Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (99)v5 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)
|
4. Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 6 mewn perthynas â Chadeiryddion Dros Dro yn y Cyfarfod Llawn (5 munud)
NDM5104 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 6.23: Cadeiryddion Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd 2012; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 6, fel y nodir yn Atodiadau B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Dogfennau ategol: |
5. Datganiad gan Mick Antoniw: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - GOHIRWYD (30 munud) |
6. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NDM5096
Ken Skates (De Clwyd) Eluned Parrott (Canol De Cymru) David Melding (Canol De Cymru) Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cefnogwyd gan:
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ac yn gresynu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dioddef stigma a gwahaniaethu;
2. Yn croesawu Amser i Newid Cymru, sef yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn eu hwynebu;
3. Yn nodi’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Amser i Newid Cymru, a oedd yn dangos bod:
a) un ym mhob pedwar yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl fod mewn swydd gyhoeddus; a
b) um ym mhob 10 yn credu na ddylid caniatáu i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael plant;
4. Yn cydnabod bod pobl sydd â materion iechyd meddwl yn chwarae rhan sylweddol mewn cymdeithas, yn gweithio ar draws ystod o sectorau ac yn gwneud cyfraniadau pwysig at yr economi; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch Amser i Newid Cymru a dangos ymrwymiad i roi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. |
7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5105 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiannau hirdymor Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli grantiau yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi datganiadau rheolaidd yn amlinellu’r camau a gymerir i reoli grantiau yn well yng Nghymru; a
b) gweithredu mesurau sy’n gwella’r tryloywder sydd ynghlwm wrth wario arian cyhoeddus.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud yn ei hadroddiad ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ y ‘caiff llawer o gynlluniau grant eu rheoli’n wael, anaml mae gwersi yn cael eu dysgu ac anaml mae cyllidwyr yn llwyddo i ddelio â pherfformiad gwael y derbynwyr grantiau’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y mae'n mynd i'r afael â hyn.
Gellir gweld copi o’r adroddiad ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ yn: http://www.wao.gov.uk/assets/welshdocuments/Grants_Management_Welsh.pdf
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod trefniadau rheoli grantiau Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio gormod ar fewnbwn ariannol, ac nad ydynt yn canolbwyntio digon ar ganlyniadau. |
8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5106 William Graham (Dwyrain De Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod:
a) nifer y bobl anabl sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu eu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn isel o’i chymharu â gwledydd eraill y DU;
b) diffyg cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ystod o ddewisiadau sydd ar gael iddynt; ac
c) nid oes digon o ddewis o Daliadau Uniongyrchol mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru na rheolaeth drostynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig, i sicrhau bod defnyddwyr gofal cymdeithasol yn gallu rheoli eu pecynnau gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol a chyfrifon a reolir gan drydydd partïon;
b) gweithio i sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth a’r hyfforddiant priodol i’w harfogi â’r sgiliau i ymdrin ag ystod o gyflyrau; ac
c) annog cynorthwywyr personol i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth os bydd amgylchiadau’n codi nad oedd modd eu rhagweld.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
‘Yn cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn briodol ar gyfer pob person anabl.’
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
‘Yn cydnabod na fyddai rhagor o ddefnydd o Daliadau Unigol yn digolledu pobl anabl am golli’r lwfans byw i’r anabl.’
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘cynnal gofal cymdeithasol a gyllidir yn uniongyrchol ochr yn ochr â Thaliadau Uniongyrchol;’
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2a dileu ‘i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig,’
Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2b, dileu ‘sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt’ a rhoi yn ei le ‘sicrhau bod gan gynorthwywyr personol’
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn addas i bawb, ac i gynnal darpariaeth addas ar gyfer y rheini y bydd angen darparu gofal cymdeithasol ar eu rhan o hyd.
Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘sicrhau bod pobl anabl yn cael gwybodaeth a chyngor am eu hawliau, a bod gwasanaethau cynghori'n gymwys i gynorthwyo pobl anabl i lywio eu ffordd drwy system annheg a diffygiol yr asesiadau gallu i weithio.’ |
Cyfnod Pleidleisio |
9. Dadl Fer (30 munud)
NDM5103 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):
Rail Cymru – Rheilffordd y Bobl i Gymru
Yr achos o blaid math newydd o gwmni rheilffordd, y byddai ei brif ymrwymiad i bobl Cymru a’r gororau, nid i grŵp o gyfranddalwyr. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 4 Rhagfyr 2012