Cynghorwyr Annibynnol
Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Cynghorwyr Annibynnol.
Nid oes cyfarfodydd i bori drwyddynt.
Gwybodaeth ynghylch Cynghorwyr Annibynnol
Er mwyn cyflawni ei ymrwymiad i atebolrwydd
ac arfer gorau, mae Comisiwn y Senedd yn penodi cynghorwyr annibynnol.
Cânt eu penodi am dymhorau sefydlog yn dilyn cystadleuaeth deg ac agored, ac
ymgeiswyr sydd â phrofiad helaeth mewn busnes, diwydiant a sectorau eraill a
gaiff eu hystyried.
Maent yn unigolion sydd â chyfoeth o
brofiad o fyrddau, llywodraeth a’r sector cyhoeddus, ar y lefelau uchaf, i
helpu’r Senedd i gyrraedd ei safonau uchel ei hun o lywodraethu da a defnydd
effeithiol o arian cyhoeddus.
Rôl Cynghorwyr Annibynnol
Mae’r Cynghorwyr Annibynnol yn helpu i
sicrhau bod Comisiynwyr ac uwch dîm rheoli’r Comisiwn yn cael eu cynorthwyo a’u
herio mewn modd adeiladol wrth eu gwaith. Maent yn cyfrannu at nifer o’n
gweithgareddau a gwasanaethau, gan ddod â safbwynt allanol ac annibyniaeth gyda
hwy o’n strwythur rheoli.
Rydym yn defnyddio arbenigedd y cynghorwyr
mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys ystyried ein trefniadau rheoli perfformiad ac
adrodd a chadw golwg feirniadol ar ddulliau rheoli ariannol a gweithdrefnau
rheoli risg y Comisiwn fel aelodau o Bwyllgor
Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Senedd.
Mae rhai hefyd yn aelodau o’r Pwyllgor
Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu, sy’n cynghori’r Comisiwn a’r
Prif Weithredwr ynghylch dull strategol y Comisiwn o ran ymgysylltu a
datblygu’r gweithlu ac yn rhoi sicrwydd mewn perthynas â thâl y Prif Weithredwr
a’r Cyfarwyddwyr.