Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 26 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.19 - 11.58 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Keith Davies AC Suzy Davies AC Ann Jones AC (Cadeirydd) Bethan Jenkins AC Lynne Neagle AC Aled Roberts AC Simon Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Yr Athro Ken Jones, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Peter Thomas, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Rex Phillips, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Rogers (Ail Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns, John Griffiths a David Rees.
2 Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 4
Clywodd y Cadeirydd dystiolaeth gan yr Athro Ken Jones a Peter Thomas o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
3 Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 5
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau.
4 Papurau i'w nodi
Nodwyd y papurau.
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau - Penodiad Cadeirydd newydd i Fwrdd Cysgodol Cymwysterau Cymru
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Adroddiad ar sylweddau seicoweithredol newydd
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod:
Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod y flaenraglen waith
Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith, sy'n rhoi amlinelliad o'r gwaith y mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i'w wneud, a phynciau posibl ar gyfer gwaith y dyfodol.
Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith yn y meysydd a ganlyn:
- Dau ymchwiliad dilynol penodol i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, yn benodol ar y defnydd o feddyginiaeth ar bresgripsiwn yng nghyd-destun y gwasanaethau a darparu'r gwasanaethau ar lefel sylfaenol;
- Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
- Y Consortia Rhanbarthol;
- Gwaith etifeddiaeth;
- Craffu ariannol yn ystod y flwyddyn.
Trafododd y Pwyllgor hefyd lythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a chytunwyd y byddai'n ymateb i'r Gweinidog yn ysgrifenedig.