Senedd Cymru

Welsh Parliament

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Legislation, Justice and Constitution Committee

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru

Making Justice work in Wales

MJW 04

Ymateb gan: Y Bwrdd Parôl

Response from: The Parole Board

Drwy ddarparu’r cyflwyniad hwn, dymuna’r Bwrdd dynnu sylw at yr adroddiad “Cyfiawnder yng Nghymru i Bobl Cymru” a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fis Hydref y llynedd.  Amlygwyd nifer o feysydd o bryder yn yr adroddiad hwnnw, sy’n adlewyrchu’r rhai a nodwyd hefyd gan y Bwrdd Parôl, ac yn fwyaf arwyddocaol:

 

-      Darpariaeth tai (trefniadau tymor hwy)

-      Mynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol

-      Gwasanaethau iechyd meddwl

-      Menywod (a’r goblygiadau i fywyd teuluol)

-      Cymorth i droseddwyr ifanc

-      Yr Iaith Gymraeg

-      Materion daearyddol (yn arbennig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol)

Yn ogystal, nododd y Bwrdd y canlynol fel pryderon:

 

-      Mynediad at Leoliadau Cymeradwy a llety camu ymlaen

-      Mynediad at gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth yn y Gymraeg

-      Troseddwyr o Gymru wedi’u carcharu yn Lloegr

 

Darperir y sylwadau canlynol, y mae’r Bwrdd Parôl yn gobeithio fydd yn cefnogi cam canfod ffeithiau’r ymgynghoriad ac, yn benodol, gweithrediad presennol swyddogaethau cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys polisïau Llywodraeth Cymru mewn meysydd datganoledig a’u rhyngweithiad gyda gweinyddu cyfiawnder; ac effaith perthnasoedd rhwng cymhwysedd y DU a Chymru ar faterion cyfiawnder penodol a nodi meysydd o bryder.

 

Bwrdd Parôl Cymru a Lloegr

Mae’r Bwrdd Parôl yn gorff annibynnol sy’n cynnal asesiadau risg ar garcharorion er mwyn penderfynu a yw’n bosibl eu rhyddhau’n ddiogel i’r gymuned.
Cafodd ei sefydlu ym 1968 o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1967 a daeth yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol annibynnol ar 1 Gorffennaf 1996 o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.

 

Mae’r achosion y mae’r Bwrdd yn ymdrin â hwy yn cynnwys pob dedfryd oes, dedfrydau o garchar penagored er mwyn diogelu’r cyhoedd (IPP), dedfrydau pendant sy’n gymwys am parôl a nifer o achosion adalw.  Yn ogystal, gall y Bwrdd ddarparu cyngor ar symud rhai carcharorion o garchar caeëdig i garchar agored.

 

Mae’r Bwrdd yn ymdrin â thua 25,000 o achosion y flwyddyn, sy’n cael eu cyfeirio atynt gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.  Mae penderfyniadau’r Bwrdd Parôl yn canolbwyntio’n unig ar a ellir rhyddhau carcharor yn ddiogel yn ôl i’r gymuned.  Y brif flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau o’r fath yw diogelu’r cyhoedd.

 

Mae gweithgarwch y  Bwrdd yn cwmpasu parôl ar draws Cymru a Lloegr.  Mae deddfwriaeth, gan gynnwys Rheolau’r Bwrdd Parôl 2019 , polisi ac arfer, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer aelodau’r Bwrdd Parôl, yn cwmpasu’r ddwy wlad.  Mae gan y Bwrdd aelodau wedi’u lleoli yn y ddwy wlad ac mae’n ofynnol iddynt eistedd ar fyrddau parôl yn y naill wlad neu’r llall (o fewn pellter teithio rhesymol).

 

Wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru mae’r Bwrdd wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal, i’r graddau y mae hynny’n briodol yn yr amgylchiadau ac y mae’n rhesymol ymarferol.  Mae’r Bwrdd wedi cyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg sy’n nodi sut y bydd yn gweithredu’r egwyddor honno yn y gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru y mae’n gyfrifol amdanynt.

 

Un o’r prif amcanion yn y Cynllun yw i’r Bwrdd ddenu ac annog siaradwyr Cymraeg i wneud cais a dod yn aelodau o’r Bwrdd Parôl ac mae gwaith wedi’i wneud i edrych ar waith maes yng Nghymru ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol.

 

Mae’r Cynllun ar gael i’w ddarllen yma:

 

https://www.gov.uk/government/publications/parole-board-launches-its-welsh-language-scheme-2018-2020-bwrdd-parol-yn-lansio-ei-gynllun-iaith-gymraeg-2018-2020.cy

 

Mae gwybodaeth fanwl am y Bwrdd Parôl ar gael ar eu tudalennau gwe:

https://www.gov.uk/government/organisations/parole-board/about.cy

 

 

Sefydliadau Carchar

 

Mae’r Bwrdd yn bryderus bod diffyg categorïau o garchardai yng Nghymru, gan gynnwys y rhai ar gyfer troseddwyr ifanc, a all effeithio’n arwyddocaol ar adsefydlu tra byddant yn y carchar, ac mae hyn yn aml yn creu anawsterau i droseddwyr gynnal cyswllt gyda’u teulu a chefnogaeth arall.  Mae menywod a throseddwyr ifanc yn derbyn gwasanaeth gwael iawn.

 

Gall datblygu cynlluniau rhyddhau ac ailsefydlu ar gyfer unrhyw droseddwyr sy’n dychwelyd i Gymru o garchar yn Lloegr gyflwyno nifer o heriau.

 

Deellir bod 37%[1] o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr.  Wrth ddatblygu gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at garcharorion o Gymru bydd angen ystyried yr ystâd gyfan ar draws Cymru a Lloegr ac nid dim ond y sefydliadau hynny sydd wedi’u lleoli’n ddaearyddol yng Nghymru.

 

Carcharorion Benywaidd

 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw garchardai i fenywod neu Leoliadau Cymeradwy ar gyfer menywod yng Nghymru.  Mae hyn yn creu problemau arwyddocaol i droseddwyr benywaidd gynnal cyswllt gyda’u teulu, tra byddant yn y carchar, ac ar gyfer ailsefydlu ar ôl cael eu rhyddhau, sy’n cael ei arwain gan y Bwrdd.  Mae tystiolaeth gan droseddwyr benywaidd o Gymru sydd wedi’u carcharu yn CEM Styal a CEM Eastwood Park wedi dangos bod cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn fater arwyddocaol, a bod y pellter hir rhwng lleoliad y teulu yn creu rhwystr at gynnal cyswllt ac ymweliadau cefnogi.

 

Croesawodd y Bwrdd y cyhoeddiad diweddar ar gyfer y Ganolfan Breswyl gyntaf i Fenywod yng Nghymru, a fydd yn darparu llety i fenywod agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth a fyddai’n cael eu dedfrydu i garchar fel arall.

 

Gwasanaethau Datganoledig

 

Wrth gynnal adolygiadau parôl er mwyn asesu’r risg y mae troseddwr yn ei chyflwyno i’r cyhoedd, bydd y Bwrdd yn edrych ar ystod o fesurau a chefnogaeth a roddir ar waith i reoli’r risg, yn ogystal â chyfrannu at adsefydliad troseddwr a’u dychweliad i’r gymuned.

 

Mae elfen ychwanegol gymhleth yn aml wrth weithio o fewn System Cyfiawnder Troseddol ganolog ac ymgysylltu â gwasanaethau datganoledig, gan gynnwys gofal iechyd, gofal cymdeithasol a thai, yn arbennig wrth adolygu achosion lle bydd y troseddwr mewn carchar yn Lloegr ond a fydd yn dychwelyd i gymuned yng Nghymru.  Gall y gwaith traws-ffiniol hwn gyflwyno nifer o heriau wrth sicrhau gwasanaethau perthnasol.

 

Llety Rhyddhau Addas

 

Er mwyn rhyddhau, mae’n rhaid i’r Bwrdd fod yn fodlon bod mesurau priodol ar waith i reoli a monitro ymddygiad a risg ac i gynorthwyo’r troseddwr i drosglwyddo’n ddiogel i’r gymuned.  I lawer bydd yn hollbwysig eu bod yn cael eu rhyddhau i Leoliad Cymeradwy.  Mae’r rhai sydd ar gael yn cynnig gwasanaeth o safon uchel gyda mesurau rheoli cadarn, gweithgareddau priodol ac amgylchedd galluogi.  Fodd bynnag, nid oes digon o Leoliadau Cymeradwy yng Nghymru, maent yn aml yn bell yn ddaearyddol o ardal ailsefydlu’r troseddwr ac mae’r pwysau ar leoliadau yn golygu bod rhestr aros hir yn aml.  Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar yr asesiad o risg a gall hyn arwain at oedi neu ganlyniad negyddol ac mae’n creu rhwystredigaeth i’r troseddwyr, y staff prawf ac aelodau’r Bwrdd Parôl fel ei gilydd.  Felly, nid yw er budd diogelu’r cyhoedd na budd tegwch i’r carcharor pan na ellir awdurdodi rhyddhau am nad oes Lleoliadau Cymeradwy ar gael iddynt.

Mae’r sefyllfa hon yn waeth i fenywod oherwydd nid oes unrhyw Leoliadau Cymeradwy i fenywod yng Nghymru.  Os byddant yn cael eu rhyddhau i Leoliadau Cymeradwy yn Lloegr, ni all y menywod ddatblygu eu cynlluniau ailsefydlu’n rhwydd ac ail-adeiladu perthnasoedd gyda’u teuluoedd.

Mae’r sefyllfa uchod yn cael ei hailadrodd yn aml pan na fydd angen Lleoliadau Cymeradwy, cyhyd ag y gellir rhoi mesurau monitro a chefnogi priodol ar waith.  Fodd bynnag, mae diffyg llety rhyddhau a chamu ymlaen yng Nghymru.  Gall paneli’r Bwrdd Parôl a’r gwasanaeth prawf wynebu sefyllfaoedd lle byddai troseddwr yn cael ei ryddhau lle nad oes cartref sefydlog neu i gyfeiriad cwbl anfoddhaol (er enghraifft gyda defnyddwyr cyffuriau eraill neu gydag aelodau o’r teulu sy’n agored i niwed).

Mae’r ffaith bod llai o gyfleoedd i gael mynediad at lety, cyflogaeth a gweithgareddau strwythuredig addas yn cael effaith andwyol pellach ar gynlluniau ailsefydlu mewn ardaloedd gwledig, ôl-ddiwydiannol a difreintiedig.  Mae’r agweddau hyn o’r cynlluniau rhyddhau yn hollbwysig er mwyn rheoli risg.  Hebddynt, mae perygl o ddychwelyd i ddefnyddio sylweddau a throseddu gyda ffordd o fyw a chymdeithion cysylltiedig, sy’n golygu bod unigolion yn agored i iechyd meddwl yn dirywio a chael eu hadalw i’r ddalfa.  Mae hyn yn cael effaith andwyol ar gymunedau ac yn creu mwy o ddioddefwyr neu’n ail-greu dioddefwyr yn achos cam-drin rhywiol a domestig.

Troseddwyr gyda Materion Iechyd Meddwl neu faterion iechyd eraill

Gall fod yn anodd iawn cael mynediad at ôl-ofal iechyd meddwl, ac mae hyn yn achosi oedi sylweddol cyn rhyddhau troseddwr.  Mae teithio yn broblem fawr i droseddwyr, y gallai fod angen iddynt deithio am oriau yn ôl ac ymlaen o apwyntiadau gyda gwasanaethau, h.y. mae’r gwasanaethau Iechyd Meddwl Fforensig wedi’u lleoli ar hyd arfordir y Gogledd a’r De.  Nid yw’r Bwrdd yn credu bod mynediad digonol yn awr at yr adnoddau i gyflawni’r galw am wasanaethau iechyd meddwl i droseddwyr.  Oherwydd bod GIG Cymru yn cwmpasu’r wlad gyfan, mae posibilrwydd o fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig ar gyfer Cyfiawnder Troseddol ac Iechyd Meddwl.

Mae’r Bwrdd yn bryderus ynghylch cysondeb triniaethau pan fydd troseddwyr yn cael eu trosglwyddo o garchardai yn Lloegr i garchardai yng Nghymru, gan gynnwys triniaethau cyffuriau, a pharhad yn y gymuned.

 

 

Darpariaeth Iaith Gymraeg

 

Mae’n rhaid i droseddwyr dderbyn gwasanaethau ac adnoddau yn y Gymraeg, os dyma yw eu hiaith gyntaf/dewis iaith.  Fel y soniwyd eisoes, mae gan y Bwrdd Gynllun Iaith Gymraeg.  Fodd bynnag, mae’n amlwg y bydd hyn ond yn llwyddo drwy fabwysiadu dull system gyfan ac mae’r Bwrdd yn awyddus i weld adnoddau priodol er mwyn galluogi staff carchardai a staff prawf i gyflawni’r anghenion hynny.  Hefyd, byddai mwy o ddata sy’n nodi’r galw am y gwasanaethau hyn yn ddefnyddiol er mwyn gallu comisiynu gwasanaethau priodol.  Er enghraifft, yn ystod y digwyddiadau allgymorth a gynhaliwyd gan y Bwrdd Parôl a’r Unedau Cyflenwi Lleol yn 2018, nodwyd bod tua 400 o gleientiaid prawf yng Ngwynedd yr oedd yn well gan tua 375 ohonynt siarad Cymraeg, yr oedd tua hanner ohonynt yn y ddalfa, sy’n cyferbynnu’n fawr â’r rhanbarthau eraill yr ymwelwyd â hwy.

 

Mynediad at Gyngor a Chynrychiolaeth

 

Fe sefydlodd y Bwrdd dasglu rhanbarthol mewnol yng Nghymru i edrych ar wella gwasanaethau i droseddwyr Cymraeg eu hiaith ac, yn benodol, cefnogi’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn achosion parôl ffurfiol.  Mae canllawiau wedi’u datblygu i gefnogi troseddwyr y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf neu’n ddewis iaith iddynt.

 

Un o’r materion a amlygwyd oedd mynediad at gyfreithwyr sy’n siarad Cymraeg, oherwydd mae llawer o gwmnïau cyfreithiol carchardai wedi’u lleoli yn Lloegr a dim ond ychydig iawn ohonynt sydd â chynrychiolwyr cyfreithiol sy’n siarad Cymraeg, ac nid ydynt bob amser yn gwerthfawrogi anghenion penodol siaradwyr Cymraeg eu hiaith.

 

Gwasanaethau Prawf

 

Mae’r Bwrdd yn cyfranogi mewn fforwm parôl rhanbarthol yng Nghymru sy’n dod â’r Bwrdd Parôl a chydweithwyr o Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) at ei gilydd i edrych ar arferion a strategaethau effeithiol lleol, a datblygu ymatebion i’r heriau sy’n codi sy’n benodol i Gymru.  Mae’r Gwasanaeth Prawf yn ailintegreiddio’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a’r Canolfannau Adsefydlu Cymunedol yn un gwasanaeth yn awr a gallai hyn ddarparu cyfleoedd i atgyfnerthu’r gwasanaethau ac anghenion penodol troseddwyr o Gymru, p’un a ydynt wedi’u lleoli yng Nghymru neu Loegr.

 

Dioddefwyr

Mae anghenion dioddefwyr yn elfen hollbwysig o ystyriaethau’r Bwrdd o’r amodau ar gyfer rhyddhau troseddwyr yn ôl i gymunedau ac mae heriau yn aml wrth edrych ar ardaloedd dan waharddiad a’r gallu i’w rheoli ar draws ardaloedd mawr.  Bydd darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn y Gymraeg i ddioddefwyr yn cynorthwyo eu dealltwriaeth o’r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.

Mae’r Llywodraeth wedi ymgynghori’n ddiwedd ar wella’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau ac mae angen ymgorffori anghenion dioddefwyr yng Nghymru yn y Cod diwygiedig.

 

 

 

 

 



[1] Sentencing and Imprisonment in Wales: a fact file – Canolfan Llywodraethiant Cymru Awst 2019