Ymchwiliad i ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol
Ymchwiliad i ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cyllid ymchwiliad byr i'r drefn ariannu ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
(DFB). Nod yr ymchwiliad oedd sicrhau bod gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol
ddull gweithredu cyson o ran paratoi eu cynigion cyllidebol blynyddol.
Mae cyllid Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol yn dod o Gronfa
Gyfunol Cymru, ac mae'r rhain yn cynnwys:
- Comisiwn
y Senedd;
- Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru; ac
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mae Cymru bellach wedi bod mewn cyfnod o lymder ers tua
degawd, ac mae'r Pwyllgor wedi bod yn pryderu ers cryn amser nad yw cyllidebau
Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol wedi cael eu heffeithio yn yr un modd â
chyllidebau eraill ym maes gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r Pwyllgor wedi darparu canllawiau i Gyrff a Ariennir
yn Uniongyrchol er mwyn sicrhau bod eu ceisiadau cyllidebol yn cael eu pennu
yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllidebol a welir yn y sector cyhoeddus yng
Nghymru. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys sicrhau nad yw eu cyllidebau yn fwy
nag unrhyw newidiadau a geir i grant bloc Cymru.
Fodd bynnag, mae'r mater hwn wedi bod yn broblemus gan
fod Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol yn defnyddio dulliau gwahanol o ddehongli
unrhyw gynnydd a welir yn y grant bloc.
Mae'r mater yn cael ei gymhlethu ymhellach gan ffactorau eraill sy'n dylanwadu
ar faint o arian sydd ar gael mewn unrhyw flwyddyn benodol, fel penderfyniadau
gan Lywodraeth Cymru ar bolisïau trethiant a chyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU
ynghylch cyllid ychwanegol (sy'n arwain at gyllid canlyniadol i Gymru).
Ysgrifennodd y Pwyllgor yn gyntaf at y Cyrff a Ariennir
yn Uniongyrchol ac at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eu barn ar y materion uchod.
Ar ôl ystyried yr ymatebion, ym mis Mai 2019 cyhoeddodd y Pwyllgor Ddatganiad
o Egwyddor (PDF, 224KB) y mae’r Pwyllgor yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
ei ystyried pan fyddant yn gwneud eu cynigion cyllidebol.
Roedd y Datganiad o Egwyddor yn rhoi ymrwymiad y byddai’r
Pwyllgor yn adolygu’r ddogfen y flwyddyn weithredu a bob hyn a hyn wedyn. Yn
dilyn cylch y gyllideb 2020-21, ystyriodd y Pwyllgor yr Egwyddorion ar 4 Mawrth
2020. Cytunodd y Pwyllgor na fyddai dim newidiadau yn cael eu gwneud i’r
Egwyddorion ar hyn o bryd.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2019
Dogfennau
- Comisiwn y Cynulliad
- Llythyr at Gomisiwn y Cynulliad - 14 Ionawr 2019 PDF 112 KB
- Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad - 31 Ionawr 2019 PDF 164 KB
- Llythyr at Gomisiwn y Cynulliad - 4 Ebrill 2019 PDF 166 KB
- Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad - 3 Mai 2019 PDF 210 KB
- Llythyr at Gomisiwn y Cynulliad - 22 Mai 2019 PDF 114 KB
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Llythyr at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 14 Ionawr 2019 PDF 112 KB
- Llythyr gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 4 Chwefror 2019 PDF 243 KB
- Llythyr at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 4 Ebrill 2019 PDF 166 KB
- Llythyr gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 1 Mai 2019 PDF 78 KB
- Llythyr at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 22 Mai 2019 PDF 114 KB
- Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
- Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - 14 Ionawr 2019 PDF 112 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - 11 Chwefror 2019 PDF 160 KB
- Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - 4 Ebrill 2019 PDF 166 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - 2 Mai 2019 PDF 232 KB
- Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - 22 Mai 2019 PDF 113 KB
- Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru
- Llythyr at yr Archwilydd Cyffredinol Cymru - 14 Ionawr 2019 PDF 112 KB
- Llythyr gan yr Archwilydd Cyffredinol Cymru - 22 Chwefror 2019 PDF 91 KB
- Llythyr at yr Archwilydd Cyffredinol Cymru - 4 Ebrill 2019 PDF 166 KB
- Llythyr gan Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru- 1 Mai 2019 PDF 86 KB
- Llythyr at Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru- 22 Mai 2019 PDF 114 KB
- Datganiad o Egwyddorion
- Datganiad o Egwyddorion - Mai 2019 PDF 224 KB
- Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
- Llythyr at Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol - 9 Mawrth 2020 PDF 108 KB