Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2020
Amser:
09.30 -
11.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6414
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS |
Tystion: |
Sir Wyn Williams, Tribiwnlysoedd Cymru Rhian Davies-Rees, Tribiwnlysoedd Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Aled Evans |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Bu'r Pwyllgor hefyd yn holi Syr Wyn ar ei ddau adroddiad blynyddol cyntaf yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
3 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
3.1 SL(5)568 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 SL(5)572 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4.2 SL(5)570 – Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac yn rhoi ystyriaeth bellach i’r materion a godir.
4.3 SL(5)573 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.
5 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE
5.1 SL(5)569 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
6 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
6.1 WS-30C(5)162 - Rheoliad (UE) Rhif 2018/1724 Rheoliadau Rheoliad y Porth Digidol Unigol (Dirymu) (Ymadael â'r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.
6.2 WS-30C(5)163 - Rheoliadau Gwasanaethau a Chymwysterau Proffesiynol (Darpariaethau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.
7 Papurau i’w nodi:
7.1 Llythyr gan Bennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru - Craffu ar reoliadau Llywodraeth Cymru a chydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bennaeth Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y Cadeirydd wedi ymateb i'r llythyr i gydnabod y pwyntiau a godwyd.
7.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - gohebiaeth gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru.
7.3 Llythyr gan yr Aelod Seneddol Alex Chalk, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder - data ar fynediad at gyfiawnder
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder mewn ymateb i'w gais am wybodaeth ar ddata ar fynediad at gyfiawnder.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - trafod y dystiolaeth.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gyda Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Amgylchedd, a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 17 Gorffennaf 2020.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach, a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor fod y dyddiad cau ar gyfer adrodd wedi'i ymestyn ac y byddai ei adroddiad yn cael ei osod maes o law.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Amaethyddiaeth. Nododd y Pwyllgor fod y dyddiad cau ar gyfer adrodd wedi'i ymestyn ac y byddai ei adroddiad yn cael ei osod maes o law.
13 Y newid yng nghyfansoddiad Cymru - trafod y materion allweddol
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd hyd yma mewn perthynas â'i ymchwiliad i’r Newid yng Nghyfansoddiad Cymru a'i gynlluniau ar gyfer adrodd ar y materion a godwyd.
14 Diweddariad Brexit - fframweithiau cyffredin
Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil mewn perthynas â fframweithiau cyffredin.