Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

Mae'r adroddiad hwn yn argymell ychwanegu Rheol Sefydlog 12.3A newydd i roi'r pŵer i'r Llywydd adalw'r Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys, ar ôl ymgynghori â'r Prif Weinidog a'r Pwyllgor Busnes.

Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A. Mae'r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.


 

Cynnwys

1.         Cefndir. 3

2.        Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes. 3

3.        Penderfyniad.. 3

Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12, a nodiadau esboniadol 4

Atodiad B – Rheol Sefydlog 12, fel y'i diwygiwyd.. 5

 


 

1.            Cefndir

1.              Mae Rheol Sefydlog 12.3 yn darparu:

Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar gais Prif Weinidog Cymru, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.

2.            Mae Rheol Sefydlog 34.9 yn gwneud darpariaethau dros dro i hwyluso parhad busnes y Senedd yn ystod yr achosion o COVID-19 ond bydd yn peidio â chael effaith pan gaiff y Senedd ei diddymu, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf. Mae’r Rheol Sefydlog yn datgan:

Caiff y Llywydd, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.

2.         Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes

3.            Trafododd y Pwyllgor Busnes amrywiaeth o opsiynau ar gyfer diwygio darpariaethau adalw’r Senedd, gan gynnwys: gwneud y ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 34.9 yn barhaol a’i hehangu er mwyn galluogi'r Llywydd, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes i adalw'r Senedd am unrhyw fater; neu ei gwneud yn ofynnol i adalw ar gais nifer penodedig o Aelodau.

4.            Penderfynodd y Pwyllgor Busnes gynnig Rheol Sefydlog newydd a fyddai’n galluogi’r Llywydd i adalw’r Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys, yn amodol ar ymgynghori â’r Prif Weinidog a’r Pwyllgor Busnes. Mae'r Pwyllgor o'r farn y bydd y ddarpariaeth newydd hon yn ategu'r ddarpariaeth bresennol lle gellir adalw'r Senedd ar gais y Prif Weinidog.

3.         Penderfyniad

5.            Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar 9 Mawrth 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig yn Atodiad B.

 


Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12, a nodiadau esboniadol

Rheol Sefydlog 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

Cyfarfodydd Llawn

Cadw'r pennawd

12.3         Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar gais Prif Weinidog Cymru, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Cynhwysir y Rheol Sefydlog er gwybodaeth

12.3A       Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar ôl ymgynghori â Phrif Weinidog Cymru a’r Pwyllgor Busnes, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.

Mewnosod Rheol Sefydlog newydd

Byddai'r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig yn galluogi'r Llywydd i adalw'r Senedd ar ôl ymgynghori â'r Prif Weinidog a'r Pwyllgor Busnes.

 


Atodiad B – Rheol Sefydlog 12, fel y'i diwygiwyd

Rheol Sefydlog 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

12.3        Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar gais Prif Weinidog Cymru, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.

12.3A    Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar ôl ymgynghori â Phrif Weinidog Cymru a’r Pwyllgor Busnes, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.