Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Medi 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12430


17(v3)

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 9 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am: Diwrnod Cefnogi Ffermio Prydain (15 Medi).

Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am: Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (10 Medi).

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am: 40 mlwyddiant CND Cymru (Medi 1981).

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am: 10 mlynedd ers trychineb gwaith glo Gleision (Medi 2011)

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.17 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

</AI5>

<AI6>

5       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynediad at ddiffibrilwyr

Dechreuodd yr eitem am 15.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

DM7771 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad i ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.

3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant neu fenthyciadau i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4 a rhoi pwyntiau newydd yn ei le:

4.  Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

DM7771 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad i ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.

3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.

4.  Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.

5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

11

0

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Plaid Cymru - Credyd Cynhwysol

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7772 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn condemnio cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol sydd wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig.

2. Yn cydnabod y bydd y toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o deuluoedd yng Nghymru na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymlid datganoli lles gyda’r bwriad o fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

b) cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.

c) cynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith gostyngiad credyd cynhwysol ar bobl yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

41

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu £20 yr wythnos yn ychwanegol mewn credyd cynhwysol i gefnogi'r rhai ar incwm isel yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cydnabod bod y mesur dros dro hwn eisoes wedi'i ymestyn o 12 i 18 mis.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y ffaith bod lefelau tlodi yng Nghymru yn uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU oherwydd methiant Llywodraethau olynol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

3. Yn nodi’r gwaith gwneud y gorau o incwm sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd ar incwm isel

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i:

a) barhau i archwilio’r achos dros ddatganoli gweinyddiaeth lles; a

b) cynnal hyblygrwydd presennol y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith unrhyw ostyngiad credyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo ar bobl yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

11

16

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gan fod gwelliant 3 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 4 a 5 eu dad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7772 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn condemnio cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol sydd wedi bod yn llinell gymorth hanfodol i deuluoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y pandemig.

2. Yn cydnabod y bydd y toriad i gredyd cynhwysol yn effeithio ar gyfran uwch o deuluoedd yng Nghymru na chyfartaledd Prydain yn ôl Sefydliad Bevan.

3. Yn nodi’r gwaith gwneud y gorau o incwm sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd ar incwm isel

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i:

a) barhau i archwilio’r achos dros ddatganoli gweinyddiaeth lles; a

b) cynnal hyblygrwydd presennol y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith unrhyw ostyngiad credyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo ar bobl yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

14

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI7>

<AI8>

7       Cyfnod pleidleisio

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.23 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 17.31

</AI8>

<AI9>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI9>

<AI10>

8       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.41

NDM7770 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Byddwn yn eu cofio: pam y mae'n rhaid inni warchod cofebion rhyfel Cymru

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.07

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Medi 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>