![]() |
Annwyl Gynghorydd Wilcox
Efallai y byddwch yn ymwybodol bod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi lansio ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol heddiw. Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn fel a ganlyn:
· deall pwysigrwydd amrywiaeth ymhlith cynghorwyr lleol, gan gynnwys yr effaith ar ymgysylltu â'r cyhoedd, trafod a gwneud penderfyniadau;
· deall y prif rwystrau i ddenu cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol;
· trafod meysydd arloesedd ac arfer da a all helpu i gynyddu amrywiaeth ym maes llywodraeth leol; a
· thrafod effaith bosibl y cynigion ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru, Cryfhau Llywodraeth Leol, i gynyddu amrywiaeth yn siambrau'r Cynghorau.
Rwyf wedi ysgrifennu at arweinwyr a phrif weithredwyr yr holl gynghorau i’w gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i helpu i lywio ein gwaith. Mae’r Pwyllgor hefyd yn awyddus i glywed am brofiadau cynrychiolwyr lleol. O gofio hynny, rydym wedi llunio arolwg i gynghorwyr ac rydym wedi gofyn i arweinwyr y cynghorau dynnu sylw eu haelodau at yr arolwg hwn. Rydym hefyd yn gobeithio cwrdd ag aelodau yn lleol i drafod unrhyw rwystrau y gwnaethant eu hwynebu wrth sefyll mewn etholiadau a sut y gwnaethant lwyddo i oresgyn y rhwystrau hyn.
Bydd y Pwyllgor yn dechrau ei sesiynau tystiolaeth lafar yn gynnar yn nhymor yr hydref. Hoffwn eich gwahodd i un o’r sesiynau hyn, ac rwyf wedi gofyn i’r tîm clercio gysylltu â’ch swyddogion i wneud y trefniadau perthnasol.
Mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rôl bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo democratiaeth leol ac annog amrywiaeth, ac mae’r gymdeithas wedi dangos ymrwymiad clir i’r agenda hon. Hyderaf y bydd eich aelodau yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’n gwaith ar y mater hwn ac edrychaf ymlaen at eich croesawu i un o gyfarfodydd y Pwyllgor.
John Griffiths
AC
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.