Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2011

 

 

 

Amser:

09:10 - 10:50

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_01_11_2011&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

William Powell (Cadeirydd)

Russell George

Bethan Jenkins

Joyce Watson

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Rhodri Glyn Thomas

Mike Clark, Hijinx Theatre

Hill, Hijinx Theatre

Steve Matthews, PCS Union

Graham Warlow, Coastguard campaign

Gaynor Lougher, Hijinx Theatre

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Abigail Phillips (Clerc)

Sarita Marshall (Dirprwy Glerc)

Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol)

Rachel O'Toole

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Deisebau newydd

 

</AI2>

<AI3>

2.1P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y Gweinidog a gohirio’r broses o drafod y mater hwn tan ar ôl i’r alwad am dystiolaeth ddod i ben.

</AI3>

<AI4>

2.2P-04-340 Creu ardal fenter yng Nghasnewydd

2.3

 

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Aelodau Etholaeth a’r Aelodau Rhanbarthol perthnasol ystyried codi’r mater yn y Cyfarfod Llawn.

 

Y Clerc i roi manylion i’r Pwyllgor ynghylch ymateb y Gweinidog i’r pwynt a godwyd yn ddiweddar gan Eluned Parrott ar y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn.

 

</AI4>

<AI5>

3.  P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx - sesiwn tystiolaeth lafar

4.   

Cafwyd cyflwyniad ar y mater gan y deisebwyr,gyda chymorth Rhodri Glyn Thomas AC, ac atebwyd cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

</AI5>

<AI6>

5.  P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau - sesiwn tystiolaeth lafar

Cafwyd cyflwyniad ar y mater gan y deisebwyr, ac atebwyd cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

</AI6>

<AI7>

6.  Trafod y dystiolaeth lafar

 

</AI7>

<AI8>

6.1P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ofyn i grŵp gorchwyl a gorffen gael ei sefydlu i adolygu’r gwaith o weithredu argymhellion yr Adroddiad ar Hygyrchedd Gweithgareddau Celfyddydol a Diwylliannol yng Nghymru a dderbyniwyd gan y Gweinidog;

ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gyfle cyfartal, gan geisio’i barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb;

ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i holi sut y bydd yn penderfynu ar y blaenoriaethau a bennir mewn llythyrau cylch gwaith yn y dyfodol at Gyngor Celfyddydau Cymru ac a fyddai modd i Aelodau gyfrannu iddo.

 

</AI8>

<AI9>

6.2P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

 

ysgrifennu at weithredwyr a chyrff twristiaeth yn y Gŵyr ac Eryri a’r pedwar Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol ar y mater hwn;

 

ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a fyddai’r Llywodraeth yn fodlon cynnal asesiad risg o ddiogelwch twristiaid mewn ardaloedd arfordirol yng nghyd-destun cynigion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar gyfer dyfodol gorsafoedd gwylwyr y glannau yng Nghymru;

 

cynhyrchu adroddiad dros dro ar y pwnc, gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater;

 

ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn sut y penderfynwyd ar y cynigion sy’n ymwneud â Chymru gan nodi pryder ynghylch effaith bosibl hyn ar ddiogelwch twristiaid yng Nghymru;

 

ysgrifennu at Gymdeithas Twristiaeth Sir Benfro a sefydliadau twristiaeth y gogledd, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain, a Pharciau Cenedlaethol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb.

 

</AI9>

<AI10>

7.  Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI10>

<AI11>

7.1P-03-288 Strategaeth Genedlaethol ar Fyw’n Annibynnol

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

</AI11>

<AI12>

7.2P-03-308 Achub Theatr Gwent

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gofyn i’r mater hwn gael ei gynnwys yn ei flaenraglen waith i’w ystyried yn y dyfodol.

</AI12>

<AI13>

7.3P-03-311 Theatr Spectacle

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gofyn i’r mater hwn gael ei gynnwys yn ei flaenraglen waith i’w ystyried yn y dyfodol.

</AI13>

<AI14>

7.4P-03-314 Achub Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys

7.5

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gofyn i’r mater hwn gael ei gynnwys yn ei flaenraglen waith i’w ystyried yn y dyfodol.

</AI14>

<AI15>

7.6P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd

 

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor mewn perthynas â’r deisebau hyn.

</AI15>

<AI16>

7.7P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

 

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor mewn perthynas â’r deisebau hyn.

</AI16>

<AI17>

7.8P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ond i ofyn i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau barhau i adolygu’r sefyllfa.

</AI17>

<AI18>

7.9P-03-310 Polisïau sy’n helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion

 

Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:

anfon y ddeiseb ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig ymlaen i’r ymgynghoriad ar y Bil Ysgolion a Safonau (Cymru);

cau’r ddeiseb ond hysbysu’r deisebydd y byddai’r Pwyllgor yn fwy na pharod i ystyried deiseb wedi’i haralleirio os nad yw’r ymgynghoriad yn mynd i’r afael â’i phryderon.

 

</AI18>

<AI19>

7.10    P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

 

Anfon y ddeiseb ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig ymlaen i’r ymgynghoriad ar y Bil Ysgolion a Safonau (Cymru);

Cau’r ddeiseb ond hysbysu’r deisebydd y byddai’r Pwyllgor yn fwy na pharod i ystyried deiseb wedi’i haralleirio os nad yw’r ymgynghoriad yn mynd i’r afael â’i phryderon.

 

</AI19>

<AI20>

7.11    P-03-153 Celf Corff

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

</AI20>

<AI21>

7.12    P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebydd gan egluro y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter a Busnes yn ystyried y mater hwn ac yna’n cau’r ddeiseb.

</AI21>

<AI22>

7.13    P-03-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yr Amwythig a Telford ar y mater hwn, ac at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ei hannog i wneud cyflwyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Lloegr mewn perthynas â’r mater.

 

</AI22>

<AI23>

8.  Papurau i'w nodi

 

</AI23>

<AI24>

8.1P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

 

Nododd y Pwyllgor y papurau hyn.

</AI24>

<AI25>

8.2P-03-302 Ffatri Prosesu Compost

 

Nododd y Pwyllgor y papurau hyn.

</AI25>

<AI26>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI26>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>