Rhif y ddeiseb: P-06-1166 Teitl y ddeiseb: Darparu grantiau di-dreth i bobl sy’n gweithio yn y celfyddydau a darparu cyllid grant i leoliadau celfyddydol Geiriad y ddeiseb: Ar hyn o byrd, mae llywodraeth y DU yn annog pobl sy’n gweithio yn y celfyddydau i ailhyfforddi. Rydym ni’n credu fod hyn yn gamsynied ac y dylai pobl sy’n gweithio yn y celfyddydau gael grantiau i’w galluogi i barhau i ddiddanu pobl. Y celfyddydau yw enaid ein cymuned a dylem eu cefnogi’n ariannol. |
Dosberthir cyllid y celfyddydau yng Nghymru yn bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n dosbarthu cyllid, yn bennaf gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol, i leoliadau celfyddydol, sefydliadau ac ymarferwyr.
Nid yw cyrff sy'n darparu cyllid grant yn pennu statws treth y cyllid hwnnw. Mae trethiant fel arfer yn fater a gedwir yn ôl, ac mae'n cael ei benderfynu gan Senedd y DU a'r Trysorlys.
Yng nghyllideb 2021-22 dyrannodd Llywodraeth Cymru £43 miliwn i Gyngor y Celfyddydau. Mae hyn yn gynnydd o 30 y cant o gyllideb derfynol 2020-21 a oedd yn ddyraniad o £33 miliwn. Mae Cyngor y Celfyddydau yn defnyddio'r cyllid hwn yn unol â chyfarwyddiadau a roddir gan Lywodraeth Cymru.
Drwy gydol y pandemig darparwyd cyllid penodol i leoliadau celfyddydau, sefydliadau ac ymarferwyr yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa Adferiad Diwylliannol. Roedd hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gael £59 miliwn mewn cyllid canlyniadol o becyn cymorth Llywodraeth y DU ar gyfer diwylliant yn Lloegr. I ddechrau, dyrannodd Llywodraeth Cymru £53 miliwn i'r gronfa hon, cyn ychwanegu cyllid pellach yn ystod y misoedd dilynol. Mae cyllid Cymru yn cael ei ddosbarthu gan y Cyngor Celfyddydau, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y gronfa hon wedi darparu “£63.3 miliwn yn 2020 i 2021 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd.”
Roedd yn cynnwys tair prif elfen. Gweinyddodd Cyngor y Celfyddydau gyllid o dros £18 miliwn i gefnogi 170 o sefydliadau, gan gefnogi theatrau ac orielau celf cenedlaethol a lleol. Mae dros 1,000 o swyddi wedi'u cefnogi.
Darparodd y Gronfa Gweithwyr Llawrydd gyfanswm o £18 miliwn o gymorth grant i 3,500 o weithwyr llawrydd nad oeddent wedi gallu gweithio yn ystod y pandemig. Dosbarthwyd yr arian hwn gan awdurdodau lleol.
Darparodd yr elfen o'r gronfa a weinyddir gan Lywodraeth Cymru £27 miliwn i gefnogi'r sectorau diwylliant, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth. Derbyniodd dros 500 o sefydliadau gyllid.
Ym mis Mawrth 2021, ymestynnodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Adferiad Diwylliannol gyda ‘hyd at £30 miliwn’ o gyllid ychwanegol.
Nid yw cyrff sy'n darparu cyllid grant yn pennu statws treth y cyllid hwnnw. Mae trethiant fel arfer yn fater a gedwir yn ôl, ac mae'n cael ei benderfynu gan Senedd y DU a'r Trysorlys.
Cafodd hyn ei ddangos gan daliad ychwanegol o £500 Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2020 ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.
Roedd sylw yn y cyfryngau ym mis Mehefin 2020, a nododd y bydd cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol yn daladwy ar y taliad o £500. Yn y cyhoeddiad gwreiddiol ar 1 Mai, roedd y Prif Weinidog wedi galw ar Lywodraeth y DU i beidio â threthu’r taliad ychwanegol, gan alluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i gadw’r swm llawn, a nododd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau nad oedd yn effeithio ar hawliau pobl i fudd-daliadau. Nododd yr adroddiad fod Llywodraeth Cymru a Chyllid a Thollau EM wedi dweud eu bod yn gweithio gyda'i gilydd, ond heb unrhyw ateb, mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i Lywodraeth Cymru sut yr hoffai symud ymlaen.
Fodd bynnag, cynhaliodd Trysorlys EM ei safle, a threthwyd gweithwyr gofal cymdeithasol ar y bonws o £500.
Edrychodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd flaenorol ar effaith y pandemig ar y celfyddydau. Roedd y cyhoeddiadau perthnasol yn cynnwys:
- Effaith argyfwng Covid-19 ar y sector celfyddydau (Mehefin 2020)
- Clyw fy nghân: ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw (Rhagfyr 2020)
- Adrodd ar waith pellach ar effaith Covid-19 ar y celfyddydau (Rhagfyr 2020)
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |