Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Chwefror 2023
Amser:
13.32 -
14.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13212
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Nid oedd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)321 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.2 SL(6)322 - Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
2.3 SL(6)323 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi’i dynnu’n ôl cyn y cyfarfod.
2.4 SL(6)324 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - a drafodwyd yn flaenorol.
3.1 SL(6)312 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
4.2 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Rheoliadau Rhestrau Gwledydd Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriadau i offerynnau statudol Cymru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.3 Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.4 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.5 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.6 Gohebiaeth gan Teuluoedd yn Gyntaf mewn Addysg - Cymru: Addysg gartref
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Teuluoedd yn Gyntaf mewn Addysg - Cymru, a chytunodd i ymateb.
5.7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.
7 Cyflwyniad drafft i Bwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban: Sut mae datganoli yn newid ar ôl ymadael â’r UE? Ymchwiliad
Cytunodd y Pwyllgor ar y cyflwyniad drafft i ymchwiliad Pwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Caffael: Nodyn Cyngor Cyfreithiol
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
10 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
Affirmative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments