rhagweithiol yn hyn o beth, mae rhai eraill nad ydynt yn gwneud fawr ddim.

 

22)        Mae'r 'clytwaith' hwn o ymatebion polisi ledled Cymru yn golygu mai prin y manteisir ar gapsiti’r sector bwyd i ymateb i rai o'r heriau sy'n wynebu cymunedau, ac felly mae rhai o'r heriau hyn yn cael eu gadael heb eu datrys.

 

23)        Mae digwyddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y ffaith bod cadwyni cyflenwi yn fwy agored i ergydion allanol nag a gredwyd yn gyffredinol. Er bod bwyd yn her fyd-eang yn ei hanfod – mae sioc i'r system yn golygu bod y rhai nad oes ganddynt system fwyd leol gadarn ar waith yn aml yn fwy agored i siociau eraill.

 

24)        Mae'r Bil drafft, felly, yn bwriadu creu system lywodraethu fwy cadarn i oruchwylio'r system fwyd yng Nghymru. Y bwriad felly yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn fwy rhagweithiol wrth fonitro iechyd a hygyrchedd y system fwyd yng Nghymru, a’r modd y mae system fwyd Cymru yn rhyngweithio â systemau gwledydd eraill. Mae'r materion hyn yn sail i sawl agwedd wahanol ar gymunedau.

 

25)        Mae’n debyg y gallai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ymateb i rai o'r heriau hyn heb fod angen deddfwriaeth, ond un o’r materion sy’n codi’n aml yw’r ffaith nad yw’r cynlluniau a’r strategaethau a roddir ar waith yn aml yn cynnwys fawr ddim mecanweithiau craffu ac atebolrwydd. Felly, cânt eu hanwybyddu'n aml gan gyrff, neu eu rhoi ar waith yn gyfyngedig. Byddai'r Bil drafft hwn yn ceisio gosod dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus i helpu i ddwyn ynghyd elfennau gwahanol o’r system fwyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio tuag at nodau ac amcanion tebyg, gan arwain – gobeithio – at newid pendant yn y ffordd y mae cymdeithas yn ymwneud â bwyd a materion cysylltiedig.

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

1. A ydych yn cytuno â'r egwyddorion cyffredinol y mae'r Bil yn ceisio eu cyflawni?

2. A ydych yn credu bod angen y ddeddfwriaeth hon? A allwch roi rhesymau dros eich ateb?

 

Sut mae'r amcanion polisi yn cyd-fynd â'r Bil drafft

26)        Mae prif amcanion polisi'r Bil drafft wedi'u nodi mewn pedair rhan ar wahân, ac mae pob rhan wedi’i threfnu o dan groesbennawd ac wedi’i rhannu'n adrannau. Mae darpariaethau mwy cyffredinol hefyd wedi'u cynnwys mewn adrannau ar wahân yn y Bil drafft. Ategir y Bil drafft hefyd gan Atodlen sy'n cynnwys rhagor o fanylion am gyfansoddiad a gweithrediad Comisiwn Bwyd Cymru.

 

Nodau Bwyd: Adrannau 1 i 7

 

27)        Un o brif amcanion polisi y Bil drafft yw darparu bwyd fforddiadwy, iach ac sy’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol i bobl yn awr ac i genedlaethau'r dyfodol. Mae sefydlu "nodau bwyd" yn y rhan agoriadol hon o'r Bil drafft yn darparu mecanwaith i helpu i gyflawni'r prif amcan polisi hwnnw.

 

28)        Mae'r Bil drafft yn nodi'r nodau bwyd mewn dau gategori:

 

·         Nod Bwyd Sylfaenol:dyma'r nod cyffredinol o ddarparu bwyd fforddiadwy, iach, ac sy’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol i bobl Cymru.

 

·         Nodau Bwyd Eilaidd:mae'r rhain yn ategu'r nod bwyd sylfaenol ac yn cwmpasu meysydd penodol gan gynnwys: (i) llesiant economaidd, (ii) iechyd a chymdeithasol, (iii) addysg, (iv) yr amgylchedd a (v) gwastraff bwyd.

 

29)        Mae'r Bil drafft yn gosod dyletswydd ar "gyrff cyhoeddus" i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd (gweler adran 1). At ddibenion y Bil drafft, ystyr "cyrff cyhoeddus" yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol, neu Fwrdd Iechyd Lleol. Fodd bynnag, mae'r Bil drafft hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer diwygio'r rhestr o gyrff cyhoeddus yn y dyfodol os ystyrir bod angen gwneud hynny, ac mae'n darparu proses benodol i wneud hynny (gweler adran 22 o'r Bil drafft).

 

30)        Mae'r nodau bwyd yn debyg o ran arddull ac effaith i'r "nodau llesiant" a nodir yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn yr un modd ag y mae'r 'nodau llesiant' wedi’u hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'r nodau bwyd yn rhan annatod o'r Bil drafft, a rhaid eu hystyried wrth ymgymryd â dyletswyddau eraill o dan y Bil drafft (megis datblygu'r Strategaeth Fwyd Genedlaethol).

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

 

3. Rhowch eich barn ar gynnwys y Nodau Bwyd yn y Bil fel ffordd o osod sylfaen ar gyfer yr amcanion polisi.

 

4. A ydych yn cytuno â chynnwys Nod Bwyd Sylfaenol wedi'i ategu gan Nodau Bwyd Eilaidd?

 

5. A oes meysydd ychwanegol / gwahanol y dylid eu cynnwys yn y Nodau Bwyd yn eich barn chi?

 

6. A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Nodau Bwyd, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

Targedau ar gyfer y nodau bwyd eilaidd

 

31)        Mae'r Bil drafft yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau ar gyfer pob un o'r nodau bwyd eilaidd. Rhaid i'r targedau hyn bennu (a) safon sydd i'w chyrraedd, y mae'n rhaid bod modd ei mesur, a (b) dyddiad erbyn pryd y dylid cyflawni'r targed hwnnw.

 

32)        Mae gosod targedau fel y rhain yn arfer cyffredin ac fe'i gwelir mewn llawer o Ddeddfau. Gweler enghraifft ddiweddar o ddefnyddio targedau o'r fath ym Mhennod 1 o Ddeddf yr Amgylchedd 2021, a basiwyd gan Senedd y DU. Mae enghraifft arall o osod targedau i’w gweld yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a basiwyd gan y Senedd ym mis Mawrth 2015.Defnyddio targedau fyddai'r prif fecanwaith yn y Bil drafft ar gyfer helpu i sicrhau bod safonau penodedig yn cael eu cyrraedd yn erbyn pob un o'r nodau bwyd eilaidd.

 

33)        Er bod y Bil drafft yn creu'r ddyletswydd i osod targedau, gwneir y targedau drwy is-ddeddfwriaeth a elwir yn rheoliadau. Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y rheoliadau hyn, a byddant yn cynnwys manylion am y safon sydd i’w chyrraedd a sut y caiff ei mesur. Rhaid i'r rheoliadau cyntaf sy'n gosod un neu fwy o dargedau ar gyfer pob nod bwyd eilaidd gael eu gwneud o fewn 24 mis i'r adran berthnasol o'r Bil drafft ddod i rym.

 

34)        Nodir y broses benodol ar gyfer gosod y targedau yn adran 5 o'r Bil drafft. Mae'r broses hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, cyn gwneud y rheoliad, i ofyn am gyngor gan Gomisiwn Bwyd Cymru (a gaiff ei sefydlu drwy'r Bil drafft hwn), a chan bersonau eraill yr ystyrir eu bod yn annibynnol ac sydd ag arbenigedd perthnasol. Bydd cynnwys y ddarpariaeth hon yn sicrhau bod elfen annibynnol yn cael ei chynnwys wrth osod y targedau penodol.

 

35)         Mae adran 6 o'r Bil drafft yn cynnwys gofynion sy'n ymwneud ag adrodd ar y targedau a osodwyd. Mae cynnwys gofynion adrodd yn elfen bwysig o'r Bil drafft, gan ei fod yn darparu'r mecanwaith ar gyfer gwaith craffu ac atebolrwydd o ran cynnydd a wneir wrth gyflawni’r targedau a osodwyd. 

 

36)        Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad yn nodi a yw'r targedau wedi'u cyflawni ai peidio. Os na chyflawnwyd targedau, rhaid i Lywodraeth Cymru egluro yn y datganiad pam nad yw'r targed wedi'i gyflawni a pha gamau sydd wedi'u cymryd, a pha gamau a gaiff eu cymryd, i sicrhau bod y targed yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl.

 

37)        Er mwyn helpu i sicrhau bod y targedau a osodir yn unol â'r Bil drafft yn parhau'n berthnasol ac yn fesuradwy, mae'r Bil drafft yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu'r targedau y maent wedi'u gosod. Prif ddiben yr adolygiad yw ystyried a fyddai cyflawni’r targed yn cyfrannu'n sylweddol at y nod bwyd sylfaenol.

 

38)        Mae'r Bil drafft yn darparu ar gyfer yr adolygiad cyntaf o'r targedau sydd i'w gynnal o fewn 5 mlynedd i'r ddarpariaeth ddod i rym, gydag adolygiadau dilynol yn cael eu cwblhau o fewn 5 mlynedd i gwblhau'r adolygiad blaenorol. Rhaid i bob adolygiad gael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru.

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

7. Rhowch eich barn ar gynnwys targedau yn y Bil fel modd o fesur sut mae'r Nodau Bwyd yn cael eu datblygu.

 

8. A ydych yn cytuno â'r broses ar gyfer gosod y targedau?

 

9. A ydych yn credu bod y mecanweithiau adrodd a nodir yn y Bil drafft yn sicrhau digon o atebolrwydd a digon o gyfle i graffu?

 

10. A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y targedau, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

 

Comisiwn Bwyd Cymru: Adrannau 8 i 11 o’r Ddeddf a’r Atodlen iddi

 

Sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru

 

39)        Mae adran 8 o'r Bil drafft yn sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru neu the Welsh Fod Commission ac mae adran 9 yn nodi ei amcanion. Amcanion y Comisiwn yw hybu a hwyluso:

a.    hyrwyddo'r nodau bwyd sylfaenol ac eilaidd gan gyrff cyhoeddus; a

b.   cyflawni'r targedau bwyd.

 

40)        Rhestrir swyddogaethau'r Comisiwn yn adran 10. Mae swyddogaethau’r Comisiwn fel a ganlyn:

a.    datblygu, a chynorthwyo cyrff cyhoeddus i ddatblygu, polisïau mewn perthynas â materion bwyd;

b.   cynghori, hysbysu a chynorthwyo cyrff cyhoeddus, a phersonau eraill, mewn perthynas â materion bwyd;

c.    rhoi gwybodaeth ddigonol i’r cyhoedd am faterion sy’n effeithio’n sylweddol ar eu gallu i wneud penderfyniadau gwybodus am faterion bwyd, a rhoi cyngor iddynt mewn perthynas â’r materion hynny;

d.   darparu trosolwg ac adolygiad o berfformiad y gwaith o arfer swyddogaethau cyrff cyhoeddus mewn perthynas â’r nodau bwyd a’r targedau bwyd;

e.    craffu ar y strategaeth fwyd genedlaethol a chynlluniau bwyd lleol;

f.     gweithredu fel ymgynghorai i Weinidogion Cymru pan fydd y nodau bwyd i gael eu diwygio; a

g.   rhoi cyngor i Weinidogion Cymru wrth iddynt adolygu targedau bwyd.

 

Gweithredu Comisiwn Bwyd Cymru

 

41)        Mae'r Atodlen i'r Bil drafft yn nodi’r manylion am sut y bydd Comisiwn Bwyd Cymru yn gweithredu.

 

Rhan 2 o'r Atodlen: Aelodaeth

 

42)        Bydd y Comisiwn yn cynnwys cadeirydd a rhwng pump a saith aelod arall, a chaiff pob un ohonynt eu penodi gan Weinidogion Cymru. Cyn penodi'r cadeirydd, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Senedd. Cyn penodi'r aelodau eraill, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cadeirydd a’r Senedd.

 

43)        Wrth benodi unigolyn, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ba mor ddymunol ydyw i aelodau gael ystod o sgiliau a phrofiadau.

 

44)        Caiff Gweinidogion Cymru bennu'r telerau aelodaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen, sy'n cynnwys uchafswm cyfnod aelodaeth o bum mlynedd ac yn nodi mai dim ond unwaith y caniateir i unigolyn gael ei ailbenodi yn aelod.

 

45)        Ni chaniateir penodi unigolyn yn aelod o'r Comisiwn os yw'n Aelod o'r Senedd, Senedd y DU, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon, neu os yw'n aelod o nifer o gyrff cyhoeddus penodedig eraill, neu os yw wedi'i benodi i swyddi cyhoeddus penodol. Mae’r rhestr lawn i’w gweld ym mharagraff 4 o'r Atodlen.

 

46)        Gall unigolyn ymddiswyddo o'r Comisiwn drwy roi tri mis o hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

 

47)        Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo unigolyn fel aelod os daw'r unigolyn yn fethdalwr nad yw wedi’i ryddhau neu os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon bod yr unigolyn yn anaddas i barhau’n aelod.

 

48)        Gall Gweinidogion Cymru dalu tâl, lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau'r Comisiwn. Gall Gweinidogion Cymru hefyd dalu neu gyfrannu at bensiynau i unigolion a fu’n aelodau o'r Comisiwn.Mae rhagor o wybodaeth ym mharagraff 6 o'r Atodlen.

 

Rhan 3 o'r Atodlen: Materion gweithredol

 

49)        Gall y Comisiwn wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei farn ef mewn cysylltiad â'i swyddogaethau.

 

50)        Gall y Comisiwn benodi staff i gyflawni ei swyddogaethau. Gall dalu tâl, lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau o staff. Gall y Comisiwn hefyd dalu neu gyfrannu at bensiynau i unigolion a fu’n aelodau o staff.

 

51)        Rhaid i'r Comisiwn gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer:

a.    nifer y staff y gellir eu penodi;

b.   telerau ac amodau'r staff; ac

c.    unrhyw daliadau sydd i'w gwneud i'r staff, fel y’u nodir uchod.

 

52)        Gall y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefnau ei hun (gan gynnwys unrhyw gworwm).

 

53)        Gall y Comisiwn sefydlu pwyllgorau, a all gynnwys aelod nad yw'n aelod o'r Comisiwn. Mae gan yr unigolyn hwnnw yr hawl i gael tâl a threuliau fel y'u pennir gan y Comisiwn. Gall y Comisiwn reoleiddio gweithdrefnau (gan gynnwys unrhyw gworwm) mewn cysylltiad ag unrhyw bwyllgor a sefydlir ganddo.

 

54)        Gall y Comisiwn ddirprwyo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau i un (neu rai) o'i aelodau, pwyllgor a sefydlwyd ganddo, neu aelod o'i staff. Gellir dirprwyo awdurdod yn gyffredinol neu ddirprwyo’r awdurdod i arfer swyddogaeth o dan amgylchiadau penodol, ac nid yw'n effeithio ar gyfrifoldeb y Comisiwn am arfer y swyddogaeth honno.

 

55)        Er mwyn ariannu gwaith y Comisiwn, mae'r Bil drafft yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu'r Comisiwn fel y gwêl yn briodol.

 

Rhan 4 o'r Atodlen: cynlluniau, adroddiad a chyfrifon

 

56)        Cyn dechrau ail flwyddyn ariannol y Comisiwn, ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, rhaid i'r Comisiwn baratoi cynllun sy’n nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac er mwyn sicrhau tryloywder, osod copi o'r cynllun gerbron y Senedd.

 

57)        Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Rhaid i'r Comisiwn anfon copi o'r adroddiad hwn at Weinidogion Cymru a gosod copi o'r adroddiad gerbron y Senedd.

 

58)        Gall y Comisiwn osod copi o unrhyw adroddiad arall a luniwyd ganddo gerbron y Senedd.

 

59)        Rhaid i'r Comisiwn gadw cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru (gweler paragraff 16 o'r Atodlen).

 

60)        Rhaid cyflwyno'r cyfrifon i'r Archwilydd Cyffredinol eu harchwilio, ac o fewn pedwar mis i'w cyflwyno, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol osod copi o'r cyfrifon ardystiedig a'r adroddiad cysylltiedig gerbron y Senedd. Ni chaniateir i'r Archwilydd Cyffredinol ardystio'r cyfrifon oni bai y bydd wedi'i fodloni yr aed i’r gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â'r awdurdod sy'n ei lywodraethu.

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

 

11. Beth yw eich barn ar yr angen am Gomisiwn Bwyd i Gymru?

12. A ydych yn cytuno â nodau a swyddogaethau Comisiwn Bwyd Cymru? Os na, pa newidiadau y byddech chi'n eu hawgrymu?

 

13. A ydych yn cytuno â maint aelodaeth y Comisiwn Bwyd a'r broses ar gyfer penodi ei aelodau?

 

14. Beth yw eich barn am y cynnig mai am gyfnod o hyd at bum mlynedd ar y mwyaf y gall y cadeirydd a'r aelodau wasanaethu ac mai dim ond unwaith y gellir ailbenodi unigolyn yn gadeirydd neu'n aelod? Ydych chi'n credu bod hyn yn briodol?

 

15. A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Comisiwn Bwyd, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

 

Strategaeth Fwyd Genedlaethol – adrannau 12 i 16

 

61)        Bydd y Bil drafft yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol sy'n nodi'r strategaeth gyffredinol a'r polisïau unigol y maent yn bwriadu eu dilyn er mwyn hyrwyddo'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd, a chyflawni'r targedau bwyd (y nodwyd manylion amdanynt yn gynharach yn y ddogfen ymgynghori hon).

 

62)        Byddai’n ofynnol wedyn i 'gyrff cyhoeddus' penodedig – fel y’u nodir yn adran 22 o'r Bil drafft – roi sylw i'r strategaeth fwyd genedlaethol wrth arfer unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â'r nod bwyd sylfaenol, y nodau bwyd eilaidd, a'r targedau bwyd.

 

63)        Cyflwynwyd gofyniad am strategaeth fwyd genedlaethol yn y Bil drafft er mwyn ymateb i bryderon am fylchau yn fframwaith polisi presennol Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae'r adroddiad diweddar gan  Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, A Welsh Food System Fit for Future Generations(Saesneg yn unig), yn dadlau nad yw'r Cynllun Gweithredu Bwyd presennol yn darparu strategaeth gynhwysfawr o ran y system fwyd yng Nghymru ar gyfer y presennol a chenedlaethau'r dyfodol.

 

64)        Er bod y Bil drafft yn gosod y ddyletswydd i gyhoeddi'r strategaeth ar Weinidogion Cymru, mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan Gomisiwn Bwyd Cymru cyn gwneud y strategaeth. Mae'r Bil drafft yn awgrymu y gall Gweinidogion Cymru hefyd ofyn am gyngor gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar sut i gysoni'r strategaeth â'r egwyddor datblygu cynaliadwy fel y'i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (er nad yw hyn yn ofyniad).

 

65)        Cyn gwneud y strategaeth, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ymgynghori â phersonau sy’n annibynnol ac sydd ag arbenigedd perthnasol yn eu barn hwy, ac unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

 

Adrodd ar y strategaeth

 

66)        Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd, a chyhoeddi, adroddiad sy'n asesu effeithiolrwydd y strategaeth fwyd genedlaethol, ac yn benodol, nodi'r cyfraniad y mae wedi'i wneud tuag at—

 

-     hyrwyddo'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd, a

-     chyflawni'r targedau bwyd.

 

67)        Cyn gwneud adroddiad ar y strategaeth fwyd genedlaethol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chomisiwn Bwyd Cymru.

 

68)        Rhaid llunio adroddiadau o dan yr adran hon cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y ddwy flynedd sy'n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y strategaeth gyntaf, a phob cyfnod dilynol o ddwy flynedd.

 

Adolygu'r strategaeth

 

69)        Cyn diwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y strategaeth gyntaf, ac yna ym mhob cyfnod dilynol o bum mlynedd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r strategaeth fwyd genedlaethol.

 

70)        Yn dilyn adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio'r strategaeth fel y gwelant yn briodol.

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

 

16. A ydych yn cytuno bod angen strategaeth fwyd genedlaethol?

 

17. A ydych yn credu bod strategaethau presennol Llywodraeth Cymru o ran bwyd yn ddigon cydgysylltiedig / cyson?

 

18. A yw'r Bil drafft yn gwneud digon i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael cyngor ac yn ymgynghori ar y strategaeth cyn iddi gael ei gwneud. Os na, pa fecanweithiau ychwanegol y byddech yn eu rhoi ar waith?

 

 19. A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adrodd ar y strategaeth fwyd genedlaethol yn ddigonol? Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?

 

20. A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adolygu’r strategaeth fwyd genedlaethol yn ddigonol? Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?

 

21. A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Strategaeth Fwyd Genedlaethol, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

Cynlluniau Bwyd Lleol – adrannau 17 i 21

 

71)        Bydd y Bil drafft yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru) gyhoeddi cynllun bwyd lleol sy'n nodi'r polisïau unigol y maent yn bwriadu eu dilyn er mwyn cyfrannu at hyrwyddo'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd, a chyflawni'r targedau bwyd (y nodwyd manylion amdanynt yn gynharach yn y ddogfen ymgynghori hon).

 

72)        Byddai’n ofynnol wedyn i’r cyrff cyhoeddus hynny roi sylw i'r cynllun bwyd lleol wrth arfer unrhyw swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r nod bwyd sylfaenol, y nodau bwyd eilaidd, a'r targedau bwyd.

 

73)         Cyn gwneud y cynlluniau bwyd lleol, caiff corff cyhoeddus ymgynghori â Chomisiwn Bwyd Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, neu unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol. Wrth wneud cynllun, rhaid i gorff cyhoeddus roi sylw i'r strategaeth fwyd genedlaethol (fel y’i nodir yn adrannau 12 i 16 o'r Bil drafft). 

 

Adrodd ar gynlluniau bwyd lleol

 

74)        Rhaid i gorff cyhoeddus gyhoeddi adroddiad sy'n asesu effeithiolrwydd ei gynllun bwyd lleol, ac yn benodol, y cyfraniad y mae wedi'i wneud tuag at—

 

-     hyrwyddo'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd, a

-     chyflawni'r targedau bwyd.

 

75)        Cyn gwneud adroddiad ar ei gynllun bwyd lleol, rhaid i gorff cyhoeddus ymgynghori â Chomisiwn Bwyd Cymru.

 

76)        Rhaid llunio adroddiadau o dan yr adran hon cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y ddwy flynedd sy'n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y strategaeth gyntaf, a phob cyfnod dilynol o ddwy flynedd.

 

Adolygu'r strategaeth

 

77)        Cyn diwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y strategaeth gyntaf, ac yna ym mhob cyfnod dilynol o bum mlynedd, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei gynllun bwyd lleol.

 

78)        Yn dilyn adolygiad, rhaid i'r corff cyhoeddus ddiwygio'r cynllun fel y gwêl yn briodol.

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

 

22. A ydych yn cytuno bod angen cynlluniau bwyd lleol?

 

23. A yw'r Bil drafft yn gwneud digon i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymgynghori ar eu cynlluniau bwyd lleol cyn iddynt gael eu gwneud? Os na, pa fecanweithiau ychwanegol y byddech yn eu rhoi ar waith?

 

24. A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adrodd ar y cynlluniau bwyd lleol yn ddigonol? Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?

 

25. A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adolygu’r cynlluniau bwyd lleol yn ddigonol? Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?

 

26. A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y cynlluniau bwyd lleol, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

Darpariaethau cyffredinol – adrannau 22 i 26

 

Ystyr cyrff cyhoeddus: adran 22

 

79)        Mae'r adran hon yn diffinio pa 'bersonau' sydd i'w cynnwys yn y diffiniad o gorff cyhoeddus. Mae'r Bil drafft yn nodi mai ystyr corff cyhoeddus yw (a) Gweinidogion Cymru; (b) awdurdod lleol; ac (c) Bwrdd Iechyd Lleol.

 

80)        Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r rhestr o bersonau a ddiffinnir fel corff cyhoeddus drwy ychwanegu person, dileu person neu ddiwygio'r disgrifiad o berson. Fodd bynnag, dim ond os yw'r person hwnnw'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus y gellir ychwanegu personau newydd.

 

81)        Cyn gwneud unrhyw reoliadau i ddiwygio'r rhestr o gyrff cyhoeddus, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chomisiwn Bwyd Cymru, unrhyw berson sy'n cael ei ychwanegu at y rhestr, ac unrhyw berson arall y maent yn ystyried ei fod yn briodol.

 

Rheoliadau o dan y Bil: adran 23

 

82)        Mae’r adran hon yn nodi'r broses ar gyfer gwneud rheoliadau o dan y Bil. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau oni bai bod drafft o'r rheoliadau wedi'i osod gerbron y Senedd a'i gymeradwyo ganddi.

 

 

 

 

Dehongli: adran 24

 

83)        Mae hyn yn darparu ar gyfer dehongli termau penodol a sefydlwyd yn y Bil drafft.

 

Cychwyn: adran 25

 

84)        Mae’r adran hon yn nodi y bydd dyddiad cychwyn y Ddeddf, sef y dyddiad y daw i rym, ar ddiwedd y cyfnod o dri mis ar ôl y dyddiad y caiff y Cydsyniad Brenhinol.

 

Enw byr: adran 26

 

85)        Mae adran olaf y Bil yn nodi enw byr y Bil. Dyma'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at y Ddeddf derfynol. Yr enw byr fydd Deddf Bwyd (Cymru) 2023.

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad:

 

27. A ydych yn cytuno â'r rhestr o bersonau y diffinnir eu bod yn 'gorff cyhoeddus' at ddibenion y Bil hwn?

 

28. A oes gennych unrhyw farn ar y broses a nodir yn y Bil ar gyfer gwneud rheoliadau?

 

29. A oes gennych unrhyw farn ar ddyddiad cychwyn arfaethedig y Ddeddf?

 

 

Safbwyntiau cyffredinol

86)        Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol drwy gydol y ddogfen ymgynghori hon. Os hoffech drafod unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, rhowch fanylion am y rhain yn eich ymateb.

Y camau nesaf

87)        Bydd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu cofnodi wrth iddynt ddod i law ac yn cael eu dadansoddi ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Caiff adroddiad ar yr ymatebion ei lunio a'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil drafft.

 

88)        Rhoddir ystyriaeth lawn a phriodol i'r holl ymatebion. Wrth ddadansoddi’r ymatebion, bydd ymatebion gan sefydliadau mawr (fel cyrff cyhoeddus, cyflogwyr ac undebau llafur mawr) yn cael eu pwysoli’n briodol, ynghyd ag ymatebion gan sefydliadau y mae'r mesurau a nodir yn y Bil drafft yn effeithio'n uniongyrchol arnynt.

 

 

 


 

Ymgynghoriad ar y Bil Bwyd (Cymru): Medi 2021

Ffurflen ymateb

 

Enw:

 

E-bost:

 

Ym mha rinwedd yr ydych yn ymateb:

-     yn eich rhinwedd eich hun

-     yn rhinwedd eich swydd

 

Os ydych yn ymateb yn rhinwedd eich swydd, enw’r sefydliad yr ydych yn ymateb ar ei ran:

 

Cwestiwn

Ymateb

Pam mae angen y Bil

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â'r egwyddorion cyffredinol y mae'r Bil yn ceisio eu cyflawni?

 

 

Cwestiwn 2: A ydych yn credu bod angen y ddeddfwriaeth hon? A allwch roi rhesymau dros eich ateb?

 

 

Nodau Bwyd

Cwestiwn 3: Rhowch eich barn ar gynnwys y Nodau Bwyd yn y Bil fel ffordd o osod sylfaen ar gyfer yr amcanion polisi.

 

Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno â chynnwys Nod Bwyd Sylfaenol wedi'i ategu gan Nodau Bwyd Eilaidd?

 

Cwestiwn 5: A oes meysydd ychwanegol / gwahanol y dylid eu cynnwys yn y Nodau Bwyd yn eich barn chi?

 

Cwestiwn 6: A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Nodau Bwyd, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

Cwestiwn 7: Rhowch eich barn ar gynnwys targedau yn y Bil fel modd o fesur sut mae'r Nodau Bwyd yn cael eu datblygu.

 

Cwestiwn 8: A ydych yn cytuno â'r broses ar gyfer gosod y targedau?

 

Cwestiwn 9: A ydych yn credu bod y mecanweithiau adrodd a nodir yn y Bil drafft yn sicrhau digon o atebolrwydd a digon o gyfle i graffu?

 

Cwestiwn 10: A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y targedau, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

Comisiwn Bwyd Cymru

Cwestiwn 11: Beth yw eich barn ar yr angen am Gomisiwn Bwyd i Gymru?

 

Cwestiwn 12: A ydych yn cytuno â nodau a swyddogaethau Comisiwn Bwyd Cymru? Os na, pa newidiadau y byddech chi'n eu hawgrymu?

 

 

Cwestiwn 13: A ydych yn cytuno â maint aelodaeth y Comisiwn Bwyd a'r broses ar gyfer penodi ei aelodau?

 

Cwestiwn 14: Beth yw eich barn am y cynnig mai am gyfnod o hyd at bum mlynedd ar y mwyaf y gall y cadeirydd a'r aelodau wasanaethu ac mai dim ond unwaith y gellir ailbenodi unigolyn yn gadeirydd neu'n aelod? Ydych chi'n credu bod hyn yn briodol?

 

Cwestiwn 15: A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Comisiwn Bwyd, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

Y Strategaeth Fwyd Genedlaethol

Cwestiwn 16: A ydych yn cytuno bod angen strategaeth fwyd genedlaethol?

 

Cwestiwn 17: A ydych yn credu bod strategaethau presennol Llywodraeth Cymru o ran bwyd yn ddigon cydgysylltiedig / cyson?

 

Cwestiwn 18: A yw'r Bil drafft yn gwneud digon i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael cyngor ac yn ymgynghori ar y strategaeth cyn iddi gael ei gwneud. Os na, pa fecanweithiau ychwanegol y byddech yn eu rhoi ar waith?

 

 

Cwestiwn 19: A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adrodd ar y strategaeth fwyd genedlaethol yn ddigonol? Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld? 

 

 

Cwestiwn 20: A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adolygu’r strategaeth fwyd genedlaethol yn ddigonol? Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld? 

 

 

Cwestiwn 21: A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Strategaeth Fwyd Genedlaethol, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

Cynlluniau Bwyd Lleol

Cwestiwn 22: A ydych yn cytuno bod angen cynlluniau bwyd lleol?

 

Cwestiwn 23: A yw'r Bil drafft yn gwneud digon i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymgynghori ar eu cynlluniau bwyd lleol cyn iddynt gael eu gwneud? Os na, pa fecanweithiau ychwanegol y byddech yn eu rhoi ar waith?

 

Cwestiwn 24: A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adrodd ar y cynlluniau bwyd lleol yn ddigonol? Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld? 

 

Cwestiwn 25: A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adolygu’r cynlluniau bwyd lleol yn ddigonol? Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld? 

 

Cwestiwn 26: A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y cynlluniau bwyd lleol, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

 

Darpariaethau cyffredinol

Cwestiwn 27: A ydych yn cytuno â'r rhestr o bersonau y diffinnir eu bod yn 'gorff cyhoeddus' at ddibenion y Bil hwn?

 

Cwestiwn 28: A oes gennych unrhyw farn ar y broses a nodir yn y Bil ar gyfer gwneud rheoliadau?

 

Cwestiwn 29: A oes gennych unrhyw farn ar ddyddiad cychwyn arfaethedig y Ddeddf?

 

Safbwyntiau cyffredinol

Nodwch unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i'r Bil drafft.

 

 



[1] Balot Bil Aelod 22 Medi 2021. Y cynnig cychwynnol gan Peter Fox AS

[2] Datblygu Bil Bwyd (Cymru): y Memorandwm Esboniadol

[3] Y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn ceisio caniatâd i fwrw ymlaen: 17 Tachwedd 2021


 [CM(CyS|SC1]The post code is incorrect in the English version

 [CM(CyS|SC2]Ddim yn siŵr am hwn ar gyfer 'home-grown diets'. Deiet iachach a dyfwyd gartref? Deiet iachach a dyfwyd yn y DU?