Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 6 Hydref 2016
Amser: 09.17 -
12.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3741
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Hywel Dafydd, Comisiynydd Plant Cymru Sara Jermin, Comisiynydd Plant Cymru Paul Glaze, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Keith Towler, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Catrin James, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Dr Chris Llewelyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Tim Opie, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Barbara Howe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Jason Haeney, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Bu’r Pwyllgor yn holi’r Comisiynydd yn fanwl am yr Adroddiad Blynyddol. Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu’r canlynol:
Dadansoddiad o'r mathau o achosion y mae'r tîm gwaith achos wedi ymdrin â hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; a
Nodyn ar gynllun allgymorth strategol y Comisiynydd gan gynnwys faint o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a wnaed.
O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn Llywydd Anrhydeddus Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cyngor.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan PYOG a CLlLC.
Cytunodd CLlLC i ddarparu nodyn ar sefyllfa ymarferion mapio'r gwasanaethau ieuenctid mewn awdurdodau lleol.
Nodwyd y papurau.
Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru'n gofyn am gopi o'r ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Arferion Hysbysebu ar roi cyfyngiadau ar hysbysebion i blant na chânt eu darlledu sy'n ymwneud â diodydd meddal a bwyd.