Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Hydref 2021
Amser:
13.30 -
15.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12450
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Sara Moran (Ymchwilydd) Gruffydd Owen (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
Mewn sesiwn breifat, o dan Reol Sefydlog 17.22, cytunodd y Pwyllgor i ethol Alun Davies AS yn gadeirydd dros dro ar gyfer holl gyfarfodydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y dyfodol, pe bai nam technegol yn effeithio ar gysylltiad y Cadeirydd.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)062 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a derbyniodd ei adroddiad drafft.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
3.1 SL(6)063 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)064 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Papurau i’w nodi - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod Pedrochrog y Gweinidogion Cyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
4.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Newid Hinsawdd. Nododd y Pwyllgor y byddai'n derbyn tystiolaeth gan y Gweinidog mewn perthynas â'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladu a'r Bil Diwygio Prydles (Rhent Tir) ar 15 Tachwedd 2021.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o’i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - trafod yr adroddiad drafft.
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iechyd a Gofal, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch llawer o faterion yn ymwneud â'r Memorandwm.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau, a chytunodd i drafod ei adroddiad ar y Memorandwm mewn cyfarfod yn y dyfodol.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd)
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd), a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion mewn perthynas â'r Memorandwm.