Ymgynghoriad
Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 2 Rhagfyr 2016 a Dydd Mercher, 11 Ionawr 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- LDT 01 Sefydliad Prydeinig y Galon (Saesneg yn unig) PDF 445 KB
- LDT 02 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 240 KB Gweld fel HTML (3) 45 KB
- LDT 03 RSPB Cymru (Saesneg yn unig) PDF 175 KB Gweld fel HTML (4) 32 KB
- LDT 04 Un Llais Cymru (Saesneg yn unig) PDF 80 KB Gweld fel HTML (5) 7 KB
- LDT 05 Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU (Saesneg yn unig) PDF 217 KB Gweld fel HTML (6) 28 KB
- LDT 06 Afonydd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 222 KB Gweld fel HTML (7) 18 KB
- LDT 07 Pwyllgor Cynghori ar Ailgylchu yr Awdurdodau Lleol (Saesneg yn unig) PDF 302 KB Gweld fel HTML (8) 29 KB
- LDT 08 Cyfoeth Naturiol Cymru PDF 276 KB Gweld fel HTML (9) 53 KB
- LDT 09 Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig) PDF 478 KB
- LDT 10 Coed Cadw (Saesneg yn unig) PDF 239 KB Gweld fel HTML (11) 27 KB
- LDT 11 Y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (Saesneg yn unig) PDF 222 KB Gweld fel HTML (12) 16 KB
- LDT 12 Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Saesneg yn unig) PDF 158 KB Gweld fel HTML (13) 16 KB
- LDT 13 Alan Rees (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- LDT 14 Deloitte LLP (Saesneg yn unig) PDF 269 KB
- LDT 15 Cymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 214 KB Gweld fel HTML (16) 22 KB
- LDT 16 FCC Environment Cymru (Saesneg yn unig) PDF 996 KB
- LDT 17 Tata Steel UK Cyf (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- LDT 18 Ymddiredolaethau Bywyd Gwyllt Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- LDT 19 RWE (Saesneg yn unig) PDF 124 KB Gweld fel HTML (20) 18 KB
- LDT 20 Cory Environmental (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
Diben yr ymgynghoriad
Pwrpas
yr ymgynghoriad
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i
egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).
Cylch Gorchwyl
- Yr egwyddorion cyffredinol a’r
angen am ddeddfwriaeth;
- Unrhyw rwystrau posibl rhag
rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried.
- A oes unrhyw ganlyniadau
anfwriadol yn deillio o’r Bil.
- Goblygiadau ariannol y Bil
(fel y nodir ym Mhennod 6 o’r Memorandwm Esboniadol);
- Priodoldeb y pwerau yn y Bil i
Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o’r
Memorandwm Esboniadol).
- A yw egwyddorion Llywodraeth
Cymru ar gyfer datblygu polisi a deddfwriaeth treth datganoledig wedi cael
eu dilyn, sef:
- bod yn deg i fusnesau ac
unigolion sy’n eu talu;
- bod yn syml, gyda rheolau
clir sy’n ceisio lleihau costau cydymffurfio a gweinyddu;
- cefnogi twf a swyddi, a fydd,
yn ei dro, yn helpu i fynd i’r afael â thlodi; a
- darparu sefydlogrwydd a
sicrwydd i drethdalwyr.
- Y diffiniad o ‘warediad
trethadwy’ a ‘deunyddiau cymwys’;
- Y darpariaethau o ran sut y
bydd y dreth yn cael ei chyfrifo, gan gynnwys pwysau trethadwy deunyddiau
a gostyngiad yng nghyswllt cynnwys dŵr;
- Gweithredu cyfraddau treth, ac
a yw’r rhain yn cadw’r hyblygrwydd i ymdrin â newidiadau dilynol ar lefel
Cymru a’r DU;
- Yr eithriadau arfaethedig;
- Y gostyngiadau arfaethedig;
- Cynnwys gwarediadau o wastraff
heb awdurdod mewn mannau ar wahân i safleoedd tirlenwi awdurdodedig;
- Arolygu safleoedd at ddibenion
canfod atebolrwydd person o ran y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi, a rhannu
gwybodaeth rhwng Awdurdod Cyllid Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac
awdurdodau lleol;
- Y dyletswyddau ar drethdalwyr
i wneud taliadau ac i dalu cosbau, a llog o dan rai amgylchiadau;
- Sut y mae cwmnïau,
partneriaethau a chyrff anghorfforedig yn cael eu trin o ran y
darpariaethau a’r cyfrifoldeb dros gydymffurfio;
- Sefydlu Cynllun Cymunedau
Tirlenwi fel cynllun grant yn hytrach na chredyd treth a’i ddatblygu y tu
allan i’r Bil.
Datgelu gwybodaeth
Mae gan y Cynulliad bolisi ynghylch
datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn
ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Neu, mae copi caled
o’r polisi hwn i’w gael drwy gysylltu â’r Clerc (Bethan
Davies - 0300 200 6372).
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565