Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mercher, 25 Chwefror 2015

 

 

 

Amser:

09.32 - 11.37

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/2646

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

David Rees AC (Cadeirydd)

Alun Davies AC

Janet Finch-Saunders AC

John Griffiths AC

Elin Jones AC

Darren Millar AC

Lynne Neagle AC

Gwyn R Price AC

Lindsay Whittle AC

Kirsty Williams AC (ar gyfer eitemau 6 i 8)

Peter Black AC (yn lle Kirsty Williams AC ar gyfer eitemau 1 i 5)

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Yr Athro Gillian Leng, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Llinos Madeley (Clerc)

Helen Finlayson (Ail Clerc)

Sian Giddins (Dirprwy Glerc)

Rhys Morgan (Dirprwy Glerc)

Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

Sian Thomas (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

1    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

1.3 Nododd y Cadeirydd gydymdeimlad y Pwyllgor â'r Prif Swyddog Nyrsio, a oedd yn methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd profedigaeth yn y teulu. Cytunodd y Pwyllgor i ddod o hyd i ddyddiad arall i'r Prif Swyddog Nyrsio ddarparu tystiolaeth ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

 

</AI2>

<AI3>

2    Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11

2.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan yr Aelodau.

2.2 Cytunodd yr Athro Leng i ddarparu'r canlynol ar gyfer y Pwyllgor:

 

</AI3>

<AI4>

3    Papurau i’w nodi

3.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 4 a 12 Chwefror 2015.

 

</AI4>

<AI5>

3.1  Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. Cytunodd yr Aelodau i ystyried unrhyw waith ychwanegol yr hoffent ei wneud mewn perthynas ag adroddiad  'Lle i'w Alw'n Gartref?' y Comisiynydd Pobl Hŷn - Adolygiad i Ansawdd Bywyd a Gofal Pobl Hŷn sy’n byw mewn Cartrefi Gofal yng Nghymru, yn ystod trafodaethau'r Pwyllgor ar ei flaenraglen waith ar 5 Mawrth 2015.

 

</AI5>

<AI6>

3.2  Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-501 Gwneud Canolfannau Dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru

3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i dynnu sylw at y briff yr oedd wedi'i dderbyn ar 20 Tachwedd, 2014 ar weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

</AI6>

<AI7>

4    Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 5 Mawrth 2015

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI7>

<AI8>

5    Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Yn sgil yr angen i ail-drefnu'r sesiwn dystiolaeth gyda'r Prif Swyddog Nyrsio, ac er mwyn sicrhau bod digon o amser i ystyried y dystiolaeth a gafwyd ar egwyddorion cyffredinol y Bil, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer ei adroddiad Cyfnod 1.

 

</AI8>

<AI9>

6    Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dull o graffu yng Nghyfnod 1

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1, a chytunwyd ar hyn.

 

</AI9>

<AI10>

7    Gwybodaeth ddilynol ar yr ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru: trafod yr allbwn drafft

7.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunwyd ar y llythyr hwnnw. 

 

</AI10>

<AI11>

8    Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): trafod lansio'r adroddiad

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei ddull o lansio ei adroddiad ar sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>