Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

Mae'r adroddiad hwn yn argymell cyflwyno Rheol Sefydlog 26C newydd i ddarparu gweithdrefn i'r Senedd ystyried Biliau Cydgrynhoi.

Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A a nodi canllawiau'r Llywydd yn Atodiad B.


 

Cynnwys

Cefndir. 3

Ystyriaeth gan y Pedwerydd Cynulliad.. 3

Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru.. 4

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.. 6

Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o weithdrefn ddrafft. 7

Ymgynghoriad â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 7

Amlinelliad o'r weithdrefn arfaethedig.. 10

Ffurf a chyflwyno (RhS 26C.1–8). 10

Dogfennau cysylltiedig (RhS 26.C9–11). 10

Pwyllgor cyfrifol ac amserlennu (Rh S26.C12–13) 12

Ystyriaeth gychwynnol (RhS 26C.15–21). 12

Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor (RhS 26.C22-38). 13

Ystyriaeth Fanwl y Senedd (RhS 26.C39-57). 13

Cyfnod Terfynol (RhS 6.C58–65). 14

Ailystyried Biliau Cydgrynhoi a basiwyd ac a wrthodwyd (RhS 26.C66–72). 14

Gwelliannau i Filiau Cydgrynhoi (RhS 26.C78–87). 15

Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw, hysbysiad o Gydsyniad Brenhinol i Ddeddfau'r Senedd, a methiant, gwrthod neu dynnu Biliau Cydgrynhoi yn ôl (RhS 26.C88–92). 15

Ymdrin â darpariaethau canlyniadol 15

Adolygu.. 17

Penderfyniad.. 18

Atodiad A – Rheol Sefydlog 26C arfaethedig ar Filiau Cydgrynhoi, a nodiadau esboniadol 19

Atodiad B – Canllawiau drafft i ategu’r drefn o weithredu Rheol Sefydlog 26C ar Filiau Cydgrynhoi 45

1.            Cefndir

Ystyriaeth gan y Pedwerydd Cynulliad

1.              Cytunodd Pwyllgor Busnes y Pedwerydd Cynulliad i ystyried cynigion ar gyfer gweithdrefn i ganiatáu pasio Biliau cydgrynhoi fel rhan o adolygiad ehangach o'r Rheolau Sefydlog, am y tro cyntaf, ym mis Mai 2014.[1]

2.            Yn 2015, ystyriodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad fater cydgrynhoi cyfraith Cymru yn fanwl.[2] Roedd ei adroddiad Deddfu yng Nghymru yn disgrifio cydgrynhoi'r gyfraith fel:

mynd i'r afael â darn o gyfraith sydd wedi dadfeilio oherwydd yr haenau o ddiwygiadau ac addasiadau a wnaed iddo, a llunio un testun glân, yn unol â'r arfer cyfoes gorau.[3]

3.            Nododd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod “cryn gefnogaeth gan amryw randdeiliaid i gydgrynhoi mwy o ddeddfau Cymru,”[4] a gwnaeth yr argymhellion canlynol:

Argymhelliad 11: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chomisiwn y Gyfraith, yn datblygu cynllun hirdymor ar gyfer cydgrynhoi deddfau Cymru.

Argymhelliad 12: Rydym yn argymell bod y Pwyllgor Busnes yn ymrwymo i baratoi Rheol Sefydlog ar Filiau cydgrynhoi, a hynny'n ddelfrydol erbyn y Pumed Cynulliad.  Dylai'r Rheol Sefydlog anelu at ddarparu llwybr carlam ar gyfer Biliau y mae'r Cwnsler Deddfwriaethol yn penderfynu nad ydynt yn cynnwys unrhyw newid sylweddol yn y gyfraith.

Argymhelliad 13: Rydym yn argymell bod y Pwyllgor Busnes yn archwilio'r posibilrwydd o ddarparu gweithdrefn symlach ar gyfer Biliau sy'n diwygio'r gyfraith ac yn gweithredu adroddiadau Comisiwn y Gyfraith.[5]

4.            Mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyflwyno gweithdrefn ar gyfer Biliau cydgrynhoi.[6] Ar y pryd, roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith gynnal prosiect i ystyried sut y gellir gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, gan gynnwys sut y gellir diwygio gweithdrefnau'r Senedd i ganiatáu i Filiau cydgrynhoi gael eu pasio.[7] Cytunodd y Pwyllgor Busnes, felly, i aros am ganfyddiadau'r prosiect cyn cyflwyno unrhyw weithdrefn newydd.[8]

Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru

5.            Ym mis Mehefin 2016, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad, Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru.[9] Tynnodd y Comisiwn sylw at yr angen i gydgrynhoi, ac yna godeiddio cyfraith Cymru, lle byddai pob agwedd ar gyfraith Cymru o fewn maes pwnc penodol yn cael eu dwyn ynghyd mewn "cod".[10] Fodd bynnag, yn achos codeiddio, cydnabu y byddai terfynau cymhwysedd deddfwriaethol datganoledig mewn rhai meysydd pwnc yn rhoi cyfyngiadau ar fod yn gynhwysfawr o ran codeiddio posibl. O dan yr amgylchiadau hynny, rhagwelodd, yn hytrach, y gellir mynd ar drywydd cydgrynhoi yn unig.[11]

6.            Archwiliodd Comisiwn y Gyfraith weithdrefnau sy'n caniatáu cydgrynhoi a chodeiddio'r gyfraith yn San Steffan a Seland Newydd, ac argymhellodd fod “gweithdrefnau arbennig yn ddymunol yn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Biliau cydgrynhoi a chodeiddio, yn ogystal ag ar gyfer Biliau diwygio’r gyfraith annadleuol Comisiwn y Gyfraith."[12]

7.             Conglfeini'r “un weithdrefn […] hyblyg, ac […] amlweddog" a argymhellodd oedd:

§    Ei bod yn ofynnol i Femorandwm Esboniadol gyd-fynd â Bil wedi ei ardystio gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch pa adrannau neu rannau o Fil sy'n addas i graffu arnynt gan bwyllgor, a’r rhai y dylai'r Senedd lawn eu trafod;

§    Ei bod yn ofynnol i bwyllgor cyfrifol ystyried y Memorandwm Esboniadol, a chyflwyno adroddiad i'r Senedd ynghylch pa adrannau a rhannau y dylid craffu arnynt gan bwyllgor, a’r rhai y dylai'r Senedd lawn eu trafod;

§    Dull diogelu pellach, y dylai fod yn bosibl i Aelodau'r Senedd alw am ddadl ar adroddiad y pwyllgor.[13]

8.            Credai y byddai gweithdrefn o'r fath yn galluogi gwahanol adrannau a rhannau o Fil i fod yn destun gwahanol raddau o graffu yn dibynnu ar faint y newidiadau a wnânt i'r gyfraith, ac y byddai'n cynnal lefel uchel o ymddiriedaeth yn y broses ymhlith Aelodau.

9.            Ar ran Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ymateb interim i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2016, lle cytunodd fod angen sefydlu gweithdrefnau addas yn y Senedd i gefnogi rhaglen o gydgrynhoi a chodeiddio. Dywedodd hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnal rhaglen beilot ar gyfer cydgrynhoi, codeiddio a chyhoeddi cyfraith Cymru yn well.[14]

10.        Ar 10 Ionawr 2017, ystyriodd y Pwyllgor Busnes lythyr gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch ei ymateb i Gomisiwn y Gyfraith,[15] a chytunodd i weithio gyda Llywodraeth Cymru i lunio cynigion addas ar gyfer diwygio'r Rheolau Sefydlog.[16] Wedi hynny, ysgrifennodd y Llywydd at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol[17] i'w hysbysu o'r penderfyniad hwn.[18]

11.           Ym mis Chwefror 2017, lansiodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymchwiliad i gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru.[19] Yn ystod yr ymchwiliad, cafodd dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol, a ddarparodd ragor o wybodaeth mewn perthynas â dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o'r hyn y byddai codio yn ei olygu, ac mewn perthynas â'i rhaglen beilot ar gyfer cydgrynhoi a chodeiddio.[20]

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

12.         Ym mis Rhagfyr 2018, cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru), a ddaeth yn Ddeddf y mis Medi canlynol. Mae Adran 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol baratoi rhaglen yn nhymor pob Senedd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, y mae'n rhaid i'w gweithgareddau arfaethedig gynnwys y rhai y bwriedir iddynt "[g]yfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru".[21]

13.         Yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil, disgrifiodd y Cwnsler Cyffredinol gydgrynhoi fel y brif weithgaredd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac roedd yn rhagweld rhaglen wella i gynnwys nifer o brosiectau cydgrynhoi dros oes Senedd.[22] Cyfeiriodd hefyd at adroddiad Comisiwn y Gyfraith, Cyfraith Cynllunio yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018, [23]a oedd yn amlinellu sut y gellir cydgrynhoi 34 o Ddeddfau mewn perthynas â chyfraith gynllunio yng Nghymru yn un darn dwyieithog o ddeddfwriaeth.[24]

14.         Ym mis Hydref 2019, rhannodd y Cwnsler Cyffredinol gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer categoreiddio, cydgrynhoi a chodeiddio'r gyfraith ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.[25] Cafodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dystiolaeth lafar gan y Cwnsler Cyffredinol ar y cynigion ar 18 Tachwedd 2019.[26]

Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o weithdrefn ddrafft

15.         Y tro cyntaf yr ystyriodd y Pwyllgor Busnes weithdrefn amlinellol i ganiatáu i Filiau cydgrynhoi gael eu pasio oedd ar 17 Gorffennaf 2018,[27] a chytunodd i ymgynghori â Chomisiwn y Gyfraith ar ei gynnwys.

16.         Ar y cyfan, roedd ymateb Comisiwn y Gyfraith yn croesawu'r weithdrefn amlinellol, a nododd y byddai geiriad manwl y weithdrefn a'r canllawiau cysylltiedig iddi yn "hollbwysig" o ran ei gweithredu. Roedd hefyd o'r farn bod datblygu arbenigedd pwyllgor cyfrifol yn “amcan hirdymor hanfodol": arbenigedd nid yn unig ar yr agweddau technegol ar gydgrynhoi, ond hefyd wrth lunio barn ynghylch pa newidiadau deddfwriaethol fyddai'n addas ar gyfer dull mwy syml o graffu. Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb ar 26 Mawrth 2019,[28] a chytunodd y Pwyllgor wedyn ar y weithdrefn ddrafft amlinellol.

17.         Ar 9 Gorffennaf 2019, ystyriodd y Pwyllgor Busnes Reol Sefydlog ddrafft, a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei chynnwys.[29]

Ymgynghoriad â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

18.         Ym mis Gorffennaf 2019, ysgrifennodd y Pwyllgor Busnes at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac ar 16 Medi, cafodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol friff technegol preifat gan Gomisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru ar y Rheol Sefydlog ddrafft.[30]

19.         Cymerodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dystiolaeth hefyd gan y Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o'r weithdrefn ddrafft ar 18 Tachwedd 2019, fel rhan o'i waith craffu ar gynigion ehangach y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Esboniodd y Cwnsler Cyffredinol pa fathau o newidiadau y gellir eu cynnwys mewn Bil cydgrynhoi:

… the sorts of changes I would envisage being made are around clarity, consistency and updating references where they may be superseded or drafting practice may have changed. Now, within each of those areas there will obviously be choices, but the objective is that they shouldn't be policy choices. They should be choices that are within that range of challenges, if you like. [31]

20.       Pwysleisiodd y Cwnsler Cyffredinol fod angen i unrhyw weithdrefn weithredu'n effeithiol, a bod yn seiliedig ar ymddiriedaeth a thryloywder:

… the judgments made in those choices need to be ones that are capable of swiftly assuring committee that they aren't controversial. Because anything else, bluntly, will involve a process that will quickly become unmanageable, both from the Senedd's point of view and from the Government's point of view. So, the dynamic in the system, if you like, is going to be one which, as the Member in charge, the Counsel General probably will wish to be doing this and building up a relationship of trust and transparency with a committee, because that's really the best way that this will be able to work.[32]

21.         Esboniodd hefyd sut y gallai dull cydgrynhoi gynnwys taith gydamserol dau Fil: y "prif Fil cydgrynhoi" a Bil ar wahân ar gyfer diwygiadau canlyniadol.[33]

22.        Ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Pwyllgor Busnes ym mis Hydref a mis Rhagfyr 2019 i amlinellu ei farn ar y Rheol Sefydlog ddrafft. Soniodd y Pwyllgor am sawl agwedd ar y weithdrefn arfaethedig, yn enwedig y math o ddarpariaethau a ganiateir mewn Bil Cydgrynhoi o dan Reol Sefydlog ddrafft 26C.2. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylid adolygu'r weithdrefn ar ôl iddi gael ei defnyddio am y tro cyntaf. Mewn ymateb i gais y Pwyllgor am fwy o eglurder ynghylch ystyr ymadroddion fel 'mân' a 'boddhaol', cafodd y canllawiau drafft i gyd-fynd â'r Rheol Sefydlog newydd eu hailysgrifennu’n sylweddol, er mwyn rhoi mwy o fanylion a chynnwys mwy o enghreifftiau o'r mathau o newidiadau a ganiateir. Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth ar 18 Ionawr 2021, ac yna cyhoeddodd ymateb.[34]


 

2.         Amlinelliad o'r weithdrefn arfaethedig

Ffurf a chyflwyno (RhS 26C.1–8)

23.        Rhaid i Fil Cydgrynhoi gael ei gyflwyno drwy gael ei osod gan aelod o’r Llywodraeth. Pan gaiff ei gyflwyno, rhaid i Fil Cydgrynhoi fod yn ei ffurf briodol, wedi'i gyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg, a rhaid i Femorandwm Esboniadol gyd-fynd ag ef.

24.        Caiff Bil Cydgrynhoi:

          i.             ailddatgan deddfwriaeth bresennol gydag unrhyw newidiadau o ran strwythur, iaith neu fformat sy'n briodol at ddibenion gwella cyflwyniad y gyfraith a sicrhau cysondeb â'r arfer drafftio cyfredol;

         ii.             egluro effaith y gyfraith bresennol neu sut i’w chymhwyso;

        iii.             dileu neu hepgor darpariaethau anarferedig, darfodedig neu rai nad ydynt yn ymarferol ddefnyddiol neu’n ymarferol effeithiol bellach;

        iv.             gwneud mân newidiadau i'r gyfraith bresennol at ddibenion sicrhau bod y gwaith o gydgrynhoi’r gyfraith yn foddhaol;

         v.             gwneud newidiadau eraill i'r gyfraith y mae Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn argymell y byddai’n briodol eu cynnwys mewn Bil Cydgrynhoi;

        vi.             cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed priodol, diwygiadau a diddymiadau canlyniadol i ddarnau o ddeddfwriaeth bresennol (gan gynnwys diwygiadau i sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol yn parhau i weithredu'n gywir mewn perthynas â Lloegr).[35]

Dogfennau cysylltiedig (RhS 26.C9–11)

25.       Rhaid i Femorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â Bil Cydgrynhoi:

          i.             datgan y byddai darpariaethau’r Bil Cydgrynhoi, ym marn yr Aelod, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

         ii.             nodi'r rhesymau dros gyflwyno'r Bil Cydgrynhoi;

        iii.             datgan nad yw'r Bil Cydgrynhoi yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau ac eithrio’r rhai a ganiateir o dan Reol Sefydlog 26C.2;

        iv.             cynnwys tablau sy'n dangos tarddiad y darpariaethau yn y Bil Cydgrynhoi, a ble yn y Bil Cydgrynhoi y cynhwysir y darpariaethau presennol sy’n cael eu cydgrynhoi;

         v.             esbonio sut y mae'r Bil Cydgrynhoi yn gwneud unrhyw newidiadau o'r math a ganiateir o dan Reol Sefydlog 26C.2 (ii) hyd at (v);

        vi.             crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Cydgrynhoi ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil Cydgrynhoi;

      vii.             cadarnhau nad yw darpariaethau'r Bil Cydgrynhoi yn arwain at unrhyw wariant sylweddol ychwanegol sy'n daladwy o Gronfa Gyfunol Cymru, ac os yw’n arwain at wariant ychwanegol, nodi’r amcangyfrifon gorau ar gyfer hyn;

     viii.             nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil Cydgrynhoi ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf;

        ix.             os yw’r Bil Cydgrynhoi yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy'n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi ei farn ef ar a yw'r tâl yn briodol neu beidio.

26.       Rhaid cael datganiad gan yr Aelod sy’n gyfrifol am Fil Cydgrynhoi i gyd-fynd ag ef, yn seiliedig ar gyngor y Cwnsler Cyffredinol (os nad yr Aelod sy’n gyfrifol yw'r Cwnsler Cyffredinol) yn cymeradwyo cywirdeb y Memorandwm Esboniadol ac yn ardystio bod y Bil, ym marn yr Aelod sy’n gyfrifol amdano, yn Fil Cydgrynhoi. Os bydd Bil Cydgrynhoi yn gwneud newidiadau i'r gyfraith y mae Comisiwn y Gyfraith yn ei hargymell, rhaid i'r datganiad gan yr Aelod sy'n gyfrifol hefyd adlewyrchu cyngor Comisiwn y Gyfraith.

Pwyllgor cyfrifol ac amserlennu (Rh S26.C12–13)

27.        Rhaid i'r Pwyllgor Busnes sicrhau bod pwyllgor cyfrifol ar gyfer ystyried Biliau Cydgrynhoi, a allai ddatblygu'r arbenigedd technegol angenrheidiol ar gyfer craffu arnynt. Ni fydd Biliau Cydgrynhoi yn cael eu cyfeirio at y pwyllgorau pwnc perthnasol, gan nad oes unrhyw waith craffu ar bolisi. Mae hyn yn gyson ag argymhellion Comisiwn y Gyfraith a chydag arfer mewn Seneddau eraill.

28.       Rhaid i’r Pwyllgor Busnes hefyd sefydlu amserlen ar gyfer ystyried y Bil Cydgrynhoi. Oherwydd natur a diben Biliau Cydgrynhoi, nid oes darpariaeth ar gyfer Biliau Cydgrynhoi brys. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn atal Deddf a basiwyd yn flaenorol o dan weithdrefn Bil Brys rhag cael ei chynnwys mewn Bil Cydgrynhoi.

Ystyriaeth gychwynnol (RhS 26C.15–21)

29.       Pan fydd Bil Cydgrynhoi wedi’i gyflwyno, rhaid i'r Pwyllgor Busnes ei gyfeirio i’r pwyllgor cyfrifol ar gyfer ystyriaeth gychwynnol.

30.       Bydd gwaith craffu'r pwyllgor cyfrifol yn wahanol i'r hyn a wneir ar gyfer Biliau 'diwygio' o dan Reol Sefydlog 26, gan na fydd unrhyw ystyriaeth o egwyddorion cyffredinol Bil. Yn hytrach, bydd yn archwilio’r Bil ac yn cyflwyno adroddiad yn unig ar a ddylai fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi. Wrth wneud hynny, gall y pwyllgor cyfrifol ystyried y cwestiynau canlynol a chymryd tystiolaeth fel y bo'n briodol:

a.         a yw'n fodlon bod cwmpas y gwaith cydgrynhoi yn briodol;

b.        a yw'n fodlon bod y deddfiadau perthnasol wedi'u cynnwys wrth gydgrynhoi;

c.         a yw'r Bil yn cydgrynhoi'r deddfiadau yn gywir neu a yw'n newid eu heffaith gyfreithiol o ran sylwedd i'r graddau a ganiateir gan Reol Sefydlog 26C.2 yn unig;

d.        a yw'r Bil yn cydgrynhoi'r gyfraith yn glir ac yn gyson;

e.         unrhyw faterion eraill y mae’n barnu eu bod yn berthnasol.

31.         Heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl i'r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad neu ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad fynd heibio, caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Senedd yn cytuno y dylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi. Pe bai'r cynnig yn cael ei basio, caiff y Bil ei gyfeirio'n ôl i’r pwyllgor cyfrifol ar gyfer Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor. Os na chaiff y cynnig ei basio, bydd y Bil yn methu.

Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor (RhS 26.C22-38)

32.        Yn ystod cyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, bydd y pwyllgor cyfrifol yn ystyried gwelliannau i'r Bil (ymdrinnir â natur y gwelliannau ym mharagraffau 45–47 isod). Fel gyda Biliau eraill, gall unrhyw Aelod gyflwyno gwelliannau, ond dim ond aelodau'r pwyllgor cyfrifol all eu cynnig, eu tynnu'n ôl, a phleidleisio arnynt.

33.        Pan fydd yr holl welliannau a gyflwynwyd yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor wedi’u gwaredu, caiff unrhyw aelod o’r pwyllgor cyfrifol gynnig, heb hysbysiad, fod y pwyllgor yn ystyried rhagor o welliannau yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl bellach y Pwyllgor. Ni chaniateir trafod cynnig o’r fath na’i ddiwygio.

34.        Mae hyn yn wahanol i'r weithdrefn ar gyfer Biliau safonol; yn ei hanfod, mae'n cyfateb i 'Gyfnod 2 Pellach'. Gan ei bod yn bosibl na fydd cyfnod diwygio yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer Bil Cydgrynhoi, efallai y bydd yn ofynnol i'r pwyllgor cyfrifol, ar adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, ymdrin â gwelliannau technegol neu 'dacluso' sy'n dilyn 'prif' gyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

35.       Ar ôl cwblhau trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, rhaid i'r pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Senedd ar ganlyniadau ei ystyriaeth fanwl, ac a ddylai'r Senedd, yn ei farn ef, ystyried gwelliannau yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu a ddylai’r Bil fynd yn syth i’r Cyfnod Terfynol.

Ystyriaeth Fanwl y Senedd (RhS 26.C39-57)

36.       Mae'r weithdrefn yn darparu ar gyfer y dewis o gyfnod diwygio yn y Cyfarfod Llawn pe bai angen un. O ystyried y cyfyngiadau sylweddol ar natur a graddau Bil Cydgrynhoi, rhagwelir na fyddai llawer o welliannau yn cael eu cyflwyno, ac fel arfer byddai'r rhain yn cael eu trafod yn ystod cyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor. Fodd bynnag, cydnabyddir y gall fod angen ail gyfnod diwygio o bryd i'w gilydd, y darperir ar ei gyfer yn Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

37.        Felly, os yw'r pwyllgor cyfrifol, yn ystod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, yn argymell y dylai'r Bil fod yn destun Ystyriaeth Fanwl y Senedd, caiff yr argymhelliad ei dderbyn oni bai bod y Senedd yn pasio cynnig y dylai'r Bil symud yn syth i'r Cyfnod Terfynol.

38.       Yn yr un modd, os yw'r pwyllgor cyfrifol yn argymell y dylai'r Bil symud i’r Cyfnod Terfynol, caiff yr argymhelliad ei dderbyn oni bai bod y Senedd yn pasio cynnig y dylai'r Bil fod yn destun Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

39.       Os cynhelir Ystyriaeth Fanwl y Senedd, bydd y Senedd yn ystyried gwelliannau i'r Bil, a gyflwynir gan unrhyw Aelod, fel sy'n digwydd yn nhrafodion Cyfnod 3 ar gyfer Biliau cyhoeddus.

40.       Pan fydd yr holl welliannau a ddetholir yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd wedi’u gwaredu, caiff unrhyw aelod o’r llywodraeth, heb hysbysiad, gynnig bod y Senedd yn ystyried rhagor o welliannau mewn Ystyriaeth Fanwl bellach y Senedd (fel Cyfnod 3 pellach ar gyfer Biliau cyhoeddus).

Cyfnod Terfynol (RhS 6.C58–65)

41.         Ni ellir ystyried cynnig i gytuno ar Fil Cydgrynhoi yn y Cyfarfod Llawn nes bod dwy wythnos eistedd wedi mynd heibio ers i'r pwyllgor cyfrifol wneud argymhelliad y dylai'r Bil symud i'r Cyfnod Terfynol. Mae hyn yn darparu ffenestr ddiogel ar gyfer ysgogi Ystyriaeth Fanwl y Senedd pe bai'r Senedd yn penderfynu bod angen gwneud hynny. Fel arall, gellir cynnal y Cyfnod Terfynol bum diwrnod gwaith ar ôl cwblhau Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu ar ôl i'r Senedd gytuno y gall y Bil symud yn syth i'r Cyfnod Terfynol.

42.        Cynhelir y Cyfnod Terfynol yn y Cyfarfod Llawn ac mae'n cynnwys dadl a phleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod y Bil Cydgrynhoi yn cael ei basio.

43.        Fel gyda Biliau eraill, cyn gwneud cynnig Cyfnod Terfynol, rhaid i’r Llywydd ddatgan, yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Cydgrynhoi, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig. Os yw o’r farn ei fod, dim ond os yw'r nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd y caiff y Bil ei basio.

Ailystyried Biliau Cydgrynhoi a basiwyd ac a wrthodwyd (RhS 26.C66–72)

44.        Mae Biliau Cydgrynhoi yn ddarostyngedig i'r un gweithdrefnau ailystyried â Biliau eraill, pe bai unrhyw ddarpariaeth mewn Bil yn cael ei chyfeirio at y Goruchaf Lys ac yn cael ei dyfarnu i fod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gwelliannau i Filiau Cydgrynhoi (RhS 26.C78–87)

45.       Mae'r un rheolau'n gymwys ag ar gyfer gwelliannau i Filiau cyhoeddus eraill o dan Reol Sefydlog 26. Ni fyddai gwelliant yn dderbyniadwy:

§    os nad yw ar ei ffurf briodol;

§    os nad yw’n berthnasol i’r Bil Cydgrynhoi neu ddarpariaethau’r Bil Cydgrynhoi y byddai’n ei ddiwygio; neu

§    os yw’n anghyson â phenderfyniad sydd eisoes wedi’i wneud yn y Cyfnod pryd y mae’r gwelliant yn cael ei gynnig.

46.       Yn ogystal, nid yw gwelliannau i Filiau Cydgrynhoi yn dderbyniadwy os byddent yn achosi i'r Bil beidio â bod yn Fil Cydgrynhoi drwy wneud newidiadau y tu hwnt i'r hyn y caiff Bil Cydgrynhoi ei wneud. Mewn gwirionedd, dim ond darpariaethau y gellid bod wedi'u cynnwys yn y Bil Cydgrynhoi wrth ei gyflwyno y gall gwelliannau eu gwneud.

47.        Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i bob cyfnod diwygio ac eithrio'r Cyfnod Ailystyried. Yn y Cyfnod Ailystyried, byddai gwelliannau, at ddiben datrys y mater y barnwyd ei fod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gan y Goruchaf Lys, yn dderbyniadwy hyd yn oed pe baent yn mynd y tu hwnt i'r hyn fyddai, fel arfer, yn cael ei ganiatáu ar gyfer Bil Cydgrynhoi.

Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw, hysbysiad o Gydsyniad Brenhinol i Ddeddfau'r Senedd, a methiant, gwrthod neu dynnu Biliau Cydgrynhoi yn ôl (RhS 26.C88–92)

48.       Mae gweithdrefnau mewn perthynas â chydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw, hysbysiad o Gydsyniad Brenhinol i Ddeddfau'r Senedd, a methiant, gwrthod neu dynnu Biliau yn ôl yn gymwys yn yr un modd ag ar gyfer Biliau eraill.

Ymdrin â darpariaethau canlyniadol

49.       Mae unrhyw waith cydgrynhoi yn debygol o greu nifer sylweddol o welliannau i ddeddfwriaeth bresennol nad yw ei hun yn rhan o'r cydgrynhoi. Ymdrinnir â gwelliannau o'r fath yng nghynnwys Biliau diwygio o dan Reol Sefydlog 26 fel arfer mewn Atodlen i'r Bil diwygio, neu fel arall mewn gorchymyn darpariaethau canlyniadol a wneir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ddiweddarach.

50.       Fel y nodwyd ym mharagraff 21, mae'n bosibl y gellir cyflwyno gwelliannau canlyniadol i Fil Cydgrynhoi mewn Bil ar wahân. Byddai hyn yn golygu cyflwyno dau Fil neu fwy fel pecyn – y 'prif' Fil Cydgrynhoi (neu Filiau) yn cynnwys y darpariaethau cydgrynhoi, a Bil 'canlyniadol' – yn cynnwys gwelliannau canlyniadol i ddeddfwriaeth bresennol yng ngoleuni'r prif Fil. Bydd y ddau Fil yn dod o fewn y diffiniad o Fil Cydgrynhoi o dan y Rheol Sefydlog, ond bydd pob un yn mynd i'r afael â gwahanol agweddau ar gydgrynhoi.

51.         Rhagwelir y byddai'r pecyn o Filiau yn teithio drwy'r Senedd gyda'i gilydd (h.y. cyflwyno, craffu, diwygio a phleidleisio) ac y byddant yn sefyll neu'n methu gyda’i gilydd (drwy grwpio'r cynigion perthnasol) adeg yr Ystyriaeth Gychwynnol a'r Cyfnod Terfynol. Os cânt eu pasio gan y Senedd, byddent yn dod yn Ddeddfau ar wahân.

52.       Mae'r weithdrefn yn galluogi hyn i ddigwydd, heb ddarparu ar ei gyfer yn benodol. O ganlyniad, bydd angen i'r camau diwygio ar gyfer y ddau Fil ddigwydd yn olynol, naill ai yn yr un Cyfarfod Llawn neu gyfarfod pwyllgor, neu mewn rhai ar wahân. Yn y naill achos neu'r llall, disgwylir y byddai'r ‘prif’ Fil yn cael ei gymryd yn gyntaf.


 

3.         Adolygu

53.       Mae'n arferol pan gyflwynir gweithdrefnau newydd arwyddocaol fel hyn i adolygu eu gweithrediad ar ôl cael rhywfaint o brofiad o'u defnyddio'n ymarferol. Mae'r Pwyllgor Busnes yn disgwyl y bydd ei bwyllgor olynol yn cynnal adolygiad o'r fath, ac y byddai'n ymgynghori â Llywodraeth Cymru, y pwyllgor cyfrifol, ac eraill i lywio'r adolygiad hwnnw a chanfod unrhyw feysydd o'r weithdrefn sydd angen eu diwygio.

4.         Penderfyniad

54.       Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig cyflwyno Rheol Sefydlog 26C ar 2 Mawrth 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynnig i newid y Rheolau Sefydlog yn Atodiad A ac i nodi canllawiau'r Llywydd yn Atodiad B.

 


Atodiad A – Rheol Sefydlog 26C arfaethedig ar Filiau Cydgrynhoi, a nodiadau esboniadol

RHEOL SEFYDLOG 26C – Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd

RHEOL SEFYDLOG 26C – Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd

Cyflwyno Teitl Rheol Sefydlog newydd

 

Ffurf Biliau Cydgrynhoi a Sut i’w Cyflwyno

Cyflwyno is-bennawd newydd

Yn dilyn fformat yr is-bennawd yn Rheol Sefydlog 26.

26C.1

Bil a gyflwynwyd gan aelod o'r llywodraeth at ddibenion cydgrynhoi deddfwriaeth sylfaenol bresennol, is-ddeddfwriaeth a’r gyfraith gyffredin yw Bil Cydgrynhoi.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn nodi'r diffiniad o Fil Cydgrynhoi, at ddibenion y Rheol Sefydlog hon a'r weithdrefn a nodir ynddi.

26C.2

Caiff Bil Cydgrynhoi:

(i)      ailddatgan deddfwriaeth bresennol ag unrhyw newidiadau o ran strwythur, iaith neu fformat sy'n briodol at ddibenion gwella cyflwyniad y gyfraith a sicrhau cysondeb â'r arfer drafftio cyfredol;

(ii)     egluro effaith y gyfraith bresennol neu sut i’w chymhwyso;

(iii)    dileu neu hepgor darpariaethau anarferedig, darfodedig neu rai nad ydynt yn ymarferol ddefnyddiol neu’n ymarferol effeithiol bellach;

(iv)    gwneud mân newidiadau i'r gyfraith bresennol at ddibenion sicrhau bod y gwaith o gydgrynhoi’r gyfraith yn foddhaol;

(v)     gwneud newidiadau eraill i'r gyfraith y mae Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn argymell y byddai’n briodol eu cynnwys mewn Bil Cydgrynhoi;

(vi)    cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed priodol, diwygiadau a diddymiadau canlyniadol i ddarnau o ddeddfwriaeth bresennol (gan gynnwys diwygiadau i sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol yn parhau i weithredu'n gywir mewn perthynas â Lloegr).

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn esbonio sut y caiff Bil Cydgrynhoi ailddatgan y gyfraith drwy nodi, er na chaiff Bil Cydgrynhoi newid effaith y gyfraith, (ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn (iii) hyd at (vi)) y caiff newid y ffordd y mynegir yr effaith honno.

Bydd rhagor o fanylion am natur a chwmpas y Biliau Cydgrynhoi yn cael eu nodi yn y canllawiau a gyhoeddir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26C.3.

26C.3

Ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, caiff y Llywydd roi canllawiau ysgrifenedig i Aelodau ynglŷn â dehongli Rheolau Sefydlog 26C.1 a 26C.2, a sut y mae Rheol Sefydlog 26C yn gweithredu’n gyffredinol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol hon yn ymhelaethu ar Reol Sefydlog 6.17 sy’n caniatáu i'r Llywydd roi canllawiau ysgrifenedig. Cyflwynir y Rheol hon am fod angen tryloywder wrth roi canllawiau a gwneud penderfyniadau, yn yr un modd ag y mae angen tryloywder mewn rhannau eraill o'r weithdrefn.

26C.4

Caniateir i Fil Cydgrynhoi gael ei gyflwyno ar ddiwrnod gwaith mewn wythnos eistedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol hon yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.1 ac yn ei diwygio’n briodol, gan ddileu'r cyfeiriad at Reolau Sefydlog sy'n berthnasol i Filiau Aelodau a Biliau Pwyllgorau yn unig.

26C.5

Rhaid i Fil Cydgrynhoi gael ei gyflwyno drwy gael ei osod.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.2 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.6

Rhaid peidio â gosod Bil Cydgrynhoi oni bai ei fod ar y ffurf briodol yn unol ag unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Llywydd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.3 ac yn ei diwygio’n briodol.

Bydd angen i'r Llywydd ystyried a fydd angen newid y penderfyniad ar gyfer Biliau mewn unrhyw ffordd ar gyfer Biliau Cydgrynhoi.

26C.7

Pan gyflwynir Bil Cydgrynhoi, rhaid cael datganiad Cymraeg a Saesneg gan y Llywydd i gyd-fynd ag ef a rhaid i’r datganiad hwnnw:

(i)      nodi a fyddai darpariaethau’r Bil Cydgrynhoi, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; a

(ii)     nodi unrhyw ddarpariaethau na fyddent, ym marn y Llywydd, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a’r rhesymau dros y farn honno.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.4 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.8

Rhaid i Fil Cydgrynhoi gael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

 

Mae'r Llywodraeth wedi nodi nad yw'n rhagweld y bydd amgylchiadau pan fyddai Bil yn cael ei gyflwyno mewn un iaith yn unig. Felly, mae’r Rheol hon yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.5, ond heb y ddarpariaeth ar gyfer Biliau uniaith.

 

 

Dogfennau i Gyd-fynd â Bil Cydgrynhoi

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.9

Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cyflwyno Bil Cydgrynhoi, rhaid iddo osod Memorandwm Esboniadol y mae’n rhaid iddo:

(i)      datgan y byddai darpariaethau’r Bil Cydgrynhoi, ym marn yr Aelod, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd;

(ii)     nodi'r rhesymau dros gyflwyno'r Bil Cydgrynhoi;

(iii)    datgan nad yw'r Bil Cydgrynhoi yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau ac eithrio’r rhai a ganiateir o dan Reol Sefydlog 26C.2;

(iv)    cynnwys tablau sy'n dangos tarddiad y darpariaethau yn y Bil Cydgrynhoi, a ble yn y Bil Cydgrynhoi y cynhwysir y darpariaethau presennol sy’n cael eu cydgrynhoi;

(v)     esbonio sut y mae'r Bil Cydgrynhoi yn gwneud unrhyw newidiadau o'r math a ganiateir o dan Reol Sefydlog 26C.2 (ii) hyd at (v);

(vi)    crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil Cydgrynhoi ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil Cydgrynhoi;

(vii)   cadarnhau nad yw darpariaethau'r Bil Cydgrynhoi yn arwain at unrhyw wariant sylweddol ychwanegol sy'n daladwy o Gronfa Gyfunol Cymru, ac os yw’n arwain at wariant ychwanegol, nodi’r amcangyfrifon gorau ar gyfer hyn;

(viii)  nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil Cydgrynhoi ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf;

(ix)    os yw’r Bil Cydgrynhoi yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy'n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi ei farn ef ar a yw'r tâl yn briodol neu beidio.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Ar gyfer Biliau Cydgrynhoi, mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd ei hangen mewn Memorandwm Esboniadol o dan Reol Sefydlog 26.6 ar gyfer Biliau cyffredin yn amherthnasol, ac mae angen gwybodaeth arall nad yw'n berthnasol ar gyfer Biliau cyffredin. Mae'r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig yn nodi'r darnau o wybodaeth sy'n berthnasol, neu a allai fod yn berthnasol.

Cynigir y dylid parhau i gyfeirio at y wybodaeth gyfunol hon fel 'Memorandwm Esboniadol' er hwylustod, er y bydd yn wahanol i Femorandwm Esboniadol arferol o dan Reol Sefydlog 26.

 

 

26C.10

Rhaid i'r Memorandwm Esboniadol i'r Bil Cydgrynhoi ddatgan lle ynddo yn union y gellir dod o hyd i bob un o ofynion Rheol Sefydlog 26C.9, drwy gyfrwng mynegai neu mewn rhyw ffordd arall.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.6A ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.11

Pan gyflwynir y Bil Cydgrynhoi, rhaid cael datganiad gan yr Aelod sy’n gyfrifol amdano i gyd-fynd ag ef, yn seiliedig ar gyngor y Cwnsler Cyffredinol (os nad yr Aelod sy’n gyfrifol yw'r Cwnsler Cyffredinol) a, lle y bo'n berthnasol, Comisiwn y Gyfraith, yn cymeradwyo cywirdeb y Memorandwm Esboniadol ac yn ardystio bod y Bil, ym marn yr Aelod sy’n gyfrifol amdano, yn Fil Cydgrynhoi o fewn ystyr Rheol Sefydlog 26C.1 a 26C.2.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Cynigir bod angen datganiad o'r fath i hyrwyddo ffydd ar ran deddfwyr bod Bil Cydgrynhoi yn addas ar gyfer y dull symlach o graffu a nodir yn Rheol Sefydlog 26C.

Mae hyn yn adlewyrchu’r drefn yn San Steffan, lle y mae’n hollbwysig bod gan y deddfwr ffydd yn y sicrwydd a roddir gan Gomisiwn y Gyfraith na chaiff y gyfraith ei newid yn fwy nag sydd angen i gydgrynhoi’r statudau presennol yn foddhaol; ac mae'n cyd-fynd yn fras ag argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru (yn Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru).

Dim ond pan fydd y Bil yn cynnwys darpariaethau o dan Reol Sefydlog 26C.2(v) y bydd angen cyngor gan Gomisiwn y Gyfraith.

 

Y Pwyllgor Cyfrifol

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.12

Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i'r Pwyllgor Busnes sicrhau bod pwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26C fel “y pwyllgor cyfrifol”) sydd â chyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 26C.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Dylid cyfeirio Biliau Cydgrynhoi naill ai at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad neu bwyllgor a sefydlwyd yn benodol at y diben hwnnw, a gallai'r naill neu'r llall wedyn ddatblygu'r arbenigedd technegol gofynnol.

 

Yr Amserlen ar gyfer Ystyried Bil Cydgrynhoi

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.13

Rhaid i’r Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen ar gyfer ystyried Bil Cydgrynhoi, ac eithrio unrhyw gyfnod a gymerir yn y cyfarfod llawn (y mae’n rhaid ei drefnu o dan ddarpariaethau Rheol Sefydlog 11.12).

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.7 ac yn ei diwygio’n briodol, gan ddileu'r cyfeiriad at 11.7(ii) oherwydd y bydd pob Bil Cydgrynhoi yn fusnes y Llywodraeth. Bydd yr amserlen y cytunwyd arni gan y Pwyllgor Busnes yn cynnwys terfynau amser i'r pwyllgor cyfrifol adrodd ar ei Ystyriaeth Gychwynnol, ac iddo gwblhau a chyflwyno adroddiad ar Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

26C.14

Caiff y Pwyllgor Busnes wneud unrhyw newidiadau dilynol mewn amserlen a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 26C.13 ag y gwêl yn dda ond rhaid iddo roi rhesymau dros y newidiadau hynny.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.8 ac yn ei diwygio’n briodol.

 

Yr Ystyriaeth Gychwynnol

Cyflwyno is-bennawd newydd

Mae hyn yn wahanol i Reol Sefydlog 26, gan na fydd ystyriaeth ar yr 'egwyddorion cyffredinol' ar gyfer Biliau Cydgrynhoi. Bydd y pwyllgor cyfrifol yn ystyried y Bil ac yn cyflwyno adroddiad sy’n trafod a ddylai fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi yn unig.

Er mwyn osgoi dryswch â'r weithdrefn ar gyfer Biliau cyffredin o dan Reol Sefydlog 26, yr enw ar y cyfnod hwn fydd 'Ystyriaeth Gychwynnol', yn hytrach na 'Cyfnod 1'.

26C.15

Pan fydd Bil Cydgrynhoi wedi’i gyflwyno, rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio'r Bil Cydgrynhoi at y pwyllgor cyfrifol ar gyfer yr ystyriaeth gychwynnol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae hyn yn wahanol i'r ddarpariaeth ar gyfer Biliau cyffredin gan fod yn rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio'r Bil Cydgrynhoi at y pwyllgor cyfrifol. Mae’r drefn yn wahanol am fod y Pwyllgor yn chwarae rôl allweddol wrth benderfynu a gaiff y Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi ai peidio.

26C.16

Pan fydd y Pwyllgor Busnes yn cyfeirio'r Bil Cydgrynhoi at y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 26C.15, rhaid i'r pwyllgor cyfrifol hwnnw ystyried a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi a chyflwyno adroddiad ar hynny.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Gan mai pwrpas Bil Cydgrynhoi yw cydgrynhoi'r gyfraith fel y mae eisoes, rôl y Pwyllgor yw cyflwyno adroddiad sy’n trafod a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi – h.y. a yw'r Bil yn dod o fewn y diffiniad o Fil Cydgrynhoi ac a yw'n cymeradwyo cydgrynhoi’r gyfraith yn y modd hwn – yn hytrach nag ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil o safbwynt polisi.

26C.17

Wrth ystyried a ddylai Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi, caiff y pwyllgor cyfrifol ystyried:

(i)      a yw'r Pwyllgor yn fodlon bod cwmpas y gwaith cydgrynhoi yn briodol;

(ii)     a yw'r Pwyllgor yn fodlon bod y deddfiadau perthnasol wedi'u cynnwys wrth gydgrynhoi;

(iii)    a yw'r Bil yn cydgrynhoi'r deddfiadau yn gywir neu a yw'n newid eu heffaith gyfreithiol o ran sylwedd i'r graddau a ganiateir gan Reol Sefydlog 26C.2 yn unig;

(iv)    a yw'r Bil yn cydgrynhoi'r gyfraith yn glir ac yn gyson;

(v)     unrhyw faterion eraill y mae’n barnu eu bod yn berthnasol i Reol Sefydlog 26C.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn nodi rhai cwestiynau y caiff y pwyllgor cyfrifol eu hystyried wrth benderfynu a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi ai peidio wrth gyflwyno adroddiad o dan Reol Sefydlog 26C.16. Ni chynlluniwyd y rhestr i fod yn gynhwysfawr, ac mae is-baragraff (v) yn galluogi'r pwyllgor i ystyried unrhyw faterion y mae'n barnu eu bod yn berthnasol.

26C.18

Heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl naill ai:

(i)      i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad sy’n trafod a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi; neu

(ii)     y dyddiad cau erbyn pryd y mae'n ofynnol i'r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad,

caiff yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil gynnig bod y Senedd yn cytuno y dylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd ddrafft hon yn adlewyrchu darpariaethau Rheol Sefydlog 26.11, ond bydd adroddiad y pwyllgor a chynnig y Senedd yn ymdrin â ph’un a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi yn hytrach na’r egwyddorion cyffredinol.

26C.19

Os bydd y Senedd yn cytuno y dylai’r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi, mae’r Bil yn symud ymlaen i Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.13 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.20

Os na fydd y Senedd yn cytuno y dylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi, mae’r Bil yn methu.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.14 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.21

Mae’r Ystyriaeth Gychwynnol ar ben pan fydd y Senedd yn cytuno y dylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi neu pan fydd y Bil Cydgrynhoi yn methu adeg yr Ystyriaeth Gychwynnol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.15 ac yn ei diwygio’n briodol.

 

Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Cyflwyno is-bennawd newydd

Mae’r Rheol yn newid enw 'Cyfnod 2' yn Rheol Sefydlog 26C i adlewyrchu'r weithdrefn newydd a gynigiwyd sy'n wahanol i Gyfnodau 1-4 yn Rheol Sefydlog 26.

26C.22

Rhaid i'r pwyllgor cyfrifol ymgymryd ag Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

O ystyried mai rôl y pwyllgor yw cyflwyno adroddiad sy’n trafod a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi yn unig, cynigir cyfeirio pob Bil Cydgrynhoi at un pwyllgor a fydd yn datblygu arbenigedd, yn hytrach na chyfeirio Biliau at y pwyllgor pwnc perthnasol.

26C.23

Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r Ystyriaeth Gychwynnol ddod i ben.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.16 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.24

Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor a dyddiad y cyfarfod cyntaf y bydd y pwyllgor cyfrifol yn ystyried gwelliannau i’r Bil Cydgrynhoi.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.18 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.25

Caniateir i Fil Cydgrynhoi gael ei ddiwygio yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.19 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.26

Caniateir i welliannau sydd i’w hystyried yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r diwrnod cyntaf y bydd Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn dechrau.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.20 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.27

Mae’r gwelliannau i’w gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Cydgrynhoi, oni bai bod y pwyllgor sy’n ymgymryd â thrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor wedi penderfynu fel arall.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.21 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.28

Dim ond Aelod sy’n aelod o’r pwyllgor sy’n ymgymryd â thrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor a gaiff gymryd rhan yn y trafodion hynny er mwyn:

(i)      cynnig gwelliant neu ofyn am gytundeb i dynnu gwelliant yn ôl; neu

(ii)     pleidleisio.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.22 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.29

Caniateir i welliant a gyflwynir gan Aelod nad yw’n aelod o’r pwyllgor sy’n ymgymryd â thrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor gael ei gynnig gan aelod o’r pwyllgor.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.23 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.30

Pan fydd yr holl welliannau a ddetholwyd yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor wedi’u gwaredu, caiff unrhyw aelod o’r pwyllgor gynnig, heb hysbysiad, fod y pwyllgor yn ystyried rhagor o welliannau yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor. Ni chaniateir trafod cynnig o’r fath na’i ddiwygio.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.39, y weithdrefn ar gyfer Cyfnod 3 pellach, ac yn ei diwygio’n briodol.

Gan ei bod yn bosibl na fydd cyfnod diwygio yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer pob Bil Cydgrynhoi, cynigir cyflwyno 'Cyfnod Ystyriaeth Bellach y Pwyllgor', i'w gynnal gan y pwyllgor, i ymdrin â gwelliannau technegol yn sgil ‘prif’ Gyfnod Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor o dan Reolau Sefydlog 26C.22-29.

26C.31

Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.30, caiff unrhyw aelod o’r llywodraeth gyflwyno gwelliannau i’r Bil Cydgrynhoi i’w cynnig yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl Bellach y Pwyllgor.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.40, y weithdrefn ar gyfer Cyfnod 3 pellach, ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.32

Yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26C.85, dim ond os ydynt wedi’u bwriadu i egluro darpariaeth mewn Bil Cydgrynhoi (gan gynnwys sicrhau cysondeb rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg) neu i weithredu ymrwymiadau a roddwyd yn nhrafodion cynharach Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y mae gwelliannau o dan Reol Sefydlog 26C.31 yn dderbyniadwy.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.41, y weithdrefn ar gyfer Cyfnod 3 pellach, ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.33

Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Cydgrynhoi neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran neu’r atodlen honno wedi’i waredu, bernir bod y pwyllgor wedi derbyn yr adran neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.24 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.34             

Os na chyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Cydgrynhoi neu atodlen iddo, bernir bod y pwyllgor wedi derbyn yr adran neu’r atodlen honno at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.25 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.35

Mae Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i derbyn, pa un bynnag yw’r olaf.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.26 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.36

Ar ôl cwblhau trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, rhaid i'r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar ganlyniadau ei ystyriaeth fanwl, ac a ddylai'r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen i Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu i'r Cyfnod Terfynol yn ei farn ef.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Cynigir y dylai'r Pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad yn nodi a yw'n ystyried y dylid rhoi cyfle i'r Senedd gyfan ystyried gwelliannau pellach, neu a ddylai'r Bil fynd rhagddo i'r Cyfnod Terfynol.

26C.37

Os caiff Bil Cydgrynhoi ei ddiwygio yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol amdano baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, oni bai bod y pwyllgor sy'n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn penderfynu nad oes angen Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.27 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.38

Rhaid i unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a gaiff ei baratoi o dan Reol Sefydlog 26C.37 gael ei osod o leiaf pum niwrnod gwaith cyn dyddiad trafodion y Cyfnod Terfynol neu, lle bo’n berthnasol, trafodion cyntaf Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.28 ac yn ei diwygio’n briodol.

 

Ystyriaeth Fanwl y Senedd

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.39

Os bydd y pwyllgor cyfrifol yn adrodd adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y dylai'r Senedd ystyried gwelliannau adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd, bydd y Bil Cydgrynhoi yn symud ymlaen i Ystyriaeth Fanwl y Senedd, oni bai bod y Senedd yn derbyn cynnig y dylai'r Bil Cydgrynhoi symud yn syth i'r Cyfnod Terfynol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mewn sefyllfa o'r fath pan fo’r pwyllgor cyfrifol o'r farn bod rhai o ddarpariaethau'r Bil yn golygu y dylid rhoi cyfle i'r Senedd gyfan ystyried gwelliannau, cynigir y dylai'r Bil symud ymlaen yn uniongyrchol i Gyfnod Ystyriaeth Fanwl y Senedd oni bai bod y Senedd yn derbyn cynnig i beidio â rhoi’r cyfnod diwygio dewisol ar waith o dan Reol Sefydlog 26C.41.

26C.40

Os bydd y pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar y Bil Cydgrynhoi ac wedi argymell y dylai’r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen i'r Cyfnod Terfynol, neu os bydd y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n rhaid i’r pwyllgor gyflwyno adroddiad wedi mynd heibio, bydd y Bil Cydgrynhoi yn symud ymlaen i'r Cyfnod Terfynol, oni bai bod y Senedd yn derbyn cynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig yn nodi’r gwrthwyneb i’r amgylchiadau yn Rheol Sefydlog 26C.39 lle gellir gwneud cynnig am Ystyriaeth Fanwl y Senedd, pe bai'r pwyllgor yn argymell y dylai’r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen yn syth i'r Cyfnod Terfynol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer sefyllfa pe na bai’r pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad erbyn y dyddiad cau a bennwyd gan y Pwyllgor Busnes.

Mae hyn yn debyg i ddarpariaethau mewn rhannau eraill o’r Rheolau Sefydlog, ac mae'n cyd-fynd â’r weithdrefn ar gyfer Biliau Cydgrynhoi mewn mannau eraill.

Cynigir na chaiff cyfnod Ystyriaeth y Senedd gyfan, i drafod gwelliannau, ei gynnal yn awtomatig. Os na fydd y pwyllgor cyfrifol yn argymell hynny adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig i roi’r weithdrefn (lawnach) hon ar waith drwy gyflwyno cynnig.

Mae'r cynnig hwn yn cyd-fynd â gweithdrefnau cydgrynhoi yn Seneddau'r Alban, San Steffan a Seland Newydd, lle ceir gweithdrefnau byrrach, symlach fel rheol ar gyfer Biliau Cydgrynhoi nad ydynt yn ddadleuol.

26C.41

Rhaid i'r Senedd ystyried cynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26C.39 neu 26C.40. Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig o'r fath, a chaniateir ei drafod ond ni chaniateir ei ddiwygio.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

26C.42

Mae Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn dechrau naill ai:

(i)      dwy wythnos eistedd ar ôl i’r pwyllgor cyfrifol adrodd adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor y dylai'r Senedd ystyried gwelliannau adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd (ac nad yw’r Senedd yn derbyn cynnig y dylai'r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen yn syth i'r Cyfnod Terfynol yn y cyfamser); neu

(ii)     y diwrnod ar ôl i’r Senedd dderbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 y dylai’r Senedd ystyried gwelliannau adeg Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.29 ac yn ei diwygio’n briodol. Mae'r Rheol Sefydlog ddrafft wedi'i chynllunio i ganiatáu digon o amser (dwy wythnos eistedd) i Aelod gyflwyno cynnig y dylai’r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen yn syth i'r Cyfnod Terfynol, os bydd y pwyllgor, adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, yn argymell y dylai’r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen i Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

26C.43

Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau Ystyriaeth Fanwl y Senedd a dyddiad cyfarfod cyntaf y Senedd sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.30 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.44

Rhaid i drafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd ar Fil Cydgrynhoi gael eu hystyried gan y Senedd mewn cyfarfod llawn.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.31 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.45

Caniateir i Fil Cydgrynhoi gael ei ddiwygio yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.32 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.46

Caniateir i welliannau sydd i’w hystyried yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r diwrnod cyntaf y bydd Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn dechrau.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.33 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.47

Caiff y Llywydd ddethol y gwelliannau hynny yr ymdrinnir â hwy yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.34 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.48

O dan amgylchiadau eithriadol, caiff y Llywydd dderbyn gwelliant yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd y rhoddwyd llai o hysbysiad ohono na’r hyn sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 26C.83. Cyfeirir at welliant o’r fath fel “gwelliant hwyr”.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.35 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.49

Mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Cydgrynhoi, oni bai bod y Senedd wedi penderfynu fel arall drwy gynnig gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.36 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.50

Drwy gynnig heb hysbysiad gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth, caiff y Senedd gytuno ar un neu fwy o derfynau amser sydd i fod yn gymwys mewn dadleuon ar welliannau (fel y maent wedi’u grwpio gan y Llywydd).

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.37 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.51

Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.50, rhaid i’r dadleuon ar y grwpiau hynny o welliannau gael eu gorffen erbyn y terfynau amser a bennwyd yn y cynnig, ac eithrio i’r graddau y mae’r Llywydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol:

(i)      am fod peidio â chynnig gwelliant wedi arwain at newid trefn trafod y grwpiau; neu

(ii)     i atal unrhyw ddadl ar grŵp o welliannau sydd eisoes wedi dechrau pan gyrhaeddir y terfyn amser rhag cael ei chwtogi’n afresymol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.38.

26C.52

Pan fydd yr holl welliannau a ddetholwyd yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd wedi’u gwaredu, caiff unrhyw aelod o’r llywodraeth, heb hysbysiad, gynnig bod y Senedd yn ystyried rhagor o welliannau mewn trafodion Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd. Ni chaniateir trafod cynnig o’r fath na’i ddiwygio.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.39 ac yn ei diwygio’n briodol.

Cynigir cyflwyno 'Cyfnod Ystyriaeth Bellach y Senedd', i'w gynnal yn ystod y Cyfarfod Llawn, i ymdrin ag unrhyw welliannau technegol yn sgil 'prif' Gyfnod Ystyriaeth y Senedd o dan Reolau Sefydlog 26C.42-57.

26C.53

Os derbynnir cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.52, caiff unrhyw aelod o’r llywodraeth gyflwyno gwelliannau i’r Bil Cydgrynhoi i’w cynnig yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.40 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.54

Yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26C.85, dim ond os ydynt wedi’u bwriadu i egluro darpariaeth mewn Bil Cydgrynhoi (gan gynnwys sicrhau cysondeb rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg) neu i weithredu ymrwymiadau a roddwyd yn nhrafodion cynharach Ystyriaeth Fanwl y Senedd y mae gwelliannau o dan Reol Sefydlog 26C.53 yn dderbyniadwy.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.41 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.55

Os cyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Cydgrynhoi neu atodlen iddo, pan fydd y gwelliant olaf i’r adran neu’r atodlen honno wedi’i waredu, bernir bod y Senedd wedi derbyn yr adran neu’r atodlen honno fel y’i diwygiwyd, neu fel arall, at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.42 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.56

Os na chyflwynir gwelliant i adran o’r Bil Cydgrynhoi neu atodlen iddo, bernir bod y Senedd wedi derbyn yr adran neu’r atodlen honno at ddibenion trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.43 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.57

Mae Ystyriaeth Fanwl y Senedd ar ben pan fydd y gwelliant olaf wedi’i waredu neu pan fernir bod yr adran neu’r atodlen olaf wedi’i derbyn, pa un bynnag yw’r olaf.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.44 ac yn ei diwygio’n briodol.

 

Y Cyfnod Terfynol

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.58

Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i basio Bil Cydgrynhoi, ond ni chaiff ei ystyried hyd nes naill ai:

(i)      dwy wythnos eistedd o leiaf naill ai:

(a)     ar ôl i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor o ran y Bil Cydgrynhoi a’i fod wedi argymell y dylai'r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen i'r Cyfnod Terfynol; neu

(b)    ar ôl i’r dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i'r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad wedi mynd heibio;

          (ac nad yw’r Senedd wedi derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.40 y dylai’r Senedd ystyried gwelliannau yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn y cyfamser); neu

(ii)     o leiaf pum diwrnod gwaith naill ai:

(a)     ar ôl i’r Senedd dderbyn cynnig y dylai'r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen yn syth i'r Cyfnod Terfynol o dan Reol Sefydlog 26C.39; neu

(b)    ar ôl cwblhau trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd, os cawsant eu cynnal.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.47 ac yn ei diwygio’n briodol. Mae'r Rheol Sefydlog ddrafft wedi'i chynllunio i ganiatáu digon o amser (dwy wythnos eistedd) i Aelod gyflwyno cynnig y dylid cynnal Ystyriaeth Fanwl y Senedd cyn y gellid trafod cynnig i dderbyn y Bil, os bydd y pwyllgor, ar adeg Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, yn argymell y dylai’r Bil Cydgrynhoi symud ymlaen i’r Cyfnod Terfynol,  neu os bydd y pwyllgor yn methu â chyflwyno adroddiad.

 

Mae’n annhebygol iawn y bydd sefyllfa’n codi lle cyflwynwyd cynnig ar gyfer Ystyriaeth Fanwl y Senedd ynghyd â chynnig ar gyfer Cyfnod Terfynol; pe bai hynny'n digwydd, byddai’n fater i'r Pwyllgor Busnes ei ddatrys.

26C.59

Rhaid i gynnig o dan Reol Sefydlog 26C.58 gael ei gyflwyno o leiaf un diwrnod gwaith cyn y caiff ei drafod.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.47A ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.60

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig y dylai Bil Cydgrynhoi gael ei basio.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.49 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.61

Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Cydgrynhoi yn cael ei basio oni bai bod testun y Bil Cydgrynhoi ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.50 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.62

Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Cydgrynhoi yn cael ei basio nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau’r Bil Cydgrynhoi, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.50A ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.63

Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Cydgrynhoi, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil ei basio oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.50B ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.64

Rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig bod Bil Cydgrynhoi yn cael ei basio.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.50C ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.65

Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 12.31(ii) mewn unrhyw drafodion Cyfnod Terfynol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.51 ac yn ei diwygio’n briodol.

 

Ailystyried Biliau Cydgrynhoi a Basiwyd

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.66

Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai'r Senedd ailystyried y Bil Cydgrynhoi:

(i)            os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed mewn perthynas â’r Bil Cydgrynhoi o dan adran 112 o’r Ddeddf na fyddai'r Bil Cydgrynhoi neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd; neu

(ii)          os gwneir gorchymyn mewn perthynas â'r Bil Cydgrynhoi  o dan adran 114 o'r Ddeddf.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.53 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.67

Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.69, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.53A ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.68

Mae Rheolau Sefydlog 26C.43 i 26C.47 a 26C.49 i 26.57 yn gymwys i drafodion y Cyfnod Ailystyried. Dylid dehongli cyfeiriadau at “Ystyriaeth Fanwl y Senedd” ac “Ystyriaeth Fanwl Bellach y Senedd” yn gyfeiriadau at “y Cyfnod Ailystyried” a’r “Cyfnod Ailystyried pellach” yn unol â hynny.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.54 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.69

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Cydgrynhoi yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26C.82 (i), (ii) a (iv), ac ym marn y Llywydd, wedi'u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy'n destun y canlynol:;

(i)      penderfyniad y Goruchaf Lys; neu

(ii)     y Gorchymyn o dan adran 114 o'r Ddeddf.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.55 ac yn ei diwygio’n briodol. Ni fydd y maen prawf yn Rheol Sefydlog 26C.85(iii) yn gymwys yn ystod y cyfnod ailystyried, oherwydd y gallai fod angen gwneud diwygiadau na fyddent fel arfer yn briodol ar gyfer Bil Cydgrynhoi er mwyn datrys y mater a nodwyd.

26C.70

Ar ôl gwaredu'r holl welliannau yn nhrafodion y Cyfnod Ailystyried, ac yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26C.71, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Senedd yn cymeradwyo Bil Cydgrynhoi a ddiwygiwyd wrth gael ei ailystyried. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.56 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.71

Ni chaniateir gwneud cynnig bod Bil Cydgrynhoi a ailystyriwyd yn cael ei gymeradwyo nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Cydgrynhoi, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.56A ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.72

Pan fo'r Llywydd wedi gwneud datganiad bod unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Cydgrynhoi, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig, ni chaiff y Bil Cydgrynhoi hwnnw ei gymeradwyo oni bai bod y nifer sy'n pleidleisio o'i blaid yn cyfateb i o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.56B ac yn ei diwygio’n briodol.

 

Ailystyried Biliau a wrthodwyd

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.73

Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig bod y Senedd yn ailystyried Bil Cydgrynhoi os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ynglŷn â chyfeiriad a wnaed o dan adran 111B(2)a o'r Ddeddf mewn perthynas â Bil Cydgrynhoi a wrthodwyd gan y Senedd, nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil Cydgrynhoi sy'n destun y cyfeiriad yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.56C ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.74

Os bydd y Senedd yn derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.73, mae'r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r cynnig hwnnw gael ei dderbyn gan y Senedd. 

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.56D ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.75

Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Cydgrynhoi a ailystyriwyd yn unol â Rheol Sefydlog 26C.73.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.56E ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.76

Yn y Cyfnod Ailystyried yn unol â Rheol Sefydlog 26C.73, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i gymeradwyo'r Bil Cydgrynhoi. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o'r fath a rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.56F ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.77

Ni chaniateir gwneud cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.76 nes y bydd y Llywydd wedi datgan, yn unol ag adran 111A(3) o'r Ddeddf, a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Bil Cydgrynhoi, ym marn y Llywydd, yn ymwneud â phwnc gwarchodedig.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.56G ac yn ei diwygio’n briodol.

 

Darpariaethau Cyffredinol mewn Perthynas â Gwelliannau i Filiau Cydgrynhoi

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.78

Mae Rheolau Sefydlog 26C.79 i 26C.87 yn gymwys i welliannau yn nhrafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu yn y Cyfnod Ailystyried, ac eithrio nad yw Rheol Sefydlog 26C.82(iii) yn gymwys i welliannau yn y Cyfnod Ailystyried.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.57 ac yn ei diwygio’n briodol, gan gynnwys eithrio 26C.82(iii) o’r Cyfnod Ailystyried, fel bod unrhyw welliant sy'n ofynnol i ddatrys y mater yr oedd y cyfeiriad, y Gorchymyn neu'r penderfyniad yn ymwneud ag ef yn dderbyniadwy.

26C.79

Rhaid i'r Llywydd benderfynu ar ffurf briodol gwelliannau i Fil Cydgrynhoi.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.58 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.80

Ni chaniateir ystyried gwelliant, ac eithrio gwelliant hwyr, oni bai ei fod wedi’i gyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn iddo gael ei ystyried.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.59 heb ei newid.

26C.81

Caiff unrhyw Aelod ychwanegu ei enw i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) drwy hysbysu’r Clerc ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y diwrnod gwaith cyn bod y gwelliant i fod i gael ei ystyried.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.60 heb ei newid.

26C.82

Nid yw gwelliant yn dderbyniadwy:

(i)      os nad yw ar ei ffurf briodol yn unol â Rheol Sefydlog 26C;

(ii)     os nad yw’n berthnasol i’r Bil Cydgrynhoi neu ddarpariaethau’r Bil Cydgrynhoi y byddai’n ei ddiwygio;

(iii)    os byddai'n achosi i'r Bil beidio â bod yn Fil Cydgrynhoi fel y'i diffinnir yn Rheolau Sefydlog 26C.1 a 26C.2; neu

(iv)    os yw’n anghyson â phenderfyniad sydd eisoes wedi’i wneud yn y Cyfnod pryd y mae’r gwelliant yn cael ei gynnig.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.61 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.83

Caniateir cyflwyno gwelliant i welliant ac, o’i ddethol, rhaid iddo gael ei waredu cyn y gwelliant y byddai’n ei ddiwygio, a rhaid i Reolau Sefydlog 26C.78 i 26C.87 fod yn gymwys yn unol â hynny

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.62 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.84

Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26C.28, caniateir i welliant (ac eithrio gwelliant hwyr) gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cyflwynodd ar unrhyw adeg cyn y diwrnod y mae’n cael ei ystyried ond dim ond gyda chytundeb unfrydol unrhyw Aelodau sydd wedi ychwanegu eu henwau i’r gwelliant. Os na sicrheir cytundeb o’r fath, daw’r gwelliant yn welliant yn enw’r Aelod cyntaf a ychwanegodd ei enw i’r gwelliant ac nad yw’n cytuno i’r gwelliant gael ei dynnu'n ôl.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.63 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.85

Caiff cadeirydd pwyllgor sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor neu’r Llywydd, yn ôl fel y digwydd, grwpio gwelliannau at ddibenion dadleuon fel y gwêl yn dda. Ni chaniateir i welliant a drafodwyd fel rhan o grŵp gael ei drafod eto pan ddaw’n amser ei waredu.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.64 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.86

Os na fydd Aelod a gyflwynodd welliant yn cynnig y gwelliant pan ddaw’n amser trafod y gwelliant hwnnw, caniateir i’r gwelliant gael ei gynnig:

(i)      yn ystod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, gan aelod o’r pwyllgor hwnnw; neu

(ii)     yn ystod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu yn y Cyfnod Ailystyried, gan unrhyw Aelod arall.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.65 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.87

Caniateir i welliant sydd wedi’i gynnig gael ei dynnu'n ôl gan yr Aelod a’i cynigiodd, ond dim ond:

(i)      mewn pwyllgor sy’n ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, os na fydd aelod o’r pwyllgor hwnnw yn gwrthwynebu; neu

(ii)     yn ystod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Senedd neu yn y Cyfnod Ailystyried, os na fydd Aelod yn gwrthwynebu.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.66 ac yn ei diwygio’n briodol.

 

Cydsyniad Ei Mawrhydi a Dug Cernyw

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.88

Os yw Bil Cydgrynhoi yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth, neu’n cael ei ddiwygio i gynnwys unrhyw ddarpariaeth a fyddai, pe bai’n cael ei chynnwys mewn Bil ar gyfer Deddf Senedd y Deyrnas Unedig, yn gofyn cydsyniad Ei Mawrhydi neu gydsyniad Dug Cernyw, rhaid i’r Senedd beidio â thrafod y cwestiwn a ddylai’r Bil Cydgrynhoi gael ei basio (neu ei gymeradwyo yn dilyn y Cyfnod Ailystyried) nes bod y cydsyniad hwnnw ar gyfer y ddarpariaeth honno wedi’i ddynodi gan aelod o’r llywodraeth mewn cyfarfod o’r Senedd.

 

 

Hysbysu ynghylch Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau’r Senedd

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.89

Rhaid i’r Clerc hysbysu’r Senedd ynglŷn â’r dyddiad y bydd Deddf y Senedd yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.75 heb ei newid.

 

Biliau yn Methu, yn Cael eu Gwrthod neu’n Cael eu Tynnu’n ôl

Cyflwyno is-bennawd newydd

26C.90

Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 26C.73, os bydd Bil Cydgrynhoi yn methu neu’n cael ei wrthod gan y Senedd, rhaid peidio â chymryd dim trafodion pellach ar y Bil Cydgrynhoi hwnnw a rhaid peidio â chyflwyno Bil Cydgrynhoi sydd, ym marn y Llywydd, yn yr un telerau neu delerau tebyg, o dan y Rheol Sefydlog hon yn yr un Senedd o fewn y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad y methodd y Bil Cydgrynhoi neu y cafodd ei wrthod.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.76 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.91

Mae Bil Cydgrynhoi yn methu os nad yw wedi’i basio neu wedi’i gymeradwyo gan y Senedd cyn diwedd y Senedd y’i cyflwynwyd ynddi.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.77 ac yn ei diwygio’n briodol.

26C.92

Caniateir i Fil Cydgrynhoi gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg gan yr Aelod sy’n gyfrifol amdano ond rhaid peidio â’i dynnu'n ôl ar ôl yr Ystyriaeth Gychwynnol ac eithrio gyda chytundeb y Senedd.

Cyflwyno Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol yn dyblygu Rheol Sefydlog 26.79 ac yn ei diwygio’n briodol.


Atodiad B – Canllawiau drafft i ategu’r drefn o weithredu Rheol Sefydlog 26C ar Filiau Cydgrynhoi

Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26C.3 ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes

1.       Caniateir i Fil Cydgrynhoi gael ei gyflwyno gan aelod o'r Llywodraeth at ddibenion cydgrynhoi deddfwriaeth sylfaenol bresennol, is-ddeddfwriaeth a’r gyfraith gyffredin (Rheol Sefydlog 26C.2).

2.            Cyhoeddwyd y canllawiau hyn gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 26C.3 a bwriedir iddynt gael eu darllen ochr yn ochr â Rheol Sefydlog 26C yn gyffredinol, a Rheol Sefydlog 26C.2 yn benodol. Maent yn rhoi rhagor o fanylion am natur Biliau Cydgrynhoi ac i ba raddau y gallant ddiwygio, diweddaru a newid y gyfraith bresennol.

Diben Bil Cydgrynhoi

3.            Diben Bil Cydgrynhoi yw gwella mynediad i'r gyfraith drwy:

§    ddwyn ynghyd yr holl ddeddfwriaeth (sylfaenol ar y cyfan) ar bwnc penodol i wella hygyrchedd, a

§    moderneiddio darnau o ddeddfwriaeth o ran ffurf a’r ffordd y maent wedi’u drafftio, i'w gwneud yn haws eu deall a'u gweithredu.

4.            Nid diwygio polisi mewn unrhyw ffordd sylweddol yw diben Bil Cydgrynhoi. Felly, dylai’r broses o ddatblygu Bil Cydgrynhoi a chraffu arno fod yn un gyfreithiol, dechnegol, sy'n canolbwyntio ar gydgrynhoi'r gyfraith bresennol yn hytrach na rhinweddau'r polisïau sydd wedi'u hymgorffori ynddi.

Graddau’r hyn y gall y Bil cydgrynhoi ei wneud

5.            Gall Bil Cydgrynhoi arwain at ddeddfwriaeth arfaethedig sy'n edrych yn wahanol iawn i'r testun gwreiddiol. Er mwyn cyflwyno'r gyfraith bresennol sy'n berthnasol yng Nghymru ar ffurf fodern a hygyrch, efallai y byddai’n briodol gwneud newidiadau sylweddol o ran cyflwyniad nad ydynt yn newid effaith y gyfraith dan sylw.

6.            Dim ond y mathau o newidiadau i’r gyfraith a nodir yn Rheol Sefydlog 26C.2 y caiff Bil Cydgrynhoi eu cynnig. Mae rhagor o fanylion am ddarpariaethau Rheol Sefydlog 26C.2, ynghyd ag enghreifftiau perthnasol o oblygiadau ymarferol y darpariaethau hynny, yn yr Atodiad i'r canllawiau hyn.

7.             Mae'r broses gydgrynhoi yn gymhleth ac yn debygol o ddatgelu anghysondebau ac anomaleddau yn y ddeddfwriaeth bresennol. Wrth ailddatgan y gyfraith bresennol mewn ffordd fodern a hygyrch, gallai fod yn fuddiol neu’n angenrheidiol gwneud mân ddiwygiadau hefyd. Fodd bynnag, dim ond mân ddiwygiadau a ganiateir ac ni ddylent fod yn ddadleuol. Rhaid mynd i’r afael ag unrhyw newid arall y tu hwnt i'r diffiniad uchod drwy Fil Diwygio, a gaiff ei ystyried gan y Senedd gan ddilyn y weithdrefn ddeddfwriaethol arferol o dan Reol Sefydlog 26.

Dogfennau i gyd-fynd â Bil Cydgrynhoi

8.            Ar yr un pryd ag y bydd yr Aelod sy’n gyfrifol yn cyflwyno Bil Cydgrynhoi, rhaid iddo osod Memorandwm Esboniadol sy’n cynnwys yr hyn a nodir yn Rheol Sefydlog 26C.9. Mae un o'r darpariaethau hynny (Rheol Sefydlog 26C.9(iv)) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Memorandwm Esboniadol gynnwys tablau sy'n dangos tarddiad y darpariaethau a ble y byddant yn cael eu cynnwys, er mwyn helpu i egluro sut mae'r gyfraith wedi'i hailgyflwyno. Rhaid i'r Memorandwm Esboniadol hefyd gynnwys nodiadau drafftio yn esbonio'r dull a ddefnyddiwyd wrth ddrafftio'r Bil. Rhaid paratoi set o Nodiadau Esboniadol i gyd-fynd â phob Bil Cydgrynhoi hefyd.

Atodiad i’r canllawiau

Manylion am y darpariaethau a geir yn Rheol Sefydlog 26C.2 – ynghyd ag enghreifftiau o sut y cânt eu defnyddio:

Rheol Sefydlog 26C.2(i) – Caiff Bil Cydgrynhoi ailddatgan deddfwriaeth bresennol ag unrhyw newidiadau o ran strwythur, iaith neu fformat sy'n briodol at ddibenion gwella cyflwyniad y gyfraith a sicrhau cysondeb â'r arfer drafftio cyfredol

1.       Mae’r newidiadau a ganiateir o dan Reol Sefydlog 26C.2(i) yn cynnwys:

a.         ail-rifo ac aildrefnu darpariaethau (er enghraifft, rhannu neu gyfuno    adrannau neu Rannau presennol, neu symud deunydd rhwng adrannau ac Atodlenni);

b.        mynegi darpariaethau mewn ffordd sy'n adlewyrchu eu heffaith gyfreithiol wirioneddol (er enghraifft defnyddio terminoleg sy'n adlewyrchu datganoli ac achosion eraill o drosglwyddo swyddogaethau sydd wedi digwydd ers pasio'r ddeddfwriaeth bresennol);

Enghreifftiau:

§    ynghyd â datganoli a throsglwyddo swyddogaethau, dylid disgwyl i'r Bil Cydgrynhoi adlewyrchu'r holl newidiadau cyfreithiol eraill sydd wedi newid ystyr y ddeddfwriaeth bresennol. Er enghraifft, y ddirwy uchaf y câi llys ynadon ei rhoi am drosedd cyn 12 Mawrth 2015 oedd £5,000, ond cafodd hynny ei throsi'n ddirwy ddiderfyn gan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012. Felly, byddai darpariaethau cynharach a oedd yn creu atebolrwydd i ddirwy uchaf o £5,000 yn cael eu hailddatgan fel rhai a oedd yn creu atebolrwydd i “ddirwy”;

§    efallai y bu newidiadau yn y gyfraith ers deddfu’r ddeddfwriaeth bresennol, sy’n golygu bod y geiriau sy’n ofynnol i gyflawni effaith gyfreithiol benodol yn wahanol i’r rhai a oedd yn ofynnol pan ddrafftiwyd y ddeddfwriaeth bresennol. Er enghraifft, roedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gwrthdroi’r rhagdybiaeth nad yw Deddfau’r Senedd yn rhwymo’r Goron, felly mae’n debygol y bydd angen darpariaeth wahanol er mwyn sicrhau bod Bil Cydgrynhoi yn rhwymo’r Goron i’r un graddau ag y mae’r ddeddfwriaeth wreiddiol.

c.         newid iaith deddfwriaeth a wnaed yn Saesneg yn unig er mwyn cynhyrchu Bil dwyieithog cyson;

d.        defnyddio iaith niwtral o ran rhyw a moderneiddio iaith mewn unrhyw ffordd arall (gan gynnwys drwy hepgor geiriau diangen);

e.         ychwanegu, dileu neu newid labeli a phenawdau;  Enghreifftiau:

Enghreifftiau:

§    caiff Bil Cydgrynhoi newid y labeli a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth bresennol a defnyddio rhai sy'n cyfleu’r hyn y cyfeirir ato yn well. Er enghraifft, mae Comisiwn y Gyfraith wedi nodi bod deddfwriaeth gynllunio yn defnyddio nifer o labeli y gellid eu hystyried yn gamarweiniol neu'n annefnyddiol, megis “hysbysiad torri rheolau cynllunio” a “person penodedig”;

§    efallai bod labeli a phenawdau i’w gweld yn y ddeddfwriaeth bresennol nad oes eu hangen wrth ailddatgan y gyfraith ar gyfer Cymru gan mai’r unig bwrpas yw gwahaniaethu rhwng achosion “Cymru” ac achosion “Lloegr. Gellir dileu labeli o'r fath neu ddefnyddio termau mwy addas yn eu lle;

§    efallai bod labeli yn y ddeddfwriaeth bresennol nad ydynt yn ddefnyddiol mwyach oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau. Er enghraifft, mae Comisiwn y Gyfraith wedi nodi nad oes angen y gwahaniaethu rhwng “awdurdod cynllunio lleol” ac “awdurdod cynllunio mwynau” mewn deddfwriaeth gynllunio yng Nghymru gan fod y termau’n cyfeirio at yr un awdurdod bob amser (ond gallai fod yn wahanol o dan y system lywodraeth leol ddwy haen sy’n gymwys o hyd yn y rhan fwyaf o Loegr).

f.          ychwanegu tablau newydd, fformwlâu neu ffyrdd eraill o gyflwyno gwybodaeth;

g.         ychwanegu darpariaethau cyfeirio a manylion i helpu darllenwyr i ddod o hyd i bethau (gan gynnwys cyfeiriadau at ddarnau o ddeddfwriaeth nad ydynt yn rhan o’r gwaith cydgrynhoi ond sy'n berthnasol iddo);

h.        nodi’n llawn ddarnau eraill o ddeddfwriaeth sydd wedi'u hymgorffori yn y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chydgrynhoi;

Enghraifft

§    os yw Deddf A yn darparu bod rhai o ddarpariaethau Deddf B yn gymwys iddi, yn aml bydd yn fwy hygyrch ailadrodd y darpariaethau hynny yn llawn wrth ailddatgan Deddf A (yn enwedig os oes angen addasiadau i wneud iddynt weithio'n iawn yng nghyd-destun Deddf A).

i.           ychwanegu, dileu neu newid atalnodi neu gysyllteiriau; a

j.           chywiro gwallau teipograffyddol, croesgyfeiriadau anghywir a chamgymeriadau amlwg tebyg.

2.            Ystyr 'arfer drafftio cyfredol', fel y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26C.2, yw'r arfer drafftio deddfwriaethol sy'n cael ei ddefnyddio am y tro gan Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol.


 

Rheol Sefydlog 26C.2(ii) – Caiff Bil Cydgrynhoi egluro effaith y gyfraith bresennol neu sut i’w chymhwyso

3.            Os yw’n aneglur beth yw effaith darpariaethau presennol neu sut i’w cymhwyso (oherwydd eu bod wedi eu drafftio mewn ffordd sy’n creu amheuaeth neu amwysedd, megis ansicrwydd ynghylch pryd y daw cyfnod o amser i ben neu ynghylch pa gyrff sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd), caiff Bil Cydgrynhoi egluro'r ystyr a fwriedir, er enghraifft drwy egluro'n gliriach pryd y mae darpariaeth neu ddiffiniad penodol yn berthnasol. Os yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn ddwyieithog, gallai’r gwaith egluro gynnwys cysoni unrhyw amwysedd yn y naill iaith neu'r llall neu yn y ddwy iaith.

4.            Gallai’r gwaith egluro gynnwys llenwi bylchau yn y ddeddfwriaeth, er enghraifft drwy gynnwys diffiniadau o dermau nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn eu diffinio, neu nodi mai dim ond yn yr achosion penodol y mae darpariaeth yn berthnasol iddynt y gellir cymhwyso’r ddarpariaeth honno.

Enghraifft:

§    gallai hyn gynnwys egluro effaith trosglwyddo swyddogaethau “mewn perthynas â Chymru” drwy ddarparu terfyn tiriogaethol cliriach mewn Bil Cydgrynhoi (a therfyn tiriogaethol cyfatebol mewn unrhyw ddeddfiad sy'n ffurfio rhan o'r gwaith cydgrynhoi ond a fydd yn parhau i fod yn berthnasol i Loegr ar ôl pasio'r Bil Cydgrynhoi).

5.            Gallai egluro bwriad y ddeddfwriaeth hefyd gynnwys cywiro sefyllfa lle nad yw geiriad y darpariaethau presennol yn adlewyrchu’r ystyr a ddeëllir ganddynt yn ymarferol, neu pan fo gwahanol ddeddfiadau’n gwneud darpariaeth ynglŷn â’r un mater sydd, neu a allai fod, yn groes.

Enghraifft:

§    dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (Deddf Cydgrynhoi Senedd y DU), dilewyd gofyniad bod “rhesymau arbennig” dros gofrestru cymdeithas, i adlewyrchu sut roedd y darpariaethau’n cael eu cymhwyso’n ymarferol a sut y bwriadwyd yn wreiddiol iddynt gael eu cymhwyso. Nid oedd hyn yn ymwneud ag anghysondeb yn y ddeddfwriaeth ei hun.

6.            Pan fydd Bil Cydgrynhoi yn ceisio egluro ystyr darpariaethau sy'n bodoli eisoes mewn unrhyw un o'r ffyrdd a amlinellir uchod, dylai wneud hynny yn y ffordd sy’n adlewyrchu orau yr ystyr a ddeëllir gan y darpariaethau, neu’r hyn y credir yr oedd y ddeddfwrfa wedi ei fwriadu.

7.             Caiff Bil Cydgrynhoi hefyd ymgorffori effaith cyfraith achosion o ran ystyr y ddeddfwriaeth bresennol, neu reolau’r gyfraith gyffredin sydd â chysylltiad agos â'r darpariaethau statudol, er mwyn rhoi ailddatganiad mwy cyflawn o’r gyfraith bresennol. Ni fwriedir i Fil Cydgrynhoi godeiddio rheolau cyfraith gyffredin annibynnol, ond gallai fod yn briodol ymgorffori cyfraith achosion sy'n effeithio ar sut y mae deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes yn gweithio, er enghraifft drwy egluro’r ystyr neu drwy ehangu neu gyfyngu ar ei heffaith mewn ffordd nad yw wedi’i nodi ar wyneb y ddeddfwriaeth.

Enghraifft:

§    Wrth ailddatgan trosedd o feddu ar eog a ddaliwyd ar adeg pan na chaniatawyd pysgota, aed ati i gynnwys yn Neddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 2003 amddiffyniad nad oedd wedi'i nodi yn y ddeddfwriaeth flaenorol ond a oedd wedi'i gydnabod gan y llysoedd.

Rheol Sefydlog 26C.2(iii) – Caiff Bil Cydgrynhoi ddileu neu hepgor darpariaethau anarferedig, darfodedig neu rai nad ydynt yn ymarferol ddefnyddiol neu’n ymarferol effeithiol bellach;

8.            Mae hepgor darpariaeth yn golygu y gellir ei diddymu yng Nghymru a/neu gellid peidio â’i chynnwys yn y Bil Cydgrynhoi;

9.            Mae rhywfaint o orgyffwrdd rhwng darpariaethau anarferedig, darpariaethau darfodedig neu rai nad ydynt yn ymarferol ddefnyddiol neu’n ymarferol effeithiol bellach. Yn gyffredinol:

a.           byddai darpariaeth anarferedig yn cynnwys darpariaeth sydd wedi dyddio, er enghraifft oherwydd ei bod yn ymwneud â chyrff, personau neu bethau nad ydynt bellach yn bodoli neu’n cael eu defnyddio;

b.        darpariaeth ddarfodedig yw un sy'n berthnasol i sefyllfa na all fodoli mwyach, megis darpariaeth sy'n rhoi swyddogaeth na ellir ei defnyddio eto (er enghraifft, oherwydd bod y ddeddfwriaeth wreiddiol yn darparu ar gyfer cymryd un cam gweithredu a bod y cam hwnnw wedi'i gymryd, neu oherwydd na ellir bodloni’r amodau ar gyfer defnyddio’r ddeddfwriaeth mwyach) ac

c.         pan fydd amgylchiadau’n gwneud darpariaeth yn amherthnasol neu’n ddiangen, ni fydd y ddarpariaeth yn ymarferol effeithiol bellach. Mae hyn yn cynnwys:

i.        darpariaethau nad oes eu hangen mwyach gan fod darpariaeth gyfreithiol ar gael mewn man arall (naill ai yn y Bil Cydgrynhoi neu mewn darn arall o ddeddfwriaeth sy'n gymwys yng Nghymru) sydd ag effaith gyfreithiol gyfatebol.

ii.       darpariaethau na chawsant eu cychwyn erioed ac nad yw’n debygol y cânt byth eu cychwyn yng Nghymru; neu os cafodd y ddarpariaeth ei chychwyn ond na chafodd ei defnyddio erioed ac ni ddisgwylir i'r ddarpariaeth gael ei defnyddio yng Nghymru; neu cafodd ei chychwyn a'i defnyddio, ond nid yw wedi’i defnyddio am gyfnod sylweddol ac ni ddisgwylir iddi gael ei defnyddio yn y dyfodol; neu efallai bod Deddfau, darpariaethau neu amgylchiadau eraill wedi disodli'r ddarpariaeth (noder: er bod pwerau'n cael eu rhoi i Weinidogion, wrth sôn am 'debygolrwydd' yma, ystyrir nid yn unig a yw’r Gweinidogion presennol yn bwriadu defnyddio’r pŵer, ond a oes tebygolrwydd gwirioneddol y bydd unrhyw lywodraeth yn defnyddio’r pŵer.)

Enghreifftiau:

§    mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn cynnwys darpariaethau amrywiol ynghylch achosion o dorri rheolau cynllunio cyn 1948 a oedd yn berthnasol pan ddaeth y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref gyntaf i rym. Mae Comisiwn y Gyfraith wedi nodi nad oes gan y rhan fwyaf o'r rhain effaith ymarferol bellach ac y gellid eu hepgor wrth gydgrynhoi deddfwriaeth;

§    yn Neddf Tai 1985 (Deddf Cydgrynhoi Senedd y DU), diddymwyd pŵer blaenorol i ddiwygio Deddfau lleol, gan fod 15 mlynedd wedi mynd heibio heb i'r pŵer gael ei arfer;

§    yn Neddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (Deddf Cydgrynhoi Senedd y DU), ni ddyblygwyd darpariaethau Deddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 a oedd yn cyfeirio at bobl a oedd wedi gwneud enwebiad o dan y Ddeddf cyn 1 Ionawr 1914, ar y sail na fyddai unrhyw un a oedd wedi gwneud enwebiad o'r fath yn dal yn fyw yn 2014;

§    roedd ddarpariaeth heb ei chychwyn i ddiddymu “or (2)” yn adran 60(3) o Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, ac ni chafodd ei dyblygu yn Neddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 gan nad oedd bwriad i gychwyn y diddymiad (roedd y diddymiad wedi’i gynnwys yn Neddf 1992);

§    yn Neddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, dilëwyd y cyfeiriad at drosedd benodol o wneud datganiad statudol ffug ar y sail bod cyfeiriad eisoes at drosedd gyffredinol o wneud datganiadau statudol ffug a oedd yn cwmpasu'r un ymddygiad.

Rheol Sefydlog 26C.2(iv) – Caiff Bil Cydgrynhoi wneud mân newidiadau i'r gyfraith bresennol at ddibenion sicrhau bod y gwaith o gydgrynhoi’r gyfraith yn foddhaol

10.        Gallai hyn gynnwys:

a.         datrys anghysondebau o ran cymhwyso'r gyfraith mewn gwahanol achosion, pan nad yw'r rhesymau dros y gwahaniaethau yn berthnasol mwyach neu pan na ellir eu deall;

Enghreifftiau:

§    dileu neu gysoni anghysondebau o ran pwerau gwneud rheoliadau ar draws gwahanol ddarpariaethau;

§    pan ymdrinnir â mater ar wyneb un Ddeddf, ond drwy is-ddeddfwriaeth mewn Deddf arall, sicrhau yr ymdrinnir â'r ddau achos mewn deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth (fel y bo’n briodol);

§    sicrhau bod y Bil Cydgrynhoi yn ymdrin ag achosion tebyg yn yr un ffordd, er enghraifft drwy gysoni unrhyw anghysondebau rhwng darpariaethau sydd wedi dod o wahanol ddeddfiadau neu drwy estyn darpariaethau neu ddiffiniadau cyffredinol yn un o'r Deddfau presennol i gwmpasu'r holl ddeddfiadau sy'n cael eu cydgrynhoi;

§    mewn achosion pan fo’n rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig, a bod rhai darnau presennol o ddeddfwriaeth yn nodi'n benodol bod rhaid iddo fod yn ysgrifenedig ond nid yw rhai eraill yn nodi hynny, gellir nodi'r gofyniad i roi rhybudd ysgrifenedig yn yr holl ddarpariaethau (neu dim un ohonynt os yw mor amlwg nad oes angen ei nodi).

b.        cywiro camgymeriadau neu anomaleddau yn y ddeddfwriaeth;

c.         sicrhau y byddai'r ddeddfwriaeth sydd wedi’i chydgrynhoi yn gydnaws â hawliau'r Confensiwn. Gallai hyn gynnwys ymgorffori effaith cyfraith achosion sydd wedi sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth bresennol yn gydnaws â hawliau'r Confensiwn; neu ddiwygio neu hepgor darpariaeth sy'n bodoli eisoes neu wneud darpariaeth newydd pan fo’n glir bod angen newid o'r fath i sicrhau bod y gyfraith yn gydnaws â'r Confensiwn;

d.        darparu y bydd y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chydgrynhoi yn gweithredu'n gywir mewn perthynas â Chymru gan ystyried unrhyw faterion trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr;

Enghraifft:

§    wrth gydgrynhoi’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr, cafodd y gyfraith ei hatgynhyrchu ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Roedd y ddwy Ddeddf yn darparu terfyn tiriogaethol ar gyfer arfer swyddogaethau ac yn darparu ar gyfer rhai materion trawsffiniol.

e.         sicrhau cysondeb yn nhestun Cymraeg a thestun Saesneg y Bil a rhwng y testunau hynny;

f.          symud darpariaethau o is-ddeddfwriaeth i ddeddfwriaeth sylfaenol (ac weithiau o ddeddfwriaeth sylfaenol i is-ddeddfwriaeth) neu newid ffurf is-ddeddfwriaeth neu'r weithdrefn sy'n berthnasol iddi, i wella cysondeb neu gydlyniad y corff perthnasol o ddeddfwriaeth;

Enghreifftiau:

§    Pan fo darpariaethau ynghylch mater penodol wedi'u cynnwys yn rhannol mewn deddfwriaeth sylfaenol ac yn rhannol mewn is-ddeddfwriaeth, efallai y byddai’n briodol symud darpariaethau o un lefel i'r llall, fel bod popeth sy’n ymwneud â’r mater hwnnw yn yr un lle. Er enghraifft, os yw rheoliadau neu orchmynion yn ymdrin â mater pwysig sy'n effeithio ar sut y mae'r ddeddfwriaeth yn gweithio, efallai y byddai’n fwy priodol ailddatgan y deunydd o’r rheoliadau neu'r gorchmynion yn y Bil.

§    Pan fo pŵer i ddefnyddio is-ddeddfwriaeth i addasu’r ffordd y mae deddfwriaeth sylfaenol yn gweithio, a bod yr holl addasiadau angenrheidiol eisoes wedi'u gwneud, efallai y byddai’n briodol ymgorffori’r addasiadau wrth ailddatgan y ddeddfwriaeth sylfaenol, ac efallai na fydd angen y pŵer i wneud addasiadau.

§    Pan fo ffurflenni neu fanylion eraill yn cael eu nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, efallai y byddai’n briodol darparu ar eu cyfer mewn rheoliadau yn lle hynny, yn enwedig os yw’n debygol y bydd angen eu diweddaru'n rheolaidd. Neu efallai y byddai’n briodol ei gwneud yn ofynnol i bobl ddefnyddio ffurflenni a gyhoeddir gan Weinidogion neu gyrff cyhoeddus eraill, yn hytrach na chynnwys y ffurflenni mewn deddfwriaeth

§    Yn lle pwerau i wneud cyfarwyddiadau cyffredinol  (yn hytrach na chyfarwyddiadau sy’n cyfeirio at unigolion penodol), efallai y byddai’n briodol cyflwyno pwerau i wneud rheoliadau.

§    Pan nad yw’r pŵer presennol i wneud is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw un o weithdrefnau’r Senedd, ond y byddai disgwyl i bŵer o'r fath fod ynghlwm wrth un o weithdrefnau’r Senedd erbyn hyn, gall Bil Cydgrynhoi ailddatgan y pŵer a nodi’r weithdrefn briodol. Caiff Bil Cydgrynhoi hefyd gael gwared ar anghysondebau ac anomaleddau eraill mewn darpariaethau gweithdrefnol.

Rheol Sefydlog 26C.2(v) – Caiff Bil Cydgrynhoi wneud newidiadau eraill i'r gyfraith y mae Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn argymell y byddai’n briodol eu cynnwys mewn Bil Cydgrynhoi

11.           O dan Reol Sefydlog 26C.2(v) gellir cynnwys newidiadau i'r gyfraith nad ydynt yn dod o fewn paragraffau eraill y Rheol Sefydlog honno mewn Bil Cydgrynhoi ar argymhelliad Comisiwn y Gyfraith. Er mwyn i newid gael ei wneud o dan baragraff (v), rhaid i Gomisiwn y Gyfraith nid yn unig argymell bod y newid yn cael ei wneud, ond rhaid iddo hefyd nodi'r newid fel un y byddai'n briodol ei wneud mewn Bil Cydgrynhoi.

12.         Nid yw paragraff (v) yn golygu y gellir defnyddio Biliau Cydgrynhoi i weithredu pob cynnig i ddiwygio'r gyfraith a wneir gan Gomisiwn y Gyfraith. Dim ond ymdrin â newidiadau i'r gyfraith y byddai'n gyfleus eu gwneud ar yr un pryd â chydgrynhoi'r gyfraith bresennol yw’r bwriad. Ni ddylai newidiadau o'r fath gynnwys newid sylweddol o ran polisi ac ni ddylent fod yn ddadleuol. Gallai enghreifftiau o'r math hwn o newid gynnwys diwygio cyfres o ofynion gweithdrefnol i sicrhau eu bod yn gweithio'n well yn ymarferol, neu eu symleiddio i gael gwared ar gamau diangen o'r weithdrefn.

Rheol Sefydlog 26C.2(vi) – Caiff Bil Cydgrynhoi gynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed priodol, diwygiadau canlyniadol a diddymu darnau o ddeddfwriaeth bresennol (gan gynnwys diwygiadau i sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol yn parhau i weithredu'n gywir mewn perthynas â Lloegr);

13.         Mae Rheol Sefydlog 26C.2(vi) yn cynnwys:

a.         gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth nad yw wedi'i hymgorffori, neu sydd wedi'i hymgorffori'n rhannol yn unig, yn y Bil Cydgrynhoi. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y ddeddfwriaeth sydd ar ôl yn parhau i weithredu'n foddhaol heb unrhyw newid mewn effaith gyfreithiol (neu ddim mwy o newid na’r hyn sy'n ofynnol yn sgil cydgrynhoi’r gyfraith). Gall olygu gwneud diwygiadau helaeth i'r ddeddfwriaeth i ddileu darpariaethau sy'n gymwys i Gymru a'i gwneud yn glir mai dim ond i Loegr y bydd rhai o’r darpariaethau, neu’r holl ddarpariaethau, yn gymwys yn y dyfodol;

b.        darparu pŵer i wneud rhagor o ddiwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sydd eu hangen o ganlyniad i’r cydgrynhoi;

c.         diddymiadau sydd eu hangen yn sgil cydgrynhoi, gan gynnwys diddymu darpariaethau anarferedig a darfodedig, a gwelliannau a diddymiadau a fethwyd (h.y. rhai y dylid bod wedi'u cynnwys mewn Deddfau cynharach);

d.        darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed..



[1] Y Pwyllgor Busnes (Y Pedwerydd Cynulliad), 6 Mai 2014

[2] Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (Y Pedwerydd Cynulliad), Ymchwiliad: Deddfu yng Nghymru

[3] Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (Y Pedwerydd Cynulliad), Deddfu yng Nghymru, Hydref 2015, para 118

[4] Ibid, para 121

[5] Ibid, tt50-51

[6] Y Pwyllgor Busnes (Y Pedwerydd Cynulliad), 30 Tachwedd 2015

[7] Comisiwn y Gyfraith, Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru

[8] Y Pwyllgor Busnes (Y Pedwerydd Cynulliad), Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Deddfu yng Nghymru, 15 Ionawr 2016, t5

[9] Comisiwn y Gyfraith, Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru, Mehefin 2016

[10] Ibid, t29

[11] Ibid, t26

[12] Ibid, t38

[13] Ibid, t43

[14] Llywodraeth Cymru, Ymateb interim i Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru, 12 Rhagfyr 2016 (Saesneg yn unig)

[15] Llywodraeth Cymru, Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd: Codes of Welsh Law, 12 Rhagfyr 2016 (Saesneg yn unig)

[16] Y Pwyllgor Busnes (Y Pedwerydd Cynulliad), 10 Ionawr 2017

[17] Cafodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei ailenwi'n Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 29 Ionawr 2020. Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at enw'r Pwyllgor fel yr oedd ar y pryd.

[18] Y Llywydd, Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Codau Cyfraith Cymru, 26 Ionawr 2017

[19] Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Ymchwiliad: Cydgrynhoi a Chodeiddio

[20] Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 8 Mai 2017

[21] Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, adran 2

[22] Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 10 Rhagfyr 2018, para 70

[23] Comisiwn y Gyfraith, Cyfraith Cynllunio yng Nghymru: Adroddiad Terfynol, Tachwedd 2018

[24] Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 10 Rhagfyr 2018, para 40

[25] Cwnsler Cyffredinol Cymru, Datganiad Ysgrifenedig: Dyfodol Cyfraith Cymru: categoreiddio, cydgrynhoi, codeiddio, 17 Hydref 2019

[26] Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 18 Tachwedd 2019

[27] Pwyllgor Busnes, 17 Gorffennaf 2018

[28] Pwyllgor Busnes, 26 Mawrth 2019

[29] Pwyllgor Busnes, 9 Gorffennaf 2019

[30] Y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Materion Deddfwriaethol 16 Medi 2019

[31] Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 18 Tachwedd 2019, para 23

[32] Ibid, para 25

[33] Ibid, paragraffau 66–67

[34] Y Pwyllgor Busnes 18 Ionawr 2021. O ganlyniad i bandemig y coronafeirws, ni ddychwelodd y Pwyllgor at y gwaith o ystyried newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog nad ydynt yn rhai brys tan fis Ionawr 2021.

[35] Ceir rhagor o fanylion ac enghreifftiau o ddarpariaethau o'r fath yn Atodiad B.