Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(232)v4

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes  

 

</AI2>

<AI3>

3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i Sefydlu Pwyllgor o’r Cynulliad (5 munud)

NDM5634 Jane Hutt AC (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

 

1. Yn sefydlu Pwyllgor ar amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol; a

 

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw craffu ar y polisi a’r ystyriaethau deddfwriaethol sy’n ymwneud â chael gwared â’r amddiffyniad “cosb resymol” mewn cysylltiad â churo plentyn, yn sgîl adran 58 o Ddeddf Plant 2004. Bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu yn dilyn y ddadl ar ei adroddiad.

</AI3>

<AI4>

4 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth (30 munud)

 

</AI4>

<AI5>

5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd: Imiwneiddio - cynnydd a brechiadau (30 munud)

 

</AI5>

<AI6>

6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Rhaglen Twf Swyddi Cymru yn y Dyfodol (30 munud)

 

Dogfen Ategol

Gwerthusiad o Twf Swyddi Cymru

 

</AI6>

<AI7>

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Hawliau Defnyddwyr: Gwelliannau mewn perthynas â Ffioedd Asiantaethau Gosod (15 munud)

NDM5626 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Defnyddwyr sy’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gosod, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Hydref 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

 

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/consumerrights.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

</AI7>

<AI8>

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – darpariaethau sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant (15 munud)

 

NDM5627 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). 

 

Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

 

</AI8>

<AI9>

9 Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (60 munud)

NDM5632 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).

 

Gosodwyd Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Mehefin 2014.

 

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2014.

 

Dogfennau Ategol

Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

</AI9>

<AI10>

10 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (5 munud)

NDM5633 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

</AI10>

<AI11>

11 Dadl: Effaith Diwygiadau Lles Llywodraeth y DU yng Nghymru (60 munud)

NDM5631 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) effaith a goblygiadau’r Diwygiadau Lles yng Nghymru; a

 

b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer gweithredu Credyd Cynhwysol.

 

Mae’r cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer gweithredu Credyd Cynhwysol i’w gweld drwy’r ddolen hon: https://www.gov.uk/government/news/plans-announced-for-accelerated-rollout-of-universal-credit-after-success-in-north-west (Saesneg yn unig)

 

Dogfen Ategol

Dadansoddi effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt a) a rhoi yn ei le:

 

y mabwysiadwyd y diwygiadau lles a weithredwyd gan Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system budd-daliadau ac i sicrhau na all unrhyw un ennill mwy ar fudd-daliadau nag y mae'r teulu cyffredin yn ennill drwy fynd allan i weithio; a

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi mai nod credyd cynhwysol yw lleihau tlodi, drwy wneud i waith dalu, a helpu hawlwyr a'u teuluoedd i fod yn fwy annibynnol.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy effeithiol na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y byddai rhewi budd-dal plant yn niweidiol i'r nod o ddileu tlodi plant.

 

</AI11>

<AI12>

12 Cyfnod Pleidleisio 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>