Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Chwefror 2022
Amser:
09.17 -
14.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12602
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Joel James AS (yn lle James Evans AS) Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Dyfrig Ellis, Estyn Jassa Scott, Estyn Delyth Gray, Estyn |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Thomas (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Claire Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan James Evans AS, roedd Joel James yn dirprwyo ar ran eitemau 2 i 4.
2 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn.
2.2 Cytunodd Estyn i ddarparu adroddiadau sy'n berthnasol i'r ymchwiliad i'r Aelodau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod am weddill y cyfarfod a’r cyfarfod cyfan ar 17 Chwefror.
4.1 Derbyniwyd y
cynnig.
5 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
6 Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft
6.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft. Byddai'r adroddiad yn cael ei
ddiweddaru yn dilyn y drafodaeth a'i ystyried eto yng nghyfarfod yr
wythnos nesaf.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau - trafod yr adroddiad drafft
7.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft. Oherwydd yr amserlenni adrodd,
cytunodd yr Aelodau y byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei
gytuno'n electronig. Byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei
osod ar 15 Chwefror.
8 Hyfforddiant Hawliau Plant
8.1 Mynychodd yr Aelodau sesiwn hyfforddi ar hawliau plant.