Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

Mae'r adroddiad hwn yn argymell newidiadau amrywiol i Reolau Sefydlog 1, 11 ac 20.

Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A. Mae'r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.


 

Cynnwys

1.         Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes. 3

2.        Penderfyniad.. 3

Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 1, 11 ac 20, a nodiadau esboniadol 4

Atodiad B – Rheolau Sefydlog 1, 11 ac 20, fel y'i diwygiwyd.. 6

 


 

1.            Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes

1.              Yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2021, trafododd y Pwyllgor Busnes newidiadau amrywiol i'r Rheolau Sefydlog a nodwyd fel rhan o'r adolygiad presennol. Mae'r newidiadau'n cywiro gwallau a hepgoriadau, yn gwneud pethau’n gliriach, ac yn dileu darpariaethau diangen. Mae esboniad i gyd-fynd â phob newid arfaethedig yn Atodiad A.

2.         Penderfyniad

2.             Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar 9 Mawrth 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig yn Atodiad B.

 


Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 1, 11 ac 20, a nodiadau esboniadol

Rheol Sefydlog gyfredol a newid arfaethedig

Cynnig ac esboniad

1.7            Ar gynnig a wneir gan y Comisiwn, rhaid i’r Senedd ethol Ymddiriedolwyr i Gynllun Pensiwn Aelodau y Senedd yn unol â Rheolau’r Cynllun.

Dileu darpariaeth ddiangen sy'n ymwneud â Chynllun Pensiwn Aelodau y Senedd

Mae'r Rheol Sefydlog hon wedi bod yn ddiangen ers 2011, pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb am benodi Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn i'r Bwrdd Taliadau.

1.9           At ddibenion adrannau 10 ac 11 o'r Ddeddf, mae swydd yn wag pan fydd y Llywydd yn cael hysbysiad o ymddiswyddiad yn unol â Rheol Sefydlog 1.8, neu fel arall pan fydd y Llywydd yn datgan bod y sedd wedi dod yn wag.

Ei gwneud yn glir bod datganiad ynghylch swydd wag, pan fydd Aelod o’r Senedd yn ymddiswyddo o’i sedd, yn cynnwys seddi etholaeth a rhanbarthol

Dim ond i swyddi gwag etholaeth y mae adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn berthnasol; adran 11 sy’n ymdrin â swyddi gwag rhanbarthol. Dim ond at adran 10 o'r Ddeddf y mae Rheol Sefydlog 1.9 yn cyfeirio. Mae’r ddarpariaeth wedi cael ei defnyddio wrth ddatgan swyddi gwag rhanbarthol ond dylid ychwanegu cyfeiriad at adran 11 o'r Ddeddf er cysondeb.

11.2          Nid yw Rheolau Sefydlog 17.32A i 17.6 yn gymwys i’r Pwyllgor Busnes.

Dileu’r cyfeiriad at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes o'r ddarpariaeth sy'n ymwneud ag ethol cadeiryddion pwyllgorau

Mae Rheol Sefydlog 11.5(i) yn darparu bod y Pwyllgor Busnes yn cael ei gadeirio gan y Llywydd. Mae Rheolau Sefydlog 17.2A-T, a gyflwynwyd yn 2016, yn darparu ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, ond nid ydynt yn eithrio cadeirydd y Pwyllgor Busnes yn benodol. Mae angen diweddaru Rheol Sefydlog 11.2 sy'n nodi'r Rheolau Sefydlog hynny (17.3 i 17.6) nad ydynt yn gymwys i'r Pwyllgor Busnes i gynnwys cyfeiriad at Reolau Sefydlog 17.2A-T.

20.26      Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)     cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)    cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y'i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)   amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.22;

(iv)   amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.24; ac

(v)    amcangyfrif y Comisiwn Etholiadol, fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.20B 18B.

Cywiro’r cyfeiriad yn y Rheol Sefydlog at osod amcangyfrif y Comisiwn Etholiadol

Nodir y weithdrefn ar gyfer gosod amcangyfrif y Comisiwn Etholiadol yn Rheol Sefydlog 20.20B, nid Rheol Sefydlog 18B.

 


Atodiad B – Rheolau Sefydlog 1, 11 ac 20, fel y'i diwygiwyd

Rheol Sefydlog 1 – Aelodau

Tâl Cydnabyddiaeth

1.7           [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]

Ymddiswyddiadau a Swyddi Gwag

1.9           At ddibenion adrannau 10 ac 11 o'r Ddeddf, mae swydd yn wag pan fydd y Llywydd yn cael hysbysiad o ymddiswyddiad yn unol â Rheol Sefydlog 1.8, neu fel arall pan fydd y Llywydd yn datgan bod y sedd wedi dod yn wag.

Rheol Sefydlog 11 – Trefn Busnes

Y Pwyllgor Busnes

11.2         Nid yw Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.6 yn gymwys i’r Pwyllgor Busnes.

Rheol Sefydlog 20 - Gweithdrefnau Cyllid

Cynigion Cyllideb Blynyddol

20.26     Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)     cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)    cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y'i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)   amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.22;

(iv)   amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.24; ac

(v)    amcangyfrif y Comisiwn Etholiadol, fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.20B.