Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2015

 

 

 

Amser:

09.33 - 10.30

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/efa73792-e4a9-49b9-8e6c-215f9a1f5242?autostart=True

 

 

Cofnodion Cryno:

MeetingTitle

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

William Powell (Cadeirydd)

Russell George

Bethan Jenkins

Joyce Watson

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Steve George (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1   Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

 

 

</AI1>

<AI2>

2   Trafodaeth o’r sesiwn dystiolaeth ar 9 Rhagfyr 2014 - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

 

2.1 Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2014 a chytunodd i:

 

·         anelu at ymweliad ag ysgol gyfagos i weld o lygad y ffynnon y gwaith a wnaed yno i greu acwsteg ardderchog i bawb yn yr ysgol;

·         ysgrifennu at y Sefydliad Acwsteg a Chymdeithas Ymgynghorwyr Sŵn yn gofyn am gael gweld eu canllawiau ar acwsteg - disgwylir iddynt fod ar gael yn gynnar eleni; a

·         cheisio gwybodaeth bellach am bolisi ac arfer yn Lloegr i weld beth y gellir ei ddysgu.

 

</AI2>

<AI3>

3   Deisebau newydd

 

</AI3>

<AI4>

3.1     P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

 

</AI4>

<AI5>

4   Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI5>

<AI6>

4.1     P-04-440 : Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan geisio ymateb ganddo i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 17 Hydref y llynedd a’i farn ar sylwadau diweddaraf y deisebydd.

 

</AI6>

<AI7>

4.2     P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu eto at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn mynegi pryder mawr yn niffyg ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda chopïau’n mynd at Gadeirydd y Bwrdd Iechyd a Chadeirydd y Cyngor Iechyd Cymunedol; a

 

</AI7>

<AI8>

4.3     P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog:

 

·         gan dynnu ei sylw at sylwadau pellach y deisebwyr, yn enwedig eu pryderon bod yr cyflyrau hyn yn cael eu hystyried yn rhai seicolegol yn hytrach na rhai niwrolegol; ac

·         i ofyn am ragor o wybodaeth am gynnydd tuag at sefydlu Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan.

 

</AI8>

<AI9>

4.4     P-04-600 Deiseb i Achub y Gwasanaeth Meddygon Teulu

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

 

Ar bwynt mwy cyffredinol, cytunodd y Pwyllgor y dylai Aelodau gael copïau o Flaenraglenni Gwaith Pwyllgorau eraill.

 

</AI9>

<AI10>

4.5     P-04-546 Magu anifeiliaid dan amodau annaturiol

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, yn gofyn am ei barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb.

 

</AI10>

<AI11>

4.6     P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus am ei farn ar sylwadau’r deisebydd, gan amlygu nifer o bwyntiau a wnaed yn ystod y drafodaeth.

</AI11>

<AI12>

4.7     P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         anfon sylwadau'r deisebydd at yr Athro Donaldson yn gofyn iddynt gael eu hystyried yn ei adolygiad; ac

·         ystyried y ddeiseb drachefn pan gyhoeddir adroddiad yr Athro Donaldson.

 

</AI12>

<AI13>

4.8     P-04-589 Lleihau Nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am gadarnhad iddo dderbyn yr ohebiaeth wreiddiol ac a oes ganddo sylwadau i'w gwneud ar ohebiaeth y Gweinidog, ac yn ei hysbysu bod y Pwyllgor yn bwriadu cau'r ddeiseb.

 

</AI13>

<AI14>

4.9     P-04-591 Cyllid Teg ar gyfer Llywodraeth Leol

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y deisebydd, gan ofyn am gadarnhad iddo dderbyn yr ohebiaeth wreiddiol ac a oes ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud ar ohebiaeth y Gweinidog, ac yn ei hysbysu bod y Pwyllgor yn bwriadu cau’r ddeiseb.

 

</AI14>

<AI15>

5   Adolygiad o'r System Ddeisebau

 

5.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr y Llywydd lle mae’n cynnig adolygiad o system ddeisebau’r Cynulliad a chytunwyd:

 

·         y dylai'r Pwyllgor wneud y gwaith y mae’r Llywydd yn gofyn amdano;

·         y cylch gorchwyl a awgrymir yn ei llythyr; a

·         dull cyffredinol y Pwyllgor ar gyfer yr adolygiad.

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>