Pwyllgor o’r Senedd Gyfan - Y Bumed Senedd
Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Pwyllgor o’r Senedd Gyfan - Y Bumed Senedd.
Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor o’r Senedd Gyfan - Y Bumed Senedd
<OpeningPara>Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd
gael ei gynnal ar 6 Mai. Er mwyn cydnabod yr angen am degwch i bob ymgeisydd
yn ystod cyfnod yr
etholiad, daw holl weithgareddau’r pwyllgorau i ben o 7 Ebrill (ac eithrio
gweithgareddau cyfyngedig iawn mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth frys neu
ddarpariaethau Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021). Disgwylir i
bwyllgorau newydd
gael eu sefydlu
cyn haf 2021.</OpeningPara>
Newyddion
<news>Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei
chynnal ar 6 Mai. Er mwyn cydnabod yr angen am degwch i bob ymgeisydd yn ystod
cyfnod yr etholiad, daw holl weithgareddau’r pwyllgorau i ben o 7 Ebrill (ac
eithrio gweithgareddau cyfyngedig iawn mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth frys
neu ddarpariaethau Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021). Disgwylir i
bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn haf 2021 - caiff gwybodaeth ei chyhoeddi
ar y wefan
hon.</news><link>https://senedd.cymru/busnes-y-senedd/pwyllgorau/</link>
Cylch gwaith
Yn unol â’r
Rheolau Sefydlog, gellir sefydlu neu gynnull Pwyllgor o'r Senedd Cyfan at
ddiben penodol. Mae rhestr o Bwyllgorau o'r Senedd Cyfan a gynhaliwyd yn ystod
y pumed Senedd, ynghyd â'u diben a/neu eu cylch gwaith, wedi'i chynnwys isod:
Bil Etholiadau
Cymru (Coronafeirws)
Cafodd y Pwyllgor
ei gynnull ar 26 Ionawr 2021, yn unol â Rheol Sefydlog 26.103, pan gytunodd y
Senedd y dylid trin Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil Brys. Ei gylch
gwaith yw trafod gwelliannau i Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yng Nghyfnod
2.
Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru)
Cafodd y Pwyllgor
ei gynnull ar 18 Medi 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii). Ei gylch
gwaith yw ystyried trafodion Cyfnod 2 mewn perthynas â’r Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru).
Bil Cyfraith
sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)
Cafodd y Pwyllgor
ei gynnull ar 6 Mawrth 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 26.103, pan gytunodd y
Cynulliad y dylai’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gael
ei drin fel Bil Brys. Ei gylch gwaith oedd ystyried gwelliannau i'r Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yng Nghyfnod 2.