Paul Davies AS

Cadeirydd Pwyllgor Economi, Masnach a

Materion Gwledig

Senedd Cymru/Welsh Parliament

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

Oddi wrth: Stuart Hudson

Uwch Gyfarwyddwr, Strategaeth, Cyfathrebu ac Eiriolaeth

 

 

 

20 Medi 2021

Adobe SystemsAnnwyl Mr Davies,

Cyflwyniad i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd

Ysgrifennaf i’ch llongyfarch ar eich penodiad fel Cadeirydd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ac i gyflwyno gwaith yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), sef awdurdod mwyaf blaenllaw’r DU ar gystadleuaeth a marchnadoedd. Rydym yn gweithio i hyrwyddo cystadleuaeth er budd y defnyddwyr. Ei nod yw gwneud i farchnadoedd weithio’n dda i ddefnyddwyr, busnesau a’r economi.

O eleni, bydd yn ofynnol i’r CMA gyflwyno ei gynllun blynddol a’i adroddiad blynyddol i Senedd Cymru Rydym yn awyddus i ymgysylltu â chynllun gwaith y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ar elfennau sy’n berthnasol i’n rôl, ac er mwyn i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol o’r gwaith hwnnw a gallu ymgysylltu â gwaith perthnasol y CMA.

Mae Cynllun Blynyddol 21/22 y CMA[1] yn cynnwys themâu a fydd yn berthnasol i waith y Pwyllgor, gan gynnwys ymrwymiad i ddiogelu defnyddwyr a gyrru adferiad a chefnogi economi’r DU drwy feithrin cystadleuaeth i hyrwyddo arloesedd, cynhyrchiant a thwf. Un o’r ffyrdd y bydd y CMW yn gwneud hyn fydd drwy waith dadansoddol i weld i ba raddau mae cystadleuaeth yn llwyddo ar draws economi’r DU[2]. Rydym wedi cwblhau arolwg hefyd i asesu sut mae rheoleiddio’n effeithio ar gystadleuaeth yn economi’r DU,[3] gan gynhyrchu amryw o argymhellion i wneuthurwyr polisi er mwyn eu cefnogi wrth ddatblygu rheoliadau.

Roeddwn eisiau rhoi diweddariad hefyd ar y gwaith i sefydlu swyddogaethau newydd o fewn y CMA a allai fod yn berthnasol i waith y Pwyllgor, gan gynnwys Swyddfa’r Farchnad Fewnol, yr Uned Marchnadoedd Digidol a’r Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau.

Swyddfa’r Farchnad Fewnol

Bydd Swyddfa’r Farchnad Fewnol yn creu Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) i gyflawni set o swyddogaethau cynghori, monitro a rhoi adroddiadau annibynnol i gefnogi datblygiad y farchnad fewnol yn y Deyrnas Unedig a’i gweithrediad effeithiol. Bydd yr OIM yn monitroo ac yn adrodd ar sut mae marchnad fewnol y DU yn gweithio a rhoi cyngor technegol ac economaidd ddi-rwym i’r pedair llywodraeth yn y DU, ar effaith darpariaethau rheoliadol penodol at farchnad fewnol y DU. Bydd ei waith yn cynorthwyo llywodraethau sut i ddeall pa mor effeithiol y mae busnesau yn gallu gwerthu eu cynhyrchion a’u gwasanaethau ar draws pedair cenedl y Deyrnas Unedig, ac effaith darpariaethau rheoleiddiol ar hyn, gan gynnwys effaith cystadleuaeth a dewis y defnyddwyr, i’w hasesu ochr yn ochr ag ystyriaethau polisi ehangach. I gyflawni hyn, bydd yr OIM yn sicrhau ei fod yn dangos tryloywder, annibyniaeth, dulliau dadansoddol trylwyr a thegwch. Bydd yr OIM yn lansio ar 21 Medi.

Uned Marchnadoedd Digidol

Mae Uned Marchnadoedd Digidol (DMU) wedi cael ei sefydlu o fewn y CMA i ddechrau ar y gwaith o sicrhau bod y drefn ffafriol i gystadleuaeth ar gyfer y dyfodol, yn weithredol. Bydd y DMU yn goruchwylio trefn reoleiddiol newydd ar gyfer y cwmnïau digidol mwyaf grymus, yn gweithio i ddiogelu defnyddwyr a busnesau rhag arferion annheg a hyrwyddo cystadleuaeth a blaengaredd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y drefn ffafriol i gystadleuaeth newydd ar gyfer marchnadoedd digidol. Mae hyn yn ymgynghori gyda phwerau’r DMU mewn perthynas â’r drefn newydd, gan gynnwys dynodi cwmnïau gyda Statws Marchnad Strategol (SMS) a gorfodi cod ymddygiad.

Bydd angen deddfwriaeth newydd ar y drefn newydd a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU dros y misoedd nesaf i’w chefnogi wrth iddi ddatblygu fframwaith y DU, yn ogystal â pharhau â’r gwaith i adeiladu a datblygu’r DMU yn ei ffurf gysgodol. Rydym yn annog eich ymgysylltiad â’r ymgynghoriad ac yn croesawu unrhyw sylwadau neu syniadau syddd gennych efallai a sut allai hynny effeithio ar y sector digidol yng Nghymru.

Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei fwriad y dylai’r CMA chwarae rhan yn nhrefn newydd y DU ar reoli cymorthdaliadau. Mae’r Bil Rheoli Cymorthdaliadau yn egluro’r swyddogaethau’r “Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau” (SAU) newydd, i’w sefydlu o fewn y CMA. Os bydd Senedd y DU yn penderfynu rhoi’r cyfrifoldeb am y swyddogaethau hyn i ni pan ddaw’r Bil i rym, byddwn yn gweithio’n adeiladol gyda rhanddeiliaid i’n helpu ni i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn.

Rydym yn sylweddoli bod y Pwyllgor yn parhau i ddatblygu ei gynllun gwaith. Byddem yn awyddus i ymgysylltu neu gyfrannu at unrhyw feysydd llafur y Pwyllgor sy’n berthnasol i’n gwaith ni neu mewn sectorau lle gallwn ddangos ein profiad a’n harbenigedd. Rydym yn fodlon iawn hefyd ymgysylltu â’r Pwyllgor ar unrhyw un o’r swyddogaethau newydd hyn y bydd y CMA yn eu hysgwyddo.

Cofiwch gysylltu â ni os hoffech drafod unrhyw elfen o’n gwaith neu sut y gallem gyfrannu at eich gwaith chi efallai, wrth i’ch cynllun gwaith ddatblygu.

Yn gywir

 

 

Stuart Hudson

Uwch Gyfarwyddwr, Strategaeth, Cyfathrebu ac Eiriolaeth

Stuart.Hudson@cma.gov.uk

 

Cc Simon Harris, Cynrychiolydd CMA Cymru

 



[1] Competition and Markets Authority (2021) Annual Plan 2021-22 CMA Annual Plan 2021 to 2022 (publishing.service.gov.uk)

[2] Competition and Markets Authority (2020) CMA reports on the state of competition in the UK - GOV.UK (www.gov.uk)

[3] Competition and Markets Authority (2020 Misleading environmental claims - GOV.UK (www.gov.uk)