Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Mai 2023
Amser:
09.00 -
09.41
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Cadarnhaodd y Llywydd y bydd egwyl fer yn cael ei chymryd cyn dechrau trafodion Cyfnod 3 i hwyluso'r paratoadau terfynol, ac y bydd y gloch yn cael ei chanu 5 munud cyn ailddechrau trafodion.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 23 Mai 2023
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Ddeddf Trefn Gyhoeddus – Goblygiadau i Gymru (30 munud)
Dydd Mawrth 6 Mehefin 2023
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd yng Nghanolbarth Cymru (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adolygiad o Gysylltiadau Addysg â Chyflogwyr (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 14 Mehefin 2023 -
Nododd y Llywydd y bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion Dadl Aelodau ar gyfer 14 Mehefin yn disgyn yn ystod toriad hanner tymor mis Mai, er mwyn darparu ar gyfer dwy Ddadl Aelodau i gael eu cynnal y tymor nesaf.
4 Deddfwriaeth
4.1 Y Bil Seilwaith (Cymru) - amserlen
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor hwnnw a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch cais i ymgymryd â busnes y Pwyllgor yng Nghaeredin a Barcelona
Cytunodd y Pwyllgor Busnes â chais i aelodau'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai adael y Cyfarfod Llawn yn fuan ar 7 Mehefin er mwyn ymgymryd â busnes y Pwyllgor yng Nghaeredin. Cytunodd y Pwyllgor hefyd â chais i Mabon ap Gwynfor AS beidio â bod yn y Cyfarfod Llawn ar 6 a 7 Mehefin oherwydd ei bresenoldeb yn yr Ŵyl Tai Cymdeithasol Ryngwladol yn Barcelona fel rhan o waith y Pwyllgor ar Gyflenwadau Tai Cymdeithasol.
6 Ymgysylltu ag Ewrop
6.1 Gohebiaeth am Gyngres Cyngor Ewrop
Trafododd y Pwyllgor Busnes fater parhaus enwebiadau'r Senedd ar gyfer cynrychiolwyr ar Gyngres Cyngor Ewrop. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol.
6 Unrhyw Fater Arall
Gofynnodd Darren Millar a oes ystyriaeth bellach wedi’i rhoi i drefniadau busnes y pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn yng ngoleuni gwaharddiad parhaus Rhys ab Owen AS o Grŵp Plaid Cymru. Nododd y Llywydd y byddai’r Pwyllgor Busnes yn ystyried y mater hwn ymhellach ochr yn ochr ag unrhyw oblygiadau sy’n codi yn deillio o ystyriaeth y Senedd o’r cynnig i sefydlu Pwyllgor Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.