Senedd Cymru
Gorffennaf 2020
Diwygio Rheolau Sefydlog: Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.
2. Mae'r adroddiad yn argymell newidiadau i Reol Sefydlog 18.10 Mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd yn Atodiad A.
Y cefndir
3. Yn 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y pryd, a’r Senedd, ar gyfres o newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar ôl i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (“y Ddeddf”) gael ei phasio. Roedd y newidiadau'n dirprwyo nifer o’r swyddogaethau a roddwyd i'r Senedd o dan y Ddeddf i un o bwyllgorau'r Senedd.
4. Argymhellir bod diwygiad pellach yn cael ei wneud i sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud i alluogi'r pwyllgor cyfrifol i ymgynghori â'r Prif Weinidog ar benodi'r Cadeirydd arfaethedig ar gyfer Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, fel sy'n ofynnol gan Atodlen 1 5(2) o’r Ddeddf.[1] Ar hyn o bryd, nid yw'r swyddogaeth hon wedi'i dirprwyo gan y Rheolau Sefydlog, ac felly o dan y Ddeddf mae'n gorwedd gyda'r Senedd gyfan. Nid yw'n glir sut y gallai'r Senedd gyfan gynnal ymgynghoriad o'r fath, ac felly cynigir dirprwyo'r swyddogaeth i bwyllgor.
5. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r swyddogaeth hon, yn yr un modd â swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf sy'n ymwneud â goruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gael ei dirprwyo i'r "pwyllgor cyfrifol" o dan Reol Sefydlog 18 (y Pwyllgor Cyllid ar hyn o bryd).
6. Mae Rheolau Sefydlog 18.10 a 18.11 yn dirprwyo gwahanol gyfrifoldebau i'r "Pwyllgor cyfrifol" mewn perthynas â llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r dirprwyaethau hyn yn cynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud â phenodi Archwilydd Cyffredinol Cymru a Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, ac o'r herwydd mae'n gwneud synnwyr dirprwyo'r swyddogaeth o ymgynghori â'r Prif Weinidog ar benodi'r Cadeirydd i'r un pwyllgor.
7. Mae Rheol Sefydlog 18.10 yn nodi'r darpariaethau y mae'n rhaid i'r pwyllgor cyfrifol eu harfer, tra bod Rheol Sefydlog 18.11 yn nodi'r darpariaethau y caiff y pwyllgor cyfrifol eu hystyried. Argymhellir ychwanegu’r ddirprwyaeth newydd at Reol Sefydlog 18.10, gan ei bod yn rhwymedigaeth statudol; rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog cyn y gall y Senedd gymeradwyo penodiad y Cadeirydd.
8. 7. Nodir diwygiad arfaethedig i Reol Sefydlog 18.10 yn Atodiad A.
Camau i’w cymryd
9. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 6 Gorffennaf 2020, a gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad A.
Atodiad A
18.10 Rhaid i bwyllgor cyfrifol:
(i) arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â’r amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol;
(ii) ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol a gyflwynir o dan adran 126 o’r Ddeddf ac sy’n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o’r blaen drwy benderfyniad cyllideb neu benderfyniad cyllideb atodol mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru;
(iii) ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Swyddfa Archwilio Cymru, a chyflwyno adroddiad i’r Senedd ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Senedd awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol;
(iv) yn unol â Rheol Sefydlog 10,
cynghori’r Senedd wrth iddi arfer ei swyddogaethau o dan
Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ac o dan Reol Sefydlog
10 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo’r
Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru ac
arfer y swyddogaeth a nodir ym mharagraff 5(2) o Atodlen 1
i’r Ddeddf honno ynghylch ymgynghori â’r Prif
Weinidog ar yr ymgeisydd arfaethedig i’w benodi’n
Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru;
(v) arfer y swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru ac eithrio’r cadeirydd, a dynodi Archwilydd Cyffredinol dros dro. Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiadau hyn;
(vi) arfer y swyddogaethau o dan baragraff 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru. Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiad hwn;
(vii) arfer y swyddogaethau a nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â gwneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth o ran yr Archwilydd Cyffredinol, ac o ran y cadeirydd ac aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru;
(viii) arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraffau 8 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad i Swyddfa Archwilio Cymru;
(ix) arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 1(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo Cod Ymarfer sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru;
(x) arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo cynllun ar gyfer codi ffioedd gan Swyddfa Archwilio Cymru;
(xi) arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 5(3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chyhoeddi rhestr o swyddi, cytundebau a threfniadau eraill a bennir at ddibenion adran 5(2) o’r Ddeddf honno.