Senedd Cymru

Welsh Parliament

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Legislation, Justice and Constitution Committee

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru

Making Justice work in Wales

MJW 06

Ymateb gan Comisiynydd Plant Cymru

 

Response from: Children’s Commissioner for Wales

Prif nod Comisiynydd Plant Cymru yw diogelu a hybu hawliau a lles plant.

Wrth ymarfer ei swyddogaethau, mae’n rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae cylch gorchwyl y Comisiynydd yn cwmpasu pob rhan o bwerau datganoledig Senedd Cymru sy’n effeithio ar hawliau a lles plant. 

Mae CCUHP yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol sy’n berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu CCUHP yn sylfaen ar gyfer llunio pob polisi i blant a phobl ifanc ac mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, wrth ymarfer eu swyddogaethau, i roi ‘sylw dyledus’ i CCUHP. 

Nid yw’r ymateb hwn yn gyfrinachol.

Rôl a chylch gorchwyl Comisiynydd Plant Cymru a chyfiawnder

Sefydlwyd Comisiynydd Plant Cymru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, fel y’i newidiwyd gan Ddeddf a Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001. O ganlyniad, mae cylch gorchwyl y swyddfa yn cael ei lywodraethu gan y sylfaen statudol hon.

Prif nod swyddfa’r Comisiynydd Plant yw diogelu a hybu hawliau a lles plant. Wrth gyflawni’r dyletswyddau a’r swyddogaethau, mae’n rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae cylch gorchwyl y Comisiynydd yn cynnwys pob rhan o bwerau datganoledig y Senedd i’r graddau y maent yn effeithio ar hawliau a lles plant. I grynhoi, mae pwerau’r Comisiynydd yn cwmpasu’r canlynol:

1.Pŵer i adolygu’r effaith ar blant wrth ymarfer swyddogaeth neu ymarfer swyddogaethau arfaethedig cyrff cyhoeddus a ddiffinniwyd yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru;

2.Pŵer i adolygu a monitro pa mor effeithiol yw trefniadau cyrff cyhoeddus a ddiffinniwyd ar gyfer cwynion, datgelu camarfer ac eiriolaeth wrth ddiogelu a hybu hawliau a lles plant; 

3.Pŵer i archwilio achosion mewn perthynas â phlant unigol o dan rai amgylchiadau;

4.Pŵer i ddarparu cymorth i blentyn o dan rai amgylchiadau;

5.Pŵer i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch unrhyw faterion sy’n effeithio ar hawliau a lles plant sy’n destun pryder iddi ac nad oes ganddi bŵer i weithredu yn eu cylch. 

Fodd bynnag, nid oes gan Gomisiynydd Plant Cymru bŵer i weithredu mewn nifer o amgylchiadau a ddiffinniwyd. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd sydd heb eu datganoli i’r Senedd, megis mewnfudo a lloches, budd-daliadau lles, plant yn y lluoedd arfog, cyfiawnder a phlismona, lle gall CAFCASS (Gwasanaeth Ymgynghorol y Llysoedd i Blant a Theuluoedd) weithredu, a lle mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau yng nghyswllt achosion teulu. Ni all y Comisiynydd wneud ymholiadau nac adrodd ynghylch unrhyw fater sydd neu a fu’n destun achos cyfreithiol.  

Mae achosion cyfraith teulu yn croesi’r rhaniad rhwng cyfrifoldebau datganoledig a rhai heb eu datganoli, gan fod cyfraith gyhoeddus yn rhan o gylch gorchwyl awdurdodau lleol yng Nghymru, ond nid yw hynny’n wir am gyfraith breifat. Gall hyn beri dryswch i deuluoedd wrth iddynt chwilio am gyngor neu gymorth; gall fy swyddfa roi cefnogaeth mewn rhai meysydd ym mywyd plentyn os yw’r plentyn dan sylw yng ngofal yr awdurdod lleol, er enghraifft, ond ni allaf ymyrryd mewn achosion llys eu hunain nac atal llys rhag llunio Gorchymyn, er enghraifft.

Mae rhieni’n cysylltu â’m tîm Ymchwiliadau a Chyngor yn rheolaidd yn gofyn am gyngor ynghylch sut mae newid neu wyrdroi gorchmynion llys, o neiniau a theidiau sydd am ymwneud yn fwy ag achosion llys, i bryderon bod amgylchiadau teulu yn cael eu camgyfleu mewn achosion. Heblaw am gynghori/roi cefnogaeth gyda chwynion i’r awdurdod lleol perthnasol lle mae hynny’n briodol, ni all fy swyddfa roi cyngor neu gymorth uniongyrchol mewn perthynas â’r achosion llys hynny.  

Mae’r mathau hyn o achosion yn dangos yr heriau sy’n gallu bodoli, nid yn unig o ran rôl y Comisiynydd wrth roi cyngor ac arweiniad i deuluoedd a phlant, ond hefyd y cymhlethdodau sy’n codi wrth rannu bywydau plant i gategorïau datganoledig a heb eu datganoli. 

Ymraniad cyfraith teulu ac effaith hynny ar blant a theuluoedd yng Nghymru

Mae nifer o heriau’n codi ar gyfer cyfraith gwlad yng Nghymru a llunio polisi ar gyfer plant a phobl ifanc, yn enwedig lle mae achosion llys ac ymyriadau statudol ym mywyd y teulu yn ofynnol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Comisiwn ar Gyfiawnder yn argymell “y dylid cyfuno’r gyfraith mewn perthynas â chyfiawnder plant a theuluoedd yng Nghymru mewn un system gyfreithiol gydlynus, gan gyfateb i’r swyddogaethau sy’n ymwneud â iechyd, addysg a lles”.  

Cyfraith Gyhoeddus:

Mae’r swyddogaethau gofal cymdeithasol i blant a gyflawnir gan awdurdodau lleol Cymru yn syrthio rhwng dau ddarn o ddeddfwriaeth; Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf SSWB)” a Deddf Plant 1989 (ar gyfer Cymru a Lloegr).  Mae gwaith i gefnogi plant sydd angen gofal a chefnogaeth yn dod o dan ddeddfwriaeth Cymru, gan gynnwys plentyn sy’n dod i ofal awdurdod lleol yn wirfoddol, tra bod achosion amddiffyn plant ac achosion gofal yn dal o dan ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr. Mae canllawiau penodol i Gymru ar gyfer rhai rhannau o’r maes amddiffyn plant, ond i raddau helaeth Deddf Plant sy’n llywodraethu’r swyddogaethau hyn. Fodd bynnag, er bod Cymru a Lloegr o dan awdurdodaeth gyffredin, mae Deddf SSWB wedi amlygu ymraniad wrth weithredu rhwng Cymru a Lloegr yng nghyswllt gofal, cynllunio a dyletswyddau mewn perthynas â phlant sy’n dechrau derbyn gofal a phan gânt eu rhoi mewn gofal. 

Bu cryn bryder yng Nghymru ynghylch cyfraddau cynyddol y plant sy’n dod i mewn i ofal, fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae’r cyfraddau’n codi yn Lloegr hefyd, ond yn gyffredinol mae’r gyfradd yng Nghymru yn sylweddol uwch. Ar 31 Mawrth 2019, roedd 6,845 o blant Cymru mewn gofal, cyfradd o 109 fesul 10,000.  Mae hyn wedi bod yn codi o flwyddyn i flwyddyn, ond hefyd mae cryn amrywiad rhwng y gyfradd isaf, 49 fesul 10,000 yn Sir Gaerfyrddin, a’r uchaf, 216 fesul 10,000 yn Nhorfaen[1].  Cyfradd gyffredinol Lloegr yn ystod yr un cyfnod yw 65 fesul 10,000[2].  Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod trothwy cyfreithiol y gorchmynion gofal yn dod o dan yr un ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae nifer sylweddol o feysydd cefnogaeth ataliol i’r teulu y gall Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol eu datblygu ymhellach er mwyn sicrhau ei fod yn llai  tebygol y bydd plant yn mynd i’r system ofal.

Er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau agwedd fwy ataliol at gymorth i deuluoedd, er mwyn cyfyngu ar nifer y plant sy’n mynd i’r system ofal, a’u bod wedi gweithio gydag adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol i osod targedau lleihau ar gyfer nifer y plant sy’n dod i ofal, bu pryder ymhlith rhai Awdurdodau Lleol bod elfennau o hyn y tu hwnt i’w rheolaeth, er enghraifft, ffactorau sosio-economaidd a phenderfyniadau’r llysoedd teulu. Bûm i’n trafod y maes polisi hwn wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Tachwedd  2019.[3] 

Roedd Adolygiad Cyfiawnder Teulu 2011, adolygiad helaeth o’r System Cyfiawnder Teulu, yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer system llysoedd teulu mwy plentyn-ganolog, ac arweiniodd at sefydlu Rhwydwaith Cyfiawnder Teulu Cymru.[4] Mae’r angen am gryfhau gweithio ymhellach wedi cael ei gydnabod gan y Comisiwn Cyfiawnder, sydd wedi nodi diwygio yn y tymor byr a’r tymor hwy, gan argymell bod awdurdodau lleol yn dilyn “dull gweithredu Cymru gyfan mewn perthynas â chyfiawnder teulu, wedi’i ddatblygu a’i arwain gan Rwydwaith Cyfiawnder Teulu Cymru” mewn perthynas ag atgyfeiriadau amddiffyn plant, gydag amcan y cytunwyd arno o osgoi achosion gofal petai cryfhau’r gefnogaeth i’r teulu yn fwy priodol. Mae’r Comisiwn hefyd wedi argymell “cefnogaeth egnïol i raglen ymchwil i fod yn sylfaen ar gyfer diwygio cyfiawnder teulu yng Nghymru a’r gwasanaethau ataliol cysylltiedig. Y nod trosfwaol ddylai fod lleihau nifer y plant sy’n cael eu cymryd i ofal a darparu tystiolaeth well o lawer ynghylch effeithiau ymyrraeth ar fywyd y teulu”. Mae fy swyddfa’n cael ei chynrychioli yn y Rhwydwaith Cyfiawnder Teulu ac rwy’n cefnogi’r gwaith sy’n derbyn sylw yn dilyn adroddiad y Comisiwn.

Bydd newid i roi mwy o bwyslais ar atal ymyrraeth statudol ym mywyd y teulu yn galw am newid yn ffocws a phenderfyniadau ariannu Awdurdodau Lleol. Yn ôl yr hyn rwy’n deall cynhaliodd Llywodraeth Cymru beth gwaith rhychwantu cychwynnol ar “ailgydbwyso’r sector” ar gyfer gwasanaethau plant fel rhan o’r gwaith i leihau nifer y plant sy’n mynd i’r system ofal. Fodd bynnag, oherwydd y galwadau digynsail ar y gwasanaeth sifil yng Nghymru o ganlyniad i argyfwng COVID-19, rwy’n deall bod y gwaith hwn wedi dod i ben dros dro.  

Cyfraith breifat:

Fel y nodwyd uchod, mae achosion cyfraith teulu preifat yn syrthio y tu allan i gylch gorchwyl Llywodraeth Cymru a’m swyddfa innau.

Bydd llawer o deuluoedd sy’n ymwahanu yn gallu datrys eu trefniadau heb orfod cyflwyno ceisiadau i’r llys, ond nid yw hynny bob amser yn bosibl. Ar hyn o bryd mae gwasanaeth cyfryngu ar gael i deuluoedd sydd am gyflwyno cais i’r llys yn unig, ac erbyn hynny mae’n bosibl bod eu hamgylchiadau eisoes wedi estyn yn hirfaith. Ar ben hynny, mae cost am gyfryngu yn aml, a gall hynny fod yn rhy ddrud i rai rhieni, hyd yn oed os dyna’n union yr hyn y mae arnynt ei angen er mwyn dod i gytundeb addas, ymarferol a fyddai o fudd iddynt hwy a’u plant. 

Mae’r Comisiwn ar Gyfiawnder yn amlygu effaith gostwng gwariant ar gymorth cyfreithiol a chanlyniadau hynny i deuluoedd. Mae’r ddarpariaeth cymorth cyfreithiol wedi cael ei dileu yn achos y rhan fwyaf o faterion cyfraith teulu preifat, ond mae wedi parhau ar gyfer rhai achosion lle cafwyd tystiolaeth o drais domestig neu gam-drin plentyn. Mae’r Comisiwn yn adrodd bod hyn wedi arwain at ddiffyg sylweddol yn y cyngor cyfreithiol i deuluoedd, gan arwain at nifer o unigolion yn cynrychioli eu hunain yn y llys.  

Yn y cyswllt hwn, mae’r Comisiwn yn argymell y “dylai cyngor cyfreithiol fod ar gael i bob anghydfod cyfraith teulu preifat cyn i’r achos gychwyn”. Byddai hyn yn cyfrannu’n sylweddol at atal dwysáu anghydfodau sy’n cyrraedd y llys. Mae’n debygol y bydd goblygiadau ariannol sylweddol i’r newid hwn yn arfer cyfraith teulu, ac eto byddai angen i’r pwyllgor ystyried a chraffu ymhellach ar hyn. 

Rwy’n ymwybodol bod peth gwaith rhychwantu cychwynnol ar ddatblygu

Cynghrair Cefnogi Teuluoedd sy’n Ymwahanu (SSFA) i Gymru ar waith gan

CASCADE (Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant). Diben yr SSFA fydd helpu teuluoedd sy’n gwahanu i ddatrys materion y tu allan i’r system llysoedd teulu a chefnogi teuluoedd i ddatrys gwrthdaro mewn modd sy’n canolbwyntio’n fwy ar y plant. 

Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid, Oed Cyfrifoldeb Troseddol a CCUHP:

Darparodd fy Swyddfa a minnau dystiolaeth i’r Comisiwn ar Gyfiawnder er mwyn cyflwyno fy mhryderon ynghylch anallu Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i hawliau plant yn llawn i’r graddau bod elfennau o gyfiawnder ieuenctid a chyfrifoldeb troseddol yn dal heb eu datganoli. Byddwn i’n dadlau y dylai’r Pwyllgor edrych ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a chyfrifoldeb troseddol i Gymru yn ogystal, ar y sail bod hynny’n annatod glwm wrth ymrwymiad Cymru i degwch cymdeithasol a hawliau dynol, gan gynnwys y rhai a gyflwynir yn CCUHP. 

Isafswm Oed Cyfrifoldeb Troseddol a CCUHP

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon 10 yw oed cyfrifoldeb troseddol ar hyn o bryd, sy’n golygu bod plant yn destun yr oed cyfrifoldeb troseddol isaf yn Ewrop. Dyma’r oed isaf yn holl Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, ers i isafswm oed cyfrifoldeb troseddol yn yr Alban godi i 12 oed yn ddiweddar, o 8 oed fel y bu’n flaenorol.[5] 

Mae oed cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd yn sylweddol is na’r oed mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn ei argymell, ac mae hynny’n wir ers peth amser, er gwaethaf y ffaith bod CCUHP wedi’i ymgorffori i Gyfraith Cymru trwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn wahanol i Loegr. Mae Pwyllgor y CU yn ddiweddar wedi cyhoeddi ei Sylw Cyffredinol ar hawliau plant yn y system cyfiawnder plant. Yn 2019, daeth y Pwyllgor i’r casgliad, yn sgîl datblygiad cyflym yr ymennydd yn ystod y glasoed, sy’n “effeithio ar gymryd risgiau, rhai mathau o benderfyniadau a’r gallu i reoli penderfyniadau byrbwyll... anogir partïon gwladol i roi sylw i ganfyddiadau gwyddonol diweddar, a chodi eu hisafswm oed yn unol â hynny, i 14 oed o leiaf”. Mae’r Sylw yn nodi ymhellach bod pobl ifanc yn dal i ddatblygu ac aeddfedu’n wybyddol y tu hwnt i’r arddegau ac “yn cymeradwyo partïon gwladol sydd ag isafswm oed uwch, er enghraifft 15 neu 16 oed” [6].

Mae’n werth nodi, er bod y Comisiwn ar Gyfiawnder wedi argymell codi isafswm oed cyfrifoldeb troseddol i 12 oed o leiaf, fod hynny’n is na’r oed a argymhellir gan Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn. Os yw Cymru i roi sylw dyledus mewn gwirionedd i’w hymrwymiad i hawliau plant, dylai isafswm oed cyfrifoldeb troseddol gael ei godi i 16, neu o leiaf yr oed a argymhellir, sef 14.  

Cyfiawnder Ieuenctid

Amlygodd y Comisiwn ar Gyfiawnder y cydweithio agos mewn partneriaeth sy’n digwydd yng Nghymru yng nghyswllt cyfiawnder ieuenctid, gyda rhynggysylltiadau sydd wedi hen ennill eu plwyf rhwng y gwasanaethau ieuenctid datganoledig, cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau datganoledig perthnasol eraill, gyda Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn hwyluso’r cydweithredu rhyngddynt. 

Yng Nghymru rydym wedi gweld ffocws sylweddol ar agwedd ataliol at gyfiawnder ieuenctid. Mae hyn wedi cael ei hwyluso gan fwy o bwyslais ar yr angen am leihau nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n mynd i’r system gyfiawnder ar draws elfennau niferus o’r system cyfiawnder ieuenctid. Fel yr amlygwyd yn adroddiad y Comisiwn, mae tua 50% o’r gwaith mae timau troseddau ieuenctid yng Nghymru yn ei wneud yn atal ac yn dargyfeirio plant i’w hatal rhag mynd i’r system cyfiawnder ieuenctid. O ganlyniad, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y plant sy’n mynd i’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Yn 2009, aeth 5,228 i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Yn 2019, mae hyn wedi gostwng i 553.[7] Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant yng Nghymru sy’n cael eu rhoi yn y ddalfa, gyda 24 o bobl ifanc o Gymru yn y ddalfa (ar 12 Mai), o gymharu â 42 ym mis Mai 2015.[8] 

Fodd bynnag, mae fy swyddfa’n dal i glywed am achosion lle nad oes gan bobl ifanc gefnogaeth ar gyfer eu rhyddhau o’r ddalfa, yn arbennig mewn perthynas â chefnogaeth gymunedol, megis mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chanfod lleoliadau neu drefniadau tai priodol. Ymddengys bod effaith ar hyn yn sgîl y ffaith bod pobl ifanc yn gyfrifoldeb gwasanaethau cystodaeth a/neu brawf sydd heb eu datganoli, ond mae llawer o’r gwasanaethau cefnogi yn dod o’r ddarpariaeth ddatganoledig, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Mae heddluoedd yng Nghymru wedi dangos arweinyddiaeth flaengar yn eu dulliau o atal troseddu, yn arbennig mewn perthynas â phobl ifanc, gydag ymrwymiad cynyddol a dealltwriaeth o ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar drawma, mwy o gydnabyddiaeth i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymrwymiad i fabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant wrth blismona. Mae Heddlu De Cymru yn arbennig wedi crisialu eu hymrwymiadau i hawliau plant wrth gyhoeddi Siarter Hawliau Plant[9], y cafodd fy nhîm gyfle i roi cefnogaeth a chyngor yn ystod ei datblygiad. Rwy’n gobeithio hwyluso trafodaethau pellach gyda’r sectorau cyfiawnder ieuenctid a phlismona yng Nghymru ac rwy’n bwriadu cynnal Seminar Hawliau Plant i’r sector, er mwyn archwilio arfer arloesol gan yr heddluoedd a’r asiantaethau i gydnabod effaith trawma ar blant a sut mae gwreiddio hawliau plant yn ddyfnach ym maes plismona a chyfiawnder ieuenctid. 

Er gwaethaf yr agweddau cadarnhaol ar gyfiawnder ieuenctid y soniwyd amdanynt eisoes, rwyf wedi bod yn pryderu’n arbennig bod lefelau troseddoli yn parhau’n sylweddol uwch ymhlith pobl ifanc â phrofiad o ofal, ac mae fy swyddfa’n cael ei chynrychioli ar weithgor dan arweiniad NYAS Cymru i edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu protocol Cymru gyfan i leihau troseddoli diangen ymhlith pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, fel sydd eisoes ar waith yn Lloegr.[10]

Mae’r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid i Gymru wedi bod yn gydnabyddiaeth bwysig i hwyluso dull gweithredu unigryw Cymru a’i flaengynllunio yng nghyswllt cyfiawnder ieuenctid[11]. Mae’r Glasbrint yn fentrus yn ei ymrwymiad i wella’r “canlyniadau troseddol a chymdeithasol i blant sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid” ac mae’n cyflwyno amcanion tymor byr, canolig a hir ar gyfer cyflawni dull system gyfan o ddiwygio. Mae’r Glasbrint yn glir yn ei ymrwymiad i hawliau plant ac yn cyflwyno’i uchelgais, sef bod plant yn gyfranogwyr gweithredol yn y system, a sicrhau bod gwasanaethau datganoledig a rhai heb eu datganoli yn cydweithio i wireddu hawliau plant. Mae hefyd yn cydnabod y cyfuniad cymhleth o anghenion mae plant yn eu profi wrth gael eu hunain yn y system cyfiawnder ieuenctid, megis iechyd meddwl, anghenion datblygu a chyfathrebu, a thrawma plentyndod. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod y gwaith hwn wedi dod i ben dros dro oherwydd y galwadau ar y gwasanaethau sifil yng Nghymru ar hyn o bryd yn sgîl pandemig y Coronafeirws. 

Mae fy nhîm a minnau hefyd wedi bod yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o’r diffyg trawiadol o ran llety diogel a lled-ddiogel ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd ag anghenion cymhleth. Gall plant ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol cymhleth gael eu dal yn aml rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, wrth geisio cael hyd i’r lleoliad mwyaf addas iddynt. Mae plant yn cael eu hesgaladu i fyny’r system tuag at lety diogel oherwydd diffyg llety addas a diogel a fyddai’n diwallu eu hanghenion. Byddai datblygu’r ddarpariaeth hanfodol hon, a gomisiynir ar y cyd gan y gwasanaethau cymdeithasol a iechyd, yn galluogi plant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol cymhleth i gael eu lleoli’n briodol a derbyn gofal a chefnogaeth therapiwtig ar draws eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol heb orfod cael eu cadw mewn llety diogel neu unedau iechyd meddwl i  gleifion mewnol. Rwyf wedi cael fy sicrhau bod gwaith i ddatblygu’r ddarpariaeth hon yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru, ond mae cyfle i archwilio sut gallai plant a phobl ifanc, o bosib yn achos y rhai sydd mewn perygl o droseddoli, elwa o ddarpariaeth o’r fath. Mae trafodaethau ynghylch hyn wedi digwydd yng nghyd-destun y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid ers 2018, ond hyd yma ni wnaed cynnydd amlwg. 

Gwasanaethau cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am iechyd, gofal cymdeithasol, tai ac addysg; pob elfen allweddol o’r gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n rhan o’r system gyfiawnder. Fodd bynnag, gall y ffaith bod rhaniad artiffisial yn achos cyfiawnder ieuenctid greu dryswch rhwng gwasanaethau o ran eu cyfrifoldebau, a phobl ifanc sy’n dioddef effaith negyddol yn sgîl hyn. Byddai datganoli cyfiawnder ieuenctid yn galluogi Cymru i wireddu’n llawn ei hymrywmiad i CCUHP a’r ddyletswydd gyfreithiol i hybu a diogelu hawliau ei phlant a’i phobl ifanc. Mae hyn yn cyfateb i’r argymhelliad a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder, sef “Y dylai polisi cyfiawnder ieuenctid gael ei bennu a’i gyflwyno yng Nghymru, gan adeiladu ar y gostyngiad yn nifer y plant a’r bobl ifanc sydd yn y ddalfa a’r rhai sy’n mynd i’r system cyfiawnder troseddol”. 

Yng ngoleuni hyn, rwy’n credu bod angen edrych ymhellach ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, a allai yn ei dro gefnogi symudiad at godi oed cyfrifoldeb troseddol i 16 oed, neu o leiaf yr oed a argymhellir, sef 14.



[1] https://statswales.gov.wales/Catalogue/Health-and-Social-Care/Social-Services/Childrens-Services/Children-Looked-After/childrenlookedafterat31marchper10000population-localauthority-year  

[2]https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/850306/Children_loo ked_after_in_England_2019_Text.pdf  

[3] https://record.assembly.wales/Committee/5694#C240110  

[4] https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/217344/fjr-execsummary.pdf  

[5] https://beta.parliament.scot/bills/age-of-criminal-responsibility-scotland-bill  

[6]https://tbinternet.ohchr.org/_layouts/15/treatybodyexternal/Download.aspx?symbolno=CRC%2fC%2fGC%2f24&Lang=en  

[7] https://www.gov.uk/government/statistics/youth-justice-statistics-2018-to-2019  

[8] https://www.gov.uk/government/statistics/youth-custody-data  

[9] https://www.childcomwales.org.uk/wp-content/uploads/2020/05/SWP-Charter.jpg  

[10] https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/765082/The_national protocol_on_reducing_unnecessary_criminalisation_of_looked-after_children_and_care_.pdf  

[11] https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-05/youth-justice-blueprint_0.pdf