Cydraddoldeb a hawliau dynol mewn gofal preswyl yng Nghymru yn ystod coronafeirws

Hydref 2020


 

Ynglŷn â ni

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr ac mae wedi’i achredu gan y Cenhedloedd Unedig fel sefydliad hawliau dynol cenedlaethol ‘Statws A’. Rydym yn gweithredu'n annibynnol fel corff cyhoeddus statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Rydym wedi cael pwerau gan y Senedd i gynghori'r Llywodraeth ar oblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol ynghylch deddfau a deddfau arfaethedig, ac i gyhoeddi gwybodaeth neu ddarparu cyngor ar unrhyw fater sy'n gysylltiedig â cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Gallwch ganfod rhagor am ein gwaith ar ein gwefan.

Cyflwyniad

1.     Mae'r pandemig coronafeirws wedi cael effaith ddwys ar y rhai sy'n byw mewn gofal preswyl ac wedi codi cwestiynau difrifol ynghylch y gwerth rydym yn ei roi ar fywydau pobl hŷn ac anabl. Mae tystiolaeth na chynhaliwyd safonau cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys mewn penderfyniadau allweddol ynghylch derbyniadau cartrefi gofal, ymweliadau a mynediad at ofal critigol. Wrth i ni baratoi ar gyfer ton nesaf y pandemig, mae gennym gyfle pwysig i archwilio sut y gwnaed y penderfyniadau hyn a beth arall sydd angen ei wneud i ddiogelu hawliau pobl hŷn ac anabl.

2.     Nawr yn fwy nag erioed dylai ein deddfau cydraddoldeb a hawliau dynol fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae’r deddfau hyn yn nodi rhwymedigaethau’r llywodraeth a darparwyr gwasanaeth i amddiffyn bywydau, urddas, lles a rhyddid pobl. Maent yn darparu fframwaith ymarferol i lywio penderfyniadau ynghylch cynnal a chydbwyso ein hystod lawn o hawliau, gan helpu i asesu effaith cyfyngiadau ac a ydynt yn gymesur ac yn briodol i anghenion unigol. Un o egwyddorion pwysig cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol yw y dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys pobl mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae gwrando ar brofiadau byw pobl hŷn ac anabl a dysgu ohonynt yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen.

3.     Mae'r briff hwn yn disgrifio'r materion allweddol sydd wedi codi mewn cartrefi gofal, ac yn nodi'r fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol y dylid ei weithredu i'w hatal rhag digwydd eto ac i wella arfer. Y bwriad yw cefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a darparwyr i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau ac ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol yn yr ymateb parhaus i'r pandemig. Trwy gydol y briff rydym yn defnyddio ‘cartrefi gofal’ i gyfeirio at bob math o ofal cymdeithasol preswyl i oedolion, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl hŷn ac oedolion anabl o unrhyw oedran. Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â Chymru. Rydym hefyd wedi cyhoeddi briff ar goronafeirws mewn cartrefi gofal yn Lloegr.


Materion sydd wedi codi mewn cartrefi gofal[1]

Marwolaethau oherwydd COVID-19

4.     Bu farw bron i 19,400 o breswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru a Lloegr gyda COVID-19 hyd at 12 Mehefin, gan gyfrif am bron i 40 y cant o'r holl farwolaethau o'r feirws.[2] At ei gilydd, mae marwolaethau mewn cartrefi gofal wedi cynyddu bron i 66 y cant yng Nghymru o gymharu â blynyddoedd blaenorol.[3] I ddechrau, ni chynhwyswyd marwolaethau o COVID-19 mewn cartrefi gofal mewn adroddiadau swyddogol.[4]

5.     Fe fu marwolaethau anghymesur ymhlith rhai grwpiau, gan gynnwys y rhai 65 oed a hŷn,[5] y rhai o grwpiau Du ac Asiaidd [6] a dynion.[7] Roedd gan bron i hanner y preswylwyr cartrefi gofal a fu farw ddementia neu glefyd Alzheimer.[8] Mae bylchau data’n parhau yng Nghymru ac ni fu'n bosibl dadansoddi marwolaethau ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig.  

Derbyniadau a phrofi

6.     Yng nghamau cyntaf y pandemig, cyfarwyddodd Llywodraeth Cymru Fyrddau Iechyd Lleol i ryddhau pob claf yr ystyrir ei fod yn ffit yn feddygol fel y gallent ryddhau gallu'r GIG i drin cleifion COVID-19.[9] Rhyddhawyd rhai unigolion o ysbytai i ofal preswyl ond nid oedd yn ofynnol profi cyn eu derbyn.[10] Mae hyn wedi'i nodi fel ffactor posib wrth ledaenu coronafeirws i gartrefi gofal.[11] Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy'n ei gwneud yn ofynnol profi pob unigolyn sy'n cael ei ryddhau o'r ysbyty i gartrefi gofal, ni waeth a gawsant eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19 ai peidio.[12] Er gwaethaf gwelliannau mwy diweddar mewn capasiti profi,[13] mae darparwyr wedi parhau i riportio anawsterau ar lawr gwlad ac oedi cyn cael canlyniadau.[14]

7.     Gall gofynion i breswylwyr ynysu yn absenoldeb profion neu ganlyniadau wedi'u cadarnhau gael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol. Dywedodd un rheolwr cartref gofal yng Nghymru fod ynysu yn cael “effaith enfawr ar iechyd a lles meddwl”, gan arwain at lai o symudedd a phobl yn bwyta ac yn yfed llai.[15]

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

8.     Roedd adroddiadau eang o fynediad annigonol i PPE mewn cartrefi gofal yn ystod ton gyntaf y pandemig.[16] Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddarparu cyflenwadau PPE i awdurdodau lleol, ac mae cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol yn rheoli ac yn cydlynu dosbarthiad i ddarparwyr gofal yn eu hardaloedd.[17] Fe ganfu ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid fod darparwyr gofal yn cael anawsterau wrth gael PPE digonol yn ystod camau cynnar y pandemig.[18] Rydym felly yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru sy'n ailddatgan eu hymrwymiad i ddarparu PPE am ddim i gartrefi gofal, ac yn nodi ymagwedd Cynllun Gweithredu Cartrefi Gofal bod cytundeb lefel gwasanaeth wedi'i roi ar waith rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ddarparu PPE ar gyfer gofal cymdeithasol o fewn ardaloedd awdurdodau lleol, gan gynnwys darparwyr preifat, annibynnol a thrydydd sector.[19]

Tynnu gofal iechyd yn ôl

9.     Ail-flaenoriaethwyd adnoddau gofal iechyd yn ystod y don gyntaf i ymdopi ag effaith uniongyrchol y pandemig, gan arwain at dynnu meddygon teulu a gwasanaethau gofal iechyd arferol eraill o gartrefi gofal.[20] Mae tystiolaeth yn awgrymu bod hyn wedi cael effaith ehangach ar iechyd preswylwyr, gan gyfrannu o bosibl at nifer y marwolaethau ‘gormodol’ yn y cyfnod hwn.[21]

10.  Daeth adroddiadau hynod bryderus i’r amlwg bod hysbysiadau ‘peidiwch â dadebru’ yn cael eu gweithredu mewn ffordd gyffredinol i gynlluniau gofal pobl hŷn ac anabl heb ymgynghori.[22] Yn dilyn hynny, cyhoeddodd y Prif Swyddog Meddygol a’r Prif Swyddog Nyrsio lythyr ar y cyd yn nodi na ddylai oedran, anabledd neu gyflyrau tymor hir fyth fod yn unig reswm dros gyhoeddi gorchymyn ‘peidiwch â dadebru’ yn erbyn dymuniadau unigolyn.[23]

Cyfyngiadau ar ymweliadau

11.  Rhoddwyd cyfyngiadau cyffredinol ar ymweliadau â chartrefi gofal yn ystod ton gyntaf y pandemig, a godwyd dim ond pan ysgrifennodd LLywodraeth Cymru at gartrefi gofal ar 5 Mehefin yn cynghori ar sut y gallant hwyluso ymweliadau awyr agored a chyhoeddwyd canllawiau ar 25 Mehefin.[24] Roedd y canllawiau i gartrefi gofal yn darparu mwy o fanylion am ystyriaethau ar gyfer hwyluso ymweliadau awyr agored, a chyngor i hwyluso ymweliadau dan do mewn amgylchiadau eithriadol ac ar seiliau tosturiol. Rydym yn croesawu datganiadau Gweinidogol diweddar a chyngor Llywodraeth Cymru i gartrefi gofal y gwneir unrhyw benderfyniadau i gyfyngu ar ymweliadau dim ond pan fydd hynny'n hollol angenrheidiol a dylent gynnwys timau amlasiantaethol.[25] Rydym yn dal i bryderu, fodd bynnag, fod cyfyngiadau coronafeirws lleol yn arwain at neu y byddant yn arwain at ataliadau cyffredinol o ymweliadau â chartrefi gofal ar draws y meysydd hynny.

Y fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol

12.     Fe ddaw’r fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol ar gyfer cartrefi gofal yn ystod y pandemig o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Hawliau Dynol 1998, cytuniadau a darpariaethau hawliau dynol rhyngwladol mewn deddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd llawer o'r materion sydd wedi codi mewn cartrefi gofal yn ymwneud cynnwys hawliau sy'n gorgyffwrdd.

Deddf Cydraddoldeb 2010

13.     Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (‘y Ddeddf Cydraddoldeb’) yn amddiffyn unigolion rhag gwahaniaethu ac yn hyrwyddo cymdeithas decach a mwy cyfartal. Er bod COVID-19 yn gosod heriau iechyd cyhoeddus digynsail, nid yw'r Ddeddf Cydraddoldeb wedi'i diwygio na'i diddymu. Felly rhaid i bob un sydd â dyletswydd ac sydd â rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb barhau i weithredu’n gyfreithlon, gan gymryd y camau angenrheidiol i atal gwahaniaethu anghyfreithlon a darparu gwasanaethau ag anghenion defnyddwyr mewn golwg.

Nodweddion gwarchodedig

14.     Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu ar sail naw nodwedd warchodedig: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.[26] Bydd y mwyafrif o breswylwyr cartrefi gofal yn bodloni diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o anabledd.[27] Bydd y mwyafrif mewn grwpiau oedran hŷn, er bod nifer o bobl oed gweithio a phobl ifanc iau anabl hefyd yn byw yn y lleoliadau hyn.

Atal gwahaniaethu

15.     Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol (lle mae rhywun yn cael ei drin yn wahanol oherwydd nodwedd warchodedig) a gwahaniaethu anuniongyrchol (lle mae polisi’n berthnasol ‘yn niwtral’ i bob grŵp ond yn rhoi grŵp penodol dan anfantais). Ni ellir cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol (ac eithrio gwahaniaethu ar sail oedran) ac mae bob amser yn anghyfreithlon os nad oes eithriad penodol yn berthnasol.[28] Gellir cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol (ac felly byddai'n gyfreithlon), ond dim ond os yw'n ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon.[29]

16.     Mae'r Ddeddf hefyd yn gwahardd gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd (lle mae person anabl yn cael ei drin yn anffafriol - yn hytrach nag yn llai ffafriol nag un arall - neu'n cael ei roi dan anfantais oherwydd rhywbeth sy'n ymwneud â'i anabledd). Dim ond os yw'n ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon y mae gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd yn gyfreithlon.[30]

17.     Mae'n ddyletswydd ar gyflogwyr, darparwyr gwasanaeth a'r rheini sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i wneud addasiadau rhesymol fel y gall pobl anabl gael mynediad at wasanaethau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, mor hawdd â phobl nad ydynt yn anabl.[31] Mae tair rhan i'r ddyletswydd:

·         Newid polisi neu'r ffordd y mae rhywbeth yn cael ei wneud - er enghraifft, newid y ffordd y darperir gofal i rywun sydd ag anghenion gwahanol i breswylwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth yn fformat hygyrch

·         Gwneud newidiadau i'r amgylchedd adeiledig - er enghraifft, sicrhau bod lleoedd cyhoeddus yn hygyrch i'r holl breswylwyr a bod addasiadau angenrheidiol wedi'u gwneud ar gyfer preswylwyr unigol

·         Darparu cymhorthion ategola gwasanaethau - er enghraifft, cyflwyno cyfarpar newydd megis dolen glyw, neu darparu gymorth ychwanegol (gwasanaethau ategol) lle mae rhywun arall yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r person anabl, megis darllenydd, cyfieithydd iaith arwyddion neu weithiwr Cymorth, a darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch fel print bras neu sain. Rhaid peidio â throsglwyddo costau addasiad rhesymol i’r ddefnyddiwr gwasanaeth.

18.  Mae tystiolaeth bod rhai pobl hŷn ac anabl mewn cartrefi gofal yn cael eu rhoi mewn mwy o berygl o niwed gan benderfyniadau a gymerir mewn ymateb i goronafeirws. Er enghraifft, mae risg o drosglwyddo asymptomatig os mai'r polisi yw defnyddio PPE gyda thrigolion symptomatig yn unig.[32] Er y byddai hyn yn effeithio ar yr holl breswylwyr (a staff), efallai mai’r rhai sydd mewn mwy o berygl o haint neu salwch difrifol, megis pobl â dementia[33] a'r rhai o leiafrifoedd ethnig,[34] a fyddai dan anfantais arbennig. Gallai’r grwpiau hyn hefyd gael eu heffeithio'n anghymesur gan gapasiti a pholisïau profi cyfyngedig sy'n caniatáu derbyniadau i gartrefi gofal heb brofi effeithiol.

19.  Yn ogystal â'r risgiau o'r feirws ei hun, mae penderfyniadau i reoli'r ymlediad yn debygol o effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig yn wahanol. Er enghraifft, gallai gorfodi ynysu a phrofi beri gofid arbennig i rywun ag anableddau dysgu neu awtistiaeth a'r rhai â dementia.[35] Yn yr un modd, gall PPE achosi problemau i rai grwpiau - er enghraifft y rhai â cholled clyw sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau, a phobl â dementia a allai fod yn ofidus os na allant ddarllen ciwiau emosiynol trwy fwgwd.[36]

Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED)

20.  Mae’r PSED yn ceisio prif ffrydio ystyriaethau cydraddoldeb wrth i awdurdodau cyhoeddus wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd.[37] Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus roi sylw dyledus yn barhaus i'r angen i (a) ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, (b) hyrwyddo cyfle cyfartal ac (c) meithrin cysylltiadau da rhwng y rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad ydynt yn eu rhannu.[38] Yng nghyd-destun gofal cymdeithasol, mae'r PSED yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus (megis adrannau'r Llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff y GIG) a'r rhai sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus (er enghraifft lle mae awdurdod lleol yn contractio gwasanaeth allan).[39]

21.  Mae rhoi sylw dyledus i hyrwyddo cydraddoldeb yn cynnwys: dileu neu leihau anfanteision y mae pobl yn eu dioddef oherwydd eu nodweddion gwarchodedig; cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle mae'r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill, gan gynnwys ystyried anabledd; ac annog pobl o grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae eu cyfranogiad yn anghymesur o isel.[40] Mae meithrin cysylltiadau da yn golygu mynd i'r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl o wahanol grwpiau. Gall cydymffurfio â'r ddyletswydd gynnwys trin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill.

22.  Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd, dylai awdurdodau cyhoeddus a darparwyr gofal asesu effaith polisïau wrth iddynt gael eu datblygu a monitro'r effaith wirioneddol wrth iddynt gael eu gweithredu.[41] Dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys pobl mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a pho fwyaf arwyddocâd y penderfyniad, y mwyaf ddylai'r ymdrech fod.[42] Mae'r camau hyn yn hanfodol bwysig i atal gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i'r afael ag anfantais, a chefnogi diwylliant o dryloywder ac atebolrwydd.[43]

23.     Dylai asesiadau gael eu seilio ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Os nad oes gan awdurdodau cyhoeddus a darparwyr gofal y dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni'r ddyletswydd rhaid iddynt gymryd camau i lenwi'r bylchau, gan gynnwys casglu ffynonellau data newydd a chomisiynu cyngor neu ddadansoddiad allanol. Lle amharwyd ar ddulliau casglu data arferol yn ystod y pandemig, dylai awdurdodau cyhoeddus arloesi i ddod o hyd i ddewisiadau amgen.[44] Gall cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a grwpiau eraill yr effeithir arnynt hefyd fod yn ffordd allweddol o ddeall yr effaith ar gydraddoldeb a'r anfanteision y mae gwahanol grwpiau yn eu hwynebu.

24.     Mae'n bwysig wrth ddiwallu'r PSED i ystyried effaith gronnol cyfres o benderfyniadau a all ymddangos ar eu pennau eu hunain yn gymharol fach ond sy'n cyd-daro i greu problem ddifrifol. Er enghraifft, o’u cymryd gyda’i gilydd, gall cyfyngiadau ar ymweliadau teulu, newidiadau mewn arferion gofal arferol a llai o fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol unigolion ac effaith anghymesur ar rai grwpiau.[45]

25.     Nid yw'n glir o'r dystiolaeth sydd ar gael sut y daethpwyd i rai penderfyniadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ynghylch yr ymateb i COVID-19 mewn cartrefi gofal ac a ystyriwyd yr effaith ar gydraddoldeb. Efallai fod hyn wedi arwain at fethiannau i gydymffurfio â'r PSED. Rydym yn pryderu a yw data digonol yn cael eu casglu i ddeall a lliniaru effeithiau posibl neu wirioneddol fframweithiau polisi parhaus a phenderfyniadauynghylch  darparu gwasanaeth ar bob lefel.[46]

Y dyletswyddau penodol

26.  Mae nifer o ddyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru sy'n cefnogi cyrff i gydymffurfio â'r PSED. Y rhai mwyaf perthnasol yw'r gofynion i ymgysylltu â grwpiau yr effeithir arnynt (rheoliad 5), sicrhau sylfaen dystiolaeth gadarn (rheoliad 7) a chyhoeddi asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb (EIAs) mewn fformat hygyrch (rheoliad 8 (1) (d)). Mae'r gofynion hyn yn dal i fod yn berthnasol yng nghyd-destun coronafeirws.

 

27.  Mae adborth gan ein rhanddeiliaid yn awgrymu bod diffyg ymgysylltu â phobl hŷn ac anabl, ac nad oedd eu lleisiau a'u straeon yn cael eu clywed na'u hadlewyrchu mewn penderfyniadau polisi.[47] Fe wnaethon nhw ddweud wrthym hefyd fod cyfathrebiadau weithiau'n ddryslyd neu'n aneglur, yn wrthgyferbyniol neu'n cael eu cam-amseru.

28.  Yn ystod y don gyntaf o goronafeirws, methodd Llywodraeth Cymru â darparu a chyhoeddi asesiadau cadarn o’r effaith ar gydraddoldeb i ddangos bod ei hymagwedd yn gymesur a bod mesurau effeithiol ar waith i liniaru unrhyw effaith wahaniaethol. Mae nifer o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb ac asesiadau o’r effaith integredig wedi'u cyhoeddi'n ôl-weithredol ers hynny. Er bod croeso i hyn, ac mae’n gwneud gwahaniaeth wrth arddangos sut yr ystyriwyd tystiolaeth briodol a bod mesurau lliniaru addas wedi'u nodi, rydym wedi nodi nifer o themâu cyffredin ar gyfer gwella. Mae'r rhain yn ymwneud â phryd y cawsant eu cyhoeddi, camau lliniaru, gwerthuso ac ymgysylltu. Rydym wedi cynnwys argymhellion yn y meysydd hyn i helpu i wella arfer.

Deddf Hawliau Dynol 1998

29.  Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 (HRA) yn nodi'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol y mae gan bawb hawl iddynt. Mae'n ymgorffori'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith ddomestig y DU. Ymhellach, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Cymru 2017 yn nodi na all Senedd Cymru/Welsh Parliament a Llywodraeth Cymru wneud penderfyniadau na deddfau nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol.[48] Rhaid i gyrff cyhoeddus a chyrff eraill sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus [49] beidio â gweithredu mewn ffordd sy'n anghydnaws â'r hawliau a nodir yn yr HRA, p'un a ydynt yn ymwneud â dylunio polisïau a gweithdrefnau neu’n darparu gwasanaethau'n uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys darparwyr cartrefi gofal sy'n darparu gofal a drefnir neu y telir amdano gan yr awdurdod lleol, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn rhannol neu'n llawn.[50]

30.  Disgrifiwyd hawliau dynol gan cyrff y Cenhedloedd Unedig fel rhai ‘anwahanadwy a chyd-ddibynnol’.[51] Mae hyn yn golygu eu bod yn rhyng-gysylltiedig ac na ellir mwynhau un set o hawliau a rhyddid yn llawn heb eraill. Yn ystod y pandemig coronafeirws, mae'n bwysig i'r Llywodraeth ddeall effaith ehangach penderfyniadau a cheisio amddiffyn ein hystod lawn o hawliau lle bynnag y bo modd.

Erthygl 2: yr hawl i fywyd

31.  Mae’r hawl i fywyd yn ‘anwadadwy’, sy’n golygu bod rhaid ei chynnal hyd yn oed ar adegau o argyfwng.[52] Mae gan awdurdodau cyhoeddus rwymedigaethau cadarnhaol i amddiffyn bywyd, gan gynnwys dyletswydd i atal marwolaethau y gellir eu hosgoi ac i ymchwilio i farwolaethau y gallai’r Wladwriaeth neu awdurdod cyhoeddus fod yn gyfrifol amdanynt.[53] Dylai awdurdodau cyhoeddus hefyd ystyried yr hawl i fywyd wrth wneud penderfyniadau a allai roi pobl mewn perygl neu effeithio ar eu disgwyliad oes.[54]

32.  Efallai fod nifer o benderfyniadau yn yr ymateb i COVID-19 wedi arwain at fethiannau i amddiffyn yr hawl i fywyd yn ddigonol, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch rhyddhau o'r ysbyty, derbyniadau i gartrefi gofal, blaenoriaethu profion a mynediad at ofal iechyd a thriniaeth angenrheidiol. Mae grwpiau cynrychioliadol wedi disgrifio sut yr oedd y cyfuniad o benderfyniadau yn yr ymateb i’r pandemig naill ai'n anwybyddu preswylwyr cartrefi gofal neu'n eu trin fel rhai aberthadwy.[55] Yng Nghymru, comisiynodd y Prif Weinidog adolygiad cyflym arbenigol annibynnol â ffocws o'r profiad gweithredol mewn cartrefi gofal rhwng Gorffennaf a Medi a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020.[56]

Erthygl 3: rhyddid rhag camdriniaeth

33.  Mae erthygl 3 yn amddiffyn pobl rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol. Mae'n hawl absoliwt, ac fel yr hawl i fywyd mae'n rhaid ei chynnal bob amser, gan gynnwys mewn argyfyngau. Ni ellir byth defnyddio diffyg adnoddau fel amddiffyniad ar gyfer camdriniaeth.

·         Diffinnir artaith fel achos bwriadol o achosi dioddefaint meddyliol neu gorfforol difrifol a chreulon iawn.

·         Triniaeth annynol yw'r hyn sy'n achosi dioddefaint corfforol neu feddyliol dwys, gan gynnwys cam-drin corfforol neu seicolegol difrifol mewn lleoliadau iechyd a gofal.[57] Mae'n cynnwys camdriniaeth ac esgeulustod bwriadol a ddiffinnir fel achos bwriadol o achosi dioddefaint meddyliol neu gorfforol difrifol a chreulon iawn.

·         Mae triniaeth  ddiraddiol yn driniaeth hynod waradwyddus a diurddas. Mae p'un a gyrhaeddir y trothwy hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys hyd y driniaeth, ei heffeithiau ac iechyd neu ‘fregusrwydd’ yr unigolyn. Mae triniaeth ddiraddiol yn cynnwys camdriniaeth ac esgeulustod bwriadol.

34.  Mae’r Pwyllgor Ewropeaidd er Atal Artaith (CPT) wedi nodi y gellir cannnnfod bod amlygiad pobl hŷn i goronafeirws a “lefel eithafol o ddioddefaint” yn anghydnaws â rhwymedigaethau Erthygl 3 Llywodraeth y DU.[58] Mae gan ostyngiadau mewn mynediad at ofal iechyd arferol a chritigol, ac effaith feddyliol a chorfforol ynysu (gan gynnwys oherwydd cyfyngiadau ar ymweliadau a materion ynghylch gallu profi neu oedi) oll oblygiadau yn y cyd-destun hwn. Mae’r CPT yn glir y gall “lefel annigonol o ofal iechyd arwain yn gyflym at sefyllfaoedd sy’n dod o fewn cwmpas y term ‘triniaeth annynol a diraddiol’.”[59]

35.  Mae llai o oruchwyliaeth wrth i arolygiadau gael eu hoedi a chyfyngir ar ymweliadau hefyd yn cynyddu'r risg y bydd toriadau Erthygl 3 ac y bydd cartrefi gofal yn gweithredu fel gwasanaethau caeedig.[60] Mae'r cyngor a'r hyblygrwydd rheoliadol a ddarparwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystod yr amser hwn wedi chwarae rhan bwysig wrth sicrhau lles preswylwyr.[61]

36.  Gallai’r pwysau ar gartrefi gofal yn y cyfnod hwn, y gofid i breswylwyr a'r heriau wrth weithredu rheolaethau heintiau arwain at fwy o ddefnydd o ataliaeth. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddata cadarn ar ataliaeth yn y lleoliadau hyn felly nid yw'n bosibl gwneud asesiad na nodi tueddiadau. Cyfyngu yw unrhyw weithred a gyflawnir gyda'r pwrpas o gyfyngu ar symudiad, rhyddid a/neu gallu unigolyn i weithredu'n annibynnol.[62] Mae'n cynnwys mathau cemegol, mecanyddol a chorfforol o reoli, gorfodi ac ynysu gorfodol. Gallai defnyddio ataliaeth ar bobl mewn cartrefi gofal fod yn driniaeth annynol neu ddiraddiol os nad yw'n gymesur yn y sefyllfa ac yn hollol angenrheidiol i atal niwed.[63] Mae ataliaeth yn fwy tebygol o fod yn driniaeth annynol a diraddiol pan gaiff ei defnyddio ar grwpiau sydd mewn perygl penodol o niwed neu gam-drin.[64]

Erthygl 5: hawl i ryddid

37.  Mae erthygl 5 yn amddiffyn unigolion rhag cael eu cadw'n fympwyol ac yn darparu hawl i herio enghraifft o gadw a allai fod yn anghyfreithlon.[65] Efallai na fydd gan rai pobl sydd angen cymorth, er enghraifft y rhai â dementia, y gallu i wneud penderfyniadau ynghylch eu gofal a'u triniaeth, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch a ydynt yn symud i gartref gofal a beth sy'n digwydd pan maent yno - er enghraifft, eu trefniadau ac a ganiateir iddynt adael. Yn yr achosion hyn, gallai cyfyngu ar ryddid yr unigolyn olygu amddifadu rhyddid yn anghyfreithlon os nad oes mesurau diogelwch priodol ar waith.

38.  Mae mesurau diogelu ar gyfer amddifadu o ryddid (DoLS) o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn ymateb i hyn trwy greu cyfres o wiriadau i sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau yn angenrheidiol, yn briodol ac er budd gorau'r unigolyn. Mae'r Ddeddf yn darparu y dylid cefnogi pobl i wneud penderfyniadau cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys trwy fynediad at eiriolaeth, ac y dylai unrhyw gyfyngiadau ar eu rhyddid fod yr opsiwn lleiaf cyfyngol sydd ar gael.[66]

39.  Gallai rhai mesurau a gyflwynwyd i reoli COVID-19 mewn cartrefi gofal greu cyfyngiadau newydd ar ryddid pobl - er enghraifft gofynion i ynysu, cadw pellter cymdeithasol neu gael profion. Rydym yn pryderu efallai na fydd llunwyr polisi a darparwyr yn ystyried effaith y cyfyngiadau hyn, p'un a oes opsiwn llai cyfyngol a'r hyn sydd er budd gorau'r unigolyn. Yn fwy cyffredinol, rydym yn pryderu y gallai darparwyr fod yn gwyro oddi wrth ofynion DoLS yn ystod y pandemig. Mae’r Llys Gwarchod wedi nodi cwymp “trawiadol a chythryblus” mewn ceisiadau DoLS a gostyngiad sylweddol mewn atgyfeiriadau i wasanaethau eiriolaeth,[67] er ei bod yn werth nodi nad yw hyn wedi trosi'n ostyngiad sylweddol mewn ceisiadau am DoLS i Arolygiaeth Gofal Cymru. Heb gefnogaeth i wneud penderfyniadau, efallai na fydd pobl yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch gofal a thriniaeth, gan gynnwys cynllunio diwedd oes.

Erthygl 8: hawl i fywyd preifat a theuluol

40.  Mae erthygl 8 yn amddiffyn yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth.[68] Mae'n cynnwys hawl i gyfanrwydd corfforol a seicolegol [69] ac i greu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol.[70] Gall awdurdodau cyhoeddus ymyrryd â'r hawl hon i ddilyn nod cyfreithlon, gan gynnwys amddiffyn iechyd, ond rhaid i unrhyw ymyrraeth fod yn gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur.[71]

41.  Mae cyfyngiadau ar ymweliadau a gofynion i oruchwylio ymweliadau yn debygol o ymyrryd â hawliau Erthygl 8 pobl. Mae'n annhebygol y bydd cyfyngiadau cyffredinol yn cydymffurfio â safonau hawliau dynol. Er y cyflwynwyd y cyfyngiadau hyn i helpu i amddiffyn bywydau ac iechyd preswylwyr cartrefi gofal, dylid pwyso a mesur yr effaith ehangach ar eu hawliau a'u hiechyd yn ofalus.

42.  Gallai peidio â gweld teulu a ffrindiau achosi goblygiadau difrifol posibl i iechyd meddwl a chorfforol, yn arbennig dros gyfnod hir.[72] I'r rhai sydd â dementia (sy'n cyfrif am o leiaf 70 y cant o breswylwyr cartrefi gofal yn y DU)[73] gall achosi i sgiliau gwybyddol a sgiliau eraill ddirywio'n gyflym, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu a'r gallu i adnabod aelodau'r teulu.[74] Fe glywodd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol dystiolaeth o'r gofid sylweddol yr oedd absenoldeb ymweliadau yn ei achosi i bobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.[75] Mae Cymdeithas Geriatreg Prydain wedi rhybuddio am y “risg go iawn” o niwed corfforol oherwydd ynysu.[76] Efallai y bydd preswylwyr cartrefi gofal hefyd yn dibynnu ar aelodau'r teulu i ddarparu agweddau pwysig ar eu gofal.[77] Er, i rai preswylwyr cartrefi gofal, bod y risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 mewn ymweliadau yn gorbwyso'r buddion, mewn llawer o achosion mae rhesymau lles cryf i ganiatáu ymweliadau er mwyn helpu i leihau gofid a sicrhau nad yw anghenion gofal yn cael eu hesgeuluso.[78]

43.  Gellir lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau yn sylweddol trwy roi mynediad priodol i ymwelwyr cartrefi gofal at PPE a phrofion rheolaidd (a allai ganiatáu am gyswllt corfforol), a hwyluso ymweliadau awyr agored neu lle gellir cadw pellter cymdeithasol lle bo angen. Byddai'r mesurau hyn hefyd yn helpu i osgoi'r angen am ymweliadau dan oruchwyliaeth. Gall ymagwedd gytbwys amddiffyn yr hawl i fywyd wrth gynnal yr hawl i fywyd preifat a theuluol a’r hawl i iechyd, gan sicrhau nad yw ansawdd bywyd preswylwyr cartrefi gofal yn lleihau.

Rhwymedigaethau o dan gyfraith hawliau dynol rhyngwladol

44.  Mae Llywodraeth y DU wedi llofnodi nifer o gytuniadau hawliau dynol rhyngwladol sy'n rhwymol o dan gyfraith ryngwladol. Nid oes modd gorfodi'r cytuniadau hyn yn uniongyrchol yn llysoedd y DU, ond trwy eu cadarnhau mae Llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd eu gofynion yn cael eu hadlewyrchu mewn deddfau, polisi a chanllawiau. Gellir eu defnyddio hefyd i ddehongli'r hawliau a ddiogelir o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau dynol a geir mewn cyfraith ryngwladol, sydd yn ymarferol yn golygu ymatal rhag ymyrraeth, sicrhau amddiffyniad rhag camdriniaeth a chymryd camau cadarnhaol i hwyluso eu mwynhad.[79]

45.  Rydym yn amlygu dwy hawl allweddol o dan y cytuniadau hyn, y tu hwnt i'r rhai a nodwyd eisoes trwy'r HRA, sy'n arbennig o berthnasol i gartrefi gofal yn ystod coronafeirws: yr hawl i iechyd, a hawl pobl anabl i fyw'n annibynnol. Mae’n ofynnol i’r Lywodraeth barchu, amdiffyn a chyflawni hawliau dynol a geir mewn cyfraith ryngwladol, sydd yn ymarferol yn golygu ymatal rhag camdriniaeth a chymryd camau cadarnhaol i hwyluso eu mwynhad.

Ymgorffori cytuniadau rhyngwladol

46.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgorffori rhai o'r hawliau a ddiogelir mewn cytuniadau rhyngwladol mewn deddfwriaeth ddomestig. Er enghraifft, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae meysydd eraill o bolisi Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at sut y bydd rhwymedigaethau cytuniad yn cael eu dwyn ymlaen ar lefel ddatganoledig, er enghraifft mae 'Gweithredu ar Anabledd: Yr hawl i fframwaith byw'n annibynnol a chynllun gweithredu' Llywodraeth Cymru yn nodi ei gweledigaeth ar gyfer bwrw ymlaen â'r CRPD yng Nghymru.

Yr hawl i iechyd

47.  O dan Erthygl 12 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) mae’n ofynnol i’r Llywodraeth gydnabod hawl pawb i’r ‘safon gyraeddadwy uchaf o iechyd corfforol a meddyliol’, gan gynnwys trwy drin a rheoli clefydau epidemig.[80] Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (CESCR), sy'n adolygu cydymffurfiad gwladwriaethau ag ICESCR, wedi amlygu’r ffaith bod gan yr hawl i iechyd gysylltiad agos â gwireddu hawliau eraill, gan gynnwys yr hawl i fywyd a'r gwaharddiad ar artaith, triniaeth annynol neu ddiraddiol.[81]

48.  Wrth gyflawni'r hawl i iechyd, mae CESCR wedi pwysleisio pwysigrwydd deall rhyddid a hawliau, megis yr hawl i fod yn rhydd rhag artaith a thriniaeth feddygol nad yw’n gydsyniol, a’r hawl i system amddiffyn iechyd sy'n rhoi cyfle cyfartal i fwynhau’r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd.[82] Mae CESCR hefyd wedi amlygu’r hawl i ofal iechyd amserol a phriodol [83] a'r angen i sicrhau bod cyfleusterau, nwyddau a gwasanaethau gofal iechyd ar gael ar lefel ddigonol, eu bod o ansawdd da, eu bod yn hygyrch i bawb heb wahaniaethu ac yn sensitif i wahanol ddiwylliannau.[84]

49.  Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi nodi’n glir bod rhaid i benderfyniadau anodd ynghylch darparu triniaeth i bobl hŷn gael eu llywio gan ‘ymrwymiad i urddas a’r hawl i iechyd’, y mae gan bob bywyd werth cyfartal oddi tano.[85] Gall polisïau i’r gwrthwyneb, gan gynnwys cyfyngiadau cyffredinol ar ofal critigol a defnyddio hysbysiadau ‘peidiwch â dadebru’ heb gydsyniad, dorri’r hawl i beidio â gwahaniaethu o dan yr ECHR a ddarllenir ar y cyd â’r hawl i fywyd.[86] Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig hefyd wedi pwysleisio, hyd yn oed pan yw gwasanaethau iechyd nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 yn cael eu lleihau, mae'r hawl i iechyd yn mynnu bod pobl hŷn yn parhau i dderbyn gofal iechyd a chymdeithasol integredig, gan gynnwys gofal lliniarol, adsefydlu a mathau eraill o ofal.[87]

50.  Yn ystod ton gyntaf y pandemig, roedd mynediad at ofal iechyd nad oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â choronafeirws wedi’i gyfyngu ar gyfer miliynau o gleifion pan ddargyfeiriwyd staff a chyllid i ddiwallu anghenion y rhai a oedd yn ddifrifol wael gyda COVID-19.[88] Mewn cartrefi gofal, mae’n debygol bod gostyngiad mewn mynediad at ofal iechyd a llai o ddiagnosio o gyflyrau newydd [89] wedi cyfrannu at y nifer uchel o farwolaethau ‘gormodol’ yn y cyfnod hwn.[90] Mae tynnu gwasanaethau iechyd craidd yn her uniongyrchol i fwynhad hawl preswylwyr i iechyd, a dylid ei osgoi tra bo'r pandemig yn parhau trwy ganiatáu am asesiadau a thriniaeth wyneb yn wyneb lle mae’n bosibl, gan ddefnyddio PPE a mesurau eraill i reoli haint.

51.  Mae gostyngiad mewn mynediad at ofal iechyd ar gyfer y boblogaeth ehangach yn peryglu dirywiad mewn safonau iechyd a allai arwain at fwy o bobl hŷn ac anabl yn gweld angen gofal preswyl yn y dyfodol.

Yr hawl i fyw'n annibynnoli

52.  Mae'n ofynnol o dan Erthygl 19 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i Gymru barchu, amddiffyn a chyflawni'r hawl i fyw'n annibynnol fel rhan o'r gymuned. Mae hon yn hawl ganolog sy'n sail i lawer o hawliau eraill. Mae'n golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall pobl anabl fwynhau'r un hunanbenderfyniad ac annibyniaeth â phawb arall.[91] Mae'r hawl i fyw'n annibynnol yn cynnwys cael dewis a rheolaeth dros ble rydych yn byw a gyda phwy rydych yn byw.[92] Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cefnogaeth unigol sy'n galluogi annibyniaeth a chynhwysiant, a sicrhau bod gwasanaethau cymunedol sydd ar gael i'r boblogaeth gyffredinol yn hygyrch i bobl anabl.[93]

53.  Mae'r hawl i fyw'n annibynnol yn golygu bod pobl anabl yn cael pob modd i'w galluogi i arfer dewis a rheolaeth dros eu bywydau, gan gynnwys gwneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd, lles, cyfathrebu a pherthnasoedd personol.[94] Oherwydd hynny, gall cyfyngiadau ar ymweliadau â chartrefi gofal gan deulu, ffrindiau a gweithwyr gofal iechyd, cyfyngiadau ar ryddid pobl, a diffyg mynediad at eiriolaeth a gwneud penderfyniadau â chymorth fod yn ymyrraeth â mwynhad pobl anabl o'r hawl i fyw'n annibynnol. Gall cyfyngiadau eraill, megis methu â gadael cartrefi gofal neu gyfyngiadau ar weithgareddau cymdeithasu a hamdden hefyd gael effaith ar fyw'n annibynnol.[95]

54.  Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau wedi datgan bod rhaid sicrhau ystod y gefnogaeth yn y gymuned, gan gynnwys gofal cartref a chymorth personol, a rhaid i wasanaethau adsefydlu 'gael eu sicrhau ac nid eu dirwyn i ben gan eu bod yn hanfodol ar gyfer arfer yr hawliau pobl ag anableddau'.[96] Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio y gallai effaith economaidd y pandemig arwain at doriadau yn y dyfodol i ofal yn y gymuned sy’n cyfyngu ar yr hawl i fyw’n annibynnol yn y tymor hwy.[97]

Ymgorffori CRPD

55.  Mae ‘Gweithredu ar Anabledd: Yr hawl i fframwaith byw’n annibynnol a chynllun gweithredu’ Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth ar gyfer bwrw ymlaen â gweithredu’r CRPD yng Nghymru, gan ystyried argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig..[98] Mae'r fframwaith yn ymrwymo i ymgysylltu'n ystyrlon â phobl anabl a'u cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac yn sail iddo mae’r cysyniad o gyd-gynhyrchu, gan gydnabod 'na ellir gwella gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl anabl yn llawn oni bai eu bod yn cymryd rhan weithredol. wrth ddylunio a darparu'r gwasanaethau hynny.’[99] Mae adborth gan ein rhanddeiliaid yn awgrymu na chyflawnwyd yr ymrwymiadau hyn ym mhrofiad pobl hŷn ac anabl mewn lleoliadau gofal preswyl yn ystod y pandemig, gan danseilio eu mwynhad o'r hawl i fyw'n annibynnol.

56.  Rydym wedi datblygu model cyfreithiol arfaethedig ar gyfer ymgorffori'r hawl i fyw'n annibynnol mewn cyfraith ddomestig yn llawn,[100] a gymeradwywyd gan y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol yn 2019.[101] Rydym yn pryderu y gallai'r pandemig arwain at atchweliad hirdymor mewn safonau ac amddiffyniadau i bobl anabl. Byddai ymgorffori hawl i fyw'n annibynnol yn ein barn ni yn helpu i atal hyn, a byddai'n sicrhau mynediad i wneud iawn mewn achosion lle mae hawliau pobl anabl wedi cael eu cwtogi'n anghyfreithlon.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

57.  Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu fframwaith cyfreithiol i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gallu cyrchu gwasanaethau cyngor, gwybodaeth, arweiniad ac eiriolaeth, a'u bod yn gysylltiedig â gwneud penderfyniadau a’u bod â llais a rheolaeth dros eu gofal a thriniaeth. Mae tystiolaeth gan ein rhanddeiliaid yn awgrymu nad dyma oedd y realiti yn ystod y don gyntaf o COVID-19, sydd wedi datgelu a gwaethygu materion hirsefydlog ynghylch gallu pobl i ddeall a gwireddu eu hawliau mewn lleoliadau gofal preswyl.

Dyletswydd llesiant

58.  Mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar unrhyw un sy'n arfer dyletswyddau o dan y Ddeddf i hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth. Fe ganfu ein hymgysylltu â rhanddeiliaid y bu dirywiad amlwg yn llesiant ac ansawdd bywyd y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig. Er enghraifft, nododd Alzheimer’s Cymru fod rhai preswylwyr â dementia wedi profi dirywiad gwybyddol clir yn ystod yr amser pan gafodd ymweliadau eu hatal.[102] Cefnogir hyn gan y profiadau a ddaliwyd yn adroddiad Lleisiau Cartrefi Gofal Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.[103]

59.  Yn ogystal â llesiant meddyliol, fe ganfu ein hymgysylltu â rhanddeiliaid fod atal apwyntiadau gofal iechyd arferol yn ystod y pandemig wedi effeithio ar iechyd corfforol pobl hŷn. Mae hyn wedi arwain at ôl-groniad o apwyntiadau wedi'u canslo a chyflyrau iechyd heb eu diagnosio. Os na eir i'r afael â hyn, gallem wynebu argyfwng ehangach ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol nad yw'r sector yn barod ar ei gyfer.

Llais ac ymreolaeth

60.  Mae adran 6 yn gosod dyletswydd drosfwaol ar bob dyletswydd ymarfer i roi sylw i: (a) farn, dymuniadau a theimladau'r unigolyn; (b) pwysigrwydd hyrwyddo a pharchu eu hurddas; (c) eu nodweddion, diwylliant a chredoau (gan gynnwys, er enghraifft, iaith); ac (ch) pwysigrwydd darparu cefnogaeth briodol i'w galluogi i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

61.  Codwyd pryderon gan randdeiliaid nad oedd barn, dymuniadau a theimladau pobl hŷn (a ddisgrifir yn adran 6 y Ddyletswydd) yn cael eu hystyried yn ystod ton gyntaf y pandemig, hyd yn oed ar feysydd sylfaenol megis pa gartref y cawsant eu rhyddhau iddo, a roeddent yn dymuno cael hysbysiad Peidiwch â Dadebru yn ei le ai peidio, ac a oeddent yn gallu derbyn ymwelwyr. Er bod y pandemig yn gosod heriau digynsail ynghylch iechyd cyhoeddus, dylai fod gan bobl ddewis a rheolaeth o hyd fel y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf, a dylai unrhyw gyfyngiadau fod yn gwbl angenrheidiol a chymesur.

Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn

62.  Mae adran 7 yn gosod dyletswydd i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991.[104] Mae 18 egwyddor, wedi'u grwpio i bum thema, sef: annibyniaeth, cyfranogiad, hunangyflawniad, gofal ac urddas.[105] Er eu bod yn wahanol i’r cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol, ac heb fod yn rhwymol ar wladwriaethau, mae’r Egwyddorion yn darparu canllaw pwysig ar gyfeiriad arfer gorau rhyngwladol mewn perthynas â hawliau pobl hŷn.

63.  Mae'n amlwg o'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid bod coronafeirws wedi datgelu materion ynghylch rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran, a bod y materion hyn wedi cael effaith ar yr ymateb i'r pandemig. Fe ganfuwyd bod pobl hŷn mewn cartrefi gofal wedi cael eu diystyru a'u hanwybyddu, a fyddai'n mynd yn gwbl groes i Adran 7.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

64.  Mae Rhan 2 o'r Cod Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol) yn nodi, wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phobl anabl sydd angen gofal a chymorth, bod rhaid i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.[106]

Gwybodaeth a chanllawiau

65.  Mae adran 17 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth sy'n ymwneud â gwasanaethau gofal a chymorth ar gael ac yn hygyrch. Dylai hyn gynnwys o leiaf: sut mae'r system gofal a chymorth yn gweithredu, y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael, sut i gael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth, a sut i godi pryderon ynghylch llesiant rhywun arall yr ymddengys fod ganddo anghenion ynghylch gofal a chymorth.

66.  Nid yw oddeutu traean o’r holl bobl hŷn yn gwybod eu hawliau ac mae llawer o’r rhai sy’n eu deal yn amharod i ‘wneud ffwdan.’[107] Ymhellach, gwelsom fod cyfathrebu â staff cartrefi gofal yn ystod y pandemig wedi bod yn anghyson ac yn aneglur. Fe wnaeth Fforwm Gofal Cymru ein hysbysu bod problemau sylweddol yn ymwneud â rheoli fersiwn ar gyfercanllawiau, a oedd wedi arwain at ddryswch. Roedd adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cefnogi’r farn hon ac wedi canfod bod rheolwyr a staff cartrefi gofal yn wynebu cryn anawsterau wrth: ‘gyrchu gwybodaeth a chanllawiau hanfodol i’w cefnogi i leihau lledaeniad y feirws ac amddiffyn preswylwyr a staff. Amlygwyd materion penodol ynghylch faint o wybodaeth oedd yn newid yn gyflym yr oedd cartrefi gofal yn ei derbyn, yn aml gan sawl corff, a oedd yn aml yn ddryslyd neu'n anghyson.’[108] Fel y dywedodd un rheolwr cartref gofal, ‘Fe gawsom ein boddi â gwaith papur gan sawl asiantaeth a oedd yn cael ei ddyblygu ac weithiau’n groes i’w gilydd.’[109]

Eiriolaeth

67.  Mae adran 181 yn nodi y gallai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol drefnu eiriolaeth i bobl sydd angen gofal a chymorth.

68.  Mae rhanddeiliaid wedi ein hysbysu bod diffyg eiriolaeth yn fater hirsefydlog o fewn y sector gofal cymdeithasol, a waethygwyd o dan Covid-19. Mae hyn wedi arwain at wneud penderfyniadau heb ddealltwriaeth, cyfranogiad na chydsyniad pobl hŷn, gan fynd yn gwbl groes i ddarpariaethau eiriolaeth ac egwyddorion llais, rheolaeth a chyd-gynhyrchu a nodir yn y Ddeddf.[110] Yn hytrach nodweddwyd yr enghreifftiau a ddarparwyd gan ein rhanddeiliaid gan ddiffyg cyfranogiad ac ymreolaeth i bobl hŷn mewn penderfyniadau a oedd yn effeithio ar eu bywydau a'r gwasanaethau yr oeddent y neu cael, diffyg gweithredu ataliol trwy ddarpariaeth annigonol o brofion a PPE, a methiant i ganolbwyntio ar ansawdd bywyd a llesiant.

Deddf Coronafeirws 2020 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

69.  Cododd rhanddeiliaid bryderon ynghylch y darpariaethau yn Neddf Coronafeirws 2020 sy'n galluogi atal rhannau o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o anghenion mwyach, diwallu anghenion cymwys oedolion ynghylch gofal a chymorth, cynnal asesiadau ariannol, neu adolygu cynlluniau gofal a chymorth. Yn lle, gall awdurdodau lleol godi tâl yn ôl-weithredol am unrhyw ofal mewn amgylchiadau penodol a dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol y mae dyletswydd arnynt i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth.[111] Er bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw awdurdodau lleol wedi defnyddio'r pwerau hyn mewn gwirionedd,[112] mae pryderon yn aros ei fod yn bresennol ar y llyfr statud ac y gallai beri risgiau i hawliau pobl hŷn ac anabl.

70.  Mae hyn yn arbennig o bwysig yng ngoleuni tystiolaeth ddiweddar gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain a ganfu na ddarparwyd hyfforddiant cyfreithiol na gwybodaeth glir i 77 y cant o staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol am ddefnyddio Pwerau Brys o dan y Ddeddf Coronafeirws. Yn yr un modd, ni ddarparwyd hyfforddiant cyfreithiol na gwybodaeth glir i 73 y cant o'r rhai a holwyd am Gyfraith Hawliau Dynol,[113] rydym yn gobeithio y bydd y briff hwn yn mynd rhywfaint o'r ffordd i fynd i'r afael â'r bwlch gwybodaeth hwn.

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

71.  Mae'r ddeddfwriaeth hon yn creu system reoleiddio sy'n canolbwyntio ar anghenion y rhai hynny sy'n derbyn gofal a chymorth. O dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru amddiffyn, hyrwyddo a chynnal diogelwch a llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheoledig (gan gynnwys gwasanaethau eirioli) ac i hyrwyddo a chynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau. Nod y ddeddfwriaeth yw darparu ymateb cadarn i'r gwersi a ddysgwyd o fethiannau blaenorol yn y system.[114]

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

72.  Mae'r mesur hwn yn ei gwneud yn ofynnol bod gwasanaethau mewn gofal cymdeithasol o'r un safon ac ar gael mor hawdd a phrydlon yn Gymraeg ag yn Saesneg, a dylent fod mor eang a thrylwyr. Ni ddylai sefydliadau rhagdybio mai Saesneg yw'r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau ac ni ddylai fod yn ofynnol i siaradwyr Cymraeg ofyn am wasanaeth yn Gymraeg.[115]

73.  Mae'r darpariaethau hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod pobl hŷn sydd efallai dim ond yn gallu cyfleu eu hanghenion gofal yn effeithiol yn Gymraeg yn derbyn yr un lefel o ofal a chyfathrebu â siaradwyr y Saesneg. I lawer o siaradwyr Cymraeg, mae iaith yn elfen annatod o'u gofal,[116] yn arbennig i'r rheini ag anghenion ychwanegol megis pobl â dementia sy'n aml yn colli eu hail iaith neu'r rhai sydd wedi dioddef strôc.[117]

Sicrhau cydymffurfiad â safonau cydraddoldeb a hawliau dynol

74.  Rydym yn cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn cyflwyno heriau digynsail i'r Llywodraeth, a bod newidiadau a chanllawiau polisi pwysig wedi'u gweithredu wrth i'r pandemig fynd rhagddo, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cartrefi Gofal Llywodraeth Cymru.[118] Fodd bynnag, mae'r materion sydd wedi codi mewn cartrefi gofal yn codi pryderon gwirioneddol bod safonau cydraddoldeb a hawliau dynol wedi'u torri.[119] Mae'n hanfodol bod problemau parhaus yn cael sylw, bod arfer da yn cael ei ymgorffori a bod mesurau ar waith i atal problemau rhag ailymddangos. Mae cynnwys ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol wrth wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a lleol yn rhan allweddol o hyn.

Ein hargymhellion

Llywodraeth Cymru

(1)      Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gymryd camau brys i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch iechyd a gofal pobl hŷn mewn lleoliadau preswyl - mewn achosion unigol ac ar lefel polisi cenedlaethol - yn cael eu gwneud wrth gydweithredu ac ymgynghori â phobl hŷn a'u sefydliadau cynrychioliadol. Rhaid i hyn gael ei ategu gan ganllawiau clir, hygyrch a chyson sy'n cydymffurfio'n llawn â safonau hawliau dynol, gan gynnwys egwyddorion ymreolaeth unigol a pheidio â gwahaniaethu.

(2)      Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod dewis, rheolaeth ac ymreolaeth preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu cadw cyn belled ag y bo modd yn ystod y pandemig, a bod unrhyw gyfyngiadau yn angenrheidiol, cymesur a chyfyngedig o ran amser.

(3)      Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan breswylwyr cartrefi gofal fynediad llawn a chyfartal at ofal iechyd angenrheidiol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu a thriniaeth ysbyty, a bod ymgynghoriadau'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb lle bynnag y bo modd.

(4)      Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod hysbysiadau ‘peidiwch â dadebru’ a weithredwyd ar gam i gynlluniau gofal pobl yn cael eu dileu.

(5)      Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr i sicrhau bod pobl hŷn sydd heb alluedd yn gallu cyrchu eiriolaeth annibynnol.

(6)      Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod digon o allu profi dibynadwy, amserol i sicrhau nad yw pobl mewn cartrefi gofal yn dod i gysylltiad diangen â choronafeirws ac nad oes rhaid iddynt ynysu yn ddiangen, ac y gallant gael mynediad diogel i ymweliadau gan deulu, ffrindiau a gwasanaethau gofal iechyd.

(7)      Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod mesurau yn aros yn eu lle i warantu digon o gyfarpar diogelu personol ar gyfer cartrefi gofal drwy gydol y pandemig, dylid blaenoriaethu cyfarpar â phaneli clir lle bo angener mwyn lliniaru unrhyw anawsterau cyfathrebu i bobl anabl.

(8)      Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i hwyluso ymweliadau diogel â chartrefi gofal trwy ymestyn profion cartrefi gofal i ymwelwyr hanfodol, gan ganiatáu iddynt gael yr un mynediad at PPE a phrofion rheolaidd a ragwelir ar gyfer staff cartrefi gofal yng nghynllun gaeaf Llywodraeth Cymru.

(9)      Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio canllawiau ar ymweliadau cartrefi gofal i wahardd cyfyngiadau cyffredinol, gan gynnwys mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol ar waith, a sicrhau bod pob penderfyniad yn seiliedig ar asesiadau risg unigol fel nad yw ymweliadau yn gyfyngedig dim ond lle bo hynny'n hollol angenrheidiol. Dylai'r canllawiau gael ei hyrwyddo'n gyhoeddus i gynyddu dealltwriaeth ymhlith darparwyr, preswylwyr ac ymwelwyr ynghylch pryd y caniateir ymweliadau, a dylid eu hadolygu a'u diweddaru i ganiatáu llacio ymhellach i bolisïau ymweld lle mae'n ddiogel gwneud hynny.

(10)   Dylai Llywodraeth Cymru asesu a yw ataliaeth wedi cynyddu yn ystod y pandemig a gweithio gyda darparwyr, y GIG ac arolygiaethau i nodi pa gymorth ychwanegol y dylid ei ddarparu i osgoi ei ddefnydd a sicrhau tryloywder a monitro a goruchwylio effeithiol. Dylai canllawiau ar osgoi’r defnydd o ataliaeth adeiladu ar adnoddau ac arfer da presennol ac adlewyrchu'r egwyddorion a nodir yn fframwaith hawliau dynol y Comisiwn ar gyfer ataliaeth, y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfeirio atynt yn ei chanllawiau. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i grwpiau sydd â namau neu nodweddion sy'n cynyddu'r risg o niwed.

(11)   Yn unol â'r UNCRPD a'r ymrwymiadau a amlinellir yn: Gweithredu ar Anabledd: Y fframwaith hawl i fyw'n annibynnol a'r cynllun gweithredu, rhaid i Lywodraeth Cymru:

a)    ddarparu cyllid digonol i bob awdurdod lleol i sicrhau bod hawl pobl anabl i fyw'n annibynnol yn cael ei hamddiffyn yn ystod ac yn dilyn y pandemig. Dylid darparu cyllid trwy fecanweithiau priodol, megis clustnodi, i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw.

b)    sicrhau bod yr ymrwymiadau a amlinellir yn y Fframwaith yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau polisi sy'n ymwneud â phobl anabl mewn lleoliad gofal preswyl, gan gynnwys yr ymrwymiadau i ymgysylltu, cynnwys a chyd-gynhyrchu ystyrlon, ac ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd.

c)    ymgorffori'r hawl i fyw'n annibynnol mewn cyfraith ddomestig i amddiffyn hawliau dynol pobl anabl a hŷn yn ystod ac yn dilyn y pandemig.

(12)   Dylid cynyddu goruchwyliaeth ar y newidiadau i'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol ar draws ardaloedd lleol er mwyn sicrhau bod cynllunio adferiad a phenderfyniadau polisi cenedlaethol yn cael eu llywio gan ddata cywir a diweddar. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried pob dull posibl i sicrhau bod awdurdodau lleol a darparwyr gofal yn gallu diwallu anghenion gofal a chymorth cynyddol yn ystod y pandemig a sy’n deillio ohono.  

(13)   Dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Senedd y DU ddiddymu'r pŵer o dan Ddeddf Coronafeirws 2020 i atal y gofynion deddfwriaethol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru). Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r fframwaith cudd-wybodaeth a chyfreithiol a ddarperir yn y briff hwn i sicrhau bod pobl hŷn ac anabl mewn lleoliadau gofal preswyl yn cael y safonau gofal uchaf, fel y bwriadwyd o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Llywodraeth Cymru a'r holl gyrff cyhoeddus perthnasol

(14)   Yn unol â'r dyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru, dylai Llywodraeth Cymru a'r holl gyrff cyhoeddus perthnasol yng Nghymru:

a)    sicrhau bod ymgysylltu â phobl hŷn ac anabl yn cael ei wneud, ei ystyried a'i gofnodi wrth ddatblygu ymateb Covid-19 mewn cartrefi gofal;

b)    cyhoeddi asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ar y pwynt cwblhau, gyda ffynonellau data clir (yma mae dulliau casglu data arferol yn cael eu tarfu neu maent yn annigonol, dylid defnyddio ffynonellau newydd a dulliau amgen er mwyn cael mewnwelediad i effeithiau posibl a gwirioneddol ar gyfer gwahanol nodweddion gwarchodedig); amserlenni ar gyfer camau a gynlluniwyd a sut y bydd y camau hyn yn cael eu monitro a'u gwerthuso;

c)    sicrhau bod asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ac unrhyw gyfathrebu cysylltiedig yn hygyrch, clir a phriodol;

d)    sicrhau bod canllawiau ar gyfer cartrefi gofal yn hawdd eu cyrraedd a bod y fersiwn ddiweddaraf yn hawdd ei hadnabod, gyda rhesymeg a sylfaen dystiolaeth glir ar gyfer penderfyniadau.

Llywodraeth Cymru, Comisiynwyr, Cynllunwyr Gwasanaeth a Darparwyr Gofal

(15)   O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, dylai Llywodraeth Cymru, comisiynwyr a chynllunwyr gwasanaeth a darparwyr gofal:

a)    ystyried y meysydd llesiant ehangach a gwmpesir o dan Adran 5 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) mewn penderfyniadau ynghylch yr ymateb i'r pandemig fel bod ansawdd bywyd yn cael ei ddeall a'i ystyried yn well mewn penderfyniadau polisi yn y dyfodol.

b)    cymryd camau i gynnwys pobl hŷn yn y broses benderfynu a chipio eu straeon a'u profiad er mwyn cyflawni rhwymedigaethau o dan Adran 6 ac o dan y ddyletswydd i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.[120]

c)    gweithredu i wella dealltwriaeth pobl hŷn o'u hawliau mewn lleoliadau gofal preswyl, fel y darperir o dan Adran 17. Dylai hyn ystyried y rhai sydd wedi'u gwahardd yn ddigidol neu sydd ag anghenion mynediad ychwanegol i sicrhau bod ffynonellau gwybodaeth a chymorth ar gael i’r holl bobl hŷn.

d)    sicrhau bod gwasanaethau eirioli o dan adran 181 ar gael, yn cael adnoddau digonol ac yn cael cyhoeddusrwydd o fewn lleoliadau gofal preswyl yr holl bobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys ailafael mewn ymweliadau Eiriolwyr Annibynnol i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

(16)   Dylai Llywodraeth Cymru, comisiynwyr a chynllunwyr gwasanaeth a darparwyr gofal sy'n cyfathrebu penderfyniadau polisi Covid-19 sicrhau bod cynnwys yn hygyrch yn Gymraeg a Saesneg. Dylai gwasanaethau Cymraeg gael eu prif ffrydio fel nad ydynt yn ychwanegiad ‘dewisol’.’


Arolygiaeth Gofal Cymru

(17)   Dylai Arolygiaeth Gofal Cymru sicrhau bod cynlluniau ar waith I gael goruchwyliaeth barhaus effeithiol ar gyfer cartrefi gofal drwy gydol y pandemig, ehangu arolygiadau cyn belled ag y bo modd gan roi blaenoriaeth i'r gwasanaethau hynny lle mae'r safonau fwyaf mewn perygl (fel y'u hysbyswyd gan arolygiadau blaenorol a chasglu gwybodaeth yn lleol ), ac adfer arolygiadau llawn pryd bynnag y mae'n ddiogel gwneud hynny. Dylai CIW ystyried ymhellach gymryd camau ar unwaith y tu hwnt i'r llwybrau presennol i sicrhau bod preswylwyr, perthnasau a staff yn gallu riportio pryderon tra bo ymweliadau'n gyfyngedig.

(18)   Dylai Arolygiaeth Gofal Cymru ddefnyddio'r pwerau a ddarperir o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn llawn i sicrhau bod llais a llesiant pobl hŷn wrth wraidd rheoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth preswyl yn ystod y pandemig. Er enghraifft, trwy siarad a gwrando'n uniongyrchol ar bobl hŷn ac anabl yn ystod gweithdrefnau cwynion ac arolygu a gweithredu ar bryderon trwy fecanweithiau ffurfiol ac anffurfiol.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Uwch Gydymaith

Claire Cunliffe

wales@equalityhumanrights,com

 

 



[1] Fe wnaethom gynnal trafodaeth bord gron ag ystod o randdeiliaid ar 9 Medi 2020 i gasglu tystiolaeth ar y materion a ddaeth i'r amlwg yn ystod ton gyntaf y pandemig a barn ar yr argymhellion ymarferol sydd eu hangen i liniaru'r rhain yn y dyfodol. Ymhlith y rhanddeiliaid roedd: Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Alzheimers, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Cymorth Canser Macmillan, Age Cymru, Senedd Cymru i Bobl Hŷn, Y Coleg Nyrsio Brenhinol, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Anabledd Cymru. Fe wnaethom ymgysylltu ar wahân â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Fforwm Gofal Cymru. Lle tynnir y dystiolaeth yn ein briff o’r ymgysylltu hwn, rydym yn dyfynnu ‘ymgysylltu â rhanddeiliaid EHRC Cymru’ mewn troednodiadau dilynol.

[2] Mae'r dadansoddiad diweddaraf o effaith coronafeirws ar y sector gofal am y cyfnod hyd at 12 Mehefin. ONS (3 Gorffennaf 2020), ‘Marwolaethau sy'n cynnwys COVID-19 yn y sector gofal, Cymru a Lloegr: marwolaethau yn digwydd hyd at 12 Mehefin 2020 ac wedi'u cofrestru hyd at 20 Mehefin 2020 (dros dro), ffigur 2; ac ONS (23 Mehefin 2020), 'Cymhariaeth o achosion marwolaeth wythnosol yng Nghymru a Lloegr: hyd at yr wythnos yn dod i ben 26 Mehefin 2020', ffigur 1. Yn y cyfnod hwn, adroddwyd bod 46,425 o farwolaethau yn ymwneud â COVID-19 yn Lloegr, gan gynnwys 18,562 ymhlith preswylwyr cartrefi gofal (39.8 y cant) ac adroddwyd am 2,370 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru, gan gynnwys 826 ymhlith preswylwyr cartrefi gofal (34.9 y cant). Mae hyn yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal a fu farw mewn cartrefi gofal ac mewn ysbytai. Diffiniad yr ONS o ‘gynnwys COVID-19’ yw lle y soniwyd am COVID-19 yn unrhyw le ar y dystysgrif marwolaeth, p'un ai fel achos sylfaenol ai peidio.

[3] Bell, D. et al. (29 Awst 2020), ‘Marwolaethau COVID-19 a gofal tymor hir: cymhariaeth yn y DU’, Rhwydwaith Polisi Gofal Hirdymor Rhyngwladol. Mae’r dadansoddiad yn cymharu nifer y marwolaethau yn ystod y pandemig â marwolaethau wythnosol cyfartalog yn ystod y cyfnod 5 mlynedd blaenorol, fel mesur o ‘farwolaethau gormodol’. Mae'r dull hwn yn delio â marwolaethau wedi’u camddiagnosio a marwolaethau sydd ag achosion uniongyrchol eraill ond na fyddent wedi digwydd heb y pandemig.

[4] Blackall, M. (18 Ebrill 2020), ‘Gallai marwolaethau Covid-19 mewn Cartrefi Gofal y DU fod ‘bum gwaith gymaint ag amcangyfrif y llywodraeth, The Guardian. 

[5] ONS (3 Gorffennaf 2020), ‘Marwolaethau sy'n cynnwys COVID-19 yn y sector gofal, Cymru a Lloegr: marwolaethau yn digwydd hyd at 12 Mehefin 2020 ac wedi'u cofrestru hyd at 20 Mehefin 2020 (dros dro), ffigur 8.

[6]Mae tystiolaeth ehangach ledled Cymru a Lloegr yn awgrymu bod pobl o rai grwpiau ethnig mewn risg uwch o COVID-19, gweler SYG (7 Mai 2020), 'marwolaethau cysylltiedig â Choronafeirws (COVID-19) yn ôl grŵp ethnig, Cymru a Lloegr: 2 Mawrth 2020 i 10 Ebrill 2020’.

[7] ONS (3 Gorffennaf 2020), ‘Marwolaethau yn ymwneud â COVID-19 yn y sector gofal, Cymru a Lloegr: marwolaethau yn digwydd hyd at 12 Mehefin 2020 ac wedi'u cofrestru hyd at 20 Mehefin 2020 (dros dro), ffigur 5.

[8] ONS (3 Gorffennaf 2020), ‘Marwolaethau yn ymwneud â COVID-19 yn y sector gofal, Cymru a Lloegr: marwolaethau yn digwydd hyd at 12 Mehefin 2020 ac wedi'u cofrestru hyd at 20 Mehefin 2020 (dros dro),

[9]Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (Ebrill 2020), ‘Gofynion Gwasanaeth Rhyddhau Ysbyty COVID-19 (Cymru).

[10] Gweler e.g. Bell, D. et al. (29 Awst 2020), ‘Marwolaethau COVID-19 a gofal tymor hir: cymhariaeth yn y DU’, Rhwydwaith Polisi Gofal Hirdymor Rhyngwladol.

[11] Ibid.

[12] Llywodraeth Cymru (7 Mai 2020), ‘Polisi profi cartrefi gofal’ [cyrchwyd 12 Hydref].

[13] Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i brofi preswylwyr a staff cartrefi gofal yn rheolaidd. Llywodraeth Cymru (2 Mai 2020), ‘Datganiad ysgrifenedig: Profi coronafirws mewn cartrefi gofal’ a Llywodraeth Cymru (7 Mai 2020), ‘Polisi profi cartrefi gofal’ [cyrchwyd 12 Hydref].

[14] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020), ‘Lleisiau cartrefi gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’. Gwelwyd tystiolaeth o'r pwynt hwn hefyd yn ein hymgysylltiad rhanddeiliaid ein hunain.

[15] Ibid.

[16] Senedd Cymru, Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘Ymchwiliad i effaith achosion Covid-19, a’i reolaeth; ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: adroddiad 1’, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020),‘Lleisiau cartrefi gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’; gweler hefyd Jones-Berry, S. (6 Mai 2020), ‘Dim masgiau PPE ar ôl ar gyfer cartrefi gofal na staff gofal cartref’, NursingStandard; a Savage, M. (9 Mai 2020), ‘Mae cartrefi gofal y DU yn sgrialu i brynu eu PPE eu hunain wrth i ddanfoniadau cenedlaethol fethu’, The Guardian.

[17] Gweler Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020), ‘Lleisiau cartrefi gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’.

[18] Ibid.

[19] Llywodraeth Cymru (2020), ‘Cynllun Gweithredu Cartrefi Gofal: Crynodeb o’r Cynnydd’.

[20] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020), ‘Care Home Voices: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’. Amnest Rhyngwladol (Hydref 2020), ‘Fel eu bod yn Aberthadwy: methiant Llywodraeth y DU i amddiffyn pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn ystod pandemig Covid-19’, t. 23; Cymdeithas Alzheimer’s (13 Mai 2020), ‘Cartrefi gofal ‘wedi’u gadael i‘w hamddiffyn eu hunain’ yn erbyn coronafeirws’.

[21] Bell, D. et al. (29 Awst 2020), ‘Marwolaethau COVID-19 a gofal tymor hir: cymhariaeth yn y DU’, Rhwydwaith Polisi Gofal Hirdymor Rhyngwladol. Rydym yn trafod yr effeithiau'n fanylach yn yr adran ar yr hawl i iechyd.

[22] Newyddion BBCs (2020) ‘Coronafeirws: Ymddiheuriad meddygfa meddygon teulu dros ffurflen peidiwch â dadebru’. Gweler hefyd: Datganiad OPC/EHRC (Gorffennaf 2020). Gweler hefyd: Senedd Cymru, Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gorffennaf 2020) ‘Ymchwiliad i effaith achosion Covid-19, a’i reolaeth; ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: adroddiad 1’

[23] Prif Swyddog Meddygol a Phrif Swyddog Nyrsio (17 Ebrill 2020). ‘Llythyr ar y cyd gan y Prif Swyddog Meddygol a’r Prif Swyddog Nyrsio ar hysbysiadau “peidiwch â dadebru ’.

[24] Llywodraeth Cymru (2020) Datganiad Ysgrifenedig Ymweliadau â chartrefi gofal: arweiniad i ddarparwyr

[25] Llywodraeth Cymru (2020): diweddariad ar ymweld â chartrefi gofal

[26] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (8 Ionawr 2019), ‘Nodweddion gwarchodedig’ [cyrchwyd 7 Hydref 2020].

[27] Mae adran 6 y Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio anabledd fel nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Bydd llawer o bobl hŷn mewn gofal preswyl yn bodloni'r diffiniad hwn. Er enghraifft, mae Age UK yn nodi bod amcangyfrif o 70 y cant o bobl mewn cartrefi gofal yn y DU yn byw â dementia, 75 y cant â cholled clyw a 60 y cant â chyflyrau iechyd meddwl. Age UK (Mai 2019), ‘Bywyd diweddarach yn y Deyrnas Unedig 2019’.

[28] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (1 Medi 2014), ‘Deddf Cydraddoldeb 2010: canllawiau cryno ar wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau’ [cyrchwyd 8 Hydref 2020].

[29] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (25 Tachwedd 2019), ‘Beth yw gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol?’ [Cyrchwyd 8 Hydref 2020].

[30]Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (18 Chwefror 2020), ‘Gwahaniaethu ar sail anabledd’ [cyrchwyd ar 8 Hydref 2020].

[31] Ibid.

[32] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020), ‘Lleisiau cartrefi gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’.

[33] Mae dementia a chlefyd Alzheimer’s ymhlith y cyflyrau sylfaenol sy'n effeithio ar y gyfradd marwolaethau ar gyfer Covid-19. Raleigh, V. (19 Awst 2020), ‘Marwolaethau o Covid-19 (coronafeirws): sut maent yn cael eu cyfrif a beth maent yn ei ddangos?’, Cronfa’r Brenin.

[34] Mae tystiolaeth ehangach ledled Cymru a Lloegr yn awgrymu bod pobl o rai grwpiau ethnig mewn mwy o risg o Covid-19, gweler ONS (7 Mai 2020), 'marwolaethau cysylltiedig â Choronafeirws (COVID-19) yn ôl grŵp ethnig, Cymru a Lloegr: 2 Mawrth 2020 i 10 Ebrill 2020’.

[35] Cymdeithas Alzheimer’s (2020), ‘Sut yr effeithiwyd ar gartrefi gofal yn ystod y pandemig coronafeirws’ [cyrchwyd 9 Hydref 2020]; Cymdeithas Geriatreg Prydain (2020), ‘COVID-19: Rheoli’r pandemig COVID-19 mewn cartrefi gofal i bobl hŷn’ [cyrchwyd 12 Hydref].

[36] Ers hynny mae rhai cartrefi gofal wedi darparu PPE gyda phaneli clir i oresgyn y materion hyn. Gweler Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020), ‘Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’.

[37] Cymdeithas Alzheimer’s (2020), ‘Sut yr effeithiwyd ar gartrefi gofal yn ystod y pandemig coronafeirws’ [cyrchwyd 9 Hydref 2020].

[38] Deddf Cydraddoldeb 2010, a.149.

[39] Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw technegol ar y PSED. Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (19 Chwefror 2019), ‘Canllawiau technegol y Ddeddf Cydraddoldeb’.

[40] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (20 Ebrill 2020), ‘Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus’ [cyrchwyd 9 Hydref 2020].

[41] Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw technegol ar y PSED. Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (19 Chwefror 2019), ‘Canllawiau technegol y Ddeddf Cydraddoldeb’.

[42]Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (19 Chwefror 2019), ‘Canllawiau technegol y Ddeddf Cydraddoldeb’, para 5.27.

[43] Mae rhwymedigaethau i adrodd ar sut y cydymffurfiwyd â'r PSED yn berthnasol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban, er bod y gofynion penodol yn wahanol ym mhob gwlad. Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (20 Ebrill 2020), ‘Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus’ [cyrchwyd 9 Hydref 2020].

[44] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2020) ‘Ailadeiladu Cymru mwy cyfartal a thecach: canolbwyntio ar effaith anghyfartal y pandemig coronafeirws’. EHRC (2020) ‘Ailadeiladu Cymru mwy cyfartal a thecach: canolbwyntio ar effaith anghyfartal y pandemig coronafeirws’.

[45] Cymdeithas Alzheimer’s (2020), ‘Sut yr effeithiwyd ar gartrefi gofal yn ystod y pandemig coronafeirws’ [cyrchwyd 9 Hydref 2020].

[46] Ni chynhwyswyd marwolaethau cartrefi gofal mewn adroddiadau swyddogol tan 29 Ebrill, ac ar hyn o bryd, mae'r dadansoddiad diweddaraf o Covid-19 yn y sector gofal hyd at 20 Mehefin 2020. Nid yw adroddiadau'r ONS yn cynnwys data ethnigrwydd na dadansoddiad o anabledd yn ôl math o nam. Gweler Raleigh, V. (19 Awst 2020), ‘Marwolaethau o Covid-19 (coronafirws): sut maen nhw'n cael eu cyfrif a beth maen nhw'n ei ddangos?’, Cronfa’r Brenin; SYG (3 Gorffennaf 2020), ‘Marwolaethau yn ymwneud â COVID-19 yn y sector gofal, Cymru a Lloegr: marwolaethau yn digwydd hyd at 12 Mehefin 2020 ac wedi’u cofrestru hyd at 20 Mehefin 2020 (dros dro)’; ONS (6 Hydref 2020), ‘Marwolaethau a gofrestrir yn wythnosol yng Nghymru a Lloegr, dros dro: wythnos yn dod I ben 25 Medi 2020’.

[47] Ymgysylltu â rhanddeiliaid gan EHRC Cymru.

[48] Ymchwil y Senedd (4 Ebrill 2017), ‘Yn gryno: canllaw cyflym i hawliau dynol yng Nghymru’.

[49] Diffinnir swyddogaethau cyhoeddus fel ‘swyddogaethau o natur gyhoeddus’.

[50] Gweler Deddf Gofal 2014, a. 73.

[51] Gweler e.e. Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig (heb ddyddiad), ‘Beth yw hawliau dynol?’ [Cyrchwyd: 12 Hydref 2020].

[52] Cyngor Ewrop (7 Ebrill 2020), ‘Parchu democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol yn fframwaith argyfwng glanweithiol COVID-19: pecyn cymorth ar gyfer aelod-wladwriaethau’, tt. 4-5.

[53] Mae'r ddyletswydd hon yn aml yn cael ei chyflawni gan gwestau, ymchwiliadau'r heddlu neu ymchwliadau cyhoeddus.

[54] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (15 Tachwedd 2018), ‘Erthygl 2: hawl i fywyd’ [cyrchwyd 7 Hydref 2020].

[55] Silver Voices (6 Mai 2020), ‘“ Wedi‘u hanwybyddu ac yn aberthadwy”: beth yw gwerth bywydau hŷn? (briff 30/20) ’[heb ei gyhoeddi]. Gweler hefyd Amnest Rhyngwladol (Hydref 2020), ‘Fel eu bod yn Aberthadwy: methiant Llywodraeth y DU i amddiffyn pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig Covid-19' a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020), 'Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’.

[56] Llywodraeth Cymru (2020), ‘Adolygiad cyflym ar gyfer cartrefi gofal mewn perthynas â COVID-19’.

[57] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (15 Tachwedd 2018), ‘Erthygl 3: Rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol neu ddiraddiol’ [cyrchwyd 7 Hydref 2020].

[58] Cyngor Ewrop (7 Ebrill 2020), ‘Parchu democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol yn fframwaith argyfwng glanweithiol COVID-19: pecyn cymorth ar gyfer aelod-wladwriaethau’, t.5.

[59] Ibid.

[60] Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru atal arolygiadau arferol ar 16 Mawrth ac ers hynny mae wedi symud i ‘gyfnod adfer’, gan ddefnyddio ffyrdd pell o weithio cyn belled ag y bo modd. Arolygiaeth Gofal Cymru (2020), ‘Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus Nofel (COVID-19)’ [cyrchwyd 9 Hydref 2020].

[61] Llywodraeth Cymru (7 Hydref 2020), ‘Adolygiad cyflym ar gyfer cartrefi gofal mewn perthynas â COVID-19’.

[62] EHRC (2019), ‘Fframwaith hawliau dynol ar gyfer ataliaeth’. Mae gwahanu sy'n gyfystyr â chyfyngu ar eich hun (a ddiffinnir fel 22 awr y dydd neu'n hwy heb gyswllt dynol ystyrlon) yn groes i safonau hawliau dynol fel y'u sefydlwyd gan Reolau Mandela. Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddu (2015), ‘Rheolau Lleiaf Safonol ar gyfer Trin Carcharorion (Rheolau Nelson Mandela)’.

[63] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Mawrth 2019), ‘Fframwaith hawliau dynol ar gyfer ataliaeth.

[64] Ibid.

[65] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (30 Tachwedd 2018), ‘Erthygl 5: Hawl i ryddid a diogelwch’ [cyrchwyd 9 Hydref 2020].

[66] Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (2007), ‘Deddf Galluedd Meddyliol 2005: Cod Ymarfer’, t.19.

[67] Barnwriaeth Cymru a Lloegr (4 Mai 2020), Gohebiaeth gan Mr Ustus Hayden, Is-lywydd y Llys Gwarchod, dyddiedig 4 Mai 2020. Mae'r CQC wedi nodi'n glir bod mesurau diogelu yn parhau mewn grym yn ystod y pandemig, a bod rhaid osgoi amddifadu rhyddid oni bai bod hynny'n hollol angenrheidiol ac yn gymesur i osgoi niwed yn yr achos unigol. CQC (26 Mai 2020), ‘Gweithio o fewn y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn ystod y pandemig coronafeirws’ [cyrchwyd 7 Hydref 2020].

[68] Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Erthygl 8 (1).

[69]Gweler Llys Hawliau Dynol Ewrop: Osman v UK (Cais rhif 23452/94), para. 128-130; Bevacqua ac S. v Bwlgaria (Cais Rhif 71127/01), para. 65; Sandra Janković v Croatia (Cais Rhif 38478/05), para 45; A v Croatia (Cais Rhif 55164/08), para 60; Söderman v Sweden [GC] (Cais Rhif 5786/08), para 80.

[70]Gweler Llys Hawliau Dynol Ewrop: X. v Gwlad yr Iâ (Cais Rhif 6825/74), tt. 86-87; McFeeley et al. v DU (Cais Rhif 8317/78) para. 82.

[71] Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Erthygl 8 (2). Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dyfarnu er mwyn i unrhyw ymyrraeth yn ‘angenrheidiol’, rhaid iddi gyfateb i angen cymdeithasol dybryd a bod yn gymesur wrth geisio nod cyfreithlon, Gweler The Sunday Times v DU (Cais Rhif 6538/74), para 59.

[72] Age UK (22 Medi 2020), ‘Ymweld mewn cartrefi gofal: ble nawr?’.

[73] Cymdeithas Alzheimer’s (Medi 2020), ‘Wedi’u Taro gwaethaf: dementia yn ystod coronafeirws’, t. 13

[74] Gweler tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Gymdeithas Alzheimer’s (DEL0115) i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ‘Gyflwyno gwasanaethau craidd y GIG a gofal yn ystod y pandemig a thu hwnt’.

[75] Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol (12 Mehefin 2020), ‘Hawliau Dynol ac ymateb y Llywodraeth i COVID-19: Cadw pobl ifanc sy’n awtistig a/neu sydd ag anableddau dysgu yn y ddalfa, pumed adroddiad sesiwn 2019-21’.

[76] Cymdeithas Geriatreg Prydain (30 Mawrth 2020), ‘COVID-19: Rheoli’r pandemig COVID-19 mewn cartrefi gofal i bobl hŷn’ [cyrchwyd 7 Hydref 2020].

[77] Cymdeithas Alzheimer’s (9 Gorffennaf 2020), ‘Llythyr agored at y Llywodraeth - caniatáu statws gweithiwr allweddol i ofalwyr teulu’; Age UK (22 Medi 2020), ‘Ymweld mewn cartrefi gofal: ble nawr?’.

[78] Cymdeithas Geriatreg Prydain (30 Mawrth 2020), ‘COVID-19: Rheoli’r pandemig COVID-19 mewn cartrefi gofal i bobl hŷn’ [cyrchwyd 7 Hydref 2020].

[79] Llywodraeth y DU, (2006) ‘Deddf Llywodraeth Cymru 2006’

[80] Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, Erthygl 12.

[81] Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (2000), CESCR Sylw Cyffredinol Rhif 14: Yr Hawl i'r Safon Iechyd Cyrhaeddadwy Uchaf (Erth. 12), para. 3

 [82]Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (2000), CESCR Sylw Cyffredinol Rhif 14: Yr Hawl i'r Safon Iechyd Cyrhaeddadwy Uchaf (Erth. 12), para. 8. Mae paragraff 19 hefyd yn pwysleisio ‘mynediad cyfartal i ofal iechyd a gwasanaethau iechyd’. Mae Erthygl 2 ICESCR yn nodi bod Gwladwriaethau sy’n Barti ‘yn ymrwymo i warantu y bydd yr hawliau a enwir yn y Cyfamod presennol yn cael eu harfer heb wahaniaethu o unrhyw fath’.

[83] Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (2000), CESCR Sylw Cyffredinol Rhif 14: Yr Hawl i'r Safon Iechyd Cyrhaeddadwy Uchaf (Erth. 12), para. 11.

[84]  Ibid., paragraffau. 12 (a), (b), (c) a (d).

[85] Y Cenhedloedd Unedig (Mai 2020), ‘Briff Polisi: Effaith COVID-19 ar bobl hŷn’, t. 3.

[86] Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Erthygl 14 ac Erthygl 2.

[87] Y Cenhedloedd Unedig (Mai 2020), ‘Briff Polisi: Effaith COVID-19 ar bobl hŷn’, t.6.

[88] Gweler e.e. Pigott, P. (6 Hydref 2020) ‘Covid yng Nghymru: Mae rhestrau llawdriniaeth arferol wedi cynyddu chwe gwaith’, Newyddion BBC.

[89] Ymgysylltu â rhanddeiliaid gan EHRC Cymru.

[90] Yn 2020, hyd at 12 Mehefin, bu 1,210 o farwolaethau 'gormodol' mewn cartrefi gofal yng Nghymru, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. SYG (3 Gorffennaf 2020), 'Yr holl ddata ynghylch Marwolaethau yn ymwneud â COVID-19 yn y sector gofal, Cymru a Lloegr: marwolaethau yn digwydd hyd at 12 Mehefin 2020 ac wedi'u cofrestru hyd at 20 Mehefin 2020 (dros dro) ', Tabl 1. Bu farw cyfanswm o 4,428 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru rhwng 1 Ionawr a 12 Mehefin 2020 (gan gynnwys marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID -19), o'i gymharu â 3,218 o farwolaethau am yr un cyfnod yn 2019.

[91] Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, Sylw Cyffredinol Rhif 5: Hawl i fyw'n annibynnol (27 Hydref 2017).

[92] Ibid.

[93] Ibid.

[94] Ibid.

[95] Gweler, er enghraifft, pryderon a grynhowyd gan gynrychiolwyr Cymdeithas Perthnasau a Phreswylwyr mewn tystiolaeth lafar i'r APPG ar Goronafeirws (12 Awst 2020) ('mae llawer o'r galwyr i'n llinell gymorth wedi bod yn dweud wrthym fod y sefyllfa bresennol mewn cartrefi gofal bellach yn debyg iawn i garchar ag ymweliadau mor gyfyngedig, preswylwyr yn methu â gadael tiroedd y cartref a'r rhyngweithio cyfyngedig hwnnw â thrigolion a staff eraill').

[96] Cadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (Ebrill 2020), ‘Datganiad ar y Cyd: Personau ag Anableddau a COVID-19’.

[97] Y Cenhedloedd Unedig (Mai 2020), ‘Briff Polisi: Ymateb Anabledd-Gynhwysol i COVID-19’.

[98] Sylwch nad yw hyn yn cyfateb i gorffori llawn.

[99] Llywodraeth Cymru (2019), ‘Gweithredu ar Anabledd: yr hawl i fframwaith byw’n annibynnol a chynllun gweithredu’.

[100] Gweler ein tystiolaeth a gyflwynom, ynglŷn â gofal cymdeithasol oedolion a’r hawl i fyw’n annibynnol, i ymchwiliad y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol ar ymateb y Llywodraeth i COVID-19: goblygiadau hawliau dynol

 [101]Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol (2019), ‘Cadw pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, yn y ddalfa Ail adroddiad sesiwn 2019’.

[102] Ymgysylltu â Rhanddeiliaid gan EHRC Cymru

[103] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020), ‘Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’.

[104] Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (Penderfyniad 46/91).

[105] Llywodraeth Cymru (2015), ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol)’.

[106] Llywodraeth Cymru (30 Ebrill 2020), ‘Adult social services during the COVID-19 pandemic: guidance’.

[107] Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Senedd Pobl Hŷn Cymru

[108] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Mehefin 2020), ‘Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19’.

[109] Ibid.

[110] Gofal Cymdeithasol Cymru (29 Mawrth 2017), ‘Trosolwg, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014’ [cyrchwyd 8 Hydref 2020]. Gweler hefyd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid EHRC Cymru

[111] Ymchwil y Senedd (12 Mai 2020), ‘Coronafeirws: rheoliadau brys ar ofal cymdeithasol ac iechyd meddwl (wedi'u diweddaru ar 12 Mai)’.

[112] Llywodraeth Cymru (23 Medi 2020), Llythyr at Gadeirydd pwyllgor ELGC.

[113] Sefydliad Hawliau Dynol Prydain, (Gorffennaf 2020) Y Cyd-bwyllgor ar yr Ymchwiliad Hawliau Dynol i oblygiadau hawliau dynol ymateb Llywodraeth y DU i Covid-19: Tystiolaeth gan staff sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal a gwaith cymdeithasol.

[114] Gofal Cymdeithasol Cymru (Ebrill 2019), ‘Trosolwg: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016’ [cyrchwyd 7 Hydref 2020].

[115] Gofal Cymdeithasol Cymru (Medi 2020), ‘Defnyddio Cymraeg yn y gwaith’ [cyrchwyd 7 Hydref 2020].

 [116]Llywodraeth Cymru (Ebrill 2019) ‘Mwy na Geiriau yn Unig: Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad Cynnydd - Blwyddyn 2’. 

[117] Y Sgwrs, 2019 Dwyieithrwydd a dementia: sut mae rhai cleifion yn colli eu hail iaith ac yn ailddarganfod eu hiaith gyntaf

[118] Mae hyn yn cynnwys y Cynllun Gweithredu Cartrefi Gofal, Ymweliadau â Chartrefi Gofal: canllawiau i ddarparwyr, Canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn y pandemig covid-19 ac ‘Iechyd Cyhoeddus Cymru’ ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cy mdeithasol.

[119]Dangosodd arolwg diweddar o staff iechyd, gofal a gwaith cymdeithasol gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain fod hanner wedi bod yn dyst i droseddau hawliau dynol a oedd yn golygu bod rhywun yn cael ei drin yn waeth nag eraill oherwydd eu hunaniaeth neu nodwedd warchodedig benodol. Sefydliad Hawliau Dynol Prydain (Awst 2020), ‘Y Cyd-bwyllgor Ymchwiliad Hawliau Dynol i oblygiadau hawliau dynol ymateb Llywodraeth y DU I Covid-19: Tystiolaeth gan staff sy’n gweithio ym maes iechyd, gofal a gwaith cymdeithasol’, t. 17.

[120] Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, adran 6