Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Mai 2022
Amser:
09.12 -
12.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12925
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Bonnie Williams, Housing Justice Cymru Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Debra Carter, Llywodraeth Cymru Neil Hemington, Llywodraeth Cymru Huw Maguire, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan Mabon ap Gwynfor AS.
2 Cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin – Briff gan Cyfiawnder Tai Cymru
2.1. Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Bonnie Williams, Cyfarwyddwr Cyfiawnder Tai Cymru.
2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Bonnie Williams, Cyfarwyddwr Cyfiawnder Tai Cymru, i ddarparu nodyn ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant i athrawon, staff a disgyblion i groesawu ffoaduriaid i’w hysgolion a’u derbyn.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod yr eitemau a ganlyn: 4, 5 ac 8
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Trafod y papur briffio ar gartrefi i ffoaduriaid o Wcráin
4.1. Trafododd y Pwyllgor y papur briffio a’r sesiwn friffio a gafwyd, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y materion a godwyd.
5 Trafod yr ymatebion a gafwyd gan randdeiliaid mewn perthynas â digartrefedd
5.1. Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd gan randdeiliaid, a thrafododd y camau nesaf o ran ei waith.
6 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 9 – y Gweinidog Newid Hinsawdd
6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Neil Hemington, Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru
Huw Maguire, Pennaeth y Polisi Ail Gartrefi, Llywodraeth Cymru
6.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu'r eitemau a ganlyn:
· Dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad mewn perthynas â newid y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd.
· Nodyn yn nodi’r amserlenni ar gyfer polisïau a amlinellodd y Gweinidog, gan gynnwys papurau gwyn i newid deddfwriaeth digartrefedd; helpu awdurdodau lleol i nodi cartrefi gwag; newid y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd; llety gwyliau mewn perthynas ag ardrethi busnes; adeiladu tai fforddiadwy sy’n parhau i fod yn fforddiadwy.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymwneud â chynlluniau peilot etholiadol yn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ar 5 Mai 2022
7.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymwneud â chynlluniau peilot etholiadol yn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ar 5 Mai 2022.
7.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwneud â’i ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl
7.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwneud â’i ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl.
7.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â Chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Ymgysylltu
7.3.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â Chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Ymgysylltu.
7.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â’i waith craffu blynyddol mewn perthynas ag adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
7.4.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â’i waith craffu blynyddol mewn perthynas ag adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
7.5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd yn ymwneud â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)
7.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd yn ymwneud â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).
7.6 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn ymwneud â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Etholiadau
7.6.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn ymwneud â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Etholiadau.
7.7 Llythyr gan Jane Dodds AS yn ymwneud â diogelwch adeiladau
7.7.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Jane Dodds AS yn ymwneud â diogelwch adeiladau.
7.8 Tystiolaeth ychwanegol gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a PASC UK (cangen Cymru) mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi
7.8.a. Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a gafwyd gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a PASC UK (cangen Cymru) mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi.
7.9 Tystiolaeth ychwanegol gan Gymdeithas yr Iaith mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi
7.9.a. Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a gafwyd gan Gymdeithas yr Iaith mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi
7.10Tystiolaeth ychwanegol gan Dyfodol i’r Iaith mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi
7.10.a. Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a gafwyd gan Dyfodol i’r Iaith mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi.
7.11Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â diogelwch adeiladau
7.11.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â diogelwch adeiladau.
8 Ymchwiliad i ail gartrefi – trafod yr adroddiad drafft
8.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan drafod nifer o newidiadau i’w gwneud.