Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig diwygiadau i Reolau Sefydlog 6, 7, 8 a 17, i ychwanegu manylion at y gweithdrefnau ar gyfer ethol y Llywydd, y Dirprwy Lywydd a chadeiryddion pwyllgorau, ac ar gyfer enwebu’r Prif Weinidog. Mae hefyd yn cynnig cael gwared ar y terfyn amser ar gyfer penodi Comisiynwyr y Senedd.

Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo’r cynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog fel y’u nodir yn Atodiad A. Mae’r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.


 

Cynnwys

1.         Y newidiadau a gynigir. 3

Enwebu'r Prif Weinidog ac Ethol y Llywydd a'r Dirprwy.. 3

Tynnu enwebiad yn ôl 3

Mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd.. 4

Ymgeiswyr sy’n gyfartal â’r nifer lleiaf o bleidleisiau a fwriwyd.. 4

Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau.. 5

Penodi Comisiwn y Senedd.. 5

2.        Penderfyniad.. 6

Atodiad A – Diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 6, 7, 8 a 17, a nodiadau esboniadol 7

Atodiad B – Rheolau Sefydlog 6, 7, 8 a 17, fel y’u diwygiwyd.. 15

 


 

1.            Y newidiadau a gynigir

Enwebu'r Prif Weinidog ac Ethol y Llywydd a'r Dirprwy

1.              Nodir y broses ar gyfer enwebu Aelod i'w benodi'n Brif Weinidog yn Rheolau Sefydlog 8.1–8.3 a nodir y broses ar gyfer ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd yn Rheolau Sefydlog 6.1–6.10. Mae rhai gwahaniaethau rhwng y ddwy weithdrefn, fel sut y mae enwebiad yn cael ei wneud, a sut y mae pleidlais yn cael ei chynnal. Fodd bynnag, mae rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddwy weithdrefn hefyd, ac mae’r rhan fwyaf o’r meysydd a adolygir yn gymwys yn y ddau achos.

Tynnu enwebiad yn ôl

2.            Nid yw’r gweithdrefnau ar gyfer enwebu’r Prif Weinidog na’r rhai ar gyfer ethol y Llywydd yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl, ac mae'r ddwy Reol Sefydlog yn defnyddio iaith orfodol i’w gwneud yn ofynnol cynnal cylchoedd pleidleisio pellach pe na bai’r un ymgeisydd yn llwyddo mewn cylch pleidleisio penodol.

3.            Daeth hwn yn fater perthnasol yn 2016, pan gafwyd dau enwebiad ar gyfer y Prif Weinidog ac arweiniodd y bleidlais gyntaf at ganlyniad cyfartal. Gohiriwyd y trafodion am y diwrnod, a phan gyfarfu'r Senedd nesaf, roedd un enwebiad wedi’i dynnu yn ôl. Dywedodd y Llywydd ar y pryd:

Bydd yr Aelodau yn deall nad yw’r Rheolau Sefydlog yn mynd i fanylion ynghylch pob sefyllfa bosib, ac, mewn sefyllfaoedd o’r fath, fy nghyfrifoldeb i fel Llywydd yw dehongli’r Rheolau Sefydlog, a llywio’r Cynulliad yma orau y gallaf i. Byddai’n afresymol gorfodi unrhyw un nad yw bellach yn dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd mewn pleidlais ar y cwestiwn hwnnw. (18 Mai 2016)

4.            Mae Rheolau Sefydlog Tŷ'r Cyffredin a Senedd yr Alban yn gwneud darpariaeth benodol y caiff enwebai ar gyfer y Llywydd/Llefarydd dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl rhwng rowndiau pleidleisio, ac mae gan Senedd yr Alban yr un ddarpariaeth ar gyfer y rhai a enwebir i fod yn Brif Weinidog. Felly, mae’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ei bod yn briodol codeiddio’r gynsail a osodwyd yn 2016 trwy ddiwygio’r Rheolau Sefydlog i wneud darpariaeth ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl rhwng cylchoedd pleidleisio ar gyfer y Prif Weinidog a’r Llywydd neu’r Dirprwy Lywydd.

Mwyafrif y pleidleisiau a fwriwyd

5.            Ar hyn o bryd, mae Rheol Sefydlog 6 a Rheol Sefydlog 8 yn nodi gwahanol niferoedd gofynnol ar gyfer enwebu/ethol, gan ddibynnu a oes dau neu ragor o ymgeiswyr.  Nodir y darpariaethau perthnasol yn Rheol Sefydlog 6 isod (ychwanegwyd y pwyslais) ond mae'r un effaith yn gymwys yn Rheol Sefydlog 8:

Rheol Sefydlog 6.9 Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r cadeirydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol.

Rheol Sefydlog 6.10 Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac na fydd yr un Aelod yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd mewn pleidlais gyfrinachol, mae’r ymgeisydd sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei hepgor ac mae rhagor o bleidleisiau cyfrinachol yn cael eu cynnal nes y bydd un ymgeisydd yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd; ac os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy’n weddill (neu'r unig ddau ymgeisydd) yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

6.            Os bydd dau ymgeisydd, yr ymgeisydd sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd sydd wedi’i ethol (neu ei enwebu).

7.             Os oes mwy na dau ymgeisydd, y gofyniad yw ‘cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd’. Mae hyn yn gymwys hefyd mewn cylch olaf o bleidleisio lle mai dim ond dau ymgeisydd sy'n weddill. Os mai dim ond pleidleisiau naill ai o blaid neu yn erbyn sy'n cael eu hystyried, bydd y nifer mwyaf o bleidleisiau a fwriwyd, yn ei hanfod, yn fwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn wir os bydd y rhai sy’n ymatal yn cael eu hystyried.

8.            Er mwyn osgoi amheuaeth, mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu diwygio i egluro bod ymgeisydd yn cael ei enwebu (Prif Weinidog) neu ei ethol (Llywydd neu Ddirprwy Lywydd) os yw'n cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer ymgeiswyr eraill.

Ymgeiswyr sy’n gyfartal â’r nifer lleiaf o bleidleisiau a fwriwyd

9.            Mae Rheol Sefydlog 6 a Rheol Sefydlog 8 yn darparu, os bydd mwy na dau ymgeisydd, ac nad oes yr un ymgeisydd yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd, ‘mae’r ymgeisydd sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei hepgor’. Nid yw'r naill na'r llall yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefyllfa pan fo dau (neu fwy) o ymgeiswyr yn gyfartal â’r nifer lleiaf o bleidleisiau a fwriwyd. Nid yw'n glir felly a fyddai'r ddau yn cael eu hepgor neu a ddylid cynnal pleidlais arall (neu bleidleisiau eraill) gyda'r un ymgeiswyr, nes bod un ymgeisydd yn cael y nifer lleiaf o bleidleisiau.

10.        Yn yr achos hwn, mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig dulliau gwahanol ar gyfer ethol Llywydd ac enwebu Prif Weinidog. Ar gyfer ethol Llywydd, cynigir y dylai'r ddau ymgeisydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau gael eu hepgor. Ond pe bai hepgor ymgeiswyr fel hyn yn golygu mai dim ond un ymgeisydd sydd ar ôl, ac nad oedd yr ymgeisydd hwnnw wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd, dylai fod cyfle i Aelodau wrthwynebu'r enwebiad hwnnw a phleidleisio arno, fel y byddent wedi ei wneud pe bai dim ond un enwebiad i ddechrau. Mae hyn yn gyson â’r weithdrefn yn Senedd yr Alban.

11.           Ar gyfer enwebu Prif Weinidog, gan nad oes cyfle i wrthwynebu un enwebiad yn y weithdrefn honno, cynigir, pe bai hepgor dau ymgeisydd neu fwy yn golygu mai dim ond un ymgeisydd sydd ar ôl, ni ddylid hepgor y naill ymgeisydd na’r llall, a dylid cynnal pleidlais arall â’r un ymgeiswyr. Mae enwebu'r Prif Weinidog yn broses wleidyddol ac 'agored' (hynny yw, nid yw’n bleidlais gyfrinachol). Fel gyda chanlyniad cyfartal rhwng dau ymgeisydd sy’n dod i’r brig, byddai angen canfod ateb gwleidyddol i'r fath sefyllfa.

Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau

12.         Gall y materion a godwyd uchod mewn perthynas â statws ymataliadau ac ymgeiswyr sy’n gyfartal â’r nifer lleiaf o bleidleisiau a fwriwyd hefyd fod yn berthnasol i'r weithdrefn ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, felly cynigir y dylid diwygio Rheolau Sefydlog 17.2E-K (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn unol â’r newidiadau a gynigir i Reol Sefydlog 6. Mewn etholiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau, dim ond un rownd o bleidleisio sydd, gydag ymgeiswyr yn cael eu rhestru yn nhrefn blaenoriaeth, felly nid oes angen darpariaeth ar gyfer ymgeisydd sy’n tynnu'n ôl.

Penodi Comisiwn y Senedd

13.         Mae Rheol Sefydlog 7.1 yn datgan y canlynol (pwyslais wedi’i ychwanegu):

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl etholiad y Senedd, ond heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi aelodau’r Pwyllgor Busnes, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gynnig enwau’r pedwar Aelod sydd i’w penodi’n aelodau o’r Comisiwn o dan adran 27(2)(b) o’r Ddeddf.

14.         Nid oes sail mewn statud i’r terfyn amser o 10 diwrnod. Er ei bod yn ddymunol i Gomisiwn newydd gael ei benodi cyn gynted â phosibl ar ôl etholiad, gan fod y Comisiynwyr a etholwyd yn y Senedd flaenorol yn aros yn eu swyddi hyd nes y penodir Comisiynwyr newydd gan y Senedd newydd, ni fydd unrhyw wagle cyfreithiol yn sgil unrhyw oedi.

15.         Yn 2016, cynhaliwyd y broses o enwebu Prif Weinidog dros bythefnos, ac o ganlyniad i hynny, ni chafodd y Pwyllgor Busnes ei sefydlu tan yr wythnos cyn hanner tymor. Felly, nid oedd yn bosibl i gynnig i benodi aelodau'r Comisiwn gael ei ystyried o fewn 10 diwrnod. Bu'n rhaid atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn gallu penodi Comisiynwyr ar ôl y terfyn amser. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu’r Rheol Sefydlog cyn yr etholiad nesaf.

16.         Mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig y dylid dileu'r terfyn amser o 10 diwrnod, gan adael gofyniad i gynnig i benodi aelodau'r Comisiwn gael ei ystyried cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl etholiad y Senedd.

2.         Penderfyniad

17.         Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog ar 2 Mawrth 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo’r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig fel y’u nodir yn Atodiad B.

 


Atodiad A – Diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 6, 7, 8 a 17, a nodiadau esboniadol

Rheol Sefydlog 6 – Y Llywydd a’r Dirprwy

Ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd

Cadw'r pennawd

6.1           Yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd, rhaid i’r Senedd ethol Llywydd a Dirprwy o blith ei Aelodau.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

6.2           Os daw swydd y Llywydd neu swydd y Dirprwy yn wag, rhaid i’r Senedd ethol Aelod cyn gynted â phosibl i lenwi'r swydd wag. Mae ethol Llywydd yn cymryd blaenoriaeth dros bob busnes arall.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

6.3           Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 6.4, mae’r trafodion ar gyfer ethol Llywydd yn y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd i’w cadeirio gan y Llywydd a oedd yn dal y swydd yn union cyn etholiad y Senedd (“y cyn-Lywydd”).

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

6.4           Os bydd:

(i)     y cyn-Lywydd yn anfodlon gweithredu neu’n methu gweithredu yn y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd; neu

(i)     y Dirprwy yn anfodlon gweithredu neu’n methu gweithredu mewn unrhyw etholiad ar gyfer Llywydd ar unrhyw adeg arall, neu os nad oes Dirprwy yn y swydd,

                mae’r trafodion ar gyfer ethol Llywydd i gael eu cadeirio gan y Clerc.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

6.5          Ni chaniateir i Aelod sy’n cadeirio trafodion ar gyfer ethol Llywydd gael ei enwebu i’w ethol yn Llywydd yn y trafodion hynny.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

6.6          Wrth ethol Llywydd neu Ddirprwy, rhaid i’r cadeirydd wahodd enwebiadau. Yn y lle cyntaf, ni fydd enwebiad yn ddilys oni chaiff ei eilio gan Aelod nad yw'n aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae'r Aelod sy'n enwebu yn perthyn iddo.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

6.7           Os yw'n ymddangos nad yw’r un Aelod yn debyg o gael ei enwebu a'i eilio gan aelodau nad ydynt yn perthyn i’r un grŵp o grwpiau gwleidyddol gwahanol, rhaid i’r cadeirydd ohirio'r trafodion, ac, wedi i’r trafodion ailddechrau, caiff y cadeirydd dderbyn enwebiadau sy'n cael eu heilio gan aelodau o'r un grŵp gwleidyddol â'r Aelod sy'n enwebu.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Cynigir newid geiriad y Rheol Sefydlog hon, er mwyn bod yn gyson â’r hyn a nodir yn Rheol Sefydlog 6.6 sy’n dweud ‘nad yw'n aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae'r Aelod sy'n enwebu yn perthyn iddo’ yn hytrach nag ‘aelodau o grwpiau gwleidyddol gwahanol’. Mae'r newid yn nodi'n glir y caiff Aelodau nad ydynt yn perthyn i unrhyw grŵp gwleidyddol enwebu ac eilio ymgeisydd.

6.8          Os un enwebiad yn unig a geir, rhaid i’r cadeirydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn Llywydd (neu’n Ddirprwy yn ôl fel y digwydd).  Os gwrthwynebir hynny, neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r cadeirydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

6.9          Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r cadeirydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol. 

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

6.10         Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac na fydd yr un Aelod yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall na hanner y pleidleisiau a fwriwyd mewn pleidlais gyfrinachol, mae’r ymgeisydd (neu’r ymgeiswyr) sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei hepgor (neu eu hepgor) ac mae rhagor o bleidleisiau cyfrinachol yn cael eu cynnal nes y bydd un ymgeisydd yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arallmwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd; ac os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy’n weddill (neu'r unig ddau ymgeisydd) yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Mae’r newidiadau arfaethedig yn egluro:

§   mewn sefyllfa lle y mae dau neu fwy o ymgeiswyr yn gyfartal â’r nifer lleiaf o bleidleisiau a fwriwyd, mae pob un o’r ymgeiswyr hynny’n cael eu hepgor. Ategir y newid hwn gan Reol Sefydlog 6.10B newydd i atal sefyllfa lle gallai ymgeisydd gael ei ethol heb sicrhau mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd mewn pleidlais;

§   i ennill, mae angen i ymgeisydd sicrhau mwy o bleidleisiau nag a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall, hynny yw, ni ddylid cyfrif y rhai sydd wedi ymatal wrth gyfrifo a yw ymgeisydd wedi sicrhau mwyafrif o bleidleisiau.

6.10A      Caiff ymgeisydd dynnu ei enw yn ôl yn dilyn unrhyw bleidlais gyfrinachol a gynhelir o dan Reol Sefydlog 6.10.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn egluro y caiff ymgeisydd dynnu ei enw yn ôl rhwng pleidleisiau cyfrinachol, pan gynhelir mwy nag un bleidlais gyfrinachol.

6.10B     Os, o ganlyniad i hepgor ymgeiswyr ac ymgeiswyr yn tynnu eu henwau yn ôl, bydd un ymgeisydd yn weddill nad yw wedi sicrhau mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall mewn unrhyw bleidlais gyfrinachol, rhaid i’r cadeirydd gynnig bod yr Aelod yn cael ei ethol yn Llywydd. Os gwrthwynebir hynny, rhaid i'r cadeirydd drefnu bod pleidlais yn cael ei chynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Cynigir y newid yng ngoleuni'r diwygiad i Reol Sefydlog 6.10 a chyflwyno Rheol Sefydlog 6.10A, er mwyn rhoi cyfle i'r Senedd wrthwynebu ethol ymgeisydd yn Llywydd os bydd hepgor ymgeiswyr ac ymgeiswyr sy’n tynnu’n ôl yn golygu bod un ymgeisydd yn weddill nad yw wedi sicrhau'r gefnogaeth angenrheidiol i gael ei ethol mewn unrhyw bleidlais gyfrinachol.

Rheol Sefydlog 7:Comisiwn y Senedd

Penodi’r Aelodau

Cadw'r pennawd

7.1            Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl etholiad y Senedd, ond heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi aelodau’r Pwyllgor Busnes, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gynnig enwau’r pedwar Aelod sydd i’w penodi’n aelodau o’r Comisiwn o dan adran 27(2)(b) o’r Ddeddf.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Nid oes sail mewn statud i’r terfyn amser o ddeg diwrnod, ac er ei bod yn amlwg yn ddymunol i Gomisiwn newydd gael ei benodi cyn gynted â phosibl ar ôl etholiad, mae’r Comisiynwyr yn aros yn eu swyddi hyd nes y penodir rhai newydd, ac felly ni fydd unrhyw wagle cyfreithiol yn sgil unrhyw oedi.

Felly, caiff y terfyn amser o 10 diwrnod ei ddileu, fel mai'r gofyniad yw i gynnig i benodi aelodau'r Comisiwn gael ei ystyried cyn gynted â phosibl ar ôl etholiad y Senedd.

Rheol Sefydlog 8:Gweinidogion Cymru a Dirprwy Weinidogion Cymru

Enwebu Prif Weinidog Cymru

Cadw'r pennawd

8.1           Yn ddarostyngedig i adran 47(3) o’r Ddeddf, o fewn 28 diwrnod ar ôl digwyddiad a bennwyd yn adran 47(2) o’r Ddeddf, rhaid i’r Senedd enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog Cymru (“yr enwebai”).

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

8.2           Rhaid i’r Llywydd wahodd enwebiadau. Os un enwebiad yn unig a wneir, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod hwnnw yw’r enwebai. Os gwneir mwy nag un enwebiad, rhaid i’r Llywydd, drwy alw cofrestr yr Aelodau yn nhrefn yr wyddor, wahodd pob Aelod sy’n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd (ac eithrio na chaiff y Llywydd na'r Dirprwy bleidleisio). Os bydd dau Aelod wedi’u henwebu, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r ymgeisydd a gafodd y nifer mwyaf o'r pleidleisiau a fwriwyd yw’r enwebai. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

8.3           Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac na fydd yr un Aelod yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arallna hanner y pleidleisiau a fwriwyd drwy alw’r gofrestr, rhaid i’r ymgeisydd (neu’r ymgeiswyr) sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau gael ei hepgor (neu eu hepgor) a rhaid cynnal rhagor o bleidleisiau drwy alw’r gofrestr nes y bydd un ymgeisydd yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arallna hanner y pleidleisiau a fwriwyd; a rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod hwnnw yw’r enwebai. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n weddill yn gyfartal, neu os byddai hepgor yr ymgeiswyr sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau yn gadael dim ond un ymgeisydd yn weddill, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Mae’r newidiadau arfaethedig yn egluro:

§   mewn sefyllfa pan fo dau neu fwy o ymgeiswyr yn gyfartal â’r nifer lleiaf o bleidleisiau a fwriwyd, mae pob un o’r ymgeiswyr hynny’n cael eu hepgor, ac eithrio bod hynny’n gadael dim ond un ymgeisydd;

§   i gael ei enwebu, mae angen i ymgeisydd sicrhau mwy o bleidleisiau nag a fwriwyd ar gyfer yr pob ymgeisydd arall. Hynny yw, ni ddylid cyfrif y rhai sydd wedi ymatal wrth gyfrifo a yw ymgeisydd wedi sicrhau mwyafrif o bleidleisiau.

8.3A        Caiff ymgeisydd dynnu ei enw yn ôl yn dilyn unrhyw bleidleisiau drwy alw’r gofrestr a gynhelir o dan Reol Sefydlog 8.2 neu 8.3.

Cyflwyno Rheol Sefydlog Newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn egluro y caiff ymgeisydd dynnu ei enw yn ôl rhwng pleidleisiau, pan gynhelir mwy nag un bleidlais.

Rheol Sefydlog 17:Gweithredu Pwyllgorau

Enwebu Cadeiryddion Pwyllgorau

Cadw'r pennawd

17.2E       Rhaid i’r Senedd ethol Aelod yn gadeirydd ar gyfer pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Senedd.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth

17.2F       Yn un o gyfarfodydd llawn y Senedd, rhaid i'r Llywydd wahodd enwebiadau. Dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol a nodir yn y cynnig perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.2A y caniateir iddo gael ei enwebu, a dim ond Aelod o'r un grŵp y caniateir iddo wneud yr enwebiad.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth

17.2G      Rhaid i enwebiad gan grŵp gwleidyddol sydd â mwy nag 20 aelod gael ei eilio gan aelod o’r grŵp hwnnw.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth

17.2H      Os cyflwynir enwebiadau ar gyfer cadeiryddion mwy nag un pwyllgor yn yr un cyfarfod o'r Senedd, ni chaniateir i Aelod gael ei enwebu i fod yn gadeirydd mwy nag un o'r pwyllgorau hynny.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth

17.2I        Os enwebir un Aelod yn unig, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny, neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r Llywydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

Cadw'r Rheol Sefydlog

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth

17.2J       Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r  Cadeirydd Llywydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Cywiro cyfeiriad at 'gadeirydd' a ddylai gyfeirio at y Llywydd

17.2K      Os bydd mwy na dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i'r Aelodau bleidleisio drwy nodi faint bynnag o ymgeiswyr a fynnant yn nhrefn blaenoriaeth. Os na chaiff yr un Aelod fwy o bleidleisiau na’r nifer a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arallna hanner y pleidleisiau dewis cyntaf a fwriwyd, rhaid hepgor yr ymgeisydd (neu’r ymgeiswyr) sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ac ailddosbarthu ei bleidleisiau (neu eu pleidleisiau) rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill yn nhrefn blaenoriaeth. Rhaid ailadrodd y broses hon o hepgor ymgeiswyr ac ailddosbarthu eu pleidleisiau tan y bydd un ymgeisydd yn sicrhau mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arallna hanner y pleidleisiau a fwriwyd. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n weddill yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

Diwygio'r Rheol Sefydlog

Mae’r newidiadau arfaethedig yn egluro:

§   mewn sefyllfa pan fo dau neu fwy o ymgeiswyr yn gyfartal â’r nifer lleiaf o bleidleisiau a fwriwyd, mae pob un o’r ymgeiswyr hynny’n cael eu hepgor. Ategir y newid hwn gan Reol Sefydlog 17.2KA newydd i atal sefyllfa lle gallai ymgeisydd gael ei ethol heb sicrhau mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd mewn pleidlais;

§   i ennill, mae angen i ymgeisydd sicrhau mwy o bleidleisiau nag a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall, hynny yw, ni ddylid cyfrif y rhai sydd wedi ymatal wrth gyfrifo a yw ymgeisydd wedi sicrhau mwyafrif o bleidleisiau.

17.2KA    Os, o ganlyniad i hepgor ymgeiswyr, bydd un ymgeisydd yn weddill nad yw wedi sicrhau mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall mewn unrhyw bleidlais gyfrinachol, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny, rhaid i'r Llywydd drefnu bod y bleidlais yn cael ei chynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Cynigir y newid yng ngoleuni'r diwygiad i Reol Sefydlog 17.2K, er mwyn rhoi cyfle i'r Senedd wrthwynebu ethol ymgeisydd os bydd hepgor ymgeiswyr yn golygu bod un ymgeisydd ar ôl nad yw wedi sicrhau'r gefnogaeth angenrheidiol i gael ei ethol. Bydd hyn yn digwydd os bydd y ddau ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau yn gyfartal ac wedi’u hepgor, sy’n gadael un ymgeisydd ar ôl nad yw wedi cael mwyafrif y pleidleisiau.

 


Atodiad B – Rheolau Sefydlog 6, 7, 8 a 17, fel y’u diwygiwyd

Rheol Sefydlog 6:Y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd

6.1           Yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd, rhaid i’r Senedd ethol Llywydd a Dirprwy o blith ei Aelodau.

6.2           Os daw swydd y Llywydd neu swydd y Dirprwy yn wag, rhaid i’r Senedd ethol Aelod cyn gynted â phosibl i lenwi'r swydd wag. Mae ethol Llywydd yn cymryd blaenoriaeth dros bob busnes arall.

6.3           Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 6.4, mae’r trafodion ar gyfer ethol Llywydd yn y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd i’w cadeirio gan y Llywydd a oedd yn dal y swydd yn union cyn etholiad y Senedd (“y cyn-Lywydd”).

6.4           Os bydd:

(i)     y cyn-Lywydd yn anfodlon gweithredu neu’n methu gweithredu yn y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd; neu

(ii)    y Dirprwy yn anfodlon gweithredu neu’n methu gweithredu mewn unrhyw etholiad ar gyfer Llywydd ar unrhyw adeg arall, neu os nad oes Dirprwy yn y swydd,

                mae’r trafodion ar gyfer ethol Llywydd i gael eu cadeirio gan y Clerc.

6.5          Ni chaniateir i Aelod sy’n cadeirio trafodion ar gyfer ethol Llywydd gael ei enwebu i’w ethol yn Llywydd yn y trafodion hynny.

6.6          Wrth ethol Llywydd neu Ddirprwy, rhaid i’r cadeirydd wahodd enwebiadau. Yn y lle cyntaf, ni fydd enwebiad yn ddilys oni chaiff ei eilio gan Aelod nad yw'n aelod o'r grŵp gwleidyddol y mae'r Aelod sy'n enwebu yn perthyn iddo.

6.7           Os yw'n ymddangos nad yw’r un Aelod yn debyg o gael ei enwebu a'i eilio gan aelodau nad ydynt yn perthyn i’r un grŵp, rhaid i’r cadeirydd ohirio'r trafodion, ac, wedi i’r trafodion ailddechrau, caiff y cadeirydd dderbyn enwebiadau sy'n cael eu heilio gan aelodau o'r un grŵp gwleidyddol â'r Aelod sy'n enwebu.

6.8          Os un enwebiad yn unig a geir, rhaid i’r cadeirydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn Llywydd (neu’n Ddirprwy yn ôl fel y digwydd). Os gwrthwynebir hynny, neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r cadeirydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

6.9          Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r cadeirydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol. 

6.10         Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac na fydd yr un Aelod yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall mewn pleidlais gyfrinachol, mae’r ymgeisydd (neu’r ymgeiswyr) sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei hepgor (neu eu hepgor) ac mae rhagor o bleidleisiau cyfrinachol yn cael eu cynnal nes y bydd un ymgeisydd yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall; ac os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy’n weddill (neu'r unig ddau ymgeisydd) yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

6.10A      Caiff ymgeisydd dynnu ei enw yn ôl yn dilyn unrhyw bleidlais gyfrinachol a gynhelir o dan Reol Sefydlog 6.10.

6.10B      Os, o ganlyniad i hepgor ymgeiswyr ac ymgeiswyr sy’n tynnu eu henwau yn ôl, bydd un ymgeisydd yn weddill nad yw wedi sicrhau mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall mewn unrhyw bleidlais gyfrinachol, rhaid i’r cadeirydd gynnig bod yr Aelod yn cael ei ethol yn Llywydd. Os gwrthwynebir hynny, rhaid i'r cadeirydd drefnu bod pleidlais yn cael ei chynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

Rheol Sefydlog 7:Comisiwn y Senedd

7.1            Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl etholiad y Senedd, rhaid i’r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gynnig enwau’r pedwar Aelod sydd i’w penodi’n aelodau o’r Comisiwn o dan adran 27(2)(b) o’r Ddeddf.

Rheol Sefydlog 8:Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion Cymru

8.1           Yn ddarostyngedig i adran 47(3) o’r Ddeddf, o fewn 28 diwrnod ar ôl digwyddiad a bennwyd yn adran 47(2) o’r Ddeddf, rhaid i’r Senedd enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog Cymru (“yr enwebai”).

8.2           Rhaid i’r Llywydd wahodd enwebiadau. Os un enwebiad yn unig a wneir, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod hwnnw yw’r enwebai. Os gwneir mwy nag un enwebiad, rhaid i’r Llywydd, drwy alw cofrestr yr Aelodau yn nhrefn yr wyddor, wahodd pob Aelod sy’n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd (ac eithrio na chaiff y Llywydd na'r Dirprwy bleidleisio). Os bydd dau Aelod wedi’u henwebu, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r ymgeisydd a gafodd y nifer mwyaf o'r pleidleisiau a fwriwyd yw’r enwebai. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.

8.3           Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac na fydd yr un Aelod yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall drwy alw’r gofrestr, rhaid i’r ymgeisydd (neu’r ymgeiswyr) sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau gael ei hepgor (neu eu hepgor) a rhaid cynnal rhagor o bleidleisiau drwy alw’r gofrestr nes y bydd un ymgeisydd yn cael mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall; a rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod hwnnw yw’r enwebai. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n weddill yn gyfartal, neu os byddai hepgor yr ymgeiswyr sydd wedi cael y nifer lleiaf o bleidleisiau yn gadael dim ond un ymgeisydd yn weddill, rhaid cynnal pleidlais arall drwy alw’r gofrestr.

8.3A        Caiff ymgeisydd dynnu ei enw yn ôl yn dilyn unrhyw bleidleisiau drwy alw’r gofrestr a gynhelir o dan Reol Sefydlog 8.2 neu 8.3.

Rheol Sefydlog 17:Gweithredu Pwyllgorau

17.2E       Rhaid i’r Senedd ethol Aelod yn gadeirydd ar gyfer pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Senedd.

17.2F       Yn un o gyfarfodydd llawn y Senedd, rhaid i'r Llywydd wahodd enwebiadau. Dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol a nodir yn y cynnig perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.2A y caniateir iddo gael ei enwebu, a dim ond Aelod o'r un grŵp y caniateir iddo wneud yr enwebiad.

17.2G      Rhaid i enwebiad gan grŵp gwleidyddol sydd â mwy nag 20 aelod gael ei eilio gan aelod o’r grŵp hwnnw.

17.2H      Os cyflwynir enwebiadau ar gyfer cadeiryddion mwy nag un pwyllgor yn yr un cyfarfod o'r Senedd, ni chaniateir i Aelod gael ei enwebu i fod yn gadeirydd mwy nag un o'r pwyllgorau hynny.

17.2I        Os enwebir un Aelod yn unig, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny, neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r Llywydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

17.2J       Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

17.2K       Os bydd mwy na dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i'r Aelodau bleidleisio drwy nodi faint bynnag o ymgeiswyr a fynnant yn nhrefn blaenoriaeth. Os na chaiff yr un Aelod fwy o bleidleisiau na’r nifer a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall, rhaid hepgor yr ymgeisydd (neu’r ymgeiswyr) sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ac ailddosbarthu ei bleidleisiau (neu eu pleidleisiau) rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill yn nhrefn blaenoriaeth. Rhaid ailadrodd y broses hon o hepgor ymgeiswyr ac ailddosbarthu eu pleidleisiau tan y bydd un ymgeisydd yn sicrhau mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n weddill yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

17.2KA    Os, o ganlyniad i hepgor ymgeiswyr, bydd un ymgeisydd yn weddill nad yw wedi sicrhau mwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall mewn unrhyw bleidlais gyfrinachol, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny, rhaid i'r Llywydd drefnu bod pleidlais yn cael ei chynnal drwy bleidlais gyfrinachol.