Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Tachwedd 2021
Amser:
13.30 -
14.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12483
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
Nododd y Cadeirydd, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, nad oedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu mynychu'r sesiwn dystiolaeth a drefnwyd ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a'r Bil Diogelwch Adeiladau ac felly roedd Eitemau 2 a 7 ar yr agenda wedi'u canslo. Yn breifat, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog â chyfres o gwestiynau ynghylch y Memoranda.
2 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a’r Bil Diogelwch Adeiladau: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd – CANSLWYD
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(6)068 – Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)072 - Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach mewn perthynas â’i hymateb.
4 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
4.1 WS-30C(6)003 – Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach ynghylch y datganiad.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin: y Rhaglen Fframweithiau Cyffredin
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ'r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Godi’r Gwastad, Tai a Chymunedau ac, yn y sesiwn breifat, cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin i gydnabod y pwyntiau a godwyd yn y llythyr.
5.2 Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi: Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi.
5.3 Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
5.4 Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi: Ymweliad y Pwyllgor Cyfansoddiad â Senedd Cymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi.
5.5 Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) a (Rhif 20) 2021 a Datganiad Ysgrifenedig
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Prif Weinidog.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a’r Bil Diogelwch Adeiladau: Trafod y dystiolaeth – CANSLWYD
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, gan drafod y prif faterion i’w cynnwys yn ei adroddiad. Cafodd adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei drafod ar 11 Hydref 2021 ond nid yw wedi'i osod eto. Nododd y Pwyllgor y câi’r adroddiad hwnnw ei ddiwygio i gyfeirio at y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol. Cytunodd y Pwyllgor i drafod drafft diwygiedig o'r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a’r prif faterion i’w cynnwys yn ei adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau – Trafod yr adroddiad drafft
Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Etholiadau – Trafod yr adroddiad drafft
Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y terfyn amser gofynnol.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol – Gohebiaeth
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol.
13 Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod maes o law ac y byddai'n gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn er mwyn i'r Senedd nodi'r Cytundeb.
14 Fframweithiau cyffredin
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol i ofyn am eglurhad ynghylch yr amserlenni ar gyfer fframweithiau cyffredin sydd i ddod.