Rhif y ddeiseb: P-06-1161

Teitl y ddeiseb: Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Geiriad y ddeiseb:

Credwn fod llawer o’r rheini sy’n gadael gofal yn cerdded allan o'u lleoliadau gan nad oes llawer o ystyriaeth yn cael ei rhoi i'w profiadau blaenorol na’u lles meddyliol er bod gan fabi hawl i aros gyda'i riant/rhieni os yw'n ddiogel gwneud hynny.

Mae llawer o rheini sy’n gadael gofal yn profi ymyrraeth gan wasanaethau cymdeithasol pan fyddant yn rhoi genedigaeth.  Mae hyn yn aml oherwydd eu hanes a/neu ddiffyg canllawiau gan eu rhieni eu hunain.  Heb os, mae’r rhai sy'n gadael gofal wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod ac yn aml yn dioddef o orbryder yn eu bywydau fel oedolion.  Yn aml nid ydyn nhw erioed wedi teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi yn ystod eu plentyndod ac mae cael eu lle eu hunain wedi bod yn hafan ddiogel iddynt lle maen nhw’n gallu ymlacio'n llwyr.  Ar hyn o bryd, os oes unrhyw bryderon, mae rhiant yn cael ei gludo o’i gartref, ei deulu a’i ffrindiau ac yna’n cael ei roi mewn cartref maeth neu gartref preswyl i’w asesu heb fawr o ystyriaeth i’r hyn sy’n sbarduno’r rhiant, a’i les meddyliol.  Credwn fod hyn yn aml yn achosi cyfnod emosiynol dros ben ac yna mae rhieni'n gadael eu lleoliadau gan ddifaru am byth y penderfyniad brys a wnaed mewn eiliad bryderus na fyddai wedi digwydd pe bai'r sefyllfa wedi cael ei thrin â mwy o empathi.  Rydym am wybod y ffeithiau i weld a oes angen ateb gwell ar gyfer y rhiant a'r plentyn.

 


1.     Y cyd-destun

Mae’r ddeiseb hon yn cyfeirio at rieni sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol pan oeddent yn blant, ac sydd, yn eu tro, yn destun ymyriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol ar ôl cael eu plant eu hunain.

'Plant sy’n derbyn gofal' yw'r term cyfreithiol ar gyfer plant y mae awdurdodau lleol yn gofalu amdanynt mewn ystod o leoliadau. Os ydynt yn bodloni meini prawf penodol pan maent yn cyrraedd oedran penodol, mae ganddynt hawl i gymorth tymor hwy, hyd at 25 oed mewn rhai amgylchiadau, ac fe'u diffinnir yn gyfreithiol fel 'pobl sy’n gadael gofal'. Mae’r derminoleg hon wedi’i hadlewyrchu mewn ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'n well gan lawer o bobl y term 'wedi bod mewn gofal' wrth gyfeirio at y grwpiau hyn o blant a phobl ifanc. Lle bo modd, mae'r briff hwn yn defnyddio’r term 'wedi bod mewn gofal' er mwyn adlewyrchu geiriad y ddeiseb.

1.1.         Beth yw lleoliad rhiant a phlentyn?

Weithiau, mae awdurdod lleol yn lleoli plentyn a rhiant gyda'i gilydd mewn lleoliad sydd â therfyn amser. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn er mwyn caniatáu iddynt aros gyda'i gilydd tra bod asesiad rhianta a/neu achos llys yn cael ei gynnal. Fel arfer, defnyddir y lleoliadau hyn ar gyfer babanod yn hytrach na phlant hŷn. Gallant fod yn lleoliadau maeth neu’n lleoliadau preswyl, er enghraifft, mewn uned arbenigol ar gyfer rhieni a phlant. Gallant fod yn lleoliadau awdurdod lleol neu’n lleoliadau sy’n cael eu darparu gan ddarparwyr preifat. 

Un senario cyffredin lle mae lleoliadau o’r fath yn cael eu defnyddio yw sefyllfa lle mae gan awdurdod lleol bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn, ac yn penderfynu gwneud cais am orchymyn llys i ymyrryd at ddibenion ceisio diogelu’r plentyn mewn modd sydd wedi’i gynllunio neu ar sail argyfwng. Fel rhan o'r achosion cyfraith gyhoeddus hyn, gall y llys roi cyfarwyddyd bod asesiad rhianta preswyl yn cael ei gynnal.   

Mae’r gallu i fagu plant yn rhan bwysig o’r Fframwaith ar gyfer Asesu Plant a'u Teuluoedd, fel y nodir yn y Cod ymarfer ar gyfer asesu anghenion unigolion,a gyhoeddwyd o dan Adran 145 o  Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

1.2.         Rhieni sydd wedi bod mewn gofal

Nid yw data’n cael eu cyhoeddi fel mater o drefn ynghylch nifer y rhieni sydd wedi bod mewn gofal ac y mae eu plant wedi cael eu tynnu o’u gofal. Fodd bynnag, mae pryderon bod rhieni sydd wedi bod mewn gofal yn llawer mwy tebygol na’r boblogaeth gyffredinol o rieni o weld eu plant yn cael eu tynnu o’u gofal a’u gosod yng ngofal yr awdurdod lleol.

Mae'r hyn sy'n digwydd i bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal pan ddônt yn rhieni eu hunain wedi bod yn destun sawl adroddiad a phrosiect ymchwil fel yr astudiaeth hon o blant y plant sy'n derbyn gofal. Edrychodd yr astudiaeth hon ar y gefnogaeth a ddarparwyd i rieni a oedd wedi bod mewn gofal a'r hyn a ddigwyddodd i'w plant hwy yn sgil hynny. Gan gyfeirio at yr wyth o rieni yng Nghymru a fu'n blant a oedd wedi bod mewn gofal a phobl a oedd wedi gadael gofal, mae'r astudiaeth yn nodi:

Thirty-one pregnancies were discussed during the interviews: 16 live births, two ongoing pregnancies, one stillbirth, one termination and 11 miscarriages. At the point of interview, two parents continued to care for their children, but six had experienced the permanent removal of their child/ren as a result of social services intervention. Twelve of the 16 children discussed in the interviews were ‘looked after’ or adopted.

Roedd astudiaeth a wnaed ar bobl yng Nghymru sy’n gadael gofal a'u plant sy’n cael eu lleoli i’w mabwysiadu yn cynnwys y canfyddiadau a ganlyn:

Young people in and leaving state care are more likely than the general population to become parents at a young age. Relatively little is known about the experiences and progress of care leaver parents and their children, but emerging evidence suggests an increased risk of intergenerational state intervention.

Gan gyfeirio at ddata o Astudiaeth Carfan Mabwysiadu Cymru, canfu’r astudiaeth fod mwy na chwarter (27%) o’r mamau biolegol ac un rhan o bump (19%) o’r tadau biolegol a oedd â phlant a oedd wedi’u lleoli i'w mabwysiadu yn bobl a oedd wedi gadael gofal eu hunain.

Cyfeiriodd hefyd at y ffaith bod modd gwahaniaethu rhwng rhieni a oedd wedi bod mewn gofal â rhieni biolegol eraill yn sgil eu profiadau personol o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Dywedodd yr astudiaeth:

Care leaver birth mothers were also more likely than their non-care leaver counterparts to have diagnosed mental health problems and were less likely to appeal the adoption plan. The profiles of children placed for adoption between care leaver and non-care leaver birth parents were similar.

Canfu astudiaeth gan Sefydliad Nuffield yn Lloegr fod nifer uchel o fenywod sy'n ymddangos yn rheolaidd gerbron llysoedd teulu, ac y mae eu plant yn cael eu tynnu o’u gofal a’u gosod mewn gofal cyhoeddus neu eu mabwysiadu, wedi derbyn gofal eu hunain.

Yn ôl cofnodion y llysoedd, roedd 40 y cant o sampl o 354 o famau a oedd yn destun achosion ailadroddus wedi derbyn gofal maeth neu wedi bod mewn cartref plant, gyda 14 y cant arall yn byw fel rhan o berthynas breifat neu anffurfiol i ffwrdd o’u rhieni.

2.     Casglu a chyhoeddi data

Ni chyhoeddir data ‘o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn', sef y data y cyfeirir atynt yn y ddeiseb. Mae’n bosibl bod nifer o asiantaethau'n rhan o’r broses hon – ond yn bennaf, awdurdodau lleol a CAFCASS.

Mae amrediad o ddata am blant sydd wedi bod mewn gofal yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol ac yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn dilyn hynny.

CAFCASS Cymru yw’r sefydliad sy’n cefnogi plant a theuluoedd mewn achosion yn y llysoedd teulu. Mae’n cynghori'r llysoedd ynghylch y camau y mae’n ystyried fel y rhai gorau i’w cymryd er budd gorau plant unigol. Mae'r ystadegau y mae'n eu cyhoeddi i’w gweld yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf, sef Adroddiad Blynyddol 2019-20.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio i adlewyrchu newidiadau dilynol.