Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 

 

Adroddiad: CLA(4)-20-12 : 22 Hydref 2012

 

Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:

 

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol

 

CLA180 - Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed ar:2 Hydref 2012

Fe’i gosodwyd ar:8 Hydref 2012

Yn dod i rym ar:yn unol ag erthygl 1(3).

 

CLA182 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Sylfaenol) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Unedau o Weithgaredd Deintyddol) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar:9 Hydref 2012

Fe’i gosodwyd ar: 11 Hydref 2012

Yn dod i rym ar:1 Tachwedd 2012

 

CLA183 - Gorchymyn Pysgod Môr (Ardaloedd Môr Penodedig) (Gwahardd Dull Pysgota) (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’i gwnaed ar:10 Hydref 2012

Fe’i gosodwyd ar: 11 Hydref 2012

Yn dod i rym ar:1 Tachwedd 2012

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

Dim

 

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol

 

CLA181 - Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012

Gweithdrefn: Negyddol.

Fe’u gwnaed ar:6 Hydref 2012

Fe’u gosodwyd ar: 8 Hydref 2012

Yn dod i rym ar:2 Tachwedd 2012

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

Dim

 

Unrhyw fater arall

 

Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus – Cymalau yn ymwneud â'r cyfyngiadau sydd i'w cymhwyso i gynlluniau newydd. Roedd cyngor gan gynghorydd cyfreithiol y Pwyllgor yn awgrymu y gallai'r Memorandwm godi materion ehangach ynghylch Cymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad.  Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt AC, gan mai hi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am nodi'r pryderon hyn, gyda'r bwriad o'i gwahodd i ddod i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i ateb unrhyw gwestiynau y mae angen eu hateb ar y mater. 

 

Adroddiad monitro sybsidiaredd (Mai 2012 – Awst 2012)

 

Nododd y Pwyllgor yr ail adroddiad monitro sybsidiaredd, sy'n cynnwys y cynigion a gafwyd rhwng mis Mai a mis Awst 2012.

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesurau'r Cynulliad

 

Nododd y Pwyllgor y papur ar yr is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesurau'r Cynulliad a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil ym mis Hydref 2012. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y drafodaeth ar y mater hwn wedi cael ei chynnwys ar gam yn yr adroddiad ar gyfarfod y Pwyllgor ar 8 Hydref 2012.

 

Gohebiaeth y Pwyllgor

 

CLA169 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2012

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths AC, i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 26 Medi ynghylch cywirdeb y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2012 [CLA169].

 

CLA171 - Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2012

 

Nododd y Pwyllgor ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths AC, i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 27 Medi ynghylch y rhinweddau a nodwyd ar gyfer Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2012[CLA171]. 

 

Simon Thomas AC

Cadeirydd Dros Dro y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 

 

22 Hydref 2012


Atodiad 1

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 


(CLA(4)-20-12)

 

CLA181

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012

 

Gweithdrefn:    Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o dan adran 11(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010:

 

·         yn nodi'r hyn y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn asesiad awdurdod lleol o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei ardal;

·         yn nodi'r unigolion a'r grwpiau y mae'n rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy;

·         yn nodi bod gofyniad bod pob awdurdod lleol yn llunio cynllun gweithredu fel rhan o'r asesiad;

·         yn darparu ynghylch amlder yr asesiadau, a'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gyhoeddi canlyniadau'r asesiadau.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn: mae’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

·         Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Trydydd Cynulliad yr adroddiad ar ei ymchwiliad i 'fannau diogel i chwarae a chymdeithasu'. Yn argymhelliad cyntaf yr adroddiad, anogodd y Pwyllgor Lywodraeth Cymru:

 

“...i gwblhau ei hadolygiad o'r safonau a'r canllawiau ar gyfer chwarae cyn gynted â phosibl... Dylai'r canllawiau gynnwys diffiniad clir o 'chwarae' sy'n cynnwys chwarae wedi'i strwythuro a chwarae dirwystr... [Ein pwyslais ni].

 

·         Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor, ac eglurodd:

 

“Greater clarification will be provided on the meaning of ‘play’ and the term will be sufficiently broad to include both ‘structured’ and ‘free play’.”

 

·         Mae paragraff 8.2 yn y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau drafft, ac mae'n nodi y byddai cyfran sylweddol (cynifer â 56%) o'r rhai a ymatebodd o bosibl yn dymuno i'r rheoliadau fod yn fwy eglur. Nododd hefyd: “The respondents who wanted greater clarity were primarily concerned about the relation between freely chosen play and adult led recreational activities.”

 

·         Mae'r Memorandwm Esboniadol yn datgan:“The summary report responds to this concern in more detail”; “the Regulations and the Statutory Guidance have been amended accordingly ”; ac “A summary of the amendments…has been made available on the Welsh Government’s web site.

 

·         Pan gyfarfu'r Pwyllgor, nid oedd yr adroddiad cryno ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Er y darparwyd copïau o'r adroddiad yn y cyfarfod, ni roddodd hyn ddigon o amser i'r Pwyllgor allu asesu a yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn llwyr â'r argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a'r pryderon a fynegwyd gan y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft.

 

·         Roedd y Pwyllgor hefyd yn ymwybodol o'i rôl o ran tynnu sylw at is-ddeddfwriaeth sy'n mynd i'r afael â phryderon ac argymhellion Pwyllgorau'r Cynulliad.

 

 

Simon Thomas AC

Cadeirydd Dros Dro y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 

 

22 Hydref 2012