Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.
Mae'r adroddiad hwn yn argymell diwygiadau i Reol Sefydlog 17 mewn cysylltiad ag aelodaeth pwyllgorau.
Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A. Mae'r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.
Cynnwys
2. Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 17, a nodiadau esboniadol
Atodiad B – Rheol Sefydlog 17, fel y'i diwygiwyd
1. Lluniwyd darpariaethau presennol y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud ag aelodaeth pwyllgorau yn unol ag adrannau 28 a 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ("y Ddeddf"). Gwnaeth yr adrannau hyn ddarpariaethau penodol yn ymwneud â chyfansoddiad pwyllgorau'r Senedd a phenodi iddynt, sydd wedi bod yn sail i Reolau Sefydlog y Senedd o ran pwyllgorau (ac, mewn rhai achosion, yn cael eu hatgynhyrchu ynddynt).
2. Rhoddodd Deddf Cymru 2017 gymhwysedd i'r Senedd dros adran 28, a diddymwyd adran 29, a oedd yn cynnwys darpariaeth i ddefnyddio fformiwla d'Hondt ar gyfer dyrannu lleoedd pwyllgor pe na bai'r Senedd yn gallu cytuno ar gynnig ar aelodaeth gan fwyafrif o ddwy ran o dair.
3. Mae holl ddarpariaethau eraill yr adran 29 a ddiddymwyd, eisoes wedi'u cynnwys yn y Rheolau Sefydlog. Fodd bynnag, dim ond yn y Ddeddf y cafodd y fformiwla d'Hondt ei nodi'n fanwl, gan gyfeirio yn y Rheolau Sefydlog at adran berthnasol Ddeddf. O ganlyniad, roedd diddymu adran 29 yn golygu bod angen diwygio Rheol Sefydlog 17 i fynd i'r afael â'r bwlch penodol hwn a grëwyd drwy ddiddymu adran 29.
4. Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o opsiynau, gan gynnwys defnyddio fformiwlâu amgen, neu ddileu'r ddarpariaeth ‘wrth gefn’ yn gyfan gwbl, a phenderfynodd gadw at y drefn bresennol drwy gynnig y dylid integreiddio'r darpariaethau a ddiddymwyd yn Rheolau Sefydlog y Senedd.
5. Amlinellir y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn Atodiad A. Mae'r newidiadau yn atgynhyrchu effaith adrannau 29(3) i 23(7) o'r Ddeddf, gyda rhai diwygiadau priodol i’r testun er mwyn sicrhau cysondeb â'r Rheolau Sefydlog presennol. Nid yw'r Pwyllgor Busnes o'r farn bod angen cynnwys yn y Rheol Sefydlog y diffiniadau a gynhwysir yn adran 29(4) a (7) o'r Ddeddf.
6. Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar 9 March 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig yn Atodiad B.
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 17, a nodiadau esboniadol
Aelodaeth Pwyllgorau |
Cadw'r pennawd |
17.7 Os nad yw
cynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog
17.3 yn cael ei basio, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a
gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i bennu maint y pwyllgor, a rhaid
i’r lleoedd ar y pwyllgor hwnnw gael eu dyrannu yn unol
â’r Atodiad i Reol Sefydlog 17
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog Mae'r diwygiad yn disodli cyfeiriad at ddarpariaethau adrannau 29(3) i (7) o'r Ddeddf gyda chyfeiriad at yr Atodiad i Reol Sefydlog 17. |
|
Dileu'r Rheol Sefydlog Mae'r Rheol Sefydlog hon yn bodloni un o ofynion penodol adran 29(8) o'r Ddeddf. Gan fod y Rheol Sefydlog yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gweithredu fformiwla d'Hondt, cynigir dileu'r Rheol Sefydlog hon ac atgynhyrchu ei darpariaethau ym mharagraff 6 o'r Atodiad newydd i Reol Sefydlog 17. |
Aelodaeth Pwyllgorau: Darpariaethau Ychwanegol |
Mewnosod pennawd |
1. Os gwrthodir cynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3: (i) mae’r Aelod a benodir i'r lle cyntaf ar y pwyllgor yn Aelod sy'n perthyn i'r grŵp gwleidyddol mwyaf, a; (ii) penderfynir ar yr Aelodau sy'n gymwys i gael eu penodi i'r ail le a'r lleoedd dilynol ar y pwyllgor yn unol â pharagraff 2. |
Cyflwyno Rheol Sefydlog Newydd Mae’n atgynhyrchu, gyda rhai diwygiadau i’r testun, effaith adran 29(3) a ddiddymwyd o'r Ddeddf. |
2. Mae Aelod yn gymwys i gael ei benodi i'r ail le neu i unrhyw le dilynol ar y pwyllgor os yw'r nifer a geir drwy ddefnyddio paragraff 3 mewn perthynas â'r lle hwnnw ar gyfer y grŵp gwleidyddol y mae'r Aelod yn perthyn iddo, yn fwy na'r nifer a geir fel hyn ar gyfer pob un o'r grwpiau gwleidyddol eraill. |
Cyflwyno Rheol Sefydlog Newydd Mae’n atgynhyrchu gyda rhai diwygiadau i’r testun, effaith adran 29(5) a ddiddymwyd o'r Ddeddf. |
3. Y nifer a geir ar gyfer grŵp gwleidyddol mewn perthynas â'r ail le neu unrhyw le dilynol ar y pwyllgor yw: (i) os oes un neu fwy o leoedd eisoes wedi'u dyrannu i'r grŵp gwleidyddol, nifer yr Aelodau sy'n perthyn i'r grŵp gwleidyddol wedi'i rannu â chyfanswm nifer y lleoedd sydd eisoes wedi'u dyrannu felly ac un, neu; (ii) fel arall, nifer yr Aelodau sy'n perthyn i'r grŵp gwleidyddol. |
Cyflwyno Rheol Sefydlog Newydd Mae’n atgynhyrchu, gyda rhai diwygiadau i’r testun, effaith adran 29(6) a ddiddymwyd o'r Ddeddf. |
4. Mewn perthynas ag unrhyw le ar bwyllgor sydd i’w ddyrannu yn unol â pharagraffau 1 i 3: (i) os yw nifer yr Aelodau sy’n perthyn i ddau neu fwy o grwpiau gwleidyddol yr un fath a’i fod yn fwy na’r nifer sy’n perthyn i unrhyw grŵp gwleidyddol arall; neu (ii) os yw’r nifer a geir drwy ddefnyddio paragraff 3 yr un fath ar gyfer dau neu fwy o grwpiau gwleidyddol a’i fod yn fwy na’r nifer a geir fel hyn ar gyfer unrhyw grŵp gwleidyddol arall, rhaid i’r Llywydd benderfynu i ba grŵp gwleidyddol y mae’r lle hwnnw i’w ddyrannu. |
Cyflwyno Rheol Sefydlog Newydd Mae’n atgynhyrchu, gyda rhai diwygiadau i’r testun, effaith y Rheol Sefydlog 17.8 bresennol sy'n rhoi effaith i ofyniad adran 29(9) y Ddeddf. O ganlyniad, caiff Rheol Sefydlog 17.8 ei dileu. |
Atodiad B – Rheol Sefydlog 17, fel y'i diwygiwyd
17.7 Os nad yw cynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3 yn cael ei basio, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i bennu maint y pwyllgor, a rhaid i’r lleoedd ar y pwyllgor hwnnw gael eu dyrannu yn unol â’r Atodiad i Reol Sefydlog 17.
17.8 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021]
1. Os gwrthodir cynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3:
(i) mae’r Aelod a benodir i'r lle cyntaf ar y pwyllgor yn Aelod sy'n perthyn i'r grŵp gwleidyddol mwyaf, a;
(ii) penderfynir ar yr Aelodau sy'n gymwys i gael eu penodi i'r ail le a'r lleoedd dilynol ar y pwyllgor yn unol â pharagraff 2.
2. Mae Aelod yn gymwys i gael ei benodi i'r ail le neu i unrhyw le dilynol ar y pwyllgor os yw'r nifer a geir drwy ddefnyddio paragraff 3 mewn perthynas â'r lle hwnnw ar gyfer y grŵp gwleidyddol y mae'r Aelod yn perthyn iddo, yn fwy na'r nifer a geir fel hyn ar gyfer pob un o'r grwpiau gwleidyddol eraill.
3. Y nifer a geir ar gyfer grŵp gwleidyddol mewn perthynas â'r ail le neu unrhyw le dilynol ar y pwyllgor yw:
(i) os oes un neu fwy o leoedd eisoes wedi'u dyrannu i'r grŵp gwleidyddol, nifer yr Aelodau sy'n perthyn i'r grŵp gwleidyddol wedi'i rannu â chyfanswm nifer y lleoedd sydd eisoes wedi'u dyrannu felly ac un, neu;
(ii) fel arall, nifer yr Aelodau sy'n perthyn i'r grŵp gwleidyddol.
4. Mewn perthynas ag unrhyw le ar bwyllgor sydd i’w ddyrannu yn unol â pharagraffau 1 i 3:
(i) os yw nifer yr Aelodau sy’n perthyn i ddau neu fwy o grwpiau gwleidyddol yr un fath a’i fod yn fwy na’r nifer sy’n perthyn i unrhyw grŵp gwleidyddol arall; neu
(ii) os yw’r nifer a geir drwy ddefnyddio paragraff 3 yr un fath ar gyfer dau neu fwy o grwpiau gwleidyddol a’i fod yn fwy na’r nifer a geir fel hyn ar gyfer unrhyw grŵp gwleidyddol arall,
rhaid i’r Llywydd benderfynu i ba grŵp gwleidyddol y mae’r lle hwnnw i’w ddyrannu.