Lleoliad:
Hybrid – Committee room 5 Ty Hywel
and video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 30 Medi 2021
Amser:
09.45 -
13.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12419
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS |
Tystion: |
Robert Vaughan, Cyfoeth Naturiol Cymru Martin Cox, Cyfoeth Naturiol Cymru Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach Paul Slevin, Chambers Wales David Chapman, UK Hospitality Cymru Sara Jones, Consortiwm Manwerthu Cymru Suzy Davies, Cynghrair Twristiaeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Murphy AS
1.2 Roedd Carolyn Thomas AS yn dirprwyo yn lle Sarah Murphy AS
1.3 Cyhoeddodd Samuel Kurtz AS ei fod yn gyfarwyddwr o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Llythyr gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd at y Cadeirydd
2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â gwaith craffu Pwyllgorau'r Senedd ar Fframweithiau Cyffredin
2.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3 Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
3.1 Atebodd Martin Cox a Robert (Bob) Vaughan o Cyfoeth Naturiol Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor
4 Materion sy'n wynebu busnesau Cymru - Canolbwyntio ar letygarwch, twristiaeth a manwerthu: Sesiwn dystiolaeth 1
4.1 Atebodd Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, a Paul Slevin, Siambrau Cymru, gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor
4.2 Bydd Ben Cottam yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor a ddarparwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â sut gall adnewyddu’r contract economaidd ei wneud yn gliriach i fusnesau.
5 Materion sy'n wynebu busnesau Cymru - Canolbwyntio ar letygarwch, twristiaeth a manwerthu: Sesiwn dystiolaeth 2
5.1 Atebodd David Chapman, UK Hospitality Cymru, Sara Jones, Consortiwm Manwerthu Cymru, a Suzy Davies, Cynghrair Twristiaeth Cymru, gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor
6 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)
6.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
7 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
9 Trafod Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft
10 Trafod Adroddiad Drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ac i ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â’i gais am ragor o wybodaeth, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
11 Trafod y papur cytundeb rhyngwladol: y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy
11.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ymchwil, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gydag argymhellion.