Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (269)v3 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Dadl Frys (90 munud)
Canfyddiadau’r ymchwiliad i ofal cleifion ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. |
4 Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) (60 munud) NDM5772 Kirsty Williams (Brycheiniog a Maesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Gosodwyd y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 1 Rhagfyr 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 8 Mai 2015.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 6 Mai 2015. |
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5773 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i Gymru dros y pum mlynedd nesaf; a
b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi.
2. Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i fuddsoddi ynddynt.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r feirniadaeth ynghylch strategaeth mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru yn adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Selling Wales: The Role of Agencies in Attracting Inward Investment'.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
'datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru.'
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn gyson.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth gorfforaeth yng Nghymru. |
6 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5770 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, a fyddai'n tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn gam yn ôl o ran hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42) i'w gweld yn:
http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/42/contents (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Geidwadol yn ystod etholiad cyffredinol 2015 i gyflwyno Bil Hawliau Prydeinig; a
2. Yn cydnabod bwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion i gyflawni'r ymrwymiad hwn.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu ei bod yn ofynnol bod unrhyw gynnig i ddiddymu, diwygio neu ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fynegi drwy Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. |
7 Cyfnod pleidleisio |
8 Dadl Fer (30 munud) NDM5771 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Môn Mam Cymru: ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2015