Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru.

2021 Rhif (Cy. )

NEWID YN YR HINSAWDD, CYMRU

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 100% yn is na gwaelodlin y ffigurau allyriadau.

Mae adran 31(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod cyllidebau carbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o 5 mlynedd rhwng 2016 a 2050. Mae adran 32(1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyllideb garbon a osodir gan Weinidogion Cymru gael ei gosod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050 a’r targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021-2025 fel ei bod wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 37% yn is na’r waelodlin.

Mae rheoliad 3 yn gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026-2030 fel ei bod wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 58% yn is na’r waelodlin.

Yn unol ag adran 32 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn wedi rhoi sylw i’r ffactorau a restrir yn adran 32(3).

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru.

2021 Rhif (Cy. )

NEWID YN YR HINSAWDD, CYMRU

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                         12 Mawrth 2021

Yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016([1]) (“y Ddeddf”), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad([2]).

Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—

(a)     wedi eu bodloni bod pob cyllideb garbon yn cael ei gosod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050 a’r targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl, yn unol ag adran 32(1)(b) o’r Ddeddf,

(b)     wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf, ac

(c)     wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd([3]), ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell diwygio’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021-2025, a gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026-2030.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 31(1) o’r Ddeddf, ac yn unol ag adran 32(2)(b) o’r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mawrth 2021.

Diwygio’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021 i 2025

2. Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018([4]), yn lle “33%” rhodder “37%”.

Y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026 i 2030

3. Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2026-2030 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 58% yn is na’r waelodlin.

 

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 



([1])           2016 dccc 3.

([2])           Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yw’r corff cynghori perthnasol i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 44(3) o Ddeddf  yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

([4])           O.S. 2018/1303 (Cy. 257).