Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(248)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (60 munud)

 

</AI3>

<AI4>

4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Treth ar waredu i safleoedd tirlenwi (30 munud)

 

</AI4>

<AI5>

5 Trefn trafod y gwelliannau i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (5 munud)

NDM5697 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) adrannau 2 - 25

b) adran 1

c) Teitl Hir

 

</AI5>

<AI6>

6 Dadl ar Setliad yr Heddlu 2015-16 (60 munud)

NDM5699 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2015-2016 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu).

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2015. 

Dogfen Ategol
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2015-2016 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) (Saesneg yn unig)

 

</AI6>

<AI7>

7 Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2013-14 (60 munud)

NDM5698 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2015.

Dogfen Ategol
Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:

a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a

b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon newydd a phrofiadol.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein hysgolion.

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

Gwelliant 6 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer gorau.

 

</AI7>

<AI8>

8 Cyfnod pleidleisio 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 25 Chwefror 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>