WS-30C(6)008 - Rheoliadau Mewnforio Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid a Gwledydd Cymeradwy (Diwygio) 2022

Cefndir

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

Crynodeb

Rhaid i bartneriaid masnachu sydd wedi’u cymeradwyo i allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid i Brydain Fawr gydymffurfio ag amodau mewnforio gwledydd penodol sydd wedi’u cynnwys yng nghyfraith yr UE a ddargedwir. Mae angen diwygio’r amodau hyn yn rheolaidd er mwyn ymateb i newidiadau mewn risg, gan gynnwys rheoli masnach yn ddiogel o wledydd lle mae achosion o glefydau anifeiliaid yn codi (er enghraifft, Ffliw Adar a Chlwy Affricanaidd y Moch) neu ddigwyddiadau’n ymwneud â diogelwch bwyd.

Ar hyn o bryd, caiff cyfraith yr UE a ddargedwir ei diwygio drwy gyfrwng Offerynnau Statudol.  Gan hynny, hyd yn oed pan ddefnyddir gweithdrefn negyddol a phan gaiff y rheol 21 diwrnod ei thorri, mae bwlch sylweddol rhwng cael gwybod am risg a rhoi amodau mewnforio ar waith yn gyfreithiol. Mae cyrff masnach a phartneriaid masnachu yn pryderu nad yw’r system ddeddfwriaethol bresennol yn gallu ymateb yn ddigonol.

Mae’r diwygiadau a wneir gan yr offeryn hwn yn rhoi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad Gweinidogion yr Alban (mewn perthynas â’r Alban) a Gweinidogion Cymru (mewn perthynas â Chymru), newid amodau mewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid sy’n dod i Brydain Fawr, drwy bennu’r newid mewn dogfen a gyhoeddir at y diben penodol hwnnw yn hytrach nag mewn deddfwriaeth. Felly, mae'r swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan y Comisiwn Ewropeaidd i ddiogelu iechyd pobl ac anifeiliaid yn cael eu trosglwyddo mewn modd sy'n caniatáu iddynt gael eu harfer yn brydlon ac yn effeithiol.

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 31 Mawrth 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Ebrill 2022