Rhif y ddeiseb: P-06-1165

Teitl y ddeiseb: Dylid gwahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd    

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar y Senedd i wahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd.  Gweithle yw'r Senedd ac nid yw’r rhan fwyaf o weithleoedd yn caniatáu alcohol yn eu safleoedd.  Mae llawer o sefydliadau yn y brifddinas hefyd lle gall Aelodau o'r Senedd fynd iddynt i ymlacio ar ôl diwrnod o waith, fel sy’n wir i weddill dinasyddion Cymru.

 

Mae pobl eisoes yn teimlo bod diwylliant o ‘y nhw a ni’ mewn gwleidyddiaeth, a byddai hyn o gymorth i newid ychydig ar y canfyddiad hwnnw.

 

 


1.     Cefndir

Mater i Gomisiwn y Senedd yw rheoli ystâd y Senedd, gan gynnwys gosod unrhyw gyfyngiadau ar werthu ac yfed alcohol.

Mae’r gwasanaethau arlwyo a ddarperir yn y Senedd yn cael eu darparu gan gontractwr allanol, sef Charlton House & Co Group (“Charlton”).

O dan y contract hwnnw, mae Charlton yn rheoli bwyty, siop goffi, parlyrau te, a chaffi cyhoeddus y Senedd. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau arlwyo ar gyfer digwyddiadau'r Senedd a’i gweithgareddau lletygarwch. Mae gan Charlton drwydded i weini alcohol ar safle’r Senedd.

2.     Y polisi alcohol ar ystâd y Senedd

Cyflwynodd y Senedd bolisi ym mis Medi 2014 yn nodi  na fyddai unrhyw alcohol yn cael ei weini ar yr ystâd cyn 18:00.

Mae polisi Comisiwn y Senedd ar gyfer defnyddio Ystâd y Cynulliad[1] yn nodi:

14.1 Ni chaiff ein trwyddedeion werthu na gweini alcohol i’w yfed ar ystâd y Cynulliad cyn 6pm yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor.  Os nad yw’r Cynulliad yn eistedd, efallai y bydd y rheolau hyn yn cael eu llacio ar adegau, ond dim ond gyda chydsyniad datganedig y Llywydd y gellir gwneud cais amdano drwy’r tîm Lleoliadau. [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil.]

Mae’r cyfyngiad hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y cod ymddygiad ar gyfer ymwelwyr i’r Senedd.

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 

 



[1] Mae hon yn ddogfen fewnol.