Elin Jones AC
 Y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes

4 Chwefror 2020

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Annwyl Elin

Diolch am eich llythyr dyddiedig 23 Ionawr 2020 ynglŷn ag amserlen y Bil hwn.

Nodwn fod y 10 wythnos eistedd ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1 y Pwyllgor yn 2 wythnos yn llai na’r 12 wythnos arferol. Er ein bod yn cydnabod bod y Bil ei hun yn eithaf byr, yn cynnwys 18 adran a 6 atodlen, mae’r newidiadau a gynigir yn y Bil yn rhai eithaf dadleuol. Yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, roedd 88% o ymatebwyr yn anghytuno â’r cynnig i ymestyn y cyfnod rhybudd byrraf o ddau i chwe mis. Fodd bynnag, roedd y rhaniad rhwng tenantiaid a landlordiaid yn amlwg, gyda 95% o landlordiaid yn erbyn y newid, a 70% o denantiaid o blaid (roedd y tenantiaid hynny a oedd yn anghytuno â’r newid yn landlordiaid hefyd).[1]

Rydym hefyd yn ymwybodol yn sgil ein gwaith craffu deddfwriaethol blaenorol ar y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd) (Cymru) ei bod hi’n gallu bod yn heriol sicrhau ein bod yn clywed ystod eang o safbwyntiau gan y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y newidiadau, sef tenantiaid a landlordiaid. Yn benodol, gall cael barn tenantiaid fod yn arbennig o heriol gan nad oes llawer o grwpiau sy’n cynrychioli tenantiaid, ac nid oes un grŵp unigol y gellir ei ystyried yn gynrychioliadol o’r holl denantiaid. Rydym yn rhagweld felly y bydd angen i ni geisio cael barn tenantiaid mewn ffyrdd mwy anffurfiol. Mae’n amlwg bod dulliau ymgysylltu o’r fath yn cymryd amser i’w sefydlu a’u rhedeg, a all beri problem gan fod yr amserlen mor dynn.

Mae gan un Aelod “bryderon difrifol” ynghylch yr amser sydd ar gael i graffu ar y Bil. Fodd bynnag, ar y cyfan, er ein bod yn credu ei bod hi’n bell o fod yn ddelfrydol cael dim ond 10 wythnos i’r Pwyllgor graffu ar Fil a fydd yn gwneud newidiadau sylweddol i hawliau tenantiaid a landlordiaid, rydym yn credu y gallwn wneud ein gwaith craffu o fewn yr amserlen sydd ar gael.

Hoffem dynnu sylw’r Pwyllgor Busnes at y ffaith bod yr amser sydd ar gael i’r Pwyllgor graffu ar y Bil hwn hefyd wedi’i gyfyngu ymhellach oherwydd bod rhaid i ni hefyd ddarparu ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar y Bil Llywodraeth Leol o fewn yr un amserlen. Mae hyn yn golygu, i bob pwrpas, y bydd yn rhaid i ni gwblhau ein holl waith, gan gynnwys ystyried yr adroddiad drafft mewn 8 wythnos eistedd yn hytrach na’r 10 a nodwyd yn yr amserlen. 

Mae papur y Gweinidog yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol cyn toriad yr haf, ac mae hynny’n debygol o ddod o fewn ein cylch gwaith ni. Mae’r papur yn nodi y gallai’r Pwyllgor Busnes ystyried a oes opsiynau eraill i sicrhau bod pwyllgor cyfrifol ar gael ar ei gyfer. At ddibenion ein trefniadau cynllunio gwaith, byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor Busnes wneud penderfyniad “mewn egwyddor” ar ble y gellir cyfeirio’r Bil hwn, ac i Lywodraeth Cymru nodi’n fras pryd y gallent ddisgwyl cyflwyno’r Bil hwn (gyda’r ddealltwriaeth y gallai hyn newid).

Yn gywir

John Griffiths

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.

 

 

 



[1] Llywodraeth Cymru, Ymgynghoriad – Ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir cyn troi tenant allan heb fai, Ionawr 2020