![]() |
Finance CommitteeY Pwyllgor Cyllid
|
|
|
At: Ymgyngoreion
|
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
Tachwedd 2012 |
Cais am dystiolaeth – Rheoli Asedau
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn galw am wybodaeth i gynorthwyo i lywio ei ymchwiliad i’r broses o Reoli Asedau.
Bydd yr ymchwiliad hwn yn mabwysiadu dull gweithredu ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus, o dan ddau brif faes:
· Y prosesau o ran rheoli ystâd Llywodraeth Cymru ei hun; a
· Y canllawiau a’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru o ran rheoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru, a’i gwaith yn hyrwyddo arferion da yn hyn o beth.
Byddai’r Pwyllgor yn croesawu clywed eich barn am unrhyw rai o’r pwyntiau a ganlyn, neu bob un ohonynt:
· A yw rheoli asedau yn gysylltiedig ag amcanion polisi ac amcanion strategol ehangach, yn Llywodraeth Cymru, a thrwy’r sector cyhoeddus yn ehangach?
· Pa wersi a ellir eu dysgu, neu sydd wedi’u dysgu, o arferion da yng Nghymru, neu yn rhywle arall, ar hyn o bryd, o ran y modd y gellir gwella dulliau rheoli asedau yn y sector cyhoeddus.
· Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i reoli asedau mewn modd strategol, a chyflwyno mentrau ar gyfer gwella effeithiolrwydd y dulliau o reoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yng Nghymru?
· Yn 2010, gwnaed yr argymhellion a ganlyn gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac o’ch profiad chi, i ba raddau y gwnaed cynnydd yn dilyn yr argymhellion hyn?
o Dylai Llywodraeth Cymru hwyluso rheolaeth fwy effeithiol o dir ac adeiladau ar draws Cymru drwy ymgynghori â chyrff cyhoeddus i ddarganfod pa ganllawiau, gwybodaeth, cymorth neu gymhellion pellach sy’n angenrheidiol i annog dull gweithredu gwell sydd wedi’i gydgysylltu’n well ar gyfer rheoli tir ac adeiladau.
o Sicrhau bod strategaethau tir ac adeiladau wedi’u diweddaru a’u bod yn cysylltu’n glir ag amcanion corfforaethol ac amcanion y gwasanaeth.
o Cynnwys yr holl randdeiliaid yn y gwaith o ddatblygu strategaethau datblygu tir ac adeiladau, gyda pherchnogaeth o’r strategaethau ar y lefel uchaf.
o Datblygu cynlluniau gwasanaeth tir ac adeiladau sy’n cysylltu â’r strategaeth tir ac adeiladau corfforaethol.
o Integreiddio’r gwaith o reoli tir ac adeiladu â’r gwaith o gynllunio gwasanaethau, cynllunio gweithluoedd a strategaethau TGCh, gan wneud rhagor i wella defnydd ohonynt drwy ddulliau gweithio hyblyg a rhesymoli tir ac adeiladau.
o Sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau dros reoli tir ac adeiladau wedi’u diffinio, eu deall a’u cyfathrebu’n glir. [1]
Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener, 11 Ionawr 2013 fan bellaf. Os ydych yn dymuno cyfrannu ond eich bod yn pryderu na allwch wneud hynny erbyn y dyddiad cau, dylech siarad â Chlerc y Pwyllgor ar y rhif029 2089 8409.
Os yw’n bosibl, anfonwch gopi electronig drwy e-bost i’r cyfeiriad a ganlyn: PwyllgorCyllid@cymru.gov.uk erbyn dydd Gwener, 11 Ionawr 2013.
Datgelu Gwybodaeth
Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau/gynlluniau Iaith Gymraeg i ddarparu eu hadroddiadau’n ddwyieithog, yn unol â’u polisïau ar ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd.
Caiff tystiolaeth ysgrifenedig ei chyhoeddi ar wefan y Pwyllgor, ac mae’n bosibl y caiff darnau ohoni eu cynnwys wedyn yn yr adroddiad. Ni fydd y Cynulliad yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol, ac eithrio barn bersonol a data personol sy’n ymwneud â’ch hunaniaeth fel awdur y dystiolaeth a’r rôl yr ydych yn darparu’r dystiolaeth ynddi (er enghraifft, teitl eich swydd).
Fodd bynnag, os ceir cais am wybodaeth (sy’n cynnwys data personol) a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu data personol a ddarperir gennych, yn rhannol neu’n gyflawn. Gall hyn gynnwys data personol a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi (fel y disgrifir yn y paragraff uchod).
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych am i’ch hunaniaeth, fel awdur y dystiolaeth, gael ei datgelu, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid a'i gais am wybodaeth ar gael yn: www.cynulliadcymru.org
Yn gywir
Jocelyn Davies
Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid
Atodiad 1
Awdurdodau Lleol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Sir Caerdydd
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Dinas a Sir Abertawe
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castedd-nedd Port Talbot
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Sir Benfro
Cyngor Sir Powys
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
Cyngor Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Byrddau Iechyd/ Health Boards
Abertawe Bro Morgannwg Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Bwrdd Iechyd
Betsi Cadwaladr Bwrdd Iechyd Prifysgol
Caerdydd Vale Bwrdd Iechyd Prifysgol
Cwm Taf Bwrdd Iechyd
Hywel Dda Bwrdd Iechyd
Powys Bwrdd Iechyd Addysgu
Colegau Addysg Bellach
Coleg y Bari
Coleg Pen-y-Bont ar Ogwr
Coleg Ceredigion
Coleg Glan Hafren
Coleg Gwent
Coleg Harlech
Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Menai
Coleg Morgannwg
Coleg Powys
Coleg Sir Gaerfyrddin
Coleg Glannau Dyfrdwy
Coleg Gŵyr Abertawe
Coleg Llysfasi
Coleg Merthyr Tudful
Coleg Castell-nedd Port Talbot
Coleg Sir Benfro
Coleg Catholig Dewi Sant
Coleg Iâl, Wrecsam
Coleg Ystrad Mynach
Canolbarth Cymru
Coleg Ceredigion
Coleg Powys
Gogledd Cymru
Coleg Harlech
Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Menai
Coleg Glannau Dyfrdwy
Asiantaethau Swyddogol
Cyngor Gofal Cymru
Comisiynydd Plant Cymru
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Swyddfa Archwilio Cymru
Comisiynydd y Gymraeg
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Prifysgolion
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Morgannwg
Prifysgol Bangor
Ysgol Fusnes Caerdydd
Eraill
CBI Cymru
Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector yng Nghymru
TUC Cymru
Ffederasiwn y Busnesau Bach
Menter Cymru
NESTA
Aelodau Cymru o Senedd Ewrop
[1] Swyddfa Archwilio Cymru, Briff Cenedlaethol Rheoli Adeiladau, Mehefin 2010 [fel ar 16 Tachwedd 2012]